Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Cân (Cyfanswm: 360)

 
(1, 1) 714 On'd dedwydd a godidog
(1, 1) 715 Yw gweithred gwr cywaethog '
(1, 1) 716 Cysgod crefydd, gwisgiad cry',
(1, 1) 717 Sy'n hardd fantellu'r tyllog.
(1, 1) 718 Peth dawnus yn mhlith dynion,
(1, 1) 719 Yw enw crefydd union,
(1, 1) 720 Ac anrhydeddus barchus bur,
(1, 1) 721 Wrth agwedd gwyr cwaethogion;
(1, 1) 722 Nid yw'r tlodedd daeredd dôn
(1, 1) 723 Ond gwirion a digariad;
(1, 1) 724 Yr iawn arianog enwog wr,
(1, 1) 725 Gaiff wrando'n siwr ei siarad,
(1, 1) 726 Dyna'r dyn trwy |honour| da,
(1, 1) 727 Mae'r mawredd a'r cymeriad;
(1, 1) 728 Mewn |society| a phob swydd,
(1, 1) 729 Mae'n ddedwydd a ddywedo,
(1, 1) 730 Ac yn y purdan gan y Pab
(1, 1) 731 Fe guddir mab ag eiddo;
(1, 1) 732 Yr arian s'yn goreuro swydd,
(1, 1) 733 Gwna i gelwydd gael ei goelio.
(1, 1) 734 ~
(1, 1) 735 Nid buddiol cydnabyddiaeth
(1, 1) 736 A'r gweiniaid yn eu gweniaeth,
(1, 1) 737 Os can' nhwy'i cynwys, a'n o'u co'
(1, 1) 738 I ffals ymrwbio am rywbeth,
(1, 1) 739 Mae'n rhaid i ddyn pwerus
(1, 1) 740 Fyw'n filain a gofalus,
(1, 1) 741 A rheswm |short|, a golwg sur,
(1, 1) 742 Yn nghanol gwyr anghenus.
(1, 1) 743 Mae'n calonau ni'n yn mhob man
(1, 1) 744 Yn c'ledu o ran ein clydwch,
(1, 1) 745 Talcen putain i ni sydd
(1, 1) 746 Heb arwydd c'wilydd, coeliwch,
(1, 1) 747 A wyneb pres rhag anhap bri,
(1, 1) 748 Yw'n hurddas ni a'n harddwch,
(1, 1) 749 Tebyg ydym ni wrth ein chwant
(1, 1) 750 Heb fethiant i'r lefiathan,
(1, 1) 751 Fe 'sgydwa'i ben, fe chwardd yn bur,
(1, 1) 752 Ar bicell ddur neu darian,
(1, 1) 753 Ac felly ninau, swyddau serth,
(1, 1) 754 Oherwydd nerth ein harian.
 
(1, 1) 855 Tosturus ydyw ystyried,
(1, 1) 856 Wrth weled anferth wall;
(1, 1) 857 A'r gofid byd sy'n gwasgu,
(1, 1) 858 'Mron llethu hwn a'r llall,
(1, 1) 859 I b'le troir, na b'o bloedd trwst;
(1, 1) 860 Ac anian ffrwst, rhyw gwynion ffraeth,
(1, 1) 861 A dynol blant yn dynn eu bloedd,
(1, 1) 862 Eu bod yn g'oedd a'u byd yn gaeth,
(1, 1) 863 Prudd, prudd, gwae anfon swn gofidiau sydd,
(1, 1) 864 Yn gas o ran, gwir eisiau 'mroi;
(1, 1) 865 Am rym i ffoi dan rwymau ffydd,
(1, 1) 866 P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'?
(1, 1) 867 Cheir odid beth, o ryddid byd,
(1, 1) 868 Heb gadwyn gofid gyda e'.
(1, 1) 869 ~
(1, 1) 870 Gofidus byw dan rwymau,
(1, 1) 871 Gofidus bod yn rhydd,
(1, 1) 872 Gofidus nos mewn gwely,
(1, 1) 873 Gofidus ganol ddydd,
(1, 1) 874 Mae gofid blin yn gafod bleth,
(1, 1) 875 Wrth dalu treth neu ddilyn trâd,
(1, 1) 876 I dori dyn ar dir a dwr,
(1, 1) 877 Mae mawr ystwr ymhob rhyw stâd.
