Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Mynegiad (Cyfanswm: 94)

 
(1, 1) 124 Y dyrfa ddiderfysg yn hyddysg mewn heddwch,
(1, 1) 125 Dymuna'ch ystyrieth dro'digeth drwy degwch,
(1, 1) 126 I adrodd cynwysiad, cymhwysiad a moese,
(1, 1) 127 Gosodiad a threigliad awch yriad y chware,
(1, 1) 128 ~
(1, 1) 129 Gair distadl yw chware yn mhlith rhyw rai chwerwen,
(1, 1) 130 Can's cymaint o hunan sydd heno mewn dynion,
(1, 1) 131 A'u serch hwy sydd hynod arnynt eu hunen,
(1, 1) 132 Condemniant bawb arall â'n barus genfigen.
(1, 1) 133 ~
(1, 1) 134 Mae barn anmhrofiadol a chnawdol groch nwyde,
(1, 1) 135 Yn magu dirmygus genfigenus goeg wynie;
(1, 1) 136 Heb ystyr fod natur trwy gysur wedi gosod,
(1, 1) 137 Yn ei dull a'i lle'i hunan i'w deall yn hynod.
(1, 1) 138 ~
(1, 1) 139 Mae dynion a'u donie, pe baent yn cyduno,
(1, 1) 140 Mewn gras a gwir gariad a gwres i gywiro;
(1, 1) 141 Pob peth â dawn felus all natur ddyfalu,
(1, 1) 142 I Dduw sy'n ogoniant yn dawnsio ac yn canu.
(1, 1) 143 ~
(1, 1) 144 Ond balchder naturieth sy'n tori pob rheol,
(1, 1) 145 Am glod iddo'i hunan mae dyn yn wahanol;
(1, 1) 146 Mewn gwlad ac mewn eglwys mae'n eglur y llygredd,
(1, 1) 147 Sain o lais Pharo, a swyn Lusifferedd.
(1, 1) 148 ~
(1, 1) 149 Mab y wawrddydd, hen dwyllydd, deallwch,
(1, 1) 150 Sy'n galw ei waith allan rhwng gole a thywyllwch;
(1, 1) 151 Hwn yw'r ysbryd crefydd coeg ryfyg a chynwr',
(1, 1) 152 Sy heno'n gorphwyso mewn aml broffeswr.
(1, 1) 153 ~
(1, 1) 154 Y rhai sydd heb gariad wir fwriad arferol,
(1, 1) 155 Ni allant ond llenwi o ddigllonedd ysbrydol;
(1, 1) 156 Ac uffern bair berw yw'r llanw digllonedd,
(1, 1) 157 A'r nef ydyw'r cariad, gwynfyd sawl a'u cyrhedd.
(1, 1) 158 ~
(1, 1) 159 Os cariad sydd genych, 'rwy'n mwynwych ddymuno,
(1, 1) 160 Nid cariad i bechod wy'n gosod i'w geisio,
(1, 1) 161 Ond caru'r gwirionedd ddiduedd wrandawiad,
(1, 1) 162 Chwi gewch mewn hwyl agwedd ryw ran o'i amlygiad.
(1, 1) 163 ~
(1, 1) 164 Mac genym |act| gynil, led eiddil, rhaid adde',
(1, 1) 165 Am na ddichon neb draethu llawn ddull naturiaethe,
(1, 1) 166 Er hyny mi addawaf gyhoeddi'r ddau ddiwyd,
(1, 1) 167 A'r pla sydd ar gyfer, sef Pleser a Gofid.
(1, 1) 168 ~
(1, 1) 169 Yn gyntaf daw Pleser a'i faner i fynu,
(1, 1) 170 Ac ato daw Gofid ar gyfer i ddadlu:
(1, 1) 171 Ar ol i'r rhai'n gilio plwc heibio daw'r Cybydd,
(1, 1) 172 Sef Rondol y Roundiad, un caled dig'wilydd.
(1, 1) 173 ~
(1, 1) 174 At hwn daw'r wraig fwynlan, sef Sian Ddefosionol,
(1, 1) 175 Methodis o fodde, dan enw crefyddol;
(1, 1) 176 Rhai hyn a ddangosant, er llawer o annghysur,
(1, 1) 177 Fod rhagrith anfuddiol mewn amryw grefyddwyr.
(1, 1) 178 ~
(1, 1) 179 I fynu'n ol hyny dan ganu heb ddim gwenieth,
(1, 1) 180 Daw un yn ganlynol dan enw Rhaglunieth;
(1, 1) 181 At hono mae'n taro Rheswm naturiol,
(1, 1) 182 Cewch glywed yn gyfan ymddyddan rhwydd weddol.
(1, 1) 183 ~
(1, 1) 184 Ac yna Boddloneb dda wyneb ddiwenieth,
(1, 1) 185 A draetha gynghorion ddwys dirion ystyrieth;
(1, 1) 186 'Nol hyny daw'r Cybydd, trwch arwydd tra chwerw,
(1, 1) 187 I gwyno'n drwm oeredd fod y wraig wedi marw.
(1, 1) 188 ~
(1, 1) 189 At hwnw daw Pleser i'w hwylio i ymgyplysu,
(1, 1) 190 Gyda gwraig arall, gan fyn'd trosto i garu;
(1, 1) 191 Ac yna daw henwraig ac anras i'w dilyn
(1, 1) 192 Ato i'w hoff hurtio trwy ddywedyd ei ffortun.
(1, 1) 193 ~
(1, 1) 194 A chwedi'n daw Pleser mewn amser cyfaddas,
(1, 1) 195 I'w nodi'n buredig i wneud y briodas;
(1, 1) 196 Gwraig oedd Gwaceres, ddu lodes ddyledog,
(1, 1) 197 Siopwraig wael eiddo, lawn ddichell gelwyddog.
(1, 1) 198 ~
(1, 1) 199 Yn ol hyn o erlid daw Gofid ar gyfer,
(1, 1) 200 A'i ddawn yn hoff lwysedd i ymddyddan â Phleser;
(1, 1) 201 Oblegyd crefydde, ymrysone sy' hynod,
(1, 1) 202 A'r swn gydd am bres bychen a llawer bras bechod.
(1, 1) 203 ~
(1, 1) 204 Ac yno daw'r Cybydd yn ddedwydd ei dd'wediad,
(1, 1) 205 Gan ganmol ei addas briodas bur rediad;
(1, 1) 206 Mae'n gwerthu â dull hyffordd ei holl offer ffermwr,
(1, 1) 207 A'i feddwl yn foddus naws hapus fyw'n siopwr.
(1, 1) 208 ~
(1, 1) 209 Ond wedi'r holl gwbl mawr drwbl sydd iddo,
(1, 1) 210 Mae ef mewn gwall oerddig yn colli'r holl eiddo,
(1, 1) 211 Ac yn syrthio i anobeth o farieth i oferedd,
(1, 1) 212 Yn fall ei 'madawiad, ac felly mae'r diwedd.
(1, 1) 213 ~
(1, 1) 214 A dyna ddarn dreiglad egoriad o'r geirie,
(1, 1) 215 I'w datgan yn gywren ni a wnawn yma'n gore;
(1, 1) 216 Na ddigiwch, cyd-ddygwch, maddeuwch yn ddie,
(1, 1) 217 Nid ydym ond egwan ddau ddynan diddonie.