Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Pleser (Cyfanswm: 450)

 
(1, 1) 2 |Now, by your leave, gentlemen and ladies|:
(1, 1) 3 |O, silence! my fellows, don't be so foolish|;
(1, 1) 4 |Pray stand back, ye crowdy gang|,
(1, 1) 5 Neu'r ydych yn annghariadus.
(1, 1) 6 ~
(1, 1) 7 |Oh! make more room| o'r haner,
(1, 1) 8 |Between the fool and the fidler|,
(1, 1) 9 |l'd wish to have a pretty dance|,
(1, 1) 10 Lle gwelo |Nance, my dear|.
(1, 1) 11 O ffei, dyna ddigon, 'rwy'n chwanog i ddiogi,
(1, 1) 12 Mae dychryn a henaint yn dechreu 'nihoeni;
(1, 1) 13 A hyny sy'n sobreiddio gwres,
(1, 1) 14 Fy rhodres a'm gwyrhydri.
(1, 1) 15 ~
(1, 1) 16 Mae genyf |act| ar gynydd,
(1, 1) 17 A freuddwydiodd Twm y Prydydd;
(1, 1) 18 I adrodd ffyrdd naturieth ffol
(1, 1) 19 Y byd a'i ddynol ddeunydd.
(1, 1) 20 ~
(1, 1) 21 Ac fe alle bydd rhai wrth wrando,
(1, 1) 22 Yn debygol o gael eu pigo;
(1, 1) 23 Mae'n anhawdd cael seigie lle bo cege cas,
(1, 1) 24 I bob un gael blas i'w blesio.
(1, 1) 25 ~
(1, 1) 26 Ond yn lle gwresogedd seigie,
(1, 1) 27 Chwi gewch frith-gig sych o'ch blaene,
(1, 1) 28 A digon o fwstard gyda'ch bwyd,
(1, 1) 29 Triniwch, fe a gwyd i'ch trwyne.
(1, 1) 30 ~
(1, 1) 31 Ni fynwn ddim 'run faner
(1, 1) 32 Ag interlutie'r Cwper,[1]
(1, 1) 33 Bregethu duwioldeb yn ei chrys,
(1, 1) 34 I rai f'o a blys am bleser.
(1, 1) 35 ~
(1, 1) 36 Am osod 'r y'm ni yn mhob mesur,
(1, 1) 37 Y gwir am bethe natur;
(1, 1) 38 Mae'n fwy cyfaddas nag ysgrythyr glaer,
(1, 1) 39 Yn eisteddfa'r taer watwarwyr.
(1, 1) 40 ~
(1, 1) 41 'Ran fe ddyle duwioldeb ddilys
(1, 1) 42 Gael ei gosod mewn cyfle parchus;
(1, 1) 43 Nid taflu geme, a rhoi manna i'r moch
(1, 1) 44 Da gwyddoch, nid yw gweddus.
(1, 1) 45 ~
(1, 1) 46 Mae amser i bob amcan,
(1, 1) 47 Wedi'i drefnu a'i wahanu yn ei le'i hunan;
(1, 1) 48 Amser i alaru dan y rhod,
(1, 1) 49 A rhyw ddyddie i fod yn ddyddan.
(1, 1) 50 ~
(1, 1) 51 Fe ddyle pob peth yn weddedd,
(1, 1) 52 Fod wedi'i ranu wrth drefn gwirionedd,
(1, 1) 53 Rhag i'n llawenydd, dramgwydd dro,
(1, 1) 54 Neu'n chware droi yn chwerwedd.
(1, 1) 55 ~
(1, 1) 56 Mae mwy o bob ffieidd-dra,
(1, 1) 57 Yn ei rym yr amser yma;
(1, 1) 58 Nid oedd mo'r haner, 'rydwy'n siwr,
(1, 1) 59 O niwed, cyn dw'r Noa.
 
(1, 1) 63 Dyna'r ffasiwn sydd ar droed,
(1, 1) 64 Ni fu'r ymliw erioed mor amled.
 
