Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Rondol (Cyfanswm: 669)

 
(1, 1) 470 Wel, y mae hyn yn aflwydd gerwin,
(1, 1) 471 Ni alla'i ddangos fy wyneb na fo i mi wenwyn;
(1, 1) 472 Rhyw garpiach fawiach yn gwaeddi ar f'ol,
(1, 1) 473 A'm galw i Rondol Roundun.
(1, 1) 474 ~
(1, 1) 475 Ond mi ddweda' i'r hanes fel 'rwy' heno
(1, 1) 476 Yn Rondol Roundun, os gwnewch chwi wrando;
(1, 1) 477 Chwi glywsoch am y Roundied fu ar hynt,
(1, 1) 478 Presbyterians oedd gynt yn 'styrio.
(1, 1) 479 ~
(1, 1) 480 Ac wrth y rhai'n o'r dechre
(1, 1) 481 Fe lynodd fy mhobline,
(1, 1) 482 A'u dilyn hwy'n glir mewn tref a gwlad
(1, 1) 483 Y bydde 'nhad a 'nheidie.
(1, 1) 484 ~
(1, 1) 485 Ni fynent hwy o hyd eu hamser
(1, 1) 486 Ddim son am grefydd Eglwys Loegr;
(1, 1) 487 Ond y Presbyterians yn mhob rhyw,
(1, 1) 488 'Rwyf fine'n byw 'run faner.
(1, 1) 489 ~
(1, 1) 490 Mi briodes wraig dda iawn ei theimlad,
(1, 1) 491 Ni fu 'rioed un dostach am y Methodistied,
(1, 1) 492 Ac yn wir mae hi am y byd gerbron,
(1, 1) 493 Ac yn ddigon calon galed.
(1, 1) 494 ~
(1, 1) 495 Mae hi'n wraig arafedd, addfwyn, rywiog,
(1, 1) 496 Ac yn edrych yn llonydd, ond hi gogiff y llwynog;
(1, 1) 497 Os caiff hi ymgais ar fantais fwyn,
(1, 1) 498 Hi a ddirwyn yn gynddeiriog.
(1, 1) 499 ~
(1, 1) 500 'Rydwy' i'n lew erwin am hel arian,
(1, 1) 501 Ond mae hi'n well o'r haner am dynu ati'i hunan;
(1, 1) 502 O rhyfedd mor gyfrwys y bydd hi'n gwneud gwên,
(1, 1) 503 Wrth fachu rhyw fargen fechan.
(1, 1) 504 ~
(1, 1) 505 Hi ddywed cyn deced, os bydd un ffordd a dycia,
(1, 1) 506 Ac a ddeniff i'w gwinedd y cryf fel y gwana';
(1, 1) 507 O, mor wyliadwrus y bydd hi o hyd,
(1, 1) 508 A'i gofal am y byd yn gyfa'.
(1, 1) 509 ~
(1, 1) 510 Hi a hidla wybedyn, mae'n rhy onest i beidio,
(1, 1) 511 Ac a lynca gamel 'run pryd dan ymgomio;
(1, 1) 512 Ni choelie neb wrth weled ei ffull,
(1, 1) 513 Ei bod hi gystal ei dull am dwyllo.
(1, 1) 514 ~
(1, 1) 515 Hi aeth heddyw i'r capel i wrando rhyw berson,
(1, 1) 516 'Rwy'n disgwyl y bydd hi yma'n union;
(1, 1) 517 Dyma hi'n dwad, os ydw' i'n fyw,
(1, 1) 518 Caf yn addas ryw newyddion.
 
(1, 1) 521 Ie, Sian druan, na chym'rwch gyffro;
(1, 1) 522 Rhowch glun i lawr am dipyn bach,
(1, 1) 523 Mae pobpeth yn iach, gobeithio.
 
(1, 1) 528 Mae hyn yn helynt erwin,
(1, 1) 529 Ni wnes ond troi 'nghefn oddiwrthyn',
(1, 1) 530 I fyn'd i'r llofft i roi pwys o wlan
(1, 1) 531 I'r fwdach gan Sian Ddolfadun.
 
(1, 1) 534 Haro, do, doedd fawr yn fy mryd
(1, 1) 535 Goelio un mynud mo'ni.
(1, 1) 536 Ond a wyddoch chwi pwy fu'n ceisio
(1, 1) 537 Phioled o yd, a'i choelio?
 
(1, 1) 540 Ni wrandewes i mo'r pethe,
(1, 1) 541 Ni cha'dd hi damed, na gwerth dime;
(1, 1) 542 Mi a'i pecles i'w ffordd, ni bu'm i dro,
(1, 1) 543 'Rhen garen, dan grio'i gore.
 
(1, 1) 545 Gwraig eich Mr. Hughes, o'r Hendre Lydan.
 
(1, 1) 548 Wel, beth a wnewch i ddiawlied meddalion,
(1, 1) 549 Oni all'sent hwy edrych yn well at eu moddion?
(1, 1) 550 'Does fater fod rhaid i rai fyw'n fain,
(1, 1) 551 Mae gofid i'r rhai'n yn gyfion.
 
(1, 1) 556 Mi weles i lawer o ffermwyr cryfion,
(1, 1) 557 Wrth fyw'n uchel ac yn wychion,
(1, 1) 558 Wedi myn'd trwy'r cwbl drwbl dro,
(1, 1) 559 Heb ddim golud yn bur ddigalon.
 
(1, 1) 562 'Rwy'n amhe'n wir fod y gwalch yn wan,
(1, 1) 563 Mi greda fy hunan hyny.
(1, 1) 564 ~
(1, 1) 565 O ran fe fu'n ceisio prynu dau eidion
(1, 1) 566 Geny' am ddegpunt onid coron;
(1, 1) 567 Ac yn crefu arna'i yn nghysgod perth,
(1, 1) 568 Am ei goelio fe nerth ei galon.
 