(1, 1) 878 Blin, blin, gofidiau traws, gwael fod eu trin,
(1, 1) 879 Eu pwyth sy'n bwys 'mhob peth sy'n bod,
(1, 1) 880 Trwy |riwl| y rhod, trwy'r haul a'r hin,
(1, 1) 881 P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'?
(1, 1) 882 Cheir odid beth o ryddid byd,
(1, 1) 883 Heb gadwyn gofid gydag e'.
(1, 1) 884 ~
(1, 1) 885 Mae gofid yn y plentyn,
(1, 1) 886 Mae gofid yn y fam,
(1, 1) 887 Mae gofid mewn rhieni,
(1, 1) 888 Mae cyni lawer cam.
(1, 1) 889 Gofidiau'r byd, anfeidrol bwys,
(1, 1) 890 Raid ddiodde'n ddwys o ddydd i ddydd,
(1, 1) 891 Gofidiau maith yw'n iaith a'n tôn,
(1, 1) 892 A gresyn son am groesau sydd—
(1, 1) 893 Briw, briw sy'n dynn ar elfen dynolryw,
(1, 1) 894 Gofidiau crych trwy'r cnawd a'r croen,
(1, 1) 895 Mewn amryw boen 'ry'm ni yma'n byw,
(1, 1) 896 P'le, p'le bydd dyn yn esmwyth dan y ne'i
(1, 1) 897 Cheir odid beth o ryddid byd,
(1, 1) 898 Heb gadwyn gofid gydag e'.
(1, 1) 899 ~
(1, 1) 900 Heblaw'r allanol ofid,
(1, 1) 901 Sy'n llid rhwng nef a llawr,
(1, 1) 902 Gofidiau syn olynol,
(1, 1) 903 Tufewnol eto'n fawr,
(1, 1) 904 Cydwybod flin a dibaid floedd,
(1, 1) 905 Sy'n gwaeddi'n g'oedd, a'i gwaed yn gaeth;
(1, 1) 906 Bu Suddas ffals, bu Esau ffol,
(1, 1) 907 Bu Cain a Saul yn cwyno'i saeth,
(1, 1) 908 Duw, Duw, a wnelo i bawb anelu byw,
(1, 1) 909 Trwy gadw a'r draul cydwybod rydd,
(1, 1) 910 Ond ê, ddaw'r dydd, bydd brudd y briw,
(1, 1) 911 Ffydd gre'r creadur newydd eiff i'r ne';
(1, 1) 912 Fe dderfydd poen, fe dderfydd byd,
(1, 1) 913 Fe dderfydd gofid gydag e'.
 
(1, 1) 1001 O b'le mae'r holl ofidiau
(1, 1) 1002 A'r plaau sydd yn ein plith?
(1, 1) 1003 Ond 'ddiwrth yr aflan anian wyniau
(1, 1) 1004 A'r melys chwantau chwith,
(1, 1) 1005 Mae melldith barn cyfiawnder
(1, 1) 1006 Yn egrarnom ni,
(1, 1) 1007 Tra fo'm yn aros mewn anwiredd,
(1, 1) 1008 Swn llygredd sarphaidd sy'.
(1, 1) 1009 A rhaid yw deffro dyn
(1, 1) 1010 I weled ei ddrwg wyn,
(1, 1) 1011 Cyn delo mewn cwyn dilys,
(1, 1) 1012 Fel mab afradlon gwarthus,
(1, 1) 1013 Yn dlawd alarus lun.
(1, 1) 1014 Rhaid gwasgu'r grawnion llawn,
(1, 1) 1015 Cyn delo eu nodd yn iawn;
(1, 1) 1016 Rhaid clwyfo cyn cael meddyg,
(1, 1) 1017 'Does ar yr iach diysig
(1, 1) 1018 Mo'i ddiffyg ef na'i ddawn.
