Ciw-restr

Pobl yr Ymylon

Llinellau gan Malachi (Cyfanswm: 145)

 
(1, 0) 20 Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus.
(1, 0) 21 Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd.
 
(1, 0) 23 Testun diolch sydd gennym, Dafydd.
(1, 0) 24 Testun diolch.
(1, 0) 25 Y wawr wedi torri a ninnau mewn tŷ diddos.
 
(1, 0) 28 Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond bwthyn cyffredin y gwerinwr.
(1, 0) 29 le, muriau moelion.
(1, 0) 30 Ond diolch am gymaint a hynny.
 
(1, 0) 32 Goreu'n y byd, Dafydd, goreu'n y byd.
(1, 0) 33 'Rwy'n sicr y buasai'r bobol sy'n perchenogi'r lle dinôd yma yn falch iawn i wybod eu bod wedi cyfrannu bendithion yn ddiarwybod.
 
(1, 0) 36 Fe hyderwn hynny, Dafydd.
(1, 0) 37 Fe hyderwn hynny.
(1, 0) 38 Mae llawer i ddyn wedi troi angel yn ddiarwybod o'r tŷ am i fod e wedi anghofio clymu'r ci.
 
(1, 0) 42 Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, machgen i.
 
(1, 0) 44 Bydd yn amyneddgar, bachan!
(1, 0) 45 Dysg bwyso ar Ragluniaeth.
(1, 0) 46 Wyddost ti ddim pa fendithion ddaw y diwrnod newydd hwn eto.
 
(1, 0) 49 Diffyg gweledigaeth, 'y machgen i; diffyg gweledigaeth.
 
(1, 0) 51 Llygad ffydd, Dafydd; llygad ffydd.
(1, 0) 52 Fe wêl dyn lawer.
(1, 0) 53 Mae yna fferm gerllaw, ond oes e, Dafydd?
 
(1, 0) 55 Pwy ŵyr nad yw hi wedi insiwro yn lled drwm, Dafydd.
(1, 0) 56 Dywedwch rhyw bymtheg cant.
(1, 0) 57 Pwy ŵyr nad yw'r perchennog mewn dyled, a bod angen am dân,─am d─aa─n!
(1, 0) 58 Does dim i buro cymdeithas fel tân, Dafydd.
 
(1, 0) 60 O, na, na, na, Dafydd.
(1, 0) 61 Dim ond â llygad ffydd, 'y machgen i.
(1, 0) 62 Am argraffu ar dy feddwl di wyf i, na ŵyr dyn ddim pa fendithion a ddaw gyda'r wawr.
(1, 0) 63 Os cofi di, Dafydd, 'doeddwn i ddim mewn sefyllfa i weled rhyw lawer â'r llygad naturiol neithwr..
(1, 0) 64 Son am dana ì 'rw' i nawr.
 
(1, 0) 66 Na, Dafydd.
(1, 0) 67 Yr oeddwn wedi edrych ar y gwin pan fyddo goch.
(1, 0) 68 Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn.
 
(1, 0) 70 'Roedd crefydd yn y teulu.
(1, 0) 71 Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd.
 
(1, 0) 73 Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls.
(1, 0) 74 Dyna dynnodd sylw'r polisman, Dafydd.
 
(1, 0) 76 Oedd, falle i fod e.
(1, 0) 77 Ond dyna ddull syml yr hen bobol, weidi.
 
(1, 0) 79 Rhyfedd meddwl fod fy nhad wedi cael ei ddal am beth mor fach a dwyn ffowls.
 
(1, 0) 81 Do, Dafydd, do droeon.
(1, 0) 82 Fyddwn i byth yn edrych i lawr hyd yn oed ar ddull syml fel yna o ennill 'y nhamed bara.
(1, 0) 83 Ond, gyda pharch i goffadwriaeth hen ŵr 'y nhad, 'rwy'n credu mod i wedi gneyd mwy o arian mewn noswaith cyn hyn nag a neise fe mewn whech mis wrth ddwyn ffowls.
(1, 0) 84 le, rhai syml oedd yr hen bobol...
(1, 0) 85 Mam, 'run fath wedyn.
 