(1, 1) 573 Y porthmyn, mae'r diawl yn rhei'ny,
(1, 1) 574 Ni byddant hwy dro'n gwneud mil gwerth eu crogi;
(1, 1) 575 Wrth goelio'u celwydd hwy a'u brad,
(1, 1) 576 O! faint ga'dd y wlad ei thlodi.
(1, 1) 577 ~
(1, 1) 578 'Fe dora chwilgi o borthmon diffeth
(1, 1) 579 Am dair neu beder mil ar unweth;
(1, 1) 580 'Nol hyny'n pwnio am wneud compound,
(1, 1) 581 A dyna i chwi |sound| farsiandieth.
(1, 1) 582 ~
(1, 1) 583 Os can' hwy'r |plate| arian, ni wiw cadw twrw,
(1, 1) 584 Hwy fyddant yn |fancrups| digon hoyw;
(1, 1) 585 A da os cyrhaeddant goron y bunt,
(1, 1) 586 'Nol tori, mae'n helynt arw.
 
(1, 1) 591 Oes, mae yn Lloegr laweroedd o ddryge,
(1, 1) 592 Ond ni fydde ddim cyment pe 'rosent hwy gartre';
(1, 1) 593 Na chyment chware |lottery| noeth,
(1, 1) 594 Na phuteinied mor uchel eu pene.
(1, 1) 595 ~
(1, 1) 596 Mae porthmyn Cymru pan elont yno
(1, 1) 597 'Run fath a phethe wedi gwylltio;
(1, 1) 598 O! fel y gwelir hwy yn eu gwanc
(1, 1) 599 Tua'r |Irish Bank| yn 'sboncio.
(1, 1) 600 ~
(1, 1) 601 Ac hyd y ffyrdd ynte mor gomfforddus,
(1, 1) 602 Maent hwy'n ddialedig am eu |Ladies|;
(1, 1) 603 Yn puteinio, ac yn meddwi, ac yn colli eu co',
(1, 1) 604 A rhei'ny yn eu robio'n rheibus.
(1, 1) 605 ~
(1, 1) 606 Ni bydd na |play|, na |show|, na |lottery|,
(1, 1) 607 Na byddant hwy ynddi wedi meddwi;
(1, 1) 608 Oes ryfedd wedi, mewn cyfri' cas,
(1, 1) 609 I'r fath rai diras dori?
 
(1, 1) 614 Byw maent hwy yn y tafarne
(1, 1) 615 Yn ddyddan, a'r wlad geiff ddyodde';
(1, 1) 616 Ni cheiff llawer un ond chwerthin am ei ben,
(1, 1) 617 Heb gael ar ddamwen ddime.
 
(1, 1) 622 Dyna ddysgu rai i goelio rogsiach digywilydd,
(1, 1) 623 Pac o wag ladron yn twyllo'r gwledydd;
(1, 1) 624 Ni feddant hwy ddim at fyn'd yn borthmyn,
(1, 1) 625 Ond rhywfaint o Saesneg a thipyn am danyn'.
(1, 1) 626 Os ceir botas a 'spardune, a cheffyl dano,
(1, 1) 627 A chôb, a het, a bwcwl, dyna'r porthmon yn picio;
(1, 1) 628 Ac yn cletsian ei chwip i fynu ac i lawr,
(1, 1) 629 Fe wneiff ystwr mawr nes toro.
 
(1, 1) 639 Wrth gofio, Sian, ni feddylies unweth
(1, 1) 640 Ofyn i chwi yn mh'le 'roedd |text| y bregeth.
 
(1, 1) 643 'Rwy'n leicio'r fan yn eglur,
(1, 1) 644 Mae'n peri i ni garu'r brodyr;
(1, 1) 645 Ond caru pob siabas, diflas dôn,
(1, 1) 646 Annethe yw son am wneuthur.
(1, 1) 647 ~
(1, 1) 648 Ni charwn i yn fy nghalon
(1, 1) 649 Yn fy myw mo'r bobl dlodion,
(1, 1) 650 Nac un o'r rhai gwanllyd, haerllug hil,
(1, 1) 651 Annghynil sydd mewn anghenion.
 
(1, 1) 666 A ddarfu i chwi farcio, Sian, nos Wener,
(1, 1) 667 Y bwcle mawr oedd gan Sion y Sadler?
(1, 1) 668 Ac y mae rhai cyment gan |swags| y dre'
(1, 1) 669 Ag aerwyon lloie llawer.
 
(1, 1) 674 Fe blygi rhagor eto,
(1, 1) 675 Mewn gofid bydd amryw'n gwyfo;
(1, 1) 676 A phan ddel yr amser i'w dwyn o'r byd,
(1, 1) 677 Aiff Gofid a nhwy gydag efo.
 
(1, 1) 686 Gâd ollwng y wêdd sy'n aredig yr âr,
(1, 1) 687 Mae hi eto'n rhy gynar geny'.
(1, 1) 688 ~
(1, 1) 689 Wel, ni welodd neb â'i lyged,
(1, 1) 690 Fath wraig a Sian ar les ei hened;
(1, 1) 691 Hi ddeil i ddarllen ac i ganu,
(1, 1) 692 Oni bydda' i'n cael gwaith a pheidio a chysgu.
(1, 1) 693 ~
(1, 1) 694 Ac yr ydwy' i'n gweled yn rhyfeddol
(1, 1) 695 Y darllen a'r canu bydd rhai pobol;
(1, 1) 696 'Rwy'n leicio crefydd fy hun yn odieth,
(1, 1) 697 Ond nid da genyf gym'ryd dim llawer o drafïerth.
(1, 1) 698 ~
(1, 1) 699 Peth da ydyw peidio tyngu a rhegi,
(1, 1) 700 A pheth pur anfuddiol y gwela'i feddwi;
(1, 1) 701 Bod yn sad a lled onest, a siarad yn dyner,
(1, 1) 702 Fe geiff dyn ei goelio'n well o lawer.
(1, 1) 703 ~
(1, 1) 704 Mae rhyw enw o grefydd yn sefyll yn gryfach,
(1, 1) 705 Tra fo'r wlad yma'n ole, ac yn llawer manylach;
(1, 1) 706 Arferyd dweyd "|Dear|," "O! 'ranwyl," ac "Felly,"
(1, 1) 707 Pe baid heb ddim crefydd yn y byd ond hyny.
(1, 1) 708 ~
(1, 1) 709 Mi a glywn ar fy nghalon ganu 'rwan,
(1, 1) 710 Mae'n gerdd hynod o'm crefydd fy hunan,
(1, 1) 711 A chystal a salm yn ddigon siwr,
(1, 1) 712 At gyflwr gwr ag arian.
 