(1, 1) 69 Fe aeth pobl y byd a'u llid yn llydan,
(1, 1) 70 Bob un i wahanu am ei opiniwn ei hunan;
(1, 1) 71 Ni fu 'rioed wrth dwr Babel, gafel g'oedd,
(1, 1) 72 Hyny ieithoedd sydd yma weithian.
(1, 1) 73 ~
(1, 1) 74 Ac o ran fol dynion yn ymgyndynu,
(1, 1) 75 A'u serch arnynt eu hunen yw'r achos o hyny;
(1, 1) 76 Mae o rai duwiolaf yn y wlad,
(1, 1) 77 Ryw fagad yn rhyfygu.
 
(1, 1) 87 Mi glywes fel y gwahardded
(1, 1) 88 I un fwrw allan gythreulied,
(1, 1) 89 Gan rai, o eisie na buase fe'n fwy,
(1, 1) 90 Yn eu dilyn hwy mewn dalied.
 
(1, 1) 100 Wel, ymddyddan di am grefydd,
(1, 1) 101 O'r |sect| a fynech di yn y gwledydd;
(1, 1) 102 Mae pyncie'u barn, eu sarn a'u sel,
(1, 1) 103 Yn groes ddi-gêl i'w gilydd.
(1, 1) 104 ~
(1, 1) 105 Ond yr hen Eglwys Loegr, druan,
(1, 1) 106 Yw mam buten yr holl gyfan;
(1, 1) 107 Ei bastarddied hi'n aml yma wnawd
(1, 1) 108 Heno, o'i chnawd ei hunan.
 
(1, 1) 118 Wel, 'roeddwn i'n hoffi'n erchyll,:
(1, 1) 119 Ymdderu yn nghylch crefydd eraill;
(1, 1) 120 'Rwyt ti yma'n barnu pawb tan eu bai,
(1, 1) 121 Ond oes ofn arna'i sefyll.
 
(1, 1) 220 Trwy'ch cenad, clywch fi'n canu,
(1, 1) 221 'Rwy'n taenu yn gyttun,
(1, 1) 222 Eiriau blasus, arwydd Pleser,
(1, 1) 223 By' a'i dymher yn mhob dyn.
(1, 1) 224 Pa beth sydd fwy rymusder
(1, 1) 225 Na Phleser mewn hoff lwydd?
(1, 1) 226 Pleser anwyl, blys ei rinwedd,
(1, 1) 227 Sydd ogonedd yn ein gwydd,
(1, 1) 228 Natur plant a'u holl bleserau,
(1, 1) 229 Swydd awch iraidd, sydd i chwareu,
(1, 1) 230 Pleser ieuenctyd wynfyd unfon,
(1, 1) 231 Caru a mynu merched mwynion.
(1, 1) 232 Mae calon wiwlon alwad,
(1, 1) 233 A rhediad pawb dan rhod,
(1, 1) 234 Am ddilyn pleser, arfer ufydd,
(1, 1) 235 Beunydd yma'n bod.
(1, 1) 236 Pleser cybydd blys i'r cwbl,
(1, 1) 237 Gweled mwyniant golud manwl;
(1, 1) 238 Pleser ofer ydyw 'mrwyfo,
(1, 1) 239 Gwario'i arian, curo a rorio;
(1, 1) 240 A phleser anllad hoyw,
(1, 1) 241 Yw gloyw fenyw fwyn;
(1, 1) 242 A phleser meddwyn, gwydyn geudod,
(1, 1) 243 Am ddiod i'w ymddwyn.
(1, 1) 244 ~
(1, 1) 245 Mae pleser balchder hynod,
(1, 1) 246 Am osod penau mawr,
(1, 1) 247 A phleser cybydd fyddai cobio
(1, 1) 248 Neu lusgo rhai'n i lawr.
(1, 1) 249 Naturiaeth pob aderyn
(1, 1) 250 Yw hoffi'i lun a'i lais,
(1, 1) 251 Gogoniant hynod iddo'i hunan,
(1, 1) 252 Yn gyfan pawb a gais.
(1, 1) 253 Pleser crefftwyr craffti'u doniau,
(1, 1) 254 Brolio'n faith eu gwaith a'u gwyrthiau;
(1, 1) 255 Pleser eraill yw gweryru,
(1, 1) 256 Rhai am gwn, a rhai am ganu;
(1, 1) 257 A rhai am gablu eu gilydd
(1, 1) 258 Am grefydd, neu rhyw grach;
(1, 1) 259 Yn abwyd pleser mae'n cyplysu
(1, 1) 260 I'w benu lawer bâch.
(1, 1) 261 Mae rhyw bleser blysig afiaeth,
(1, 1) 262 Yma'n taro'n mhob naturiaeth;
(1, 1) 263 A rhyw demtasiwn |mosiwn| mesur,
(1, 1) 264 Yn croyw hudo pob creadur,
(1, 1) 265 Pleserau natur beunydd,
(1, 1) 266 Llawenydd sydd i'w sarn,
(1, 1) 267 Ond aflwydd cebystr wedi'r cwbl,
(1, 1) 268 Feddwl fod y farn.
 
