Ciw-restr

Parc-Glas

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 234)

 
(1, 0) 2 ACT UN
(1, 0) 3 Siop Fferm ddigon anniben ei golwg.
(1, 0) 4 Mae hi'n gynnar yn y bore ym mis Mai.
(1, 0) 5 Mae MARIA KAMROWSKA, merch leol, yn glanhau a pharatoi'r silffoedd.
(1, 0) 6 Daw EILIR LEWIS, perchenog y fferm drws nesaf i fewn.
 
(1, 0) 62 Saib.
 
(1, 0) 131 Clywir sŵn car yn arafu y tu allan.
(1, 0) 132 Mae EILIR yn gadael ei feddyliau ac yn mynd allan trwy'r drws i weld pwy sydd yno.
 
(1, 0) 137 EILIR yn mynd allan drwy'r drws.
(1, 0) 138 Saib.
(1, 0) 139 Sŵn drysau fan yn agor a chau.
(1, 0) 140 Clywir peth deialog o'r tu fas.
 
(1, 0) 156 Saib.
 
(1, 0) 159 Daw GORDON i fewn yn cario blwch, a golwg braidd yn swil arno.
 
(1, 0) 169 Aiff GORDON allan.
(1, 0) 170 EILIR yn ei wylio o'r drws wrth iddo fynd.
 
(1, 0) 220 Clywir sŵn car yn agosáu.
 
(1, 0) 224 Mae'r ddau yn edrych allan trwy'r drws yn tra bod y car tynnu lan ar y clos gerllaw.
(1, 0) 225 Ânt allan at y car, gan adael y llwyfan yn wag am funud.
(1, 0) 226 Clywir sŵn sgwrs gymysg y tu allan ar y clos.
 
(1, 0) 254 Daw GERALLT i fewn tra bod y sgwrsio'n dal i fynd yn ei flaen tu allan.
(1, 0) 255 Mae'n mynd draw at y cownter, yn codi'r bocs ac astudio'r label sydd arno.
(1, 0) 256 Daw MARIA at drothwy'r drws.
 
(1, 0) 271 Mae hi'n mynd nôl draw at y cownter, yn dechrau ail-afael yn ei gwaith, ac yn dawel ddiawlio GERALLT yn ei hiaith ei hun.
 
(1, 0) 273 Mae hi'n cyrraedd y drws ac yn edrych i fewn.
(1, 0) 274 Mae ANGHARAD gyda hi.
 
(1, 0) 326 Saib.
 
(1, 0) 369 Daw MARIA a BARBARA i fewn.
(1, 0) 370 Mae MARIA'n ei thywys i edrych ar ddarn o'r llawr.
 
(1, 0) 392 Daw GERALLT i fewn â bagiau o'r car yn ei ddwylo.
(1, 0) 393 Mae EILIR yn ei ddilyn.
 
(1, 0) 402 Saib.
 
(1, 0) 468 Mae'n mynd allan, a BARBARA yn ei ddilyn.
(1, 0) 469 Saib.
 
(1, 0) 494 Saib.
(1, 0) 495 Clywir sŵn car EILIR yn gyrru i ffwrdd.
(1, 0) 496 Ymhen rai eiliadau, daw BARBARA yn ôl i fewn.
 
(1, 0) 517 Mae ffôn ANGHARAD yn canu.
 
(1, 0) 522 Mae BARBARA a GERALLT yn syllu ar ei gilydd am funud.
(1, 0) 523 Mae BARBARA yn codi'i hysgwyddau ato.
 
(1, 0) 562 Daw MARIA i fewn.
(1, 0) 563 Mae hi'n sylwi ar JANE.
 
(1, 0) 577 Saib.
 
(1, 0) 584 Mae JANE ac ANGHARAD yn cychwyn am y drws bach sy'n arwain tuag at y tŷ.
 
(1, 0) 588 Mae BARBARA yn mynd y ffordd arall, am y drws mawr sy'n arwain nôl at y clos.
(1, 0) 589 Wrth iddi fynd drwyddo, mae'n cwrdd â PETER.
 
(1, 0) 612 Mae hi'n edrych arno.
(1, 0) 613 Saib.
(1, 0) 614 Ti 'di newid.
(1, 0) 615 'Di heneiddo.
(1, 0) 616 You look a lot older.
(1, 0) 617 Crwt ysgol ôt ti pan es i o 'ma.
(1, 0) 618 A nawr wyt ti 'di tyddu.
(1, 0) 619 Wyt ti'n ddyn.
 
