Ciw-restr

Yr Oruchwyliaeth Newydd

Llinellau gan Mari (Cyfanswm: 74)

 
(1, 0) 12 Hei!
 
(1, 0) 14 Mae dy eisiau arnaf i.
(1, 0) 15 Ble diflannaist ti ar ôl cinio?
 
(1, 0) 18 I'r sgwâr!
(1, 0) 19 Beth wnait ti heb y sgwâr annuwiol yna?
(1, 0) 20 'Rwyt wedi bod yn sefyll yno am dair neu bedair awr bob dydd ers pum mlynedd.
(1, 0) 21 Ac fel pe na bait wedi gweld popeth sydd yno i'w weld gannoedd miloedd o weithiau, rhaid i ti redeg yno bob tro y cei di fy nghefn i o hyd.
 
(1, 0) 25 Beth petawn i yn dechrau mynd i helpu dal i fyny cornelau'r sgwâr?
(1, 0) 26 Beth petai gwragedd y dynion yna sy'n sefyll y rhan orau o'u hoes yno yn penderfynu cael sgwâr iddynt eu hunain i wastraffu'u hamser ynddi?
 
(1, 0) 32 Nac arna innau chwaith!
(1, 0) 33 Ond fe allaf ffeindio gwell gwaith i ti na sefyllian ar yr hewl fawr.
(1, 0) 34 Mae 'nhad yn yr ardd yn ceisio priddo'r tato.
(1, 0) 35 'Oes dim cywilydd arnat ti ei weld e wrthi, a thithau'n rhy ddiog i roi hyd yn oed help llaw iddo?
 
(1, 0) 37 'Does fawr o berygl yr ei di'n ddiflas wrth weld gwaith yn cael ei orffen.
(1, 0) 38 Na minnau chwaith!
 
(1, 0) 40 Hwre, gorffen y sgidiau yma.
(1, 0) 41 Mae eisiau mynd i orffen y llofft arnaf fi.
 
(1, 0) 43 Fe fydd yn ddigon clau i ti weld Wat p'nawn fory, a phetait ti heb ei weld e am chwe mis, 'fyddai hynny ddim colled i ti.
(1, 0) 44 Hwre, sgidiau chi'r dynion ydyn nhw─sgidiau 'nhad i fynd i'r seiat nos yfory, dy sgidiau di wedi bod yn y rasis neithiwr, a sgidiau Gwilym─Duw a ŵyr ble buodd e!
(1, 0) 45 Ond 'does dim pâr i mi yma─'dydw i ddim yn debyg o lychwino pâr wrth fynd i unman; hyd yn oed petai gen i bâr digon da i fynd.
 
(1, 0) 47 Na, wna i ddim dal fy nhafod.
(1, 0) 48 'Rydw i wedi cael digon ar fy mherfedd ar geisio cadw tŷ i dri dyn─un yn rhy hen i weithio, un yn methu â chael gwaith─meddai fe...
 
(1, 0) 52 Wyt.
(1, 0) 53 Ti sy'n ei gael fwyaf─ti a'r cŵn!
 
(1, 0) 58 A faint gollaist ti yr wythnos ddiwetha?
 
(1, 0) 62 Petait ti'n gweld tipyn yn llai o Wat, fe fyddai'n bywyd ni yma gryn dipyn yn frasach.
 
(1, 0) 67 le, cerdd, i ganol y rheps yna!
(1, 0) 68 Dyna lle mae dy galon di nawr.
(1, 0) 69 Beth ddwedai dy dad pe gwelai ei fab yn cymysgu â'r set sy'n byw ar rasis milgwn a rasis ceffylau─fe, fu'n eistedd yn sêt fawr y Tabernacl am ddeugain mlynedd!
 
(1, 0) 72 Ac fe roddit heibio'r milgwn a mynd 'nôl i'r Tabernacl unwaith eto?
(1, 0) 73 Gwyn fyd na ddigwyddai'r wyrth honno!
(1, 0) 74 Wel, 'rwy'n mynd i'r llofft, 'chaf fi ddim dôl i 'nghadw i fynd nes digwydd y wyrth, ac os wyt ti am sgidiau glân, paid â mynd 'nôl i'r sgwâr cyn eu glanhau.
 
(1, 0) 156 Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yma?
(1, 0) 157 Gellid meddwl bod yma ddechrau diwygiad wrth glywed yr holl bregethu.
 
(1, 0) 159 Rhyw sgêm newydd neu'i gilydd sut i wneud arian!
(1, 0) 160 Neu'n i tebyg sut i gael ffyliaid i golli arian, ac Ifan i fod yn un o'r ffyliaid.
 
