Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Sian (Cyfanswm: 70)

 
(1, 1) 520 Wel, yma'r ydych chwi'n ymrodio?
 
(1, 1) 524 'Roedd y gwydde'n pori'n ddyfal,
(1, 1) 525 Yn y |cwitie|, yn mhorfa'r catal;
(1, 1) 526 A'r gwas yn y ty, yn eiste' wrth y tân,
(1, 1) 527 Efo Susan acw'n sisial.
 
(1, 1) 532 Ar ol i chwi ei bwyso fe iddi,
(1, 1) 533 A gawsoch chwi arian ganddi?
 
(1, 1) 538 Pwy bynag oedd hi, 'roeddych yn ffol
(1, 1) 539 Os darfu i chwi, Rondol, wrando.
 
(1, 1) 544 Wel, pwy oedd y |Lady|, nis gwn i amcan?
 
(1, 1) 546 Go chwith i hono fyn'd hyd y byd,
(1, 1) 547 I ymorol yd heb arian.
 
(1, 1) 552 Os awn ni i ranu'n pethe,
(1, 1) 553 Fe ddaw gofid arnom nine;
(1, 1) 554 'Ran bod yn rhy hael sy'n peri o hyd
(1, 1) 555 Rai'n isel eu byd mewn eisie.
 
(1, 1) 560 Roedd rhywun wrthyf heddyw'n traethu,
(1, 1) 561 Fod eich ffrynd o Gaerfawnog yn mron tori i fynu.
 
(1, 1) 569 Ie, eu coelio'n nhw'n siwr 'rwy'n gweled,
(1, 1) 570 Nid oes i fawr ymddiried;
(1, 1) 571 Mae'r ffermwyr a'r porthmyn yr un peth,
(1, 1) 572 Yn ddidoreth am gastie diried.
 
(1, 1) 587 Wel, dywedwch i mi eto, Rondol,
(1, 1) 588 Pa fodd mae'n nhw'n tori mor annaturiol;
(1, 1) 589 Ac yn colli cyment mewn cyn lleied amser?
(1, 1) 590 A glywch chwi, mae rhyw ddrwg yn Lloegr.
 
(1, 1) 610 Wel, mae'n gofyn i borthmyn, 'rydwy'n coelio
(1, 1) 611 Fod yn ofalus wrth drafaelio;
(1, 1) 612 Nid puteinio, a meddwi, a rhyw lol fel hyn,
(1, 1) 613 8y'n addas gyda chyment eiddo.
 
(1, 1) 618 Dyna'r gofid mwyaf a all un ddisgwyl.
(1, 1) 619 Ar ol magu lloie yn gu ac yn anwyl;
(1, 1) 620 Eu gollwng hwy i ffordd dan ddwylaw porthmyn,
(1, 1) 621 Heb gael dim daioni fyth am danyn'.
 
(1, 1) 630 Wel, 'rydwy'n gweled y porthmyn creulon,
(1, 1) 631 A'r |jockeys| ceffyle yn gwneud yn ffolion,
(1, 1) 632 Yn trin eu |trics| a'u |frolics| ffraeth
(1, 1) 633 Twyllodrus yn waeth na lladron.
(1, 1) 634 ~
(1, 1) 635 Ond pe clywsech y dyn oedd acw'n llefaru,
(1, 1) 636 Fe fuase'ch calon yn rhyfeddu,
(1, 1) 637 Gyment o dwyll sydd yn nghalon dyn,
(1, 1) 638 Gwenwyn a phob drygioni.
 
(1, 1) 641 'Roedd e' yn y fan mae son yn ffri
(1, 1) 642 Am gariad yn ddiragorieth.
 
(1, 1) 652 'Does ryfedd fod cyment mewn angen a phrinder,
(1, 1) 653 Gan mor gyffredin ydyw balchder;
(1, 1) 654 Mae ffasiwne newydd trwy'r wlad hon,
(1, 1) 655 Yn anafu dynion ofer.
(1, 1) 656 ~
(1, 1) 657 O! pan fu'm i yn y dref ddiwetha,
(1, 1) 658 Ni weles i erioed y fath ffieidd-dra,
(1, 1) 659 Rhwng tîne a phene merched ffol,
(1, 1) 660 Rhyfeddol ddigywilydd-dra.
(1, 1) 661 ~
(1, 1) 662 'Roedd eu pene nhw'n ddigon melldigedig,
(1, 1) 663 Y capie |wire|, a'r torche cythreulig;
(1, 1) 664 Ac mae 'rwan glustoge fel 'strodur car
(1, 1) 665 Gwmpas tîne'r war buteinig.
 
(1, 1) 670 Does ryfedd fod cyment erlid,
(1, 1) 671 Yn mhob gafel oherwydd Gofid;
(1, 1) 672 Balchder ac oferedd ydyw'r brad,
(1, 1) 673 Fe blygodd y wlad o'i blegyd.
 
(1, 1) 678 Diolchwn i ni'n hunen
(1, 1) 679 Fod genym ni eiddo i'n perchen;
(1, 1) 680 Ni gadwn i ffwrdd bob Gofid ffol,
(1, 1) 681 Ac ymd'rawed y bobl druen.
(1, 1) 682 ~
(1, 1) 683 Brysiwch bellach adre heb oedi,
(1, 1) 684 Fe ddylid, chwi wyddoch, fyn'd bawb i weddi.