(1, 0) 624 Saib.
(1, 0) 625 Mae JANE yn syllu arno.
(1, 0) 626 Yna mae hi'n estyn ato ac yn cyffwrdd â'i ben.
 
(1, 0) 630 Saib.
(1, 0) 631 Yna mae JANE yn chwerthin yn uchel; os chwerthin yw hyn.
(1, 0) 632 Mae'n hi'n tawelu wedyn.
 
(2, 0) 637 ACT DAU
(2, 0) 638 Cae gwair wedi'i glirio.
(2, 0) 639 Bêls gwair ar wasgar.
(2, 0) 640 Noswaith braf yn hwyr ym mis Mehefin.
(2, 0) 641 Mae GORDON yn pwyso yn erbyn un o'r bêls ac yn chwarae gitâr tra bod MARIA ar y ffôn yn tecstio.
 
(2, 0) 708 Clywir sŵn injan motor beic yn agosáu ac arafu.
(2, 0) 709 Tra bod GORDON yn straffaglu i roi ei gitâr i gadw yn ei gasyn, mae'r injan yn diffodd.
(2, 0) 710 Clywir llais yn galw rhywbeth o du fewn i'r helmet, ond nid yw'n ddealladwy.
 
(2, 0) 739 Mae'n nhw'n ymadael, ac ymhen ychydig eiliadau clywir sŵn y beic yn tanio ac yn symud i ffwrdd.
(2, 0) 740 Saib.
 
(2, 0) 742 Mae'n dechrau cicio'r belen wair.
(2, 0) 743 Heb yn wybod iddo, mae EILIR wedi bod yn ei wylio.
 
(2, 0) 790 Mae GORDON yn straffaglu i ymadael.
(2, 0) 791 Allan.
(2, 0) 792 Mae EILIR yn canu i'w hunan {'Yr Arad Goch', efallai}.
(2, 0) 793 Tra'i fod wrthi, clywir lleisiau JANE a GERALLT ymhellach i ffwrdd.
 
(2, 0) 795 Saib.
(2, 0) 796 Mae ateb yn dod yn nid yw'r gynulleidfa'n ei glywed.
 
(2, 0) 861 Daw ANGHARAD a PETER i fewn; hwythau wedi bod yn cerdded y caeau.
 
(2, 0) 1004 Saib eto.
(2, 0) 1005 Yn y tawelwch, fe ddaw sŵn o'r pellter; fel sŵn llinyn yn torri.
(2, 0) 1006 Mae'r atsain yn raddol ddistewi.
(2, 0) 1007 Saib.
 
(2, 0) 1046 Clywir sŵn mwmial ateb o'r pellter.
 
(2, 0) 1063 Clywir sŵn JIM yn mwmial siarad drwy'r amser.
(2, 0) 1064 Mae'n nhw'n ymddangos.
(2, 0) 1065 Mae GERALLT ac ANGHARAD yn tywys JIM yn ofalus.
(2, 0) 1066 Mae'r tri yn siarad ar draws ei gilydd.
 
(2, 0) 1084 Mae'n nhw'n diflannu i'r asgell.
(2, 0) 1085 Y sgwrs a'r mwmial yn mynd yn ei flaen.
 
(2, 0) 1157 Saib.
(2, 0) 1158 Daw BARBARA i fewn, wedi cynhyrfu.
 
(2, 0) 1170 Mae'n symud i ffwrdd.
(2, 0) 1171 Saib.
 
(3, 0) 1183 ACT TRI
(3, 0) 1184 Noswaith yn hwyrach yn yr haf.
(3, 0) 1185 Mae hi'n raddol dywyllu trwy gydol yr olygfa.
(3, 0) 1186 Ystafell yn y tŷ wedi'i haddurno ar gyfer parti o ryw fath.
(3, 0) 1187 Drws yn y cefn yn arwain at yr ardd; ar yr ochr chwith, drws yn arwain at ystafell arall, lle mae 'na gerddoriaeth yn chwarae a pheiriant karaoke.
(3, 0) 1188 Mae 'na fwrdd gyda bwffe a diodydd wedi'u gosod arni yn yr ystafell.
(3, 0) 1189 Ymddengys fod yna dipyn o fwyd ar ôl, a bod y rhan fwyaf o'r gwesteion eisoes wedi cymryd peth ohono, gan fod platiau gwag wedi'u defnyddio i'w gweld ar y bwrdd ac o gwmpas yr ystafell.
(3, 0) 1190 Gwelir BARBARA, a JANE weithiau, yn cerdded drwy'r lle yn ysbeidiol.
(3, 0) 1191 Ger y drws gwydr yn y cefn, saif BRIAN PENRHIW, ffermwr lleol, sy'n siarad yn uchel gyda grŵp o'i gyfeillion.
 