(1, 1) 274 Mae natur Pleser yn fwy cryf ei foddion
(1, 1) 275 Na dwfr, na thân, na da, na dynion;
(1, 1) 276 Ac yn felysach na'r dil mêl
(1, 1) 277 Ei fwyniant di gel i'r galon.
 
(1, 1) 282 Gan ei myn'd yn |ddispute| mor eger,
(1, 1) 283 Myfi ydyw'r blysig Arglwydd Pleser.
 
(1, 1) 286 Dywed y gwir, drwy gariad,
(1, 1) 287 Pa le y cefest ti ddechreuad?
 
(1, 1) 290 O, 'r Cymro glew, mi glywa'
(1, 1) 291 Yn ol yr hanes, mai myfi yw'r hyna';
(1, 1) 292 Yr oeddwn yno cyn tori'r ddeddf,
(1, 1) 293 Yn wreiddiol gyneddf yn Adda.
(1, 1) 294 ~
(1, 1) 295 Ond pan genedlwyd pechod,
(1, 1) 296 A Gofid ddwad yno'n gafod,
(1, 1) 297 Mi eis i gyda Chain, rhag teimlo'm mai,
(1, 1) 298 I adeiladu tai ar y tywod.
(1, 1) 299 ~
(1, 1) 300 A chwedi'n, yn mhen ychydig,
(1, 1) 301 Mi eis gyda nghâr Tubal, ni fu erioed mo'n tebyg;
(1, 1) 302 Wrth glywed gôf yn dulio haiarn a dur,
(1, 1) 303 I ddyfeisio mesur miwsig.
(1, 1) 304 ~
(1, 1) 305 Ac felly 'rwy'n Bleser eto,
(1, 1) 306 Trwy natur yn crychneidio,
(1, 1) 307 Am rai fo a ffidl wrth eu clun,
(1, 1) 308 Neu delyn yn eu dwylo.
 
(1, 1) 323 Ni waeth i ti p'un, mae rhei'ny weithie,
(1, 1) 324 Yn caru pleser yn eu calone;
(1, 1) 325 Eu dull a'u cerddediad ar bob cam,
(1, 1) 326 Ydyw siarad am blesere.
 
(1, 1) 331 Wel, edrych di ar foddion,
(1, 1) 332 Ac ymddygiad y boneddigion;
(1, 1) 333 Ond ydyw rhei'ny'n cael o hyd,
(1, 1) 334 Yn fwynedd y byd a fynon'
 
(1, 1) 339 Ni chymer boneddigion fawr o ofidi,
(1, 1) 340 Oni thorant eu gyddfe neu eu perfeddi;
(1, 1) 341 Am eu bolie a'u chwante tra bo ynddynt chwyth,
(1, 1) 342 Mae'u naturieth nhw byth yn tori.
 
(1, 1) 347 Peth caled ydyw barnu
(1, 1) 348 Pa fodd mae'r doethineb mawr yn trefnu;
(1, 1) 349 Os ychydig fon'ddigion alwyd o'u bai,
(1, 1) 350 Mewn rhinwedd mae rhai er hyny.
 
(1, 1) 355 Tu hwnt i bob teimlad na chyfiawnder,
(1, 1) 356 Y gwyr o gyfraith sy'n mynu eu Pleser;
(1, 1) 357 Nid ydynt hwy'n hidio dyn na Duw,
(1, 1) 358 Ond myn'd yn un byw o bwer.
(1, 1) 359 ~
(1, 1) 360 Mae'u rhwyde hwy'n cyrhedd fel gwe'r coryn,
(1, 1) 361 A'u rhwysg a'u mawr osgo trwy'r byd yn goresgyn;
(1, 1) 362 Gellir gweled cleisie ar Ddyffryn Clwyd,
(1, 1) 363 Ac yn mache Llwyd Pen Mechyn.
 