(1, 1) 1019 ~
(1, 1) 1020 Fel hyn mae llais yr Arglwydd,
(1, 1) 1021 A'i ddoeth berffeithrwydd ef,
(1, 1) 1022 A'i faith ragluniaeth, wir ganlyniad,
(1, 1) 1023 Yn alwad ini o'r nef;
(1, 1) 1024 Dwfr, tân, a gwyntoedd creulon,
(1, 1) 1025 Peryglon o bob rhyw,
(1, 1) 1026 Sydd wrthddrych hynod ini ganfod
(1, 1) 1027 Awdurdod gallu Duw:
(1, 1) 1028 Pob profiad gallu prudd,
(1, 1) 1029 Pob gofid serthfyd sydd,
(1, 1) 1030 Yn rhywbeth fel o rybudd
(1, 1) 1031 I'n galw ni at yr Arglwydd,
(1, 1) 1032 Yn cael hoff arwydd ffydd,
(1, 1) 1033 Os cawn ni nerth o'r nef
(1, 1) 1034 I ymorphwys arno ef,
(1, 1) 1035 Mewn gwir uniondeb gwaraidd
(1, 1) 1036 Ni a gawn, ni a gawn ddigonedd,
(1, 1) 1037 Yn groywaidd o'i law gref.
(1, 1) 1038 ~
(1, 1) 1039 Ar bwy gorphwysodd Abel
(1, 1) 1040 Yn ddirgel, ond ar Dduw;
(1, 1) 1041 Ac Enoc hefyd, enw cyfion,
(1, 1) 1042 Ga'dd foddion ganddo i fyw;
(1, 1) 1043 Ffydd ffyddlon yn 'raddewid
(1, 1) 1044 Oedd hyfryd i Abraham,
(1, 1) 1045 Ei groes ragluniaeth a ganlynodd,
(1, 1) 1046 Nis gwyrodd naws ei gam;
(1, 1) 1047 Boddloni ar lwybrau ffydd
(1, 1) 1048 Yw'r gylfaen benaf sydd;
(1, 1) 1049 Ymddiried yn yr Arglwydd
(1, 1) 1050 'Roedd Moses, Job, a Dafydd,
(1, 1) 1051 Trwy'r prawf a'r cystudd prudd;
(1, 1) 1052 O! ryfedd, ryfedd ras,
(1, 1) 1053 Uwchlaw pob gofid cas,
(1, 1) 1054 Trwy gael boddlondeb goleu,
(1, 1) 1055 Gwell pryd o ddail na seigiau
(1, 1) 1056 O gigau breintiau bras.
(1, 1) 1057 ~
(1, 1) 1058 Yn mha rhyw gyflwr bynag,
(1, 1) 1059 Medd Apostol dinag Duw,
(1, 1) 1060 Tan bob helbulon gofid calon,
(1, 1) 1061 Mi ddysgais foddlon fyw;
(1, 1) 1062 Boddlondeb ffydd, a hyder,
(1, 1) 1063 Bydd ddoethder mawr i ddyn,
(1, 1) 1064 A gweddi fywiol, dduwiol, ddiwad,
(1, 1) 1065 Â'r teimlad yn gyttun;
(1, 1) 1066 Os croes yw'n hoes o hyd,
(1, 1) 1067 Gan bwys gofidiau'r byd,
(1, 1) 1068 Boddlonwn yn yr Arglwydd,
(1, 1) 1069 Cawn adael heibio'n ebrwydd
(1, 1) 1070 Y byd a'i dramgwydd drud;
(1, 1) 1071 Cynaliodd Duw mewn gwên,
(1, 1) 1072 Y tlawd a'i blawd a'i 'sten,
(1, 1) 1073 Gweddiwn am gael profiad
(1, 1) 1074 O'i gerydd yn ei gariad,
(1, 1) 1075 A'i ymweliad i ni, Amen.
 
(1, 1) 1160 Chwychwi wragedd lygredd lun,
(1, 1) 1161 Bydd a'u gwyn am ga'lyn golud;
(1, 1) 1162 Mawr yw'ch rhyfyg yn mhob rhyw,
(1, 1) 1163 Yn rhwyldaidd i'w gyrhaeddyd;
(1, 1) 1164 Cym'rwch siampl ddyfal ddefod,
(1, 1) 1165 O ran mae'ch einioes mewn och! hynod,
(1, 1) 1166 Achwyn dirfawr, i chwi'n darfod.
(1, 1) 1167 'Roedd hon yn ddynes anian ddoniau,
(1, 1) 1168 A gogoniant iddi gyneu,
(1, 1) 1169 Ni fedd hi yma rwan ddimau.