(1, 1) 755 Mi a dawaf a chrychnadu,
(1, 1) 756 Bellach, mae fy llais yn pallu,
(1, 1) 757 Ond mi wn i mi ddweyd y gwir yn ddilai,
(1, 1) 758 Heddyw, mae rhai yn ei haeddu,
 
(1, 1) 1081 Ol! syn imi f'areth, Sian a fu farw,
(1, 1) 1082 Wel, bychan y gwyddwn yr awn yn wr gweddw:
(1, 1) 1083 Bhoi gwraig lysti, iachus mewn bedd,
(1, 1) 1084 Mae gan ange ryw gyredd garw.
(1, 1) 1085 ~
(1, 1) 1086 O! mi f'aswn foddlonach yn fy nghalon,
(1, 1) 1087 Glywed claddu holl wragedd y cym'dogion;
(1, 1) 1088 Na chladdu Sian oedd lan ddilys,
(1, 1) 1089 Wraig drefnus, hyderus dirion.
(1, 1) 1090 ~
(1, 1) 1091 O! mor ddaionus oedd hi, newydd ei hened,
(1, 1) 1092 Yn gweithio ac yu hwylio pawb gan gyniled;;
(1, 1) 1093 Ac yn trefnu ei theulu heb gelu'n gall,
(1, 1) 1094 Nis gwn i, mewn gwall mo'm colled.
(1, 1) 1095 ~
(1, 1) 1096 Hi fydde'n gwneud mewn blwyddyn,
(1, 1) 1097 Er cysur, lawer cosyn:
(1, 1) 1098 Ni fydde'n dyfod fyth i dre',
(1, 1) 1099 O unlle cystal enllyn.
(1, 1) 1100 ~
(1, 1) 1101 Ond am un llestr 'menyn, hi ga'dd gan enw,
(1, 1) 1102 A dim ond darn penog oedd yn y twb hwnw,
(1, 1) 1103 Ac o achos hyn bu gwragedd sir Fflint,
(1, 1) 1104 Yn taeru mewn helynt arw.
(1, 1) 1105 ~
(1, 1) 1106 Nid oedd yn y byd, 'rwy'n coelio,
(1, 1) 1107 Ei gonestach hi am drin ysto;
(1, 1) 1108 Ond ambell farsiant cyfrwys iawn,
(1, 1) 1109 Fydde'n tynu penau mawn o tano.
(1, 1) 1110 ~
(1, 1) 1111 Ond ne' gole i'w hened, pe gwelwn i haner,
(1, 1) 1112 Oedd ynddi hi o fendith a chyfiawnder;
(1, 1) 1113 Pe bae cyn onested bawb trwy'r wlad,
(1, 1) 1114 Ni fydde ddim lliwiad llawer.
 
(1, 1) 1118 O taw, taw gwell genyf i ti,
(1, 1) 1119 Ar fyrder dewi a'th fyrdwn.
 
(1, 1) 1122 O! ni ddichon un dyn sydd mewn croen,
(1, 1) 1123 Ddirnad y fath boen sydd arna'.
(1, 1) 1124 ~
(1, 1) 1125 Mi gladdes wraig lan hawddgar,
(1, 1) 1126 Brydferthaf ar wyneb daear;
(1, 1) 1127 Nid oes i neb na dydd na nos,
(1, 1) 1128 A goelia 'r fath achos galar,
 
(1, 1) 1133 Peth mawr ydyw cariad, ni waeth iti dewi,
(1, 1) 1134 Mi gefes i golled syn am dani.
 
(1, 1) 1142 Pe cawn wraig bob dydd, fydda'i byth mor ddedwyddol,
(1, 1) 1143 A chael un mor lân a Sian Ddefosionol.
 
(1, 1) 1151 Marwnad i Sian, wel iechyd i'th 'sene,
(1, 1) 1152 Braidd na 'wyllysiwn i glywed y geirie;
(1, 1) 1153 Ond ni roi fyth fath glod ar frys,
(1, 1) 1154 Yn gyhoeddus ag a haedde.
 
(1, 1) 1157 'Rwy'n ofni bydda' i'n wylo'n swrth,
(1, 1) 1158 Wag lewyg, wrth ei glywed.
 
(1, 1) 1203 Wel, dyma 'ran cariad, i ti haner coron,
 
(1, 1) 1207 Pe cawn un gywaethog i ofalu a gweithio,
(1, 1) 1208 'Rydwy'n ame y priodwn unweth eto,
 
(1, 1) 1217 Wel, dos di yno heddyw,
(1, 1) 1218 Yn gywren i dori'r garw;
(1, 1) 1219 Os gwnei di droswyf fargen dda,
(1, 1) 1220 Mi dala' gynta' delwy'.
(1, 1) 1221 ~
(1, 1) 1222 Ond a glywch yma hyn mewn difri',
(1, 1) 1223 Mentro mawr ydyw ail briodi;
(1, 1) 1224 A chwedl garw cadw, onide,
(1, 1) 1225 Weinidogion i chware a diogi.
(1, 1) 1226 ~
(1, 1) 1227 Tra b'wyf yn eu golwg hwy wnan' ga'lyn,
(1, 1) 1228 Pan drothwy nghefn ni wnant fymryn;
(1, 1) 1229 Nis gwn i pa beth ar unrhyw dro,
(1, 1) 1230 Feddylia'i heno o honyn'.
(1, 1) 1231 ~
(1, 1) 1232 Mi fyddwn weithie yn credu mor ethol,
(1, 1) 1233 Y gallwn ymddiried i'r forwyn sy'n hen ac arferol;
(1, 1) 1234 Ond ni waeth imi goelio'r diawl ei hun,
(1, 1) 1235 Na hyderu ar ddyn daearol.
(1, 1) 1236 ~
(1, 1) 1237 Ac os prioda'i siopwraig,
(1, 1) 1238 Fe alle gwna'i ddrwg ychwaneg;
(1, 1) 1239 Taflu'r cyfan at din y cwd
(1, 1) 1240 I dalu hen rwd ar redeg.
(1, 1) 1241 ~
(1, 1) 1242 Ond mae rhai siopwyr yn byw yn siapus,
(1, 1) 1243 Dyna Sion Bentre Foelas, wrth fod yn ofalus;
(1, 1) 1244 A ambell rai eraill mewn tref a llan
(1, 1) 1245 'N gwneud eiddo anrhydeddus.
(1, 1) 1246 ~
(1, 1) 1247 A phe gwyddwn ine'n enwog,
(1, 1) 1248 Fod hon yn bur gywaethog,
(1, 1) 1249 Mi werthwn fy |stock| a'm holl da byd,
(1, 1) 1250 Ac awn yn siopwr clyd fy sipog.
(1, 1) 1251 ~
(1, 1) 1252 Ond gwyn ei fyd a wydde,
(1, 1) 1253 I ymddiried pa beth sydd ore;
(1, 1) 1254 'Rwyf bron syfrdanu a gyru ar goll,
(1, 1) 1255 Yn erwin fy holl synhwyre.
(1, 1) 1256 ~
(1, 1) 1257 Mi fyddwn yn cadw gofid o'r neilldu,
(1, 1) 1258 Mae fo'n awr mor ddig'wilydd yn do'd gyda mi'r gwely,
(1, 1) 1259 Ac yn fy nilyn i'r ty a'r dw'r
(1, 1) 1260 Yn bwrdwr ac i'r beudy.
(1, 1) 1261 ~
(1, 1) 1262 Ond os ca'i wraig a chanddi arian,
(1, 1) 1263 Mi fyddaf eto'n ddyn i mi fy hunan,
(1, 1) 1264 Ac a wnaf i Ofid a phob drwg hyll,
(1, 1) 1265 Wall hyllig sefyll allan.
 
