Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Rhagluniaeth (Cyfanswm: 67)

 
(1, 1) 760 Gwrandewch yn awr fawr a mân gân glân Ragluniaeth,
(1, 1) 761 I mi mor deg, yma ar dwyn, mae'r olwyn reolaeth;
(1, 1) 762 Pura sail pob rhyw swydd, hwynt arwydd naturiaeth;
(1, 1) 763 Pob cwymp a dyrchafiaeth sydd a'u lluniaeth i'm llaw;
(1, 1) 764 Doethineb Ior wnaeth y byd, a'r hyn sydd gyd ynddo,
(1, 1) 765 A'i air ef sydd o'i ras yn addas ddefnyddio,
(1, 1) 766 Rhagluniaeth rad, glanwaith rodd, a ryngo fodd iddo;
(1, 1) 767 Pob gwedd a ddigwyddo o'm dwylaw a ddaw,
(1, 1) 768 Mae pob dyn yn llaw Duw yn cynwys i'w amcanion,
(1, 1) 769 Fel clai rhwydd yn llaw rydd crochenydd awch union;
(1, 1) 770 Ef oll wneiff, o'i allu 'nawr, rai'n fawr, a rhai'n fyrion.
(1, 1) 771 A pha'm na bydd dynion mwy boddlon yn byw?
(1, 1) 772 Creaduriaid glân, mân a mawr, ag aflan yn gyfled,
(1, 1) 773 Carnolion byd, fryd ddi-freg, a hoywdeg ehediaid;
(1, 1) 774 Lluoedd llawn, ddawn diddysg, pysg ac ymlusgiaid;
(1, 1) 775 Rhagluniaeth ganlyniad sy'n rhediad phob rhyw.
(1, 1) 776 ~
(1, 1) 777 Rhagluniaeth nawf, glanwaith nod, i'r pysgod fel pesgon,
(1, 1) 778 Y mawr eu nherth mewn môr a nant lyncant y gwaelion,
(1, 1) 779 Byw wna'r dewr ar ben y dwl, a'u meddwl a'u moddion,
(1, 1) 780 Doethineb y cyfion, llaw roddion, llwyr yw,
(1, 1) 781 Yn ei law anwyl e' mae calonau pelynion;
(1, 1) 782 Darostwng beilch drwst, a bar, a chodi'r gwar gwirion,
(1, 1) 783 Mwynaidd yw 'mynedd dda, dilidia wrth dylodion;
(1, 1) 784 Fe dderbyn dylodion i foddion ail fyw,
(1, 1) 785 Enfyn ef iawn farn i'r goludog i'w g'ledi,
(1, 1) 786 Newynog noeth llenwi wna o'i anwyl ddaioni,
(1, 1) 787 Nerth a dawn wrth y dydd, radd enwog, rydd ini;
(1, 1) 788 Os trown o'n trueni ei gwmni ef gawn.
(1, 1) 789 O! am nerth yma'n Nuw i fyw ac i farw,
(1, 1) 790 Hwn yw'r sail unig sydd pan dderfydd pob twrw;
(1, 1) 791 Un yw ef yn ei air pan fo'r byd yn bair berw,
(1, 1) 792 Gwynfyd fo'r dydd hwnw yn ei enw fe'n iawn.
 
(1, 1) 796 Pwy ydych chwi, a pheth yw'ch henw?
 
(1, 1) 808 Nid Rheswm Natur, ystyr, clyw,
(1, 1) 809 All union farnu pethe Duw;
(1, 1) 810 Nicodemus yw cydymeth
(1, 1) 811 Plant y byd a'u hanwybodeth.
(1, 1) 812 ~
(1, 1) 813 Mae'n rhaid cael dyn yn hollol allan
(1, 1) 814 O syniad cnawd a balchder hunan,
(1, 1) 815 A marw i'r cnawd a byw i Dduw,
(1, 1) 816 Cyn perffeth ddirnad pa beth yw.
 
(1, 1) 821 Rhaglunieth iachus y Gorucha',
(1, 1) 822 Ro'i Lot ymwared o Gomora;
(1, 1) 823 A Noa wneud arch i'w gadw o'r dystryw,
(1, 1) 824 Chwech ugen mlynedd cyn y diluw.
(1, 1) 825 ~
(1, 1) 826 Rhaglunieth ddirgel fu'r athrylith,
(1, 1) 827 Yn dysgu Jacob gael y fendith;
(1, 1) 828 A gwerthu Joseph i law'r Aiphtwyr,
(1, 1) 829 I gadw'i fywyd ef a'i frodyr.
(1, 1) 830 ~
(1, 1) 831 Rhagluniaethe diamgyffred,
(1, 1) 832 Fu i Moses gyda'r Israelied;
(1, 1) 833 Josua, Dafydd, a Hezecia,
(1, 1) 834 A'r wraig weddw o Sarepta.
(1, 1) 835 ~
(1, 1) 836 Fe gadwodd llaw Rhaglunieth lân,
(1, 1) 837 Trwy ffau'r llewod a ffwrn dân;
(1, 1) 838 Trwy ene'r morfil yn y mawrfor,
(1, 1) 839 Trwy fywyd Job, ac amryw'n rhagor.
(1, 1) 840 ~
(1, 1) 841 Pob peth sy'n llaw yr Hwn a all
(1, 1) 842 Ddarostwng un a chodi'r llall;
(1, 1) 843 Ni ddichon un dyn, gwnaed ei egni,
(1, 1) 844 'Chwanegu cyfudd at ei faintioli.