(1, 1) 1170 ~
(1, 1) 1171 Hi aeth o'r byd mae'n chwith i'w bol,
(1, 1) 1172 Am lawn ddigonol giniaw;
(1, 1) 1173 A chan na ddaw hi fyth yn ol,
(1, 1) 1174 Mae'n drwm i Rondol wrando;
(1, 1) 1175 Clywed cwyniad c'leta cynen,
(1, 1) 1176 A llais ehodiad llaes eu haden,
(1, 1) 1177 Taera dim o'r ty i'r domen,
(1, 1) 1178 Chwerw gwaedd y moch a'r gwyddau,
(1, 1) 1179 A'r hwyaid anwyl aeth yn deneu;
(1, 1) 1180 Ow golli Sian, mae gwall i'w 'senau,
(1, 1) 1181 ~
(1, 1) 1182 Mae'r lloiau bach yn brefu'n gaeth,
(1, 1) 1183 A'r buchod llaeth yn beichio,
(1, 1) 1184 A'r gaseg farchnad, goesreg fwyn,
(1, 1) 1185 Mae hynod gwyn gan hono.
(1, 1) 1186 Och! o'r achos ni cha'r ychen,
(1, 1) 1187 Na'r wyn llywaeth, awr yn llawen,
(1, 1) 1188 Ond eu gwarchae heb odid gyrchen,
(1, 1) 1189 Ni waeth pe dryllid yr hen droellau,
(1, 1) 1190 Fe dorwyd calon troad chwiliau,
(1, 1) 1191 Nerth y gweuoedd aeth o'i couau,
(1, 1) 1192 ~
(1, 1) 1193 Oer yw'r aelwyd arw nith,
(1, 1) 1194 Mae dwned chwith am dani;
(1, 1) 1195 I'r cwn a'r cathod cethin floedd,
(1, 1) 1196 Awch wallus oedd ei cholli;
(1, 1) 1197 Ac ni chai llygod byth mo'u llwgu,
(1, 1) 1198 Hi gadwa'r yd i gyd i fraenu
(1, 1) 1199 Heibio'n warthus heb ei werthu,
(1, 1) 1200 A'r tylodion, hwy hi a'a lediai,
(1, 1) 1201 Ni roi hi damaid ond i'w ffrindiau,
(1, 1) 1202 Newydd iddi hi fydd dioddeu,
 
(1, 1) 1660 Ieuengctyd ffri, gwmpeini per,
(1, 1) 1661 Sy'n caru ofer bleser blysig,
(1, 1) 1662 Ac yn dilyn unig daith,
(1, 1) 1663 Naturiaeth ry faith ryfyg;
(1, 1) 1664 Ond er fod rhyddid yn eich rhan,
(1, 1) 1665 Chwi ddylech wiwlan gyfan gofio,
(1, 1) 1666 'R erdeiniodd doeth Greawdwr dyn,
(1, 1) 1667 Yn addas derfyn iddo,
(1, 1) 1668 Ond pob creadur eglur hyglod,
(1, 1) 1669 Ych a'r asyn wedi eu gosod,
(1, 1) 1670 Sy'n troi tan wybr gan adnabod,
(1, 1) 1671 Gallu defod, gwell na dyn:
(1, 1) 1672 Mae hyny'n g'wilydd i ni'n gwyn,
(1, 1) 1673 Y moch a'r ceirw, a'r meirch o'u cyrau,
(1, 1) 1674 Ehediad awyr, hyder diau
(1, 1) 1675 A edwyn fanoedd en terfynau,
(1, 1) 1676 Naturiaeth ffrwythau,
(1, 1) 1677 Maent oll i'w nod yn well na ni.
(1, 1) 1678 ~
(1, 1) 1679 Ond ydyw'n dost mor ddrwg yw dyn,
(1, 1) 1680 A Duw ei hun wedi ei wahanu,
(1, 1) 1681 I wneud yn wir, ar nod y nef,
(1, 1) 1682 Ei ewyllys ef a'i allu?
(1, 1) 1683 Gosodwyd bywyd ger ein bron,
(1, 1) 1684 Ac am fyw'n waelion—mae marwolaeth,
(1, 1) 1685 A dewis marw'r y'm ni'n llwyr,
(1, 1) 1686 Ddisynwyr, trwy'r gwasanaeth:
(1, 1) 1687 Dewis pechod, nod anhydyn,
(1, 1) 1688 Sydd a marwolaeth yn ei ddilyn:
(1, 1) 1689 Y siwgwr chwant mae cant yn derbyn,
(1, 1) 1690 Eithaf gwenwyn gwarth a chnawd,
(1, 1) 1691 Ac byth eu cnoi am borthi cnawd.