(1, 1) 1268 Fydde fwy genyf na phiso roi |kick| i'ch ffasiwn.
 
(1, 1) 1271 Mae kicio begers o'r gore debyga'i,
(1, 1) 1272 'Ran llawer arian sy'n myn'd i rywrai.
 
(1, 1) 1280 Pa beth a gawswn i, faeden gynddeiriog!
(1, 1) 1281 Sal, Hwy fuasent yn eich |witchio| chwi'n ysgyfarnog.
(1, 1) 1282 Wel, mi glywn ar fy nghalon dori rhes
(1, 1) 1283 O'ch danedd chwi g'nawes donog.
 
(1, 1) 1288 Un o b'le ydych, nis gwn i amcan!
 
(1, 1) 1295 O mi weles ryw |sipsiwns| hyd y byd,
(1, 1) 1296 Yn dygyd yn lled eger.
(1, 1) 1297 ~
(1, 1) 1298 Ac fe ddarfu'r gêr gythreulig,
(1, 1) 1299 Yn y Trallwm wneud tro hyllig;
(1, 1) 1300 Ddychrynu'r sessiwn i ffordd o'r |hall|,
(1, 1) 1301 Trwy'u castie uffernol ffyrnig.
 
(1, 1) 1304 Wel, un o'r |breed| mewn |onor| braf,
(1, 1) 1305 Yn eich eithaf, ydych chwithe.
 
(1, 1) 1307 Nis gwn i fath ffortun ellwch ei draethu,
(1, 1) 1308 A fedrwch chwi ddweud y gwir yn siwr
(1, 1) 1309 Fath |fatch| geiff gwr fo' am garu!
 
(1, 1) 1312 'Rych chwi fel cyfreithwyr, ni ro'wch ddim traul
(1, 1) 1313 Ar eich gwefle, heb gael eich cyflog.
 
(1, 1) 1316 Wel, faint a gym'rwch geny'n gu,
(1, 1) 1317 A'ch talu chwi yn eich dwylo?
 
(1, 1) 1322 Wel, bacwn, beth ydyw hyny fy 'neidie?
 
(1, 1) 1324 Wel, chwi a gewch hyny, ond i mi fy hun
(1, 1) 1325 Ei dori, wyr dyn, yn dene.
(1, 1) 1326 Ond safio |nonsense| gwirion
(1, 1) 1327 Yn hel rhyw ryddredd roddion,
(1, 1) 1328 Gwell genyf nag ymdroi'n rhy hir,
(1, 1) 1329 Os dywedwch y gwir, roi coron.
 
(1, 1) 1331 Hai, o ran |onor|, mi rho hi'n union.
 
(1, 1) 1334 Nis gwn i pwy lyfre fyddwch yn eu dilyn.
 
(1, 1) 1338 Wel, gadewch gael gwybod rhywbeth bellaoh.
 
(1, 1) 1345 Wel, pe gwyddwn eich bod yn dweyd y gwir,
(1, 1) 1346 Ni byddwn ddim yn hir yn herian.
 
(1, 1) 1356 Hw, am y tyddyn nid ydwy'n hidio,
(1, 1) 1357 Mi werthraf ryw ddiwrnod y cwbl oddiarno.
 
(1, 1) 1360 Wel, os dewch chwi eto fyth ffordd yma,
(1, 1) 1361 'Rwy'n erchi i chwi'n dyner ddwad i edrych am dana',
(1, 1) 1362 Mae'n fawr genyf roi i chwi dafod drwg
(1, 1) 1363 Pan ddaethoch i'r golwg gynta'.
 
(1, 1) 1367 |Good bye, Madam, I wish you well|;
(1, 1) 1368 O mae hi'n un ffel ddeallus.
(1, 1) 1369 ~
(1, 1) 1370 Son a wnawn ni am ryw ofer setlach,
(1, 1) 1371 Sian a Sioned, a Rebela o Ddinbych,
(1, 1) 1372 |They're not fit to open their mouths|,
(1, 1) 1373 Nid y'nt wrth rai'r |South| ond sothach.
(1, 1) 1374 ~
(1, 1) 1375 Er fod hon yn gas ar olwg,
(1, 1) 1376 O! mae hi'n dweyd |fortune| yn bur amlwg;
(1, 1) 1377 Gobeithio daw'r cwbl yn eu lle
(1, 1) 1378 I mine i'r gole heb gilwg.
(1, 1) 1379 ~
(1, 1) 1380 A rhyfedd y darfu hi ddweyd mor hynod,
(1, 1) 1381 'Mod i am garu'r-siopwraig hono'n barod,
(1, 1) 1382 Wel, 'rydwy'n barnu gwybodeth fel hyn,
(1, 1) 1383 Huw fadde i mi, yn gryn rhyfeddod.
(1, 1) 1384 ~
(1, 1) 1385 Ond nid a' i bellach ddim yn ffermwr,
(1, 1) 1386 Mi gym'ra' 'myd mwy segur wrth bwyso siwgwr;
(1, 1) 1387 Bydd pobl y wlad yn dwad atai'n dwp
(1, 1) 1388 Pan elwy'n swp o siopwr.
(1, 1) 1389 ~
(1, 1) 1390 A gwyn ei fyd yn gryno
(1, 1) 1391 Na b'a'wn wedi 'mhriodi unweth eto;
(1, 1) 1392 Rhyfedd genyf yn dda fy hun
(1, 1) 1393 Na ddar'fase'r dyn fyn'd yno.
 
