Ciw-restr

Rhys Lewis

Llinellau gan Tomos (Cyfanswm: 265)

 
(2, 1) 279 Wyddost ti, Barbara, fod Rhys a Mari Lewis yn dod yma heno?
(2, 1) 280 Mae'n arw gen i o nghalon dros Mari Lewis,—wn i ddim ar affaeth hon y ddaear sut mae gwraig mor dda yn cael cymaint o drwbwl.
(2, 1) 281 Claddu Bob yn gap ar y cyfan!
(2, 1) 282 Faint ydi hi o'r gloch, Barbara?
 
(2, 1) 284 Wel, mi ddôn gyda hyn.
(2, 1) 285 Dyma nhw ar y gair.
(2, 1) 286 Wel, dowch i mewn.
 
(2, 1) 288 Wel, dyma chi o'r diwedd.
(2, 1) 289 Tynnwch y'ch pethe, Mari, a mi neiff Barbara baned i ni yn union deg, yn newch chi, Barbara?
 
(2, 1) 291 Mari, ydach chi'n meddwl fod Bob erbyn hyn wedi deyd wrth Seth fod Barbara a finne wedi dwad i'r Seiat?
(2, 1) 292 Hynny ydi, os daru o drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw i fyny ene, onid oes?
 
(2, 1) 295 Wel, 'does bosib na thrawan nhw ar 'u gilydd ryw dro.
(2, 1) 296 Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd, mae nhw'n deyd {swn moch}.
(2, 1) 297 Mari, dyma'r moch gore fu gen i 'rioed am ddwad yn 'u blaene.
 
(2, 1) 299 Rown i 'run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus.
(2, 1) 300 Mi fyte rhein y cafn bydae nhw ddim yn cael 'u pryd yn 'i amser.
(2, 1) 301 Hwn-ene heb yr un gynffon ydi mistar y cafn.
(2, 1) 302 Mi fydda i'n wastad yn magu dau, achos mae nhw yn dwad yn 'u blaene yn well o lawer.
(2, 1) 303 Fydda i byth yn rhoi India Mel iddyn nhw, welwch chi, achos mae'r bacyn pan rowch chi o o flaen y tân, yn mynd yn llymed cyn bod yn ddigon.
(2, 1) 304 Tatws a blawd haidd ydi'r stwff gore i besgi mochyn, os ydach chi am facyn da; a berwi dipyn o ddanal poethion weithie iddyn nhw.
(2, 1) 305 'Does dim byd gwell i fochyn pan fydd o wedi colli 'i stumog na berwi penogyn coch yn 'i fwyd o.
(2, 1) 306 Pa faeth sydd mewn soeg i fochyn?
(2, 1) 307 Dim yt ol!
(2, 1) 308 Wyddoch chi be, Mari, fytwn i byth facyn bydae raid i mi brynnu bacyn y 'Merica ene.
 
(2, 1) 311 Hylo, cobyn! wyt |ti| ene?
(2, 1) 312 Dacw chi geiliog, Mari; bydase'r bluen wen acw heb fod yn 'i gynffon o, mi fydde yn pure giam!
(2, 1) 313 Mi weles yr amser cyn i mi ddwad i'r seiat, y baswn i'n torri'i grib o.
(2, 1) 314 Tydw i ddim yn ffeindio fod yr ieir giam yma yn rhyw helynt o ddydwrs, ond just bod 'u wye nhw'n fwy rich.
(2, 1) 315 Ydi'r bwyd yn barod, Barbara?
 
(2, 1) 318 A welsoch chi 'rioed mor ffond yr ydach chi'n mynd o honyn nhw.
(2, 1) 319 Ma nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u penne yn gam.
 
(2, 1) 322 Ia, wir!
(2, 1) 323 Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond rydw i'n teimlo y medrwn i fyta penne pryfed.
 
(2, 1) 325 Bwyd cry' anwedd ydi ham a wye, os cewch chi'r quality.
(2, 1) 326 Wn i ddim sut y mae pobol y trefydd yma yn mentro byta wye.
(2, 1) 327 Wyddoch chi be glywes i Ned 'y nghefnder yn deyd, welodd o a'i lygaid 'i hun un tro mewn ty reit spectol yn Llundain?
 