(3, 0) 1198 Daw ymatebion oddi wrth y gwrandawyr: 'Ha, ha...'; 'O na, wedi neud yn iawn am un nosweth, Jane...'; 'Gymrith hi fwy 'na ny!'; 'Diawl 'na, drycha ar 'i seis e'!', ac yn y blaen.
(3, 0) 1199 Mae JANE yn symud i ffwrdd oddi wrthyn nhw.
 
(3, 0) 1206 BRIAN yn gorwedd ar ei hyd ar llawr gyda'i goesau ar led, a'i dafod allan: chwerthin brwd o blith ei griw o gyfeillion.
(3, 0) 1207 Rhywbryd yn ystod y cyfan, daw PETER, sydd braidd yn feddw, i fewn drwy'r drws ar y chwith a phigo bwydach o'r bwrdd bwffe.
 
(3, 0) 1211 Yn ystod y chwerthin sy'n dilyn y jôc, daw BARBARA i fewn i'r ystafell.
 
(3, 0) 1217 Â allan yn gyflym.
(3, 0) 1218 Saib.
 
(3, 0) 1252 Yn ystod y sgwrs ganlynol, clywir MARIA o'r ystafell nesaf yn canu gyda'r peiriant karaoke: 'Eternal Flame' gan The Bangles, o bosib; sdim ots pa mor dda mae hi'n canu...
 
(3, 0) 1265 Sŵn MARIA'n canu yn y cefndir.
(3, 0) 1266 Mae PETER yn dawel.
(3, 0) 1267 Saib.
 
(3, 0) 1270 Mae BRIAN yn mynd; mae PETER yn crwydro i ran arall o'r ystafell.
(3, 0) 1271 Nid yw BARBARA a JANE yn ei weld pan ddônt i fewn.
 
(3, 0) 1299 Daw sŵn rhywbeth yn torri o'r ardd, a chwerthin mawr.
 
(3, 0) 1301 Mae hi'n mynd allan.
(3, 0) 1302 Clywir peth twrw a chwerthin.
 
(3, 0) 1324 Aiff BARBARA drwodd yn cario'r brws.
 
(3, 0) 1430 Saib.
(3, 0) 1431 Mae JANE yn syllu arno.
(3, 0) 1432 Yna, yn sydyn, mae hi'n ei daro yn ei wyneb.
(3, 0) 1433 Aiff PETER allan heb ddweud gair.
(3, 0) 1434 Mae Jane yn eistedd ar bwys y bwrdd bwyd.
(3, 0) 1435 O'r distawrwydd, daw sŵn rhywun [GORDON] yn canu 'Love Me Tender' ar y peiriant karaoke.
 
(3, 0) 1438 Mae hi'n drysu rhwng gwawd a gwefr; mae MARIA yn gwrando arno, yn chwerthin ar brydiau, ond weithiau hefyd yn symud i'r gerddoriaeth.
(3, 0) 1439 Yng nghanol y gân, daw BARBARA i fewn.
 
(3, 0) 1447 Daw'r gân i ben yn sydyn, a chlywir sŵn yr helynt am beth amser cyn iddo ddistewi gyda GORDON yn amlwg wedi gadael.
 
(3, 0) 1451 Daw nifer o'r gwesteion i fewn o'r ardd, lle mae'r helynt nawr yn digwydd.
(3, 0) 1452 Maent yn cynnwys GARRY a BRIAN.
(3, 0) 1453 Mae'n nhw'n gwylio'r hyn sy'n digwydd yn yr ardd o hyd.
 
(3, 0) 1465 Daw ANGHARAD i fewn.
 
(3, 0) 1487 Mae e'n llwyddo i gael GARRY i adael gydag e.
(3, 0) 1488 Wrth iddyn nhw fynd allan trwy'r drws tua'r chwith, mae'n nhw'n cwrdd ag EILIR.
 
(3, 0) 1494 Mae'n nhw'n mynd allan.
 