(1, 0) 162 Os difynith e dy gyngor di, fe fydd arian y dôl i gyd ym moliau'r milgwn cyn i mi weld yr un ddimai ohonynt.
(1, 0) 163 War
 
(1, 0) 165 Nawr, nawr, Mrs. Hughes, fel pob menyw arall, 'dydych chi ddim yn gwybod beth yw |sport|.
(1, 0) 166 Fe wn beth yw sport dy siort di'yn iawn.
 
(1, 0) 170 Gwilym, beth wyt ti'n wneud adre nawr?
 
(1, 0) 174 Oes, yn y dodrefnyn.
(1, 0) 175 Beth sy'n mynd â thi i Lanmorfa?
 
(1, 0) 183 Fe'u glanhaf i nhw.
(1, 0) 184 Cerdd o'r ffordd, Ifan.
 
(1, 0) 192 Pa sgêm o waith yr hen fachgen sydd gan Wat heddiw?
 
(1, 0) 194 'Ddwedi di ddim, wyt ti'n feddwl!
(1, 0) 195 Os ydw i'n nabod rhywbeth o'r dyn yna, y mae'n mynd ar ei ben i drwbwl, ac os gallaf fi help, 'chaiff e ddim mynd â thi a Gwilym gydag e.
 
(1, 0) 197 Rhyw greadur hollol ddi-enaid fel yna─mac e fel tai e wedi cael hanner y lle yma i'w ddwylo─fel cigfran yn byw ar gig marw.
 
(1, 0) 199 Mae e'n gallu dy dwyllo di, a llawer eraill hefyd, fel y myn.
(1, 0) 200 Pesgi ar wendidau pobl sydd allan o waith!
(1, 0) 201 Fe a'i sort─a Hopkins hefyd, o ran hynny.
 
(1, 0) 203 O, fe wn bod Gwilym yn lwcus i gael job gydag e, a gwaith mor anioddefol o brin.
(1, 0) 204 A dim ond Gwilym sy'n dod ag arian i'r tŷ...
 
(1, 0) 206 le, a phensiwn tadcu!
(1, 0) 207 Fe fyddwn lot yn frasach o'r ddau swm anferth yna, oni fuaswn?─yn ceisio cadw digon o fwyd i lanw boliau'r tri ohonoch a chael peth yn sbâr i minnau!
(1, 0) 208 Ond petawn i'n gallu cael job gwell i Gwilym, fe gâi ymadael â Hopkins yfory.
(1, 0) 209 I ddweud y gwir wrthyt, 'dydw i'n hoffi dim o'r ffordd y mae Mrs. Hopkins yn mynnu cael cwmni Gwilym ar unrhyw esgus.
(1, 0) 210 'Dydy e ddim yn iawn i fenyw briod i redeg o amgylch gyda chrwt ifanc.
 
(1, 0) 213 Pictiwrs neu beidio, 'thrystiwn i 'mo gwraig Hopkins rownd i'r cornel, petawn i yn ei le ' fe...
(1, 0) 214 Ond wrth bob hanes, mae yntau yn gallu cysuro ei hunan yn burion.
 
(1, 0) 220 Mae e wedi mynd lawr yr hewl gyda Wat; fe ddaw 'nôl mewn munud.
(1, 0) 221 Peth od na welaist ti nhw.
 
(1, 0) 223 'Dydy e ddim wedi gorffen eto.
(1, 0) 224 Rhaid iddo fynd i lawr i Lanmorfa─dim ond dod adre i newid wnaeth e.
 
(1, 0) 226 Ie, mae e'n dreifio Mrs. Hopkins...
 
(1, 0) 229 Tennis neu beidio, i Lanmorfa gyda Mrs. Hopkins y mae e'n mynd, meddai fe, ers dim pum munud yn ôl.
 
(1, 0) 231 Paid â meio i.
(1, 0) 232 Fe gei siarad ag ef dy hunan pan ddaw i mewn.
(1, 0) 233 Cerdd â'r sgidiau yma i'r gegin fach, Ifan, a cherdd i ddweud wrth tadcu ei bod yn well iddo roi'r gorau iddi am dipyn nawr.
 
(1, 0) 236 Ni all Gwilym ei hosgoi yn dda iawn─rhaid iddo feddwl am ei job.
(1, 0) 237 'Dydyn nhw ddim mor aml ffordd hyn nawr â mwyar duon yn yr hydref.
 
(1, 0) 246 Cwerylwch eich hunain; 'rwy'n gorfod gwthio fy mhig i mewn i ddigon o gwerylon heb feddwl am ymyrryd yn eich rhai chi.
(1, 0) 247 'Rwy'n mynd lan i'r llofft i roi digon o le i chi.