Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Gwirionedd (Cyfanswm: 72)

 
(1, 1) 1899 Wel, tro yma 'rwan, bechadur afrywiog.
 
(1, 1) 1906 Pa beth yw'r dychryn sy'n eich dwyn!
(1, 1) 1907 Sefwch yn fwyn i fynu.
 
(1, 1) 1910 Gwneud cam â'r wraig wnaeth drwg ei raes,
(1, 1) 1911 A hyny'n blaen sy'ch blino...
 
(1, 1) 1916 Pa beth ydyw arian ond gwreiddyn pob drwg?
 
(1, 1) 1918 Mae dull y byd yn myned heibio.
 
(1, 1) 1920 Meddyliwch am eich ened, er gofid a chyneu.
 
(1, 1) 1922 Ow, Ow, bechadur mae'n arw dy chwedel.
 
(1, 1) 1924 Wel os darfu'r byd a'i ofid eich gwasgu,
(1, 1) 1925 Oni adawodd Job dduwiol esiampl i'ch dysgu?
(1, 1) 1926 Wedi colli'r holl gwbl, fe ddywed yn berffeth,
(1, 1) 1927 Yr Arglwydd sy'n rhoi, ac efe sy'n dwyn ymeth.
 
(1, 1) 1932 Mae llawer mewn cyflwr gweision cyflog,
(1, 1) 1933 A wnant yn wrol wasaneth hanerog,
(1, 1) 1934 Heb ddim o zel cryf afel crefydd,
(1, 1) 1935 Ond y byd a'r golud yn eu dal wrth eu gilydd.
(1, 1) 1936 ~
(1, 1) 1937 O! y Prophwyd sanctedd oedd yn credu
(1, 1) 1938 Pe bydde heb eidion yn y beudy,
(1, 1) 1939 Na dafad yn y gorlan, na ffrwyth ar olewydd,
(1, 1) 1940 Eto fe lyne yn yr Arglwydd.
(1, 1) 1941 ~
(1, 1) 1942 Mae llawer, ysyweth, gwae hwy heddyw yn Seion,
(1, 1) 1943 Yn esmwyth eu clustog, yn wresog a breision;
(1, 1) 1944 Ac eto heb ystyried i'r ened wirionedd,
(1, 1) 1945 Mae llwyddiant yr ynfyd a'u lladd yn y diwedd.
(1, 1) 1946 ~
(1, 1) 1947 Felly yr wyt tithe, yn dy deithio adwythig,
(1, 1) 1948 Yn gwastraffu cu rade y Tad caredig;
(1, 1) 1949 Ti weriest ei fawredd yn dy ddrwg arferion.
 
(1, 1) 1951 Rhoi bai ar y wraig 'rwyt ti fel Adda,
(1, 1) 1952 I esgusodi dy hunan gybydd-dra;
(1, 1) 1953 Ymgaddio yn nghysgod prene natur,
(1, 1) 1954 Fe a'th chwilir di allan eto'n eglur.
(1, 1) 1955 ~
(1, 1) 1956 Pe bydde genyt feddylie gonest,
(1, 1) 1957 Eiddo'r Creawdwr yw pobpeth a gefest;
(1, 1) 1958 Y defed a'r gwartheg, yr aur a'r arian,
(1, 1) 1959 Rhaid i ti ateb am y cyfan.
 
(1, 1) 1974 Wel, mae dy gynghori di, 'rwy'n gweled,
(1, 1) 1975 Fel taro pêl yn erbyn pared;
(1, 1) 1976 Son am y gwragedd swnio gogan,
(1, 1) 1977 Heb ystyr dim o'th ddrwg dy hunan.
(1, 1) 1978 ~
(1, 1) 1979 'Rwyt ti 'run foddion a'r neidr fyddar,
(1, 1) 1980 Neu'r rhai sy'n eiste'n 'stol y gwatwar;
(1, 1) 1981 Mae melldith trueni'r byd a'i aflwydd,
(1, 1) 1982 Wedi dy foedro di yn dy ynfydrwydd.
 
(1, 1) 1997 Fe alle trugaredd Duw fod yn egoryd,
(1, 1) 1998 I'th achub di a hithe hefyd.
 
(1, 1) 2001 Ow, mater mawr dros byth yn gyfan,
(1, 1) 2002 Yw colli ened mewn gwall anian.
 
(1, 1) 2005 Ow, beth fyddi gwell er arian yn dyre,
(1, 1) 2006 A'th ened anfarwol yn nghanol y poene;
(1, 1) 2007 Heb gael mwy na Deifas ddim i oeri dy dafod,
(1, 1) 2008 Na heddwch na dyben ar bryf dy gydwybod.
(1, 1) 2009 ~
(1, 1) 2010 Y gydwybod sy'n dy fynwes cofia,
(1, 1) 2011 Yw'r cyfaill gore, a'r gelyn gwaetha';
(1, 1) 2012 A pha fodd y sefi na chyfri' na chyfran,
(1, 1) 2013 Tra fyddych yn tystio yn dy erbyn dy hunan.
(1, 1) 2014 ~
(1, 1) 2015 Ow! paham 'rwyt ti heddyw mor ddideimlad,
(1, 1) 2016 Yn porthi dy gnawd i newynu dy ened,
(1, 1) 2017 A cholli gwir ysbryd y bywyd tragwyddol,
(1, 1) 2018 I gael dim ond sorod a phleser amserol?
(1, 1) 2019 ~
(1, 1) 2020 Os marw yn dy bechod a wnei, cais ddychrynu,
(1, 1) 2021 Yn y pwll gyda'r diawlied dros byth bydd dy wely;
(1, 1) 2022 Gwirionedd Duw'n ddidwyll yw'r oll wy'n ei dd'wedyd,
(1, 1) 2023 Derbyniwch ef yn fywiol bob un am ei fywyd.