(3, 0) 1526 Mae hi'n mynd allan eto tuag at yr ardd.
(3, 0) 1527 Mae ANGHARAD ar ei phen ei hunan am funud.
(3, 0) 1528 Mae hi'n cerdded o amgylch am gwpwl o eiliadau.
(3, 0) 1529 Wedyn, mae'n tynnu ei ffôn o'i phoced, ac yn darllen neges destun.
(3, 0) 1530 Mae hi'n synnu at yr hyn mae hi'n darllen ac yn gwneud galwad ffôn.
 
(3, 0) 1535 Saib.
(3, 0) 1536 Mae hi'n gwrando ar y llais ar ochr arall y llinell.
 
(3, 0) 1538 Mae'r alwad drosodd.
(3, 0) 1539 Mae hi ar ei phen ein hun eto am funud, yn anghrediniol.
(3, 0) 1540 Daw GERALLT a JANE i fewn.
(3, 0) 1541 Mae GERALLT wedi bod yn yfed.
 
(3, 0) 1560 Saib.
(3, 0) 1561 Daw BARBARA i fewn, a sefyll wrth y drysau sy'n mynd allan i'r ardd.
(3, 0) 1562 Mae GERALLT yn mynd draw at y bwrdd ac yn codi rhyw damaid o rywbeth a'i fwyta.
 
(3, 0) 1564 Aiff ANGHARAD allan.
 
(3, 0) 1589 Clywir sŵn EILIR yn dod nôl i fewn drwy'r gegin.
 
(3, 0) 1592 Daw EILIR i fewn.
(3, 0) 1593 Mae'n edrych arnyn nhw am eiliad.
 
(3, 0) 1621 Saib.
(3, 0) 1622 Daw ANGHARAD i fewn yn ystod y distawrwydd anesmwyth.
 
(3, 0) 1626 Saib.
(3, 0) 1627 Ni all GERALLT ateb.
 
(3, 0) 1647 Yng nghanol y gweiddi a'r cweryla, mae JANE wedi symud draw ta y bwrdd.
(3, 0) 1648 Mae hi'n codi plât sy'n cario Black Forest Gateau cyfan, a'i luchio ar y llawr.
(3, 0) 1649 Distawrwydd.
 
(3, 0) 1696 Saib hir.
(3, 0) 1697 Mae BARBARA yn cerdded i ganol yr ystafell i gyfeiriad EILIR, yn tynnu'r fodrwy ddyweddïo oddi ar ei bys, a'i daflu i'r llawr yn nghanol y gateau.
(3, 0) 1698 Aiff allan tuag at yr ardd.
 
(3, 0) 1700 Mae'n camu draw at y gacen slwtj a chodi'r fodrwy allan ohoni.
(3, 0) 1701 Mae'n ei gosod yn ei geg i'w glanhau, ac yna'n ei thynnu allan.
 
(3, 0) 1704 Aiff allan drwy'r dws arall.
(4, 0) 1705 ACT PEDWAR
(4, 0) 1706 Bore braf ym mis Medi.
(4, 0) 1707 Mae'r siop wedi'i wacáu, a'r cynnyrch sy'n weddill wedi'i osod mewn blychau yn barod i'w gasglu.
(4, 0) 1708 Mae ambell liain llwch wedi'i gosod dros y silffoedd a welwyd yn Act 1, mewn ymdrech ddigon aneffeithiol i awgrymu gofal.
(4, 0) 1709 Mae ANGHARAD a BARBARA wrthi yn helpu i glirio a sgubo'r lle.
(4, 0) 1710 Saif PETER ar un ochr, braidd yn ansicr ynglŷn â beth i'w wneud yn y sefyllfa bresennol.
 
(4, 0) 1742 Mae'r ddwy yn chwerthin am foment.
(4, 0) 1743 Peter yn edrych braidd yn anesmwyth.
(4, 0) 1744 Mae ffôn ANGHARAD yn canu eto.
 
(4, 0) 1750 Mae BARBARA yn chwerthin eto, ond gellir clywed chwerwedd ynddo.
(4, 0) 1751 Saib.
 
(4, 0) 1778 Mae ffôn ANGHARAD yn canu eto.
 
(4, 0) 1789 Wrth iddi siarad mae GERALLT yn dod mewn drwy'r drws yn frysiog ac o fewn dim i daro i mewn iddi.
(4, 0) 1790 Mae'n cerdded heibio iddi'n ddiamynedd ac yn mynd draw at rai o'r blychau ar y llawr.
(4, 0) 1791 Mae yntau ar y ffôn, ac yn siarad yn reit uchel.
(4, 0) 1792 Mae ANGHARAD ac yntau'n siarad ar draws ei gilydd, nes ei bod hi'n cael digon ar geisio cystadlu â'i lais ef, ac yn crwydro allan drwy'r drws.
 