(1, 0) 87 'Roedd hi'n dal cysylltiad agos â'r achos, Dafydd.
(1, 0) 88 Roedd hi'n casglu mewn hen gapel bach yn agos i gartre, ac felly, mewn ffordd o siarad, dipyn o flaen ei hoes.
 
(1, 0) 90 Wel, oedd, mewn ffordd o siarad, er, mor bell ag yr 'w i'n cofio, roeddem ni fel teulu yn byw yn weddol foethus pan oedd mam yn casglu yn yr hen gapel bach.
(1, 0) 91 Hwyrach fod bendith ar yr achos da.
(1, 0) 92 Gyda llaw, beth oedd dy rieni di, Dafydd?
 
(1, 0) 95 Ma'n rhai inne hefyd.
 
(1, 0) 97 Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei?
 
(1, 0) 99 Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw.
(1, 0) 100 Mae'r rhan fwyaf o bobol y wlad yma wedi byw mor respectabl nes bod i plant yn ofni i harddel nhw.
(1, 0) 101 'Rwy' wedi diolch llawer fod 'y nhad ymron cymint o flagard a finne...
 
(1, 0) 103 Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus?
 
(1, 0) 106 Be' ti'n feddwl wrth hynny?
 
(1, 0) 108 Câl digon ar fod yn respectabl?
(1, 0) 109 Be nest ti, meddwi?
 
(1, 0) 111 Ladratest ti rywbeth?
 
(1, 0) 113 Beth te?
 
(1, 0) 117 Ie, ond beth wyt ti'n neyd fan hyn, heb geinog ar dy elw?
 
(1, 0) 120 'Doet ti ddim yn deico dy waith, gw'lei.
 
(1, 0) 122 'Rown i'n meddwl.
 
(1, 0) 124 Na wn i.
 
(1, 0) 126 Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd.
(1, 0) 127 Beth oet ti─clerc?
 
(1, 0) 130 Bancer?
 
(1, 0) 132 Na.
(1, 0) 133 D'wyt ti ddim digon si-miw i fod yn fancer.
(1, 0) 134 'Doet ti ddim twrne?
 
(1, 0) 137 Na, 'dos dim digon o'r diawl yndo ti i fod yn dwrne.
(1, 0) 138 Crynhoi insiwrin?
 
(1, 0) 141 Wel mâs â hi.
 
(1, 0) 143 Beth?
(1, 0) 144 Beth?
(1, 0) 145 Beth?
 
(1, 0) 147 Bugel Methodist!
(1, 0) 148 Bugel Methodist!
(1, 0) 149 Ystyria, Dafydd, 'y machgen i.
(1, 0) 150 Ystyria...
(1, 0) 151 Rwy'n hen ŵr penwyn, Dafydd.
(1, 0) 152 Paid a thwyllo hen ŵr!
 
(1, 0) 155 Wythnos yn ôl?
(1, 0) 156 Wythnos yn ôl?
 
(1, 0) 158 Dim erioed!
 
(1, 0) 160 Wel, alli di ddim mynd yn ol 'na?
 
(1, 0) 165 Dafydd, fy mab.
(1, 0) 166 Dafydd, Dafydd.
(1, 0) 167 Pam na fyset ti'n i phriodi hi?
 
(1, 0) 170 Pam na fyset ti'n i phriodi hi, Dafydd; pam na fyset ti'n i phriodi hi?
(1, 0) 171 Lodes ffein o'dd y lodes.
(1, 0) 172 Ddylet ti ddim o'i gadel hi.
 
(1, 0) 175 Odw i ddim yn iawn, Dafydd?
(1, 0) 176 Odw i ddim yn iawn?
 
(1, 0) 179 Dafydd, Dafydd, paid a thwyllo hen ŵr.
 
(1, 0) 182 'Nawr, Dafydd; 'nawr, 'nawr.
 