(1, 1) 1397 Peth rhyfedd iawn, debygaf fi
(1, 1) 1398 Yw lwc a pharti |fortune|.
(1, 1) 1399 Ac 'rwyt yn meddwl y daw hi o ddifri'.
 
(1, 1) 1403 Wel, rhy hwyr imi wneyd y gore o'm hamser,
(1, 1) 1404 Y fi pia hi, onide, Pleser?
 
(1, 1) 1407 Wel, i ffordd yn y munyd dyma fi'n myned.
(1, 1) 1408 |Early to-morrow I shall be married|.
 
(1, 1) 1547 Holo, |boys| fy 'neidie, ni fu erioed ffasiwn adeg,
(1, 1) 1548 A'r lwc oedd i mi briodi'r siopwraig:
(1, 1) 1549 Rwy'n meddwl nad oes o Ben-y-graig
(1, 1) 1550 I Lunden wraig mor landeg.
(1, 1) 1551 ~
(1, 1) 1552 A dweyd y gwir, 'roedd Sian o'r gore,
(1, 1) 1553 Ond mae hon yn amgenach fil cant o weithie;
(1, 1) 1554 Bydde rhyfedd gan galon llawer un
(1, 1) 1555 Mor hoffusawl mae'n hi'n trin ei phwyse.
(1, 1) 1556 ~
(1, 1) 1557 Mae ganddi mewn ffwndwr, ni all neb ei ffeindio,
(1, 1) 1558 Rhyw smic yn ei bysedd, hi wneiff i beth bwyso;
(1, 1) 1559 Ac ryw sut gyda'i bawd yn rho'i mesur bach,
(1, 1) 1560 Ni fu erioed un â delach dwylo.
(1, 1) 1561 ~
(1, 1) 1562 Hi wneiff i rai'i choelio yn mhob goruchwylieth,
(1, 1) 1563 'Ran mae hi'n |gwaceres|, ac yn bur |gwick| ei hareth
(1, 1) 1564 Ni ddywed hi'n amser uwch ben ei ffair,
(1, 1) 1565 Am dani hi air ond unweth.
(1, 1) 1566 ~
(1, 1) 1567 Peth ffiedd yw |fflatro|, bydd ffylied pen sitrach,
(1, 1) 1568 Gwneyd gormod o siarad, 'does dim sydd oerach;
(1, 1) 1569 'Rwy'n barnu dynion dystaw |sad|,
(1, 1) 1570 O grefydd yn gwneud marchnad gryfach.
(1, 1) 1571 ~
(1, 1) 1572 Dyma hwy'r Methodistied yn rhai pur dostion
(1, 1) 1573 Yn nghylch yn un stori ag oeddym ni'r |Presbyterion|,
(1, 1) 1574 Ond Mae'r |Cwaceriaid| yn fwy fest,
(1, 1) 1575 A gonest mewn bargenion.
(1, 1) 1576 ~
(1, 1) 1577 Er fod y |Dissenters| i mi'n grwgnach,
(1, 1) 1578 Mi af fi'n |Gwacers| pe b'ai hwy goegach;
(1, 1) 1579 O ran mae gwr a gwraig a'u ffydd,
(1, 1) 1580 Un grefydd yn ddigrifach.
(1, 1) 1581 ~
(1, 1) 1582 Yr ydwy'n credu mewn cu ryddid,
(1, 1) 1583 Mai'r |Cwacers| a'i pia hi yn mhob bywyd,
(1, 1) 1584 Can's mae hwy'n gyfoethogion, ac yn helpu'n dda
(1, 1) 1585 Eu gilydd gyda'u golud.
 
(1, 1) 1589 Na alw'n Roundiad mo'nai'n hwy,
(1, 1) 1590 'Rwy'n caru'n fwy'r |Cwaceriaid|.
 
(1, 1) 1595 Ni waeth i ti dewi â'th ofer siarad,
(1, 1) 1596 Mae'r wraig yn |Gwaceres|, ac yn haeddu cariad.
 
(1, 1) 1599 'Rwy'n coelio fod o ddifri'
(1, 1) 1600 Rai'n dda o bob |sect| a |party|.
 
(1, 1) 1608 Oni werthai'n nhrysore,
(1, 1) 1609 A'm cyweth, a'm ty, a'm caee;.
(1, 1) 1610 A mi a'i |hadferteisiaf|, fel ag y b'o tyst,
(1, 1) 1611 I'w gweled hyd y pyst a'r gwalie.
 
(1, 1) 1614 Nid wrth ranu na phrynu'n ffri
(1, 1) 1615 Y medde i fy moddion.
(1, 1) 1616 Ac nid oes dim achos, yr ydwy'n ame,
(1, 1) 1617 Fod neb yn dlodion mwy na mine.
 
(1, 1) 1620 Wel, dyweded fel y myno ni choelia'i fyth mo'ni,
(1, 1) 1621 'Ran mi wn i'r hanes lawer o rieni,
(1, 1) 1622 Ac mae diogi ac oferedd, neu ddrwg ryw fodd,
(1, 1) 1623 A'i dylydodd hwy i dylodi.
 
(1, 1) 1628 Ond ydwy'n amheuthun i mi werthu mhethe?
(1, 1) 1629 I gael bod yn siopwr ag arian sypie.
 
(1, 1) 1632 Mae ffair Gaer yn nesu bydd y wraig mewn eisio
(1, 1) 1633 Cael arian hynod erbyn hòno.
 
(1, 1) 1636 Fe fydd genyf arian yroedd,
(1, 1) 1637 Mi allaf |gountio| llawer o gantoedd.
 
