Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Duw (Cyfanswm: 8)

 
(0, 1) 20 Diau, ni ellir goddef hyn yn hwy; mae pob creadur yn caledu ei galon i'm herbyn yn ddrygionus, nid ofnant rhagof ddim, a byw y maent yn waeth nag anifeiliaid.
(0, 1) 21 Dallwyd eu llygaid ysbrydol ym meddwdod pechod, dyna'r modd y maent, ac nid adwaenant monof i fel eu Duw; ar bethau daearol yn unig y mae eu bryd, a'r peth a fo uwchlaw hynny, ni bydd ond dirmyg ganddynt; a phan edrychwyf arnynt weithion, llwyr angof ganddynt y Cyfamod a wneuthum â hwynt, fel y rhoddais fy ngwaed erddynt ar y Groes, a'm crogi innau ar bren y dioddef fel yr enillent hwy fywyd.
(0, 1) 22 Tynnais y pigau drain o'u traed, a'u dwyn ar fy mhen fy hun fel coron; gwneuthum y cwbl a allwn, ac eto gwael fy mharch ganddynt.
(0, 1) 23 Am hynny, â chyfiawn frys, dygaf ddydd brawd arnynt, a barnu Pobun yn ôl ei haeddiant.
(0, 1) 24 Pa le yr wyt ti, Angau, fy nghennad rymus?
(0, 1) 25 Dyred ger fy mron.
 
(0, 1) 27 Dos di at Bobun a dywed wrtho yn fy enw i mai rhaid iddo gychwyn ar bererindod ar yr awr a'r dydd hwn, ac nad gwiw iddo ei ysgôi.
(0, 1) 28 A phar iddo ddwyn gydag ef ei lyfr cyfrif, ac na cheisied nac oedi na phetruso.