(1, 0) 187 Pam na leicwn i, Dafydd?
(1, 0) 188 Pam na leicwn i?
 
(1, 0) 191 O.
(1, 0) 192 Dafydd, Dafydd!
(1, 0) 193 Mae'n ened i yn dyheu am y cyfle.
 
(1, 0) 195 Y Parchedig Malachi Jones, B.A., B.D.
(1, 0) 196 Bydd y Parchedig Malachi Jones yn pregethu yma y Saboth nesaf!
(1, 0) 197 Pregethir yng nghyfarfod yr hwyr gan y Parch. Malachi Jones, B.A., B.D.
(1, 0) 198 Malachi Jones, o Gapel Seion!
 
(1, 0) 200 Pan fydd stormydd bywyd yn torri ar eich traws, pan ddaw'r ddrycin a'r tywyllwch, pwy rydd gysur i'r weddw a'r amddifad?
(1, 0) 201 Malachi Jones!
(1, 0) 202 Pwy fydd barod i godi cardotyn o'r llwch?
(1, 0) 203 Pwy rydd gynhorthwy i'r gweiniaid?
(1, 0) 204 Pwy ond yr hen Falachi.
(1, 0) 205 Fe wela i yr hen saint yn eu hwylio hi drwy ddrycin y gaeaf i glywed yr hen Falachi Jones yn traethu'r genadwri.
 
(1, 0) 208 Effeithiol iawn.
(1, 0) 209 Odfa rymus iawn.
(1, 0) 210 Malachi Jones ar grefydd ac ymarweddiad.
(1, 0) 211 Yr hen wragedd yn foddfa o ddagrau.
 
(1, 0) 213 ~
(1, 0) 214 Arglwydd, gâd i'm dawel orffwys,
(1, 0) 215 Dan gysgodau'r palmwydd clyd,
(1, 0) 216 Lle'r eistedda'r pererinion
(1, 0) 217 Ar eu ffordd i'r nefol fyd.
(1, 0) 218 ~
(1, 0) 219 le, mae llawer i hen sant yn teimlo'n bur ddiolchgar heno am gysgodau'r palmwydd.
(1, 0) 220 Chwi'r oedrannus sydd o'm blaen i heno, mae ôl llafur a lludded y dydd ar eich hwynebau chwi; mae stormydd bywyd wedi gadael creithiau ar eich gruddiau.
(1, 0) 221 Beth am dani, mobol i?
(1, 0) 222 Beth am gysgodau'r palmwydd?
(1, 0) 223 Deuwch gyda mi.
(1, 0) 224 Mae yno ffynnon risial i'r sychedig, a lle i galon friw i orffwys─dan gysgodau'r palmwydd clyd!
 
(1, 0) 226 Wyddost ti, neyd sport 'rown i 'nawr, ond nid dyna fel y byswn i'n pregethu.
(1, 0) 227 Mi fyddwn i wedi troi pob pechadur yn yr odfa cyn pen hanner awr.
(1, 0) 228 Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd!
 
(1, 0) 233 Wel?
(1, 0) 234 Cysuro'r weddw a'r amddifad.
(1, 0) 235 Dweyd gair wrth y bobol ieuainc.
(1, 0) 236 Cynnal ambell i seiat.
(1, 0) 237 O, Malachi Jones yw'r dyn─
 
(1, 0) 241 Blino ar beth?
 
(1, 0) 252 'Nawr, mi fyswn i yn yng elfen mewn |frock-coat|.
 
(1, 0) 262 Beth ddigwyddodd?
 
(1, 0) 266 Shocks i'r saint!
(1, 0) 267 Rwy'n leico hwnna.
(1, 0) 268 Dere gâl i clywed nhw.
 
(1, 0) 279 Ond be' nest ti i boeni'r saint?
 
(1, 0) 286 Beth am y─beth yw hwnna─dim y seiat─y Cwrdd Misol?
 
(1, 0) 289 Wedson nhw ddim un gair?