(1, 1) 1640 Wel rhy hwyr i mi fyn'd adre'n union,
(1, 1) 1641 Mi gaf eto helynt arw yn setlo fy materion;
(1, 1) 1642 Rhaid i mi edrych arnaf fy hun yn glên,
(1, 1) 1643 Neu dygyd a wneiff yr hen wein'dogion.
 
(1, 1) 1759 Dyma fine'ch ewythr Rondol, chwith i chwi wrando!
(1, 1) 1760 Mi gefes o'r diwedd fy llwyr andwyo;
(1, 1) 1761 Ni wel'soch chwi ddyn yn unlle ar droed,
(1, 1) 1762 Mwy trwstan erioed, 'rwy'n tystion.
(1, 1) 1763 ~
(1, 1) 1764 O'r felldith fawr oedd i mi,
(1, 1) 1765 Wneyd â'r siopwraig hòno air siapri,
(1, 1) 1766 A gwae fy nghalon wneud tro mor ffol.
(1, 1) 1767 Afreidiol a phriodi,
(1, 1) 1768 ~
(1, 1) 1769 Hi a'm twyllodd i werthu'r cyfan,
(1, 1) 1770 Gynta' gellid o'm ty ac allan;
(1, 1) 1771 Ac felly darfu i mi'n ddifeth,
(1, 1) 1772 Bynorio pob peth yn arian.
(1, 1) 1773 ~
(1, 1) 1774 Ond oeddwn yn fy meddwl fy hun yn |glyfar|,
(1, 1) 1775 Y byddia arian i'w llogi, yr awn yn wr lliwgar,
(1, 1) 1776 Gan ddisgwyl fod ganddi hithe'n 'stor,
(1, 1) 1777 Rai cantoedd yn nror y |counter|.
(1, 1) 1778 ~
(1, 1) 1779 Ond hithe ni feddai fawr o foddion,
(1, 1) 1780 Na dim |guineas|, nac arian gwynion,
(1, 1) 1781 Ond bocsiad llawn, na wnai nhwy ddim lles,
(1, 1) 1782 Ysbariodd hi o bres byrion.
(1, 1) 1783 ~
(1, 1) 1784 A dechre hel llyfre wedi'r holl afrad,
(1, 1) 1785 A rhuo bod arian beth didoriad;
(1, 1) 1786 Wedi iddi goelio'r wlad ar led,
(1, 1) 1787 A rhoi gormod o gred i grwydried.
(1, 1) 1788 ~
(1, 1) 1789 Beth a wnes ine, pan glywes hyny,
(1, 1) 1790 Ond rhoi beili a chyfreithiwr i safnrythu;
(1, 1) 1791 Ac ni chaed fawr fantes yn odid fan,
(1, 1) 1792 Ond rhai diles rhy wan i dalu.
(1, 1) 1793 ~
(1, 1) 1794 Ac wedi'r cwbl hi a'm perswadie
(1, 1) 1795 I ddod i ffair Gaer, y doi pobpeth o'r gore:
(1, 1) 1796 Ac felly ni aethom yno'n llawn,
(1, 1) 1797 A chadarn iawn ein code.
(1, 1) 1798 ~
(1, 1) 1799 Ac ar ol myned yno, 'roedd hi'n denu
(1, 1) 1800 At y |dealers| lle'r oedd lleia i dalu,
(1, 1) 1801 I gael i mi feddwl yn dda fy nghred
(1, 1) 1802 Nad oedd fawr ddyled ar y ladi.
(1, 1) 1803 ~
(1, 1) 1804 Dyna lle'r oedd y |dealers| hyny mor dalog
(1, 1) 1805 Yn ysgwyd dwylo, a chusanu'r hen fyswynog;
(1, 1) 1806 A dwad gyda ni i'r dafarn yn gadarn o'u co',
(1, 1) 1807 A rhoi i mi groeso gwresog.
(1, 1) 1808 ~
(1, 1) 1809 Y nosweth hono, ni fu erioed fath wynfyd,
(1, 1) 1810 Gwyr Lerpwl, Manchester, a Chaer hefyd,
(1, 1) 1811 Yn rhoi i mi |bunch|, a |negus|, a |liquors| yn ffri,
(1, 1) 1812 Ac yn dodi, ni fedra'i ddim d'wedyd.
(1, 1) 1813 ~
(1, 1) 1814 Dweyd wrtha'i, "|Good health and success to the business|,"
(1, 1) 1815 A mine heb fawr o Saesneg, ond tipyn o rodres;
(1, 1) 1816 Ond codes i ddweyd |Thank ye|, yn bur dwt,
(1, 1) 1817 Ac a syrthiais pwt i'w potes.
(1, 1) 1818 ~
(1, 1) 1819 Fe aeth y bwrdd a'r \inkhorns| hwnw lawr mor ronco,
(1, 1) 1820 A'r holl lestri trwstan, on'd oedd y ty'n crynu drosto;
(1, 1) 1821 A gwaeth na thori'r celfi a cholli'r cawl,
(1, 1) 1822 Fe aeth y |glasie| diawl i'm dwylo.
(1, 1) 1823 ~
(1, 1) 1824 Ond rhyw sut yn y funud fe'm codwyd i fynu,
(1, 1) 1825 Gan ymroi gyda'u gilydd i'm llusgo i'r gwely;
(1, 1) 1826 Ffitiach fuase, a dweyd y gwir,
(1, 1) 1827 Fod mewn rhyw fudr feudy.
(1, 1) 1828 ~
(1, 1) 1829 'Doedd ben yn y byd i mi fel y dylase,
(1, 1) 1830 Ond gwaed ac aflwydd o'm dwylo a'm gwefle;
(1, 1) 1831 Ar ol i mi feddwi a cholli ngho',
(1, 1) 1832 'Roedd gwaith repario'r bore.
(1, 1) 1833 ~
(1, 1) 1834 A'r bore 'doedd hanes am neb ond fy hunan,
(1, 1) 1835 Mi a ddechreues fyfyrio yn mh'le rhois fy arian;
(1, 1) 1836 Ond y wraig a wnaeth â mi gnot ysdits,
(1, 1) 1837 Fe gadwodd y |witch| y godan.
(1, 1) 1838 ~
(1, 1) 1839 Ni adawodd hi geiniog i mi'n deg hynod,
(1, 1) 1840 Ond rhyw faint o bres yn mhoced fy ngwasgod,
(1, 1) 1841 Mi ddechreues waeddi a myn'd o'm co',
(1, 1) 1842 Fe ddarfu i mi wylltio hylldod.
(1, 1) 1843 ~
(1, 1) 1844 Mi redes hyd y grisie, on'd oedd pawb yn ymgroesi,
(1, 1) 1845 "|For God's sake,|" medde'r bobl, "|what ails the old booby|?"'
(1, 1) 1846 'Roeddwn fel pe buase gacwn yn codi o'm pen,
(1, 1) 1847 Ni fu erioed beth mor ddreng a myfi.
(1, 1) 1848 ~
(1, 1) 1849 Mi redes hyd y |rowses| o nerth fy nghalon,
(1, 1) 1850 Ac i |Manchester Warehouse| yn mron myn'd yn wirion,
(1, 1) 1851 Ac i ffordd o hyd i'r |New Linen Hall|,
(1, 1) 1852 Ag ymddygiad gerwinol ddigon.
(1, 1) 1853 ~
(1, 1) 1854 Mi droisym i siop rhyw |siapard| o Wyddel,
(1, 1) 1855 Fe ddechreuodd hwnw scwandro a chware "|What d'ye want scoundrel|? "
(1, 1) 1856 A dweyd, "|Go about your business, you son of a whore|,"
(1, 1) 1857 Mi redes yn siwr am fy hoedel.
(1, 1) 1858 ~
(1, 1) 1859 Ac yn mlaen a myfi gan ymofyn am dani,
(1, 1) 1860 Mi a gyfarfum â rhyw glamp o dorglwyd lusti,
(1, 1) 1861 Ac a dynes fy het, ac a dd'wedes yn fwyn,
(1, 1) 1862 "A welsoch chwi, 'r gwr mwyn, mo Anni?"
(1, 1) 1863 ~
(1, 1) 1864 "|G—d d—mn you blockhead|," ebe hwnw,
(1, 1) 1865 A phwy oedd ond y Maer yn haner meddw;
(1, 1) 1866 Fe'm hordrodd i'r |madhouse| at Stephen Hyde,
(1, 1) 1867 A pheri rhoi |guide| i'm cadw.
(1, 1) 1868 ~
(1, 1) 1869 Dyma rhyw |rogues| yn codi, ac ynw'i'n cydio,
(1, 1) 1870 Rhai'n gwthio'n ewyllysgar, a'r lleill yn llusgo;
(1, 1) 1871 A mine'n gwaeddi ar bob discwrs,
(1, 1) 1872 Am y wraig, y pwrs a'r eiddo.
(1, 1) 1873 ~
(1, 1) 1874 Ond fe ddaeth rhyw Gymro ac a darawodd i'r cwmni,
(1, 1) 1875 Ac fe ddeallodd fy helynt wrth hir ymholi,
(1, 1) 1876 Nhw'm gollyng'son i'n rhydd gan fynu mewn rhoch
(1, 1) 1877 Bob ceiniog goch oedd geny'.
(1, 1) 1878 ~
(1, 1) 1879 A mi ddaethum i'm |lodging| tan |low the latsio|,
(1, 1) 1880 A garw fu'r dwned imi ar ol d'od yno;
(1, 1) 1881 'Roedd rhyw leidr o feili yn ei ledieth,
(1, 1) 1882 Wedi myn'd â'm ceffyle i yn eu corffoleth.
(1, 1) 1883 ~
(1, 1) 1884 Ni feddwn i feddwl cychwyn adre,
(1, 1) 1885 Na gwraig, nac arian, na cheffyle;
(1, 1) 1886 Mi glywawn ar fy nghalon fyn'd tros ganllaw'r bont,
(1, 1) 1887 Oherwydd mor front fu'r siwrne.
(1, 1) 1888 ~
(1, 1) 1889 A chwedi i mi rywsut gyrhedd adre,
(1, 1) 1890 'Roedd beilied Rhuthyn ar y trothe,
(1, 1) 1891 Wedi chwalu'r ty o'r gwaelod i'r top,
(1, 1) 1892 A gwerthu'r holl siop yn sypie.
(1, 1) 1893 ~
(1, 1) 1894 Dyna gefes, fel mae mwya' gofid,
(1, 1) 1895 Am goello fy ffortun a phob celwydd dybryd;
(1, 1) 1896 'Rwy'n hen a thylawd mewn annoeth lun,
(1, 1) 1897 Fy ngelyn aeth a'n ngolud.
 