(2, 1) 329 Wel, ar amser brecwast, mi fydde'r forwyn yn dwad a chryn ddwsin o wye wedi 'u berwi ar ddesgil, ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd, a denne lle bydde'r teulu yn 'u torri nhw un ar ol y llall, ac yn 'u hogle nhw; a'r forwyn yn 'u cario nhw yn 'u hole ffastied y medre hi; ac o'r diwedd hwyrach y caen nhw ddau neu dri allan o'r dwsin yn ffit i'w byta.
(2, 1) 330 A dene oedd yn od, 'doeddan nhw'n meddwl dim byd at y peth,— roeddan nhw yn gneyd hynny bob dydd!
(2, 1) 331 Wel, wfft i'w c'lonne nhw, meddwn inne.
 
(2, 1) 334 Wel ydi, tawn i byth o'r fan yma.
(2, 1) 335 Rhaid i ni hastio; rhaid iti adel y llestri, Barbara.
 
(2, 3) 492 O, mi ddaw o yn y munud, gellwch fod yn dawel.
(2, 3) 493 Mi gawsoch golled fawr wrth golli yr hen 'Sergia Majiar'.
 
(2, 3) 498 Weles i 'rioed ddioni o'r stori ene.
(2, 3) 499 Mae Rhagluniaeth yn gyfalu am bawb ofalith am dano'i hun.
(2, 3) 500 Roedd yma ddyn yn byw yn y gymdogaeth yma ystalwm,—cyn i chi ddwad yma,—a 'roedd o dipyn o grefyddwr hefyd, y dyn mwya di-sut at fyw welis i 'rioed, a mi fydde fynte'n wastad yn son am i ni myddiried yn Rhagluniaeth.
(2, 3) 501 A wyddoch chi lle bu o farw?
(2, 3) 502 Yn wyrcws Treffynnon, poor fellow.
(2, 3) 503 Wel, dewch i mi fesur y'ch troed chi, Miss Hughes bach, i aros i Rhys ddod.
 
(2, 3) 507 Wyddoch chi ddim, Miss Hughes.
 
(2, 3) 510 Wel, y troed arall sy gynoch chi, tw bi shwar!
 
(2, 3) 512 Wel, y machgen i, ddoist ti?
(2, 3) 513 Barbara
(2, 3) 514 'Steddwch, Rhys.
 
(2, 3) 521 Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd.
 
(2, 3) 523 'Sgidie Wil Pont y Pandy, {gellir nodi unrhyw gymeriad lleol}—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da 'i byth o'r fan 'ma!
(2, 3) 524 A 'rwyt ti wedi pendrafynu mynd i'r Bala?
(2, 3) 525 Wyst tí be, mi fydd yn chwith gynnon am danat ti, yn fydd, Barbara? {BARBARA yn modio}Bydd, tw bi shwar.
(2, 3) 526 Fum i 'rioed yn y Bala, a dydw i ddim yn 'nabod neb ono, ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sane, a dynion digon clen ydi'r dynion.
(2, 3) 527 Mi faswn i yn leicio yn anwedd gweld y Llyn y daru dyn hwnnw gered ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi.
(2, 3) 528 Tro garw oedd hwnnw.
(2, 3) 529 Pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y spot.
(2, 3) 530 Mi fydde nhad yn deyd am rwbath reit saff,—"Fod o can sowndied a chloch y Bala".
(2, 3) 531 Just cymer notis o honi hi pan ei di ono.
(2, 3) 532 Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara?
 
(2, 3) 534 Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni.
(2, 3) 535 Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu?
 
(2, 3) 537 O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i
(2, 3) 538 Well gen i William Hughes, Abercwmant, na'r gore o honyn nhw.
(2, 3) 539 Ond dydw i ddim llawer o judge, tw bi shwar.
(2, 3) 540 Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno?
 
(2, 3) 542 Hyhy! Pw ieithoedd, dwed?
 
(2, 3) 544 Hoho! mi gwela hi 'rwan,—rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte?
(2, 3) 545 Riol peth, yn wir.
 
(2, 3) 547 'Roeddwn inne yn meddwl hynny.
(2, 3) 548 le, am yr ieithoedd 'roeddem ni yn son.
(2, 3) 549 Be daru ti galw nhw?
 
(2, 3) 551 Tw bi shwar,—Lladin a Groeg.
 
(2, 3) 553 Iaith pwy, ynte?
 
(2, 3) 555 Ieithoedd pobol wedi marw!
(2, 3) 556 Wel, be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu ieithoedd pobol wedi marw?
(2, 3) 557 Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed?
 
(2, 3) 559 Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth.
(2, 3) 560 Gwneyd sport o hono' i wyt ti, Rhys, fel y bydde Bob dy frawd.
(2, 3) 561 Cymer di ofal.
(2, 3) 562 Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed?
 
