Ciw-restr

Panto

Llinellau gan Deiniol (Cyfanswm: 164)

 
(1, 0) 58 Pwy?...
(1, 0) 59 Be'?....
(1, 0) 60 Lle ma'n nhw?...
 
(1, 0) 63 Dach chi 'di malu'r blydi drws.
 
(1, 0) 68 Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal.
 
(1, 0) 74 Nid fi ddaru... dwi ddim yn talu...
 
(1, 0) 76 W!
(1, 0) 77 Dim rŵan, Maldwyn.
 
(1, 0) 92 Gelli!
(1, 0) 93 Dos i ddal llygod bach.
 
(1, 0) 97 Un joch bach ac mi fydda i'n iawn.
 
(1, 0) 102 Hold on, Defi John!
 
(1, 0) 104 Sticia di at dy lefrith, y pwsi meri mew diawl!
 
(1, 0) 110 Mi'i colla i hi eniwê ar ôl heno.
 
(1, 0) 112 Mae'r sioe drosodd fy ffrind.
 
(1, 0) 117 Lle mae'r belt piws 'di mynd?
(1, 0) 118 Lle mae'r belt piws?
 
(1, 0) 124 Ma'n nhw'n bwysig, dalltwch─nhw'n fan'na, ninna'n fan'ma─fy mhobol i!
(1, 0) 125 Mi fydda i'n rhoi rhyw swfanîr bach iddyn nhw weithia.
 
(1, 0) 127 Hebddyn nhw, dwi'n ddim!
 
(1, 0) 132 Dyro i mi sws.
 
(1, 0) 137 Un bach!
 
(1, 0) 139 Sws!
 
(1, 0) 143 Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd.
 
(1, 0) 145 Mi gysgis i, do!
 
(1, 0) 147 Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt.
 
(1, 0) 150 Dwi'n gwbod...
(1, 0) 151 Blydi hel!
 
(1, 0) 153 Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi...
 
(1, 0) 157 Do!
(1, 0) 158 Dallt hynny─ac mi 'na i hefyd.
 
(1, 0) 160 Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud.
 
(1, 0) 162 Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné.
 
(1, 0) 165 Do!
(1, 0) 166 Do!
(1, 0) 167 Blydi do!
 
(1, 0) 170 Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti.
 
(1, 0) 172 Rho amsar i mi.
 
(1, 0) 174 Dydi o ddim yn hawdd, dallt─chwartar canrif o fyw hefo rhywun a deud dy fod chdi wedi rhoi bynsan ym mhopty Dick Whittington.
 
(1, 0) 179 'Ti'n meddwl?
 
(1, 0) 184 Pwy?
 
(1, 0) 186 Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr.
 
(1, 0) 194 Gwatsia di rŵan, 'y ngwas i.
(1, 0) 195 Mi gei di berfformiad heno y gnei di'i gofio am byth.
 
(1, 0) 199 A dyma chi unwaith eto, y feri dyn... a'r unig un─Robert Deiniol.
 
(1, 0) 207 Y?
 
(1, 0) 209 Hei!
(1, 0) 210 Hold on am funud...
 
(1, 0) 214 Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws...
 
(1, 0) 216 Pa gân gynta?
 
(1, 0) 218 'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta.
 
(1, 0) 221 Ond fedar hi ddim canu 'nghân i.
 
(1, 0) 223 Ond dyna'r gân gynta.
 
(1, 0) 226 Ond ma' honno'n dŵad yn syth ar ôl i mi waldio Dic a rhoi cic i'r gath, tydi...
(1, 0) 227 dwi o gwmpas 'y mhetha, dallt...
(1, 0) 228 paid â meddwl 'mod i'n dwlali tap...
(1, 0) 229 a 'di chân hi ddim yn mynd i neud sens, nac 'di, os na welith pawb mam Dic yn rhoi harnis iddo fo...
(1, 0) 230 ma' rhaid iddyn nhw 'ngweld i'n cam-drin yr hogyn.
 
(1, 0) 237 Bolocs!
 
(1, 0) 239 Fi sy'n canu gynta, wasi bach...
(1, 0) 240 fi ma'n nhw'n 'i weld gynta ar y llwyfan 'na─ma' hynny yn 'y nghontract i, swîti pei!
 