(1, 1) 373 Wel, llawer gwell a fyddwn ni er hyny,
(1, 1) 374 Fod cyfreithwyr ffoglud yn uffern yn ffaglu;
(1, 1) 375 Os byddwn nine'r boblach ga'dd flinder y byd,
(1, 1) 376 O genfigen yn cydfygu.
 
(1, 1) 381 Gâd heibio'r cyfreithwyr, a thro tuag adre',
(1, 1) 382 At y bobl gyffredin a'r offeiriade;
(1, 1) 383 'Rwy'n gweled rhai canolig rhwng gwych a gwael,
(1, 1) 384 Yn siwrach o gael plesere,
 
(1, 1) 389 Wel, y ffermwyr i'w hateb a'i pia hi eto,
(1, 1) 390 Maent hwy'n byw'n weddus ar ben eu heidde.
 
(1, 1) 403 Nis gwn i ai celwydd ai gwir yw coelion,
(1, 1) 404 Fod rhai wedi'u genii Ofid ac i gwynion;.
(1, 1) 405 Ac mai 'chydig yn'y byd a gânt
(1, 1) 406 O fwyniant, gwnant a fynon'.
 
(1, 1) 416 Wel, ymro di'n fynych, mi dd'wedaf ine,
(1, 1) 417 Fod rhai'n byw'n siriol yn eu Plesere;
(1, 1) 418 Wrth ganu a dawnsio, a ffwndro'n ffol,
(1, 1) 419 Gytunol efo'r tane.
 
(1, 1) 424 Peth hawddgar yw dynes wenlan groen dene,
(1, 1) 425 Wedi ymwisgo â dull odieth, yn hardd ei dillade.
 
(1, 1) 428 Wel, wfft i ti Gofid, on'd wyt yn mhob gafel,
(1, 1) 429 Yn dyfod yn o ryfedd, nod y dafarn a'r efel.
 
(1, 1) 433 'Rwy'n meddwl ac yn ofni
(1, 1) 434 Nad hawdd ymado â thi;
(1, 1) 435 'Ran y peth a hauo ni yn ein blys,
(1, 1) 436 Raid ini'n ofidus fedi.
(1, 1) 437 ~
(1, 1) 438 Mae'n gorfod i lawer am fyw'n rhy lawen,
(1, 1) 439 Gario eu gofid ar eu cefen;
(1, 1) 440 Nid oes am boeni mawr a bach
(1, 1) 441 Mo'i ddewrach ar y ddae'ren.
(1, 1) 442 ~
(1, 1) 443 Mae'n rhaid i'r hen wrachod, lle codo fe'i wrychyn,
(1, 1) 444 Nid gwiw gwneud cuchie, rhy hwyr fydd cychwyn;
(1, 1) 445 Gan gario'u cyde, a'u codie, a'u cêr,
(1, 1) 446 Rhag ofn ei wedd egr ddygyn.
(1, 1) 447 ~
(1, 1) 448 Fe fedr ystwytho'n enbyd,
(1, 1) 449 A digloi cymale dioglyd,
(1, 1) 450 A gwneud i bawb fo'n chwenych byw
(1, 1) 451 Feddwl am ryw gelfyddyd.
(1, 1) 452 ~
(1, 1) 453 Gwneiff i rai rhag newyn ysgubo simneue,
(1, 1) 454 Carthu tai bach, a chario carpie;
(1, 1) 455 Rhai'n nadu ac yn crefu, yn llymion eu crwyn,
(1, 1) 456 Rhai a |ballads| er mwyn eu bolie.
(1, 1) 457 ~
(1, 1) 458 Felly mae Gofid, os ceiff rai mewn gefyn,
(1, 1) 459 Yn burion |scoolmeistar|, fe wneiff iddynt ymestyn;
(1, 1) 460 Os byddant i onestrwydd yn rhy |stiff| neu'n rhy falch,
(1, 1) 461 Fe'i tyniff y gwalch nhw i'r tenyn.
(1, 1) 462 ~
(1, 1) 463 Gan hyny'n bwyllus, dymunwn bellach,
(1, 1) 464 Gael myn'd â rhyw |fusness| drwy'r byd a'i fasnach,
(1, 1) 465 Heb ormod Gofid na Phleser chwaith,
(1, 1) 466 Mae hono'n daith fwy doethach.
 
