Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Diawl (Cyfanswm: 63)

 
(0, 13) 1026 Pobun! aros!
(0, 13) 1027 Deliwch ef, deliwch, hai!
(0, 13) 1028 Hwde, di, dyma fi yn dyfod i'th gyrchu, wele fì!
(0, 13) 1029 Aros, Pobun—draw ag ef!
(0, 13) 1030 Rhaid ei fod yn fyddar o'i ddwy glust!
(0, 13) 1031 [Beth a wnai yn y tŷ hwn?
(0, 13) 1032 Ewch i'w gael allan!
(0, 13) 1033 Mi ddisgwyliaf yma wrth y ddôr.
(0, 13) 1034 Gafaelaf ynddo a dygaf ef i'm canlyn.
(0, 13) 1035 Feallai y bydd raid i mi aros yn hir—bydded! nid wy'n ofni dim amdano,] eiddof i ydyw yn groen ac yn flew, cyn sicred ag y bu neb erioed.
 
(0, 13) 1037 [{Heb glywed.}
(0, 13) 1038 Rhaid mynd y ffordd yma.]
 
(0, 13) 1040 [Yn sicr, neges gennyf yma.]
 
(0, 13) 1042 [Benyw gwerylgar!
(0, 13) 1043 Gallaf ysgôi.
 
(0, 13) 1047 Rhaid i mi ddisgwyl gerllaw'r ddôr wrth fy swydd, er mwyn mynd ag un a ddaw allan y ffordd yma i'm canlyn ar hyd ffordd arbennig.
 
(0, 13) 1049 Na mi â thithau, af y ffordd acw.
 
(0, 13) 1051 [{Gan wasgu ei glustiau.}
(0, 13) 1052 Twrw!
(0, 13) 1053 Oferedd!
(0, 13) 1054 'Tramgwydd!]
 
(0, 13) 1057 Dim ffordd! dim ffordd! onid oes yma ffordd?
(0, 13) 1058 [Dim lle i gymaint â throed sefyll, rhoi hwb na naid?]
(0, 13) 1059 Ai e?
(0, 13) 1060 Bydd yma ffordd ar unwaith!
 
(0, 13) 1065 Ydyw'r cyfeillion hyn hefyd yn y chwarae, heb wybod yn well na segura a rhythu [yn hwyr y nos ac yn gynnar y bore, tra bo pobl eraill, yn sur ddigon, yn edrych at eu gorchwylion?]
 
(0, 13) 1067 [{Yntau, wrth y gynulleidfa, gan eistedd ar lawr.}]
(0, 13) 1068 'Rwy'n gofyn, a oes yma amheuaeth o fath yn y byd?
(0, 13) 1069 A oes yma ryw fater yn y fantol?
(0, 13) 1070 Dim oll, dim oll, cyn wired â'm byw.
(0, 13) 1071 Oes yma rywun yn eistedd yma a daerai yn fy wyneb i na pherthyn y dyn yma ddim i mi?
(0, 13) 1072 Bolerwr a llyncwr o'r gorau, anlladwr, hudwr, torrwr priodas, [mor ddigrefydd â phagan du, hŷ ar air a gweithred, mor anghofus o'i Dduw â'r bwystfil yn y coed, ysbeiliwr gweddwon ac amddifaid, gormeswr, cenfigennwr, cas at bawb!
 
(0, 13) 1074 Nid oes gennyf ddigon o eiriau i'w ddisgrifio, a mynn y rhai hyn fy rhwystro rhag cael gafael arno a rhoi tro ar ei gorn gwddw, [gan weiddi, "dos i lawr, gnawd, a bydd farw!"
(0, 13) 1075 Sôn am ei achub rhagom ni?
(0, 13) 1076 A ddeliwch ati mewn gwaed oer, heb ofni rhag fy llid, fy nannedd llym a'm dyrnau caead?]
(0, 13) 1077 A hynny a hawl a chyfiawnder o'm plaid i?
 
(0, 13) 1080 Ers pa bryd?
(0, 13) 1081 Ymha le?
(0, 13) 1082 Pa fodd?
(0, 13) 1083 A ddigwydd hyn ar ddim ond gair?
(0, 13) 1084 [Os bydd un wedi rhoi ei fywyd a'i weithredoedd i ni yn unig, o fwriad ac amcan, faen ar faen ac o ddydd i nos, a dry peth cyson felly ar un amrantiad yn newydd?]
 
(0, 13) 1086 [Hai! chwedl gwrâch a rhagrith noeth!
(0, 13) 1087 Golchwch i mi'r croen heb ei wlychu!
(0, 13) 1088 Baldordd!
(0, 13) 1089 Clebran!
(0, 13) 1090 Waeth gen i boer na pheth o'r fath!]
(0, 13) 1091 Tystiolaeth?
(0, 13) 1092 Dygwch gymaint â gair a roddai i chwi un hawl arno ger bron barn!
 
(0, 13) 1098 Rhof y gorau iddi, af yn f'ôl, waeth ei adael, pesgwch ef eich hunain; mae cyfog arnaf yma, mi af adref.
(0, 13) 1099 [{Cyfyd Ffydd a Gweithredoedd.}
(0, 13) 1100 Ystori deg, cyn gliried â'r haul, ond bod blew yn y cawl er hynny!
(0, 13) 1101 Deuthum yma'n ddiofal a llawen fy mryd, gan feddwl dywedyd mai myfi oedd y perchen.
(0, 13) 1102 Ie, gâr, ie, dyna'r darnau'n deilchion!
(0, 13) 1103 "Does dim ffordd yma.
(0, 13) 1104 'Does dim ffordd yma!"
(0, 13) 1105 Ha! merchetos!
(0, 13) 1106 Cawl ympryd a gwialen, dyna fel y gwnawn i â hwy!
(0, 13) 1107 Yma—eu chwythu ymaith.
(0, 13) 1108 "'Does dim ffordd!"
(0, 13) 1109 Mi ewyllysiwn losgi'r adyn!
(0, 13) 1110 A dyma fo'n dyfod mewn crys gwyn yn rhagrithiol ac yn wylaidd dros ben.
(0, 13) 1111 Nid yw'r byd ond hurt, isel a salw, grym bob amser o flaen tegwch.
(0, 13) 1112 A fo deg, ffyddlon a deallus, fe'i meistrolir gan gyfrwystra a thwyll.]