Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Mamon (Cyfanswm: 33)

 
(0, 9) 803 Ha, Pobun, pa beth sydd arnat ti?
(0, 9) 804 Yr wyt yn frawychus yn dy frys, a chyn welwed â'r calch.
 
(0, 9) 806 Nid adwaenost fy wyneb, ac eto, mynnit fy llusgo oddi yma gyda thi?
(0, 9) 807 Dy gyfoeth wyf i, yn wir, dy arian, dy unig beth a'th bopeth yn y byd.
 
(0, 9) 811 Beth bynnag fo rhaid, gellir gwneud hynny oll oddi yma, gwyddost yn dda faint fy ngalluoedd i.
(0, 9) 812 Dywed pa beth sydd yn dy boeni, rhof innau gymorth i ti.
 
(0, 9) 815 Oddi...
 
(0, 9) 818 Ai felly y mae hi arnat?
(0, 9) 819 Rhaid mynd oddi yma?
(0, 9) 820 Ai ê? wela wir! nawdd iti!
 
(0, 9) 822 Felly!
(0, 9) 823 Daeth cennad ato i'w ddwyn i'r ochr draw.
(0, 9) 824 Wela! bu hynny ar gryn frys.
(0, 9) 825 Ni chlywais i erioed o'r blaen am alwad felly.
 
(0, 9) 827 Dim un cam, 'rwy'n ddedwydd yma.
 
(0, 9) 829 Eiddot ti?
(0, 9) 830 Ha, paid â chodi chwerthin arnaf.
 
(0, 9) 833 Aros, cymer ofal!
(0, 9) 834 Nid yw dy lid yn ddim yn y byd i mi.
(0, 9) 835 Gall fod pethau'n gwbl groes.
(0, 9) 836 Myfi sydd fawr, tithau fel corrach.
(0, 9) 837 Tydi'r bychan yw'r gwas, ac os buost yn meddwl mai fel arall y byddai, nid oedd hynny ond twyll ac ynfydrwydd.
 
(0, 9) 839 A mi oedd yn llywodraethu yn d'enaid.
 
(0, 9) 841 [A thithau'n dawnsio wrth fy nhennyn!]
 
(0, 9) 843 Nage, mwnci-ar-ben-pric i mi oeddit ti.
 
(0, 9) 845 [A minnau fy hun yn d'arwain dithau wrth dy drwyn.]
(0, 9) 846 Y penbwl, yr ynfytyn na roes erioed mo'i fys yn y tân, y pen ffŵl, Pobun, dal sylw—yma yr arosaf i, ymha le y byddi di?
(0, 9) 847 Pa beth bynnag a rown i yn dy ben, dyna fyddai d'amcan di—y rhwysg, yr ymddangosiad, y balchter a'r ymchwyddo, a rhyw chwant melltigaid, didoriad.
 
(0, 9) 849 Myfi oedd yn cynhyrfu'r cwbl, a'r peth oedd hyd eto yn ei gadw ar ei draed, rhag iddo ddisgyn yn llipryn ar lawr a'i bedwar aelod ar led, a'r peth a'i deil eto a'i ben i fyny, nid yw ond ei arian a'i dda.
 
(0, 9) 851 Hwn! o hwn y tardd egni dy fywyd i gyd, ond syrth yn ei ôl i'r coffr, a chyda hynny dyna ddiwedd ar dy ddedwyddwch.
(0, 9) 852 Cyn hir fe byla dy synhwyrau ac ni'm gweli i byth mwy.
(0, 9) 853 Nid oeddwn i ond benthyg dros dy ddyddiau ar y ddaear, ac nid af gyda thi mwy, nid af, yma yr arosaf, gan dy ado ar dy ben dy hun, yn gwbl noeth, yn dlawd a gofidus.
(0, 9) 854 Ni thâl iti ddim oll daflu breichiau na rhincian dannedd, cei fynd i'r pridd yn noethlymyn groen, yn union fel y daethost o groth dy fam.