(1, 0) 242 Gwatsia di be' 'ti'n 'i ddeud, coc oen...
 
(1, 0) 247 Dim tra bydd chwythiad yno i─mi ddo i allan pan dwi i fod...
(1, 0) 248 ac os trïwch chi newid petha─mi sincia i'r lot ohonoch chi...
(1, 0) 249 mi a'i allan i fan'na a'ch gneud chi'n sbort...
(1, 0) 250 Fedra i drin cynulleidfa, dallt...
 
(1, 0) 254 Mi fedra i 'u cael nhw'n fan'na, dalltwch...
 
(1, 0) 256 Mi o'n i ar y styllod 'na cyn dy fod ti o dy glytia, ledi myc.
 
(1, 0) 264 A be' mae |o|'n mynd i'w ddeud─'ti 'di meddwl am hynny?
 
(1, 0) 266 Yr awdur, mêt.
(1, 0) 267 Be' mae o'n mynd i'w neud pan glywith o dy fod ti'n poitsian 'i sgript o?
 
(1, 0) 270 A be' am y cynhyrchydd?
(1, 0) 271 Mi eith hwnnw i fyny'r wal pan dduda i wrtho fo.
 
(1, 0) 295 Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel?
 
(1, 0) 298 Ma' 'mhen i fel bwcad!
 
(1, 0) 300 Gas gin i'r dŵr golch!
 
(1, 0) 302 A!
 
(1, 0) 304 ... 'sa siwgwr yn help, falla.
 
(1, 0) 306 Gas gin i'r sglyfath─gas gin i goffi'n fwy.
 
(1, 0) 311 Os mêts.
 
(1, 0) 317 Ych-a-fi!
 
(1, 0) 320 O!
(1, 0) 321 Fedra i ddim diodda siwgwr lwmp... mi gymera i'r llall ar binsh... ond byth siwgwr lwmp.
 
(1, 0) 323 O, oes... o, oes ma' 'na.
(1, 0) 324 Ma' un yn sgwâr, 'tydi, ond ma'r llall yn betha bach, bach, bach crwn.
 
(1, 0) 327 I bobol gyffredin, ia, falla... ond i'r conisiwar ma' 'na betha... prun bynnag.
 
(1, 0) 329 Tydi hwn ddim mor ddrwg bellach...
(1, 0) 330 'di dŵad i arfar â'r piso dryw, falla...
(1, 0) 331 ond ma' rhaid i mi drio, 'toes─ma' rhaid i mi drio'i gael o i lawr.
 
(1, 0) 334 Pawb â'i aberth...
 
(1, 0) 336 Hir oes i'r achos dirwestol!
 
(1, 0) 338 'Ti'n deud!
 
(1, 0) 341 Damia be'?
 
(1, 0) 344 Nac dw─y llinyn trôns diawl!
 
(1, 0) 351 Neith y peth ddim gweithio heb 'y nghân i, dwi'n deud wrthat ti.
 
(1, 0) 359 Nac di'r sguthan─dwi'n fan'ma!
 
(1, 0) 372 Canu, i ni gael y peth drosodd.
 
(1, 0) 374 Y?
 
(1, 0) 376 Glywist ti hynna?
 
(1, 0) 380 'Di hwnna ddim yn y sgript... creulon ia, ond dim meddw─'di 'meddw' ddim yn y sgript o gwbwl.
 
(1, 0) 382 Hold on!
 
(1, 0) 384 Ia... ond dwy hannar... dwy hannar potal... a dim ond pan fydda i'n...
 
(1, 0) 390 A... ha... ha... clyfar... fi fawr faglodd... paid â galw fo ar dy fam!
 
(1, 0) 400 Ma' hi 'di newid y blydi cân hefyd─
(1, 0) 401 ~
(1, 0) 402 'Y fi sy'n gorfod diodda
(1, 0) 403 Bob bora a phrynhawn.'
(1, 0) 404 ~
(1, 0) 405 Dyna oedd y geiria i fod─sdim byd am y fi yn llawn.
 
(1, 0) 408 Mi ca' hi am hyn!
 
(1, 0) 414 Gaddo, dim, dallt─uffar o ddim.
 
(1, 0) 418 Dim dyna'r geiria o gwbwl─ma'r hulpan 'di mynd rownd y twist─colli 'i marblis i gyd!
 