(1, 1) 1116 Holo, Rondol, wr hylaw ar wndwn,
(1, 1) 1117 Mae rhywbeth yn eich pigo chwi, debygwn.
 
(1, 1) 1120 O cym'rwch amynedd, yr hen wr mwyna,
(1, 1) 1121 A chodwch eich calon, 'ry'ch yn edrych yn wla.
 
(1, 1) 1129 Wel, gwendid mawr i chwi gwyno am dani,
(1, 1) 1130 Oni arosodd ei chytundeb gyda chwychwi?
(1, 1) 1131 Hyd wahaniad ange nis gwrthode hi ei bywyd,
(1, 1) 1132 Y darfu'r hen rwyd briodi.
 
(1, 1) 1135 Wel, ni chewch chwi mo'ni eto ar dir,
(1, 1) 1136 Fydde lanach i chwi'n wir foddloni.
(1, 1) 1137 ~
(1, 1) 1138 Chwi glywsoch hen air yn dweyd yn groyw,
(1, 1) 1139 Byw gyda'r byw, a'r marw gyda'r marw;
(1, 1) 1140 Fe alle cewch eto wraig ddirus,
(1, 1) 1141 Ac aur hwylus ar ei helw.
 
(1, 1) 1144 Mae rhai'n magu merched eto'n ffri,
(1, 1) 1145 Ei chystal, os oedd hi'n orchestol.
(1, 1) 1146 ~
(1, 1) 1147 Gwell i chwi 'mroi i gym'ryd eich pleser,
(1, 1) 1148 Nid oes ddim yn y byd ond ei amser;
(1, 1) 1149 Mae genyf farwnad a phrofiad ffri,
(1, 1) 1150 I'ch cysuro am dani'n dyner.
 
(1, 1) 1155 Wel, dyma fi trwy'ch cenad,
(1, 1) 1156 Ar burnaws yn dechreu'r barwnad.
 
(1, 1) 1204 O'r Cymro teg hwylus, iechyd i'ch calon;
(1, 1) 1205 Mi fynaf finau i chwi wraig eto cystal a Sian,
(1, 1) 1206 Ddiogel, ac arian ddigon.
 
(1, 1) 1209 Mi fedraf i gael dynes i chwi wrth eich bodd,
(1, 1) 1210 A chanddi nodd mewn eiddo.
(1, 1) 1211 ~
(1, 1) 1212 Mae hi'n siopwraig yn byw'n gryno,
(1, 1) 1213 Tu allan i Landrillo.;
(1, 1) 1214 Ceisiwch ymolchi ac ymloywi'n lân
(1, 1) 1215 Eich hunan, a dewch yno.
 
(1, 1) 1395 |Now, Mr. Rondol|, ewch er undyn
(1, 1) 1396 I setlo a phriodi at ryw offeiriadyn.
 
(1, 1) 1400 Daw yn y munud os na chellwch mo'ni
(1, 1) 1401 'Ran mae siopwr o'r dref yn cadw nâd
(1, 1) 1402 A dynion o'r wlad am dani.
 
(1, 1) 1405 Ie, ymwnewch ati hi (poeth y bo'ch)
(1, 1) 1406 Gynt' galloch yn ddigellwair.
 