(1, 1) 1692 Rhyfeddol amlwg mor ddideimlad,
(1, 1) 1693 Wawd anmarchus, ydyw merched,
(1, 1) 1694 A maint sy' o siamplau goleu gweled,
(1, 1) 1695 O rai wnai fyned yn rhy fall
(1, 1) 1696 Mewn gafael Gofid gwendid gwall.
(1, 1) 1697 ~
(1, 1) 1698 Os dianc meibion am ryw hyd,
(1, 1) 1699 'Rych chwi'n y Gofid, o ran gafael,
(1, 1) 1700 Fel llawer meinwen, gangen gu,
(1, 1) 1701 A ga'dd ei nesu'n isel.
(1, 1) 1702 C'wilyddio'ch wyneb, aflwydd chwith,
(1, 1) 1703 Wrth fyn'd i blith pob rhith o ddynion,
(1, 1) 1704 A'ch ffryndiau llon oedd gynt gerllaw,
(1, 1) 1705 Dry gwegil draw yn goegion;
(1, 1) 1706 A'ch hen gariadau, eiriau oerwedd,
(1, 1) 1707 Wrth eich pasio'n codi bysedd,
(1, 1) 1708 A chodlant siarad chwedlau guredd,
(1, 1) 1709 Afiach agwedd, ar eich ol,
(1, 1) 1710 I'ch poeni'n ddwys, a'ch pen yn ddol
(1, 1) 1711 Ac heblaw'r cwbwl, drwbwl driban,
(1, 1) 1712 A faeddo'r-bobl, fe ddaw'r baban;
(1, 1) 1713 Dyna'r ergyd, Gofid gyfan,
(1, 1) 1714 Chwi fyddwch truan, bron eich tranc,
(1, 1) 1715 Mewn galar llwyr am goelio'r llanc.
(1, 1) 1716 ~
(1, 1) 1717 A gwaeth na'i goelio, gwythen gas,
(1, 1) 1718 Os cym'ra'n fas y gwnes ei goesau,
(1, 1) 1719 A'ch gadael chwithau, gwyrthiau gwan,
(1, 1) 1720 I'ch pwnio tan eich poenau.
(1, 1) 1721 Cwyd y plwyf rhag cadw plant,
(1, 1) 1722 A heliant |warrant| helynt oeredd;
(1, 1) 1723 Mae amryw |blag| a Gofid blin
(1, 1) 1724 O drin a dilyn dialedd.
(1, 1) 1725 Hwn yw'r pechod, hynod hanes,
(1, 1) 1726 Dechreu dychryn dyn a dynes;
(1, 1) 1727 Mae amryw leidr a lladrones
(1, 1) 1728 Oddiwrth y |business| yma'n bod,
(1, 1) 1729 Mewn gwallau'r clwyf yn colli clod;
(1, 1) 1730 Ac amryw'n dilyn cam-dystiolaeth,
(1, 1) 1731 Hyll afrywddaidd, a llofruddiaeth,
(1, 1) 1732 I geisio cuddio'u llygredigaeth,
(1, 1) 1733 Anian bariaeth yn y byd,
(1, 1) 1734 Er na phery hyny o hyd,
(1, 1) 1735 Meddyliwch oll o ddilyn chwant,
(1, 1) 1736 Os rhai a ddihangant yn ddihangol,
(1, 1) 1737 Rhaid i'r sawl sy'n tramwy'r farn
(1, 1) 1738 Agweddu barn drag'wyddol.
(1, 1) 1739 Nid ydyw gwatwar, gleber gwlad,
(1, 1) 1740 Na dim siarad ond amserol,
(1, 1) 1741 Wrth waedd cydwybod ddrwg e' rhan
(1, 1) 1742 A phoenau anorphenol.
(1, 1) 1743 Gan hyny ieuenctid ahyddid rhodus,
(1, 1) 1744 Meibion, merched, nid anmharchus,
(1, 1) 1745 I chwi ystyried yn dosturi,
(1, 1) 1746 Wyliadwrus waelod iawn,
(1, 1) 1747 Rhag myn'd i'r llid o'r mwynder llawn;
(1, 1) 1748 Ni cheir y melus heb y chwerw;
(1, 1) 1749 Dull doe'n ol nid eill dyn alw.