(1, 0) 420 Desu, gnaf.
 
(1, 0) 427 Ia... dos... mi geith ganu grwndi i ti ar hyd y ffordd... ewch!
 
(1, 0) 435 Y bastard bach blewog...
 
(1, 0) 440 Slwt!
 
(1, 0) 445 Welist ti hynna, 'ta?
 
(1, 0) 449 Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud?
 
(1, 0) 451 Ond nid fel heno─ma'r Mici Tiwdor bach 'na rêl sglyfath.
 
(1, 0) 453 Dim bod ots gen i, dallt─malio dim blydi botwm corn.
 
(1, 0) 455 Pam ddylwn i?
 
(1, 0) 457 Malio dim ffuan, dallt.
 
(1, 0) 459 Be' ti'n 'i feddwl?
 
(1, 0) 461 Be' 'ti'n drio 'i ddeud, 'ta... be' 'ti'n 'i awgrymu?
 
(1, 0) 463 Na... na... be' 'ti'n 'i feddwl 'mod i'n ddigon hen i fod yn dad iddi?
 
(1, 0) 465 Ia... iawn... ond pam fi?
(1, 0) 466 Ma' digon arall yn y lle 'ma sy'n ddigon hen i fod yn dad iddi... be' sgin..?
 
(1, 0) 470 Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud.
 
(1, 0) 472 Reit.
(1, 0) 473 Pwy ydi pawb?
(1, 0) 474 Dwi isio gwbod.
(1, 0) 475 Enwa pawb sy'n cario straeon.
(1, 0) 476 Pwy ydyn nhw?
 
(1, 0) 478 Pawb?
 
(1, 0) 492 Be' 'ti'n 'i feddwl?
 
(1, 0) 494 'Ti'n mynd yn rhy bell... un gair arall...
 
(1, 0) 499 Yli─ ti'n gwbod sut ma' actorion am gario straeon, 'dwyt?
 
(1, 0) 501 Pwy fo?
 
(1, 0) 503 Y bastard─ma'r Mici Tiwdor 'na â'i gyllall ynai o'r dechra... 'ti ddim yn dallt hynny?
 
(1, 0) 505 Fel pwy?
(1, 0) 506 Dŵad wrtha i.
(1, 0) 507 'Swn i'n licio gwbod pwy.
 
(1, 0) 509 Chdi?
 
(1, 0) 513 Dwi wedi bod yn 'i stafall hi weithia, do.
 
(1, 0) 515 Trin sgript a ballu.
 
(1, 0) 525 Gwranda, coc oen!
(1, 0) 526 'Tharith dy droed di ddim llwyfan theatr byth eto.
(1, 0) 527 Mi riportia i di i Equity, Writers' Guild, ac ACTT, dallt.
(1, 0) 528 Rhag ofn dy fod ti'n bwriadu gweithio i Barcud ne' ryw wancyrs bach annibynnol tebyg.
(1, 0) 529 Mi ca' i di, dallt.
(1, 0) 530 Mi gorffenna i chdi unwaith ac am byth!
 
(1, 0) 535 Ac mi wn i be' 'ti'n trio'i neud, wasi─o gwn.
(1, 0) 536 Paid ti â meddwl 'mod i'n dwp.
(1, 0) 537 Ches i ddim coleg drama fel y gweddill ohonach chi, ond dwi'n dallt, dallt.
 
(1, 0) 539 Fi i gario'r bwcad olch!
(1, 0) 540 Dyna'r sgîm, 'te?
(1, 0) 541 Ma'r tŷ wedi bod yn hanner gwag ers wsnosa.
(1, 0) 542 Rown ni'r bai ar Deiniol.
(1, 0) 543 Fo 'di'r drwg.
(1, 0) 544 Fo sy'n cambyhafings ac yn llawn o lysh.
(1, 0) 545 Ond dwi ddim am fod yn fwch dihangol i ryw wancyrs fel chi, dalltwch!
 
(1, 0) 549 Ac mi 'na i 'i ddal o hefyd─yr hen slwt fach iddi.
(1, 0) 550 Glywist ti'r ad-libio gynna fel gweinidog sasiwn.
(1, 0) 551 Cheith hi ddim gneud hynna eto.