(1, 1) 1900 Ow, mae 'nghalon yn curo fel Pandy Glynceiriog.
(1, 1) 1901 Dyma yspryd Sian, 'rydwy'n ofni'n siwr,
(1, 1) 1902 Oes na gwraig na gwr trugarog?
(1, 1) 1903 ~
(1, 1) 1904 Hai! wchw! mwrdwr? er mwyn Go'r Maerdy,
(1, 1) 1905 Rhoed rhywun loches imi lechu.
 
(1, 1) 1908 Nid alla'i ddim sefyll oni cha'i fy safio,
(1, 1) 1909 Mae rhyw euogrwydd yn fy rhwygo.
 
(1, 1) 1912 Ow, Mrs. anwyl, na wnewch ddim camsynied,
(1, 1) 1913 Ni wnes i gam â neb a'r aned,
(1, 1) 1914 Ond fe wnaeth fy ail wraig â fi gam o'i go',
(1, 1) 1915 Dwyn fy arian mewn tro cyn fyred.
 
(1, 1) 1917 Fe aeth fy arian i heibio 'run fath a mwg.
 
(1, 1) 1919 A garw ydyw'r gofid sydd gydag efo.
 
(1, 1) 1921 Ni wn i fwy am ened mwy na phen mawnen.
 
(1, 1) 1923 Dim garwach nag eraill pan elo hi'n gwarel.
 
(1, 1) 1928 Pe gwyddwn yn iawn y cawn ddigonedd,
(1, 1) 1929 A dyblu 'nghyfoeth fel Job yn y diwedd,
(1, 1) 1930 Cael ychen ran pleser ddeg cant yn gyplyse,
(1, 1) 1931 Pe bai'r diawl yn fy nguro mi ddaliwn fy ngore.
 
(1, 1) 1950 Ond y wraig a'u gwariodd hwy, ffolog wirion.
 