(1, 1) 1750 Ceisiwn heddwch cyson heddyw,
(1, 1) 1751 Y fory'n feirw gallwn fod,
(1, 1) 1752 Heb obaith newid byth y nod.
 
(1, 1) 2216 Dyn anwyd i flinder dan boender dibaid',
(1, 1) 2217 Fel yr 'heda'r wreichionen i'r nen ar ei naid:
(1, 1) 2218 Gwagedd o wagedd, a llygredd sy'n llym,
(1, 1) 2219 A'r byd a'i holl dreigliad yn dwad i'r dim.
(1, 1) 2220 ~
(1, 1) 2221 O'r pedair elfenau fe greai Dduw'n grych,
(1, 1) 2222 Fyd, a phob creadur a welir yn wych;
(1, 1) 2223 Felly mae diwedd holl agwedd byd llym,
(1, 1) 2224 Yn rhedeg i'w elfen, a'i ddyben i ddim.
(1, 1) 2225 ~
(1, 1) 2226 O! fel mae troell natur tra eglur yn troi,
(1, 1) 2227 Damweiniau trwy arfaeth rhagluniaeth'n ymgloi;
(1, 1) 2228 Fel olwyn mewn olwyn manylaidd ei grym,
(1, 1) 2229 A'u troion oyfanedd yn diwedd i'r dim.
(1, 1) 2230 ~
(1, 1) 2231 Mae son am hen dadau fel blodau fu o'r blaen,
(1, 1) 2232 Yn gefnog ardderchog, wyr enwog o raen;
(1, 1) 2233 Y rhei'ny trwy rinwedd oedd ryfedd o rym,
(1, 1) 2234 Er maint eu gogoniant hwy ddaethant i'r dim.
(1, 1) 2235 ~
(1, 1) 2236 Bu'n hynod frenhinoedd â'u bloedd yn dra blin,
(1, 1) 2237 Trwy rwysg a grymusder mewn trawsder yn trin
(1, 1) 2238 Yn filain ryfelwyr trallodwyr tra llym,
(1, 1) 2239 A'u rhyfyg a'u mawredd yn diwedd i'r dim.
(1, 1) 2240 ~
(1, 1) 2241 Er cryfder a balchder hoff wychder byd ffol,
(1, 1) 2242 Ni welir fawr elw'r dydd heddyw ar eu hol:
(1, 1) 2243 Monachlogydd a chestyll gorchestol eu grym,
(1, 1) 2244 Er cymaint y gorchwyl hwy gyrchwyd i ddim.
(1, 1) 2245 ~
(1, 1) 2246 Nid oes i ddyn yma un rhodfa barhaus,
(1, 1) 2247 Ond poen a gofidiau trwy foddau trofaus:
(1, 1) 2248 Rhaid i ni gael cryfdwr Cregwdwr teg rym,
(1, 1) 2249 A greodd y cyfan yn ddoethlan o ddim.
(1, 1) 2250 ~
(1, 1) 2251 Rhaid felly'n cael ninau â'n c'lonau'n un clais,
(1, 1) 2252 'N afluniaidd wael anian wag druan rwyg drais;
(1, 1) 2253 Ar dyfroedd diafraid o'n llygaid yn llym,
(1, 1) 2254 Cawn Ysbryd Duw'n gweithio pan ddelom i ddim.
(1, 1) 2255 ~
(1, 1) 2256 Tra f'o dyn yn gweled ei weithred yn wych,
(1, 1) 2257 A'i serch arno'i hunan mewn anian ddinych,
(1, 1) 2258 Ni ddichon gael bywyd o'r Ysbryd a'i rym,
(1, 1) 2259 Nes byddo i'w ddyn pechod ef ddarfod i ddim.
(1, 1) 2260 ~
(1, 1) 2261 I'r dim fel plant bychain, heb bechod na chas,
(1, 1) 2262 Yn dlodion drylliedig, sychedig am ras,
(1, 1) 2263 I adnabod a chredu gair Iesu'n gu rym,
(1, 1) 2264 Amen yn dragywydd, ni dderfydd ef ddim.