(2, 3) 564 Mathew Matic!
(2, 3) 565 Mi glywes son am Ned Matio, ond wn i ddim byd am Mathew, tw bi shwar.
(2, 3) 566 Be ydi hwnnw, dywed?
 
(2, 3) 568 Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs.
(2, 3) 569 Be arall ma nhw yn 'i ddysgu?
 
(2, 3) 571 Eitha peth.
(2, 3) 572 Mae Saesneg yn useful iawn y dyddie yma, a peth digon difyr ydi Hanesiaeth.
(2, 3) 573 James Pwlffordd ydi'r gore glywis i 'rioed am ddeyd stori.
(2, 3) 574 Pan fyddwn i yn arfer mynd i'r tafarne, mi fyddwn yn dotio ato fo, a 'does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na dipyn o hanes.
(2, 3) 575 Pan fydd Barbara a finne wedi anghofio'r bregeth i gyd, mi fydd gennom ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi deyd, yn bydd, Barbara?—{BARBARA yn nodio}.— Tw bi shwar.
(2, 3) 576 Tydw i ddim yn gweld y stiwdents 'ma yn rw helynt am stori chwaith.
(2, 3) 577 Yr ydw i'n gweld William Hughes, Abercwmant, yn llawn top iddyn nhw.
(2, 3) 578 Wyst ti be, mi ddeydodd William stori y tro dwaetha 'roedd o yma, am eneth fach yn marw, anghofia i byth moni hi tra bo chwythiad yno i.
(2, 3) 579 Bydaswn i'n marw ar y clwt, faswn i ddim yn medryd peidio crio pan oedd o yn 'i deyd hi.
(2, 3) 580 Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono?
 
(2, 3) 583 Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns?
(2, 3) 584 Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw?
 
(2, 3) 586 Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano.
(2, 3) 587 Wyst ti be?
(2, 3) 588 Mae o'n taro i meddwl i 'r munud yma fod pob un weles i yn dwad yma o'r College i brygethu a golwg eisio bwyd arno fo, a dydi o ryfedd yn y byd, erbyn i ti ddeyd fel mae nhw'n managio yno.
(2, 3) 589 "Hwya bydd dyn byw, mwya wel, mwya glyw."
 
(2, 3) 591 Wel, na i mo'ch stopio chi bellach.
(2, 3) 592 Aros, dyma ti, gan dy fod di wedi pendrafynu mynd i'r College, os na fydd o'n ormod trafferth gynnot i'w gario, mi gei ddarn o'r norob 'ma a chroeso.
(2, 3) 593 Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn.
 
(2, 3) 595 Wel, wel! Arnat ti mae'r bai.
(2, 3) 596 Mi wyddost fod iti gan' croeso ohono.
(2, 3) 597 Nos dawch.
 
(3, 1) 771 Tw bi shwar!
(3, 1) 772 Ond lle mae Rhys?
 
(3, 1) 778 Sut yr ydach chi, etc?
 
(3, 1) 780 O na, yn siwr; mi fytes i'r bara, a'r golwyth bacyn oedd Barbara wedi roi yn y mhoced i cyn cychwyn.
(3, 1) 781 Mi ges champion o bryd.
(3, 1) 782 Stwff wedi 'i besgi ar datws a blawd haidd, welwch chi.
 
(3, 1) 784 A dene wraig y ty?
(3, 1) 785 Un glen anwedd ydi hi'n edrach.
(3, 1) 786 Mi glywes i James Pwlffordd yn deyd englyn i'r Bala o waith Robin Ddu:
(3, 1) 787 Y Bala aeth, a'r Bala aiff,
(3, 1) 788 A Llanfor eiff yn llyn.
(3, 1) 789 ne rywbeth tebyg i hynne,—hwyrach y'ch bod wedi glywad o, Mr. Williams?
 
(3, 1) 793 Wel, fachgen?
(3, 1) 794 Sut yr wyt ti ers cantoedd â miloedd?
 
(3, 1) 797 Tw bi shwar!
(3, 1) 798 Ond chwech o'r gloch bore heddyw, wel di, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn, mi gymes ffit yn y mhen y down i edrach am danat ti.
(3, 1) 799 Ond ddylies i 'rioed fod y Bala mor bell.
(3, 1) 800 Wyst ti be', mae ene gryn step oddacw yma; a roeddwn i'n meddwl fod ene dren ar hyd y ffordd; ond erbyn dallt, Corwen ydi'r stesion ola.
(3, 1) 801 Ond welest ti 'rioed mor lwcus fum i.
(3, 1) 802 Yng Nghorwen, mi ddaru Mr. Williams fy 'nabod i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngweld i yn y stesion acw, pan oeddat ti'n mynd i ffwrdd.
(3, 1) 803 A mi ges ride efo lot o stiwdents, a mi gawsom mygom reit difyr, ond do, Mr. Williams?
 