(1, 1) 1410 Cychwynwch yn chwryn, mi ddof ar eich ol,
(1, 1) 1411 Ffarwel i chwi Rondol Roundiad.
(1, 1) 1412 ~
(1, 1) 1413 Wel, hawdd canfod heno'r cwm'ni tyner
(1, 1) 1414 Na chais gweddwdod ond byr amser;
(1, 1) 1415 Maent am ail-ym'glymu eu gore glâs
(1, 1) 1416 Peth garw ydyw blas am bleser.
(1, 1) 1417 ~
(1, 1) 1418 Ond merciwch chwi fy 'neidie,
(1, 1) 1419 Nid ydyw'r drwg ond dechre;
(1, 1) 1420 Hawdd yw disgyn i ryw scrap,
(1, 1) 1421 Mae llawer |shape| o siope.
(1, 1) 1422 ~
(1, 1) 1423 Peth mawr ydyw gormod rhyddid
(1, 1) 1424 Anesmwythdra sy'n magu gofid;
(1, 1) 1425 Llawer gwr cyfoethog cry':
(1, 1) 1426 A ga'dd ei blygu o'i blegid.
(1, 1) 1427 ~
(1, 1) 1428 Gofid am briodi, a mil mwy gofid gwedi;
(1, 1) 1429 Mae dyn yn rhwystro tîn a phen fel maharen mewn mieri.
(1, 1) 1430 ~
(1, 1) 1431 Cewch eto |sport| erwinol
(1, 1) 1432 Wrth wrando eich ewythr Rondol;
(1, 1) 1433 Rwy'n ame ceiff, am blesio'i gnawd
(1, 1) 1434 Ei faeddu'n dlawd rhyfeddol.
 
(1, 1) 1436 Gwaed Sion ac Ifan, edr'wch lle mae Gofid,
(1, 1) 1437 O b'le 'rwyt ti heno yn rhodio mewn rhyddid?
 
(1, 1) 1440 'Rydwy'n awr mewn trafferth arw
(1, 1) 1441 Gyda Rondol y cybydd sy'n wr gweddw,
 
(1, 1) 1444 Mae arnaf gryn helynt yn cerdded ac ymholi;
(1, 1) 1445 Y'nghylch yr opiniyne sydd yn yr eglwysi;
(1, 1) 1446 Y Methodistied a'r Dissentars,
(1, 1) 1447 Sy'n ffaelu ymdopio gyda'r |Dippers|,
 
(1, 1) 1452 Wel, ond y |Dippers| sy bron myn'd yn dopie
(1, 1) 1453 Mae hwy braidd yr un egwyddor a'r hwyed a'r gwydde
(1, 1) 1454 Yn trochi eu gilydd tan ochr y geulan
(1, 1) 1455 Fel y golchont hwy bechod mawr a bychan,
 
(1, 1) 1460 Mae hi y'mhlith crefyddwyr yn lecsiwn gyffredin
(1, 1) 1461 Fel pan 'roedd rhai yn bloeddio Miltwn a Watkin;
(1, 1) 1462 A rhai'n codi tymer fel glaswellt pen tomen
(1, 1) 1463 Na wyddent hwy haner oddiwrthynt eu hunen.
 
(1, 1) 1468 Mae amlach adar mân yn canu'r bore
(1, 1) 1469 Nag a fydd ganol dydd pan fo'r haul yn ole;
(1, 1) 1470 Ac felly Lucifer, mab y wawr ddydd,
(1, 1) 1471 Rhwng gole a thywyllwch mae ynte'n rhydd.
(1, 1) 1472 ~
(1, 1) 1473 Ond mae dafad yn mysg pob trwst a thwrddan
(1, 1) 1474 Yn adnabod llais ei hoen hunan;
(1, 1) 1475 Yr oen eiff at ei fam yn gymwys,
(1, 1) 1476 Ac felly'r gwir Gristion at yr eglwys.
 
(1, 1) 1486 A wyddost ti beth, mae amryw'n diflasu
(1, 1) 1487 Glywed Gofid yn dynwared pregethu.
 
(1, 1) 1495 Wel, gwir a ddywedaf fineu'n union,
(1, 1) 1496 Fod amryw yn gwneud cuchie ar y rhai cochion;
(1, 1) 1497 Holl bobl goegedd trigolion Pleser,
(1, 1) 1498 Ni wel'sant hwy erioed ddihirach amser.
 