(4, 0) 1812 Mae'n diffodd a rhoi'r ffôn i lawr.
(4, 0) 1813 Mae'n edrych o'i gwmpas.
(4, 0) 1814 Ymhen ychydig, fe ddaw ANGHARAD yn ôl i fewn.
 
(4, 0) 1819 GERALLT yn siglo'i ben.
 
(4, 0) 1824 Daw JANE a BARBARA i fewn o gyfeiriad y tŷ.
(4, 0) 1825 Mae BARBARA'n cario'r hoover.
 
(4, 0) 1861 Mae JANE yn agor y botel.
(4, 0) 1862 Bloeddiadau, ychydig yn wantan.
 
(4, 0) 1869 Mae hi'n yfed; yna'n dal ei llaw dros ei cheg am foment.
(4, 0) 1870 Saib.
 
(4, 0) 1889 Ymddengys EILIR wrth y drws.
(4, 0) 1890 Yn raddol, mae'r lleill yn sylwi ei fod yno.
 
(4, 0) 1916 Mae JANE ac ANGHARAD wedi mynd.
(4, 0) 1917 Mae EILIR a PETER yn syllu ar ei gilydd am foment.
 
(4, 0) 1975 Saib.
(4, 0) 1976 Daw JANE yn ôl i fewn.
 
(4, 0) 2027 Clywir sŵn car yn arafu ac tynnu mewn y tu allan.
 
(4, 0) 2105 Daw BARBARA i fewn.
 
(4, 0) 2111 Allan yn gyflym.
(4, 0) 2112 Wrth ei bod hi'n gadael, daw GERALLT i fewn trwy'r drws arall.
 
(4, 0) 2115 Mae JANE yn amneidio'n wyllt ato.
(4, 0) 2116 Mae'n rhythu ati, yna'n gweld bod BARBARA ac EILIR yno.
(4, 0) 2117 Mae'n deall y sefyllfa o'r diwedd, ac yn dilyn JANE.
 
(4, 0) 2153 Mae'n hi'n aros, ac yn syllu tuag ato.
 
(4, 0) 2155 Mae EILIR yn mynd allan.
(4, 0) 2156 Mae BARBARA yn araf suddo i'w chwrcwd, yn dal i afael ar yr Hoover.
(4, 0) 2157 Mae'n hi'n crïo.
(4, 0) 2158 Ar ôl peth amser, daw JANE yn ôl i fewn.
 
(4, 0) 2166 Daw GERALLT ac ANGHARAD i fewn, PETER yn dilyn.
 
(4, 0) 2183 Daw MARIA a GORDON i fewn; mae golwg hapus iawn ar wyneb GORDON.
 
(4, 0) 2210 Aiff MARIA a GORDON allan.
 
(4, 0) 2219 Sŵn ceir y tu allan.
(4, 0) 2220 Wrth fod MARIA a GORDON yn gadael, mae'r tacsi wedi cyrraedd.
 
(4, 0) 2235 Mae PETER, ANGHARAD a BARBARA yn cario'r bagiau allan.
 
(4, 0) 2237 Dim ond GERALLT a JANE sydd ar ôl.
 
(4, 0) 2251 Maent yn cofleidio'i gilydd am foment.
(4, 0) 2252 Yna mae GERALLT yn torri i ffwrdd.
(4, 0) 2253 Iawn.
(4, 0) 2254 Pffffwwww.
(4, 0) 2255 Ma pethe 'da ni i neud.
(4, 0) 2256 Bryd i ni glatsho bant â 'i!
(4, 0) 2257 Dere.
 
(4, 0) 2259 Ânt allan.
(4, 0) 2260 Clywir sŵn yr allwedd yn troi yn y drws.
(4, 0) 2261 Sŵn siarad, ffarwelio, ac wedyn, ymhen munud, y tacsi'n gadael.
(4, 0) 2262 Saib fer.
(4, 0) 2263 Yn sydyn, mae'r drws nesaf at y tŷ yn agor.
(4, 0) 2264 Daw JIM i fewn.
 
(4, 0) 2281 Saib eto.
(4, 0) 2282 Yn y tawelwch, fe ddaw sŵn o'r pellter; fel sŵn llinyn yn torri.
(4, 0) 2283 Mae'r atsain yn raddol ddistewi.