(3, 1) 805 Tw bi shwar!
(3, 1) 806 Bechgyn clen ryfeddol yden nhw; ond 'rydech chi'n debyg i'ch gilydd,—yn od felly.
(3, 1) 807 Lle buost ti cy'd, dwad?
(3, 1) 808 Lle 'roeddat ti wrthi ddoe?
 
(3, 1) 810 Trawsfynydd?
(3, 1) 811 Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd?
 
(3, 1) 813 Tw bi shwar!
(3, 1) 814 'Roeddwn inne'n meddwl.
(3, 1) 815 Un garw ydi Morgan Llwyd.
(3, 1) 816 Mi fydda i'n wastad yn deyd, ydawn i'n hapno mynd i ryw drwbwl, mai Morgan Llwyd gymerwn.
(3, 1) 817 Glywsoch chi am y tro hwnnw yn Rhuthyn, Mr. Williams?
 
(3, 1) 819 Naddo?
(3, 1) 820 Wel, mi ddeyda fo i chi,—mae o cyn wired a'r pader.
(3, 1) 821 Wel i chi, 'roedd ene ddyn,—adeg y Seisus oedd hi,—yn cael 'i dreial am ddwyn bacyn,—bacyn, dalltwch,—a 'roedd pawb yn ofni y cawse fo 'i dransportio.
(3, 1) 822 'Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddi arno,—bacyn, cofiwch,—wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio; a'r dyn, druan, wedi pluo Morgan Llwyd i 'myddiffyn o.
(3, 1) 823 Wel i chi, 'roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a 'roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd.
(3, 1) 824 Ond yn y man, mi ddoth tyrn Morgan Llwyd,—a dene fo ati!
(3, 1) 825 Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynnodd iddo,—"Be' oedd o'n feddwl wrth facyn?"
(3, 1) 826 A 'be'r cigydd, "Bacyn ydi 'nhorob,—neu mochyn wedi 'i halltu a sychu,."
(3, 1) 827 "Tw bi shwar," ebe Morgan Llwyd; a mi alwodd y siopwr ymlaen, a mi 'fynnodd iddo fo, "Oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn,—a oedd o wedi halltu a sychu?"
(3, 1) 828 "Nag oedd," 'be'r siopwr.
(3, 1) 829 "Ffals deitment," 'be Morgan Llwyd; a mi 'nillodd y case yn syth!
(3, 1) 830 Un garw ydi Morgan Llwyd.
(3, 1) 831 Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan?
 
(3, 1) 833 Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma!
(3, 1) 834 Wyddoch chi be', fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma; agor y ffenest yne, Rhys.
(3, 1) 835 Dydi o ryfedd yn y byd fod chi'ch dau yn edrach mor llwyd,—does yma lwchyn o wynt.
(3, 1) 836 Waeth i chi fyw mewn bambocs nag mewn room fechan fel hon, ar drws wedi'i gau, a dim ar affeth hon y ddaear yn'i, 'blaw bwrdd a chadeirie a llyfre,— rydach chi'n bound o golli'ch iechyd!
(3, 1) 837 Bydawn i mewn lle fel hyn am ddau ddiwrnod, mî fyddwn farw ar y spot.
(3, 1) 838 Wel, Rhys, sut mae hi'n dwad ymlaen?
(3, 1) 839 Wyt ti'n leicio dy le?
(3, 1) 840 Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed?
 
(3, 1) 843 Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti.
(3, 1) 844 Mae hi'n cael ei thrwblo yn anwedd gan y riwmatis, a phoen yn 'i lode, a mi ges scyffyl ryfeddol i gael dwad yma heddyw.
(3, 1) 845 Mae hi yn cofio atat ti yn ods.
(3, 1) 846 Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain.
 
(3, 1) 848 Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn,—yn ol y meddwl i,—i dre wedi 'i bildio ar ganol cae.
(3, 1) 849 Sut ar affeth hon y ddaear na thorren nhw'r coed ene?
(3, 1) 850 Ydi'r brain ddim yn drwblus weithie, dwed?
(3, 1) 851 Weles i 'rioