Ciw-restr

Panto

Llinellau gan Maldwyn (Cyfanswm: 50)

 
(1, 0) 65 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi?
 
(1, 0) 71 Llawn at 'i styds.
 
(1, 0) 75 Tyn y trowsus 'na.
 
(1, 0) 80 Dau.
(1, 0) 81 Ma'r |overture| hanner ffordd drosodd... o, be 'na i?
 
(1, 0) 84 Elli di 'i strejio hi dipyn.
 
(1, 0) 86 Dam!
 
(1, 0) 192 Reit!
(1, 0) 193 Dwi wedi newid y dechra.
 
(1, 0) 197 Ar ôl yr agoriad, dwi am i chdi ddeud wrth y gath...
 
(1, 0) 200 'Nei di gau dy hopran!
 
(1, 0) 202 Dwi am i ti ddeud wrth y gath...
(1, 0) 203 "O, 'di Mam ddim yma!"
 
(1, 0) 208 Mi ddudith y gath 'Miaw'─ne' 'Pyrr'... ne' rwbio... ne' beth bynnag uffern liciwch chi...
 
(1, 0) 212 'Gei di ddeud wedyn...
(1, 0) 213 "Falla 'i bod hi 'di cael 'i dal yn rhwla."
 
(1, 0) 215 Dos yn syth wedyn i'r gân gynta.
 
(1, 0) 219 Wel, ma' hi'n mynd i blydi gneud heno, llafn, gydag arddeliad.
 
(1, 0) 222 Dwi ddim yn sôn am dy gân di.
 
(1, 0) 224 Dim heno... 'i chân gynta hi dwi'n 'i feddwl.
 
(1, 0) 232 Wnaiff o fawr o wahaniaeth...
(1, 0) 233 ma' cân Dic yn deud dy fod ti'n greulon, 'tydi?
 
(1, 0) 235 A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag.
 
(1, 0) 238 Hi sy'n canu gynta.
 
(1, 0) 241 Ydi o yn dy gontract di hefyd y gelli di fynd allan ar y llwyfan 'na'n feddw dwll beipan?
 
(1, 0) 259 Stwffia hwnna i lawr 'i gorn claga fo─falla sobrith o ddigon i'r drydedd sgets.
 
(1, 0) 261 Reit!
(1, 0) 262 Munud i'r codi!
 
(1, 0) 265 Pwy 'di |o|?
 
(1, 0) 268 Clyw!
(1, 0) 269 Doedd hwnnw ddim yn nabod 'i sgript 'i hun y noson gynta─heb sôn am be' dach chi 'di neud iddo fo wedyn.
 
(1, 0) 273 Mi geith hwnnw fynd i fyny unrhyw wal mae o isio.
(1, 0) 274 Fi sy wedi dal y sioe 'ma wrth 'i gilydd am y tri mis dwytha.
(1, 0) 275 Fi, dallt!
(1, 0) 276 Fi sy wedi gorfod delio hefo'ch tantryms chi.
(1, 0) 277 Fi sy di gorfod chwysu trwy pob creisys... a be' mae o'n 'i neud?...
(1, 0) 278 Dŵad wrtha i...
(1, 0) 279 gwneud blydi ffilm i S4C ar gweirio moch bach a ballu.
(1, 0) 280 Os dudith y bastard bach diegwyddor hwnnw air wrtha i, mi setla i o unwaith ac am byth hefo C.C.C.
(1, 0) 281 Chaiff o ddim digon o grant i gynnal penny reading...
 
(1, 0) 283 Ac os ei di'n agos i'r llwyfan 'na cyn y drydedd sgets...
(1, 0) 284 ne' os gnei di rwbath fydd yn stompio petha...
(1, 0) 285 mi fyddi di'n chwara extra yn Pobl y Cwm weddill dy oes!
 
(1, 0) 518 Sut mae o rŵan?
 
(1, 0) 520 Ydi o 'di yfad 'i goffi?
 
(1, 0) 523 Ti'n ffit?
 
(1, 0) 532 Roist ti goffi iddo fo?
 
(1, 0) 534 Ond mae o'n waeth rŵan nag oedd o gynna.
 
(1, 0) 538 Wnaiff o byth y sgets nesa...
 
(1, 0) 548 Ond ma' rhaid iddo fo ddal Dic yn y goedwig a mynd â fo'n ôl.