(1, 1) 1503 Hawdd gen'ti siarad rhyw hen syrwrw.
(1, 1) 1504 Rhaid i mi fyn'd i |Cocking| sy'n rhywle tuag acw,
(1, 1) 1505 Lle byddant hwy'n galonog yn damnio ar eu glinie,
(1, 1) 1506 Ac yn mron myn'd yn siwrwd gyda'u plesere.
(1, 1) 1507 ~
(1, 1) 1508 O! fel y mae holl fwriad nhwy'n groch eu lleferydd,
(1, 1) 1509 Yn dodsio ac yn betio, ac yn pwtian eu gilydd;
(1, 1) 1510 Hai'r brithgoch, hai'r brithwyn, hai'r llwydyn llidiog
(1, 1) 1511 Diawl tynwch o'u gilydd, dyna i chwi geiliog.
 
(1, 1) 1527 Wel chwi glywsoch hen ddiarhebion,
(1, 1) 1528 Mae gyda'r cî y cerdd ei gynffon;
(1, 1) 1529 A chyda'r drwg y rhed i dre',
(1, 1) 1530 'R drwg arall a'i droie geirwon.
(1, 1) 1531 ~
(1, 1) 1532 O ran pob cyffelyb elfen
(1, 1) 1533 A ymgais yn ddiamgen:
(1, 1) 1534 Pe ca'i'r dyn annuwiol fyn'd i'r ne'
(1, 1) 1535 Fe'i gwele'n rhyw le aflawen.
(1, 1) 1536 ~
(1, 1) 1537 Mae'r dafarn yn fwy difyr,
(1, 1) 1538 At chwedl y pechadur;
(1, 1) 1539 Fel yr hwch i'r domen mae'n fwy iach,
(1, 1) 1540 A hynotach i'w hen natur.
(1, 1) 1541 ~
(1, 1) 1542 Ond cofiwn ei ddiwedd a chym'rwn ein dewis,
(1, 1) 1543 Mae'r ange mor onest ag un yn yr ynys;
(1, 1) 1544 Ni wneiff e ddim byd ond ein tynu ni i ben,
(1, 1) 1545 Lle cwympo'r pren yr erys.
 
(1, 1) 1587 |How now|, Mr. Rondol Roundiad?
(1, 1) 1588 Pa fod, y gwr gloyw, 'ry'ch chwi'n ymglywed?
 
(1, 1) 1591 Wel, Roundiad a |Cwacers| edr'wch acw,
(1, 1) 1592 A droigoch yn barod yn eich trwst a'ch berw?
(1, 1) 1593 'Rwy'n ame y troi'r chwi cyn y Sul
(1, 1) 1594 Yn fastard mul am elw.
 
(1, 1) 1597 Ai crefydd y wraig a'th achub di'n ffraeth?
(1, 1) 1598 Ow, Rondol, ti eist yn waeth na'r Indiad.
 
(1, 1) 1601 Wel, rhaid iddynt sefyll ac ymroi
(1, 1) 1602 Wrth ras, heb droi na throsi.
(1, 1) 1603 ~
(1, 1) 1604 Ond eich crefydd chwi'n ddiragor.
(1, 1) 1605 Sydd yn eich enw, a'ch cyweth, a'ch |onor|,
(1, 1) 1606 Ac lle byddo'r galon yn llon ei llais,
(1, 1) 1607 Yno mae trais y trysor.
 
(1, 1) 1612 Wel, fydde'n anodd gan eich calon
(1, 1) 1613 Werthu'ch holl dda a'i ranu i'r tlodion?
 
(1, 1) 1618 Wel, yr oedd rhaglunieth, areth iach,
(1, 1) 1619 Yn dweyd amgenach gyne.
 
(1, 1) 1624 Fe geir clywed cyn pen hir ddyddie,
(1, 1) 1625 Pa sut a fydd arnoch chwithe;
(1, 1) 1626 Pe gwyddech am y felldith sydd yn eich nyth,
(1, 1) 1627 Ni werthech chwi byth mo'ch pethe.
 
(1, 1) 1630 Gwerthu cig hwch i brynu cig moch,—
(1, 1) 1631 Gwnewch y peth a garoch ore.
 
(1, 1) 1634 Trwy lawer o arian, a bod yn daer,
(1, 1) 1635 Ceir brasder Caer a Bristo.
 
(1, 1) 1638 Mae digon o lwnc, ni choeliaf lai,
(1, 1) 1639 I ymweled â rhai miloedd.
 