(1, 1) 1960 Mae'n arw os rhaid i mi ateb eto,
(1, 1) 1961 Am bethe ddarfu'r wraig ddistrywio;
(1, 1) 1962 Ond pe gwelwn y genawes ddrwg ei bri,
(1, 1) 1963 Mi atebwn iddi hi, 'rwy'n tybio.
(1, 1) 1964 ~
(1, 1) 1965 Yr aflwydd i'w chanlyn, ni fedra'i lai na choelio,
(1, 1) 1966 Nad yn y Deheudir y mae hi'n rhodio;
(1, 1) 1967 Ran yno mae'r lladron egron wg
(1, 1) 1968 A'r siopwyr drwg yn sypio.
(1, 1) 1969 ~
(1, 1) 1970 A'r holl rai cerdded, sy a'r diawl yn eu corddi,
(1, 1) 1971 Yn newid eu gwragedd ac yn ymgrogi;
(1, 1) 1972 Maent hwy o sir Benfro i Gastell Nedd,
(1, 1) 1973 Yn Morganwg, rhyfedd geny'.
 
(1, 1) 1983 A glywch chwi, medda'i, 'r gynulleidfa,
(1, 1) 1984 Fe aeth hon i gregethu, gwnaed pawb eu gwaetha';
(1, 1) 1985 Mae rhyw beth o grefydd, 'run fath ag ymgrafu,
(1, 1) 1986 Ni cha'i lonydd nosweth heb ryw fan yn ysu.
(1, 1) 1987 ~
(1, 1) 1988 Mi briodes wraig o'r Methodistied,
(1, 1) 1989 'Roedd hono'n erwinol yn rhuo am yr ened;
(1, 1) 1990 Fe fu agos un waith, gan faint oedd hi'n swnio,
(1, 1) 1991 Y troisym ryw fesur, ond fe ddarfu i mi fisio.
(1, 1) 1992 ~
(1, 1) 1993 Ond priodi'r Gwaceres, hen siopwraig oeredd,
(1, 1) 1994 Hono a'm handwyodd i yn y diwedd;
(1, 1) 1995 Pe doi hi i'm golwg, neu un o'r |colors|,
(1, 1) 1996 Ni choelia'i na chiciwn i hi efo'i Chwacers.
 
(1, 1) 1999 Os achubiff ef hi, fe haedde fawl,
(1, 1) 2000 Ei gadel i ddiawl a ddylid.
 
(1, 1) 2003 Wel, mater mawr i mine mod,
(1, 1) 2004 Wedi colli 'nghod a'm harian,
 
(1, 1) 2025 O! wyneb fy holl drueni,
(1, 1) 2026 Sy'n dechre ymddangos imi;
(1, 1) 2027 Mae diawlied uffern yn un byw,
(1, 1) 2028 A digllonedd Duw'n fy llenwi.
(1, 1) 2029 ~
(1, 1) 2030 'Rwy'n gwel'd fy mod, heb gelu,
(1, 1) 2031 Fel Cain a Suddas wedi cwbl droseddu;
(1, 1) 2032 Fe aeth fy edifeirwch i'n rhy hwyr,
(1, 1) 2033 Mae anobeth yn fy llwyr wynebu.
(1, 1) 2034 ~
(1, 1) 2035 Fe'm carcharwyd yn rhwymyn chwerwedd,
(1, 1) 2036 A bustl pob anwiredd;
(1, 1) 2037 Fe seriwyd fy nghydwybod â haiarn poeth,
(1, 1) 2038 'Rwy'n ddelw noeth o ddialedd.
(1, 1) 2039 ~
(1, 1) 2040 Os bwriwyd Fransis Spira,
(1, 1) 2041 I anobeth a chreulondra;
(1, 1) 2042 Os gwnaeth Judas am dano'i hun,
(1, 1) 2043 'Rwyf fine yn 'run cyfyngdra.
(1, 1) 2044 ~
(1, 1) 2045 Mac uffern yn berwi'n barod,
(1, 1) 2046 'N gwneud ebwch trwy 'nghydwybod;
(1, 1) 2047 O! 'r euogrwydd arna'i sydd,
(1, 1) 2048 'Rwy'n beichio oherwydd pechod.
(1, 1) 2049 ~
(1, 1) 2050 Mi wawdies bob math ar grefydd,
(1, 1) 2051 Fy mhleser o'm calon oedd adrodd eu c'wilydd;
(1, 1) 2052 'Run fath a chi yn llyfu briw,
(1, 1) 2053 Mi neidiwn i'w cernwydydd.
(1, 1) 2054 ~
(1, 1) 2055 O! mor 'wyllysgar y cablwn y rhai llesga,
(1, 1) 2056 Ac mor hoff y dyrchafwn rai drwg mewn cybydd-dra,
(1, 1) 2057 O! yr esgus rhagrithiol oedd genyf fi,
(1, 1) 2058 I guddio fy nigywilydd-dra.
(1, 1) 2059 ~
(1, 1) 2060 O! cym'rwch fi'n rhybudd, y cwmni enwog,
(1, 1) 2061 Nid oes dim cellwer âg arfe miniog;
(1, 1) 2062 O eisie dilyn cydwybod rydd,
(1, 1) 2063 Fy niwedd sydd yn euog.
(1, 1) 2064 ~
(1, 1) 2065 Nid yw hyn ond megys gwatwor agwedd
(1, 1) 2066 Cyflwr truenus dyn drwg ei fuchedd;
(1, 1) 2067 Ond cofiwch bawb tra f'om ni byw,
(1, 1) 2068 Na watworir Duw yn y diwedd.
(1, 1) 2069 ~
(1, 1) 2070 O! chwi'r rhai sy'n gwrando'r geirie,
(1, 1) 2071 Ac yn edrych ar hyn fel chware;
(1, 1) 2072 Gwyliwn y daw'n edifeirwch prudd
(1, 1) 2073 Annedwydd i'n heneidie.
(1, 1) 2074 ~
(1, 1) 2075 Daw'r amser y pregethir ar bene'r teie,
(1, 1) 2076 'Rhyn a wnaed mewn anialwch a thywyll gornele;
(1, 1) 2077 Heddyw yw'r dydd i sefydlu'r daith,
(1, 1) 2078 Gwybyddwch nad oes gwaith mewn bedde.