(1, 1) 1645 Wel, gwir yw'r ddiareb ragorol,
(1, 1) 1646 Pob llwybr ceunant a red i'r canol:
(1, 1) 1647 Peth anhawdd iawn yn tynu dyn
(1, 1) 1648 O'i elfen ei hun yn wahanol.
(1, 1) 1649 ~
(1, 1) 1650 Mae natur yn gadarn arw
(1, 1) 1651 Beunydd mewn gwryw a benyw,
(1, 1) 1652 Yn enwedig anlladrwydd ieuenctyd llawn,
(1, 1) 1653 Peth hynod iawn yw hwnw.
(1, 1) 1654 ~
(1, 1) 1655 Mae llawer o arfer ar gyfer Gofid,
(1, 1) 1656 Canu cerdd i gynghori ieuenctid;
(1, 1) 1657 Mi ro'f fine ar ganiad glymiad glir,
(1, 1) 1658 Heb lwgr, y gwir o'i blegid.
 
(1, 1) 1753 Wel, cofiwch hyn o ganiad ofer,
(1, 1) 1754 Onide fe ddaw Gofid ar eich cyfer;
(1, 1) 1755 Pan eloch chwi i 'winedd yr hen was,
(1, 1) 1756 Fe dderfydd eich blas ar bleser.
 
(1, 1) 2081 Wel, yn enw Pal Isaac, dyma fine Pleser,
(1, 1) 2082 Mae hireth am danaf er's hir amser;
(1, 1) 2083 Beth fydde 'rwan, gyfan gais,
(1, 1) 2084 Gael clywed hoff adlais Ffidler.
(1, 1) 2085 ~
(1, 1) 2086 Fe fydde'r duwiolion yn dawnsio tipyn,
(1, 1) 2087 Ond mae pechod yn ffrydio mewn dawnsio cyffredin.
(1, 1) 2088 Anfynych y byddant os cant fawl,
(1, 1) 2089 Heb falchder diawl yn eu dilyn.
 
(1, 1) 2095 Wel, dyma Ofid yn dwad, rhaid i mi dewi,
(1, 1) 2096 Ond eto mi ymffensiaf am hyn o ffansi;
(1, 1) 2097 Oni fydd Cyriadogs yn dawnsio wrth siawns?
(1, 1) 2098 Rho anair i ddawns y rhei'ny.
 
(1, 1) 2118 Wel, on'd oes rhai'n cerdded hyd y cwrdde,
(1, 1) 2119 Ac f'alle'n hwrio cyn dwad adre?
(1, 1) 2120 Ychydig o sadrwydd felly sy'
(1, 1) 2121 Wedi glynu yn eu calone.
 
(1, 1) 2136 Wel, un o'r Cyriadogs wyt ti, 'rwy'n credu,
(1, 1) 2137 Ond ffydd eglwys Loegr ydwy'i'n garu.
 
(1, 1) 2140 Wel, 'rydwy'i'r un ffydd a'r person a'r clochydd
(1, 1) 2141 Sy'n byw yn y llane mewn llawenydd;
(1, 1) 2142 A'r un ffydd a'r hen bobl, y llancie a'r plant,
(1, 1) 2143 A glosiant i'r eglwysydd.
 
(1, 1) 2158 Os bydd rhai ieuenc yn rhuo ryw afieth,
(1, 1) 2159 Bydd yr hen rai brigwyn yn son am y bregeth.
 
(1, 1) 2167 Mae hyny'n wir diwahanieth,
(1, 1) 2168 Fod yn Eglwys Loegr ddifai athrawieth.
 
(1, 1) 2181 Son am Meros, a rhyw groes gyfeirio,
(1, 1) 2182 Son am ryw Bleser a f'o'r bobl yn blysio:
(1, 1) 2183 'Rwyt ti'n son am bethe ar draws ac ar hyd,
(1, 1) 2184 Na wyr dynion ddim byd am dano.
 
(1, 1) 2189 Ni waeth i ti dewi, mae'r bobl yn dechre,
(1, 1) 2190 Myn'd bawb at eu Pleser, i ffwrdd yn gwplyse:
(1, 1) 2191 Er gwaethaf Gofid a'i holl gwyn,
(1, 1) 2192 Ymeth yn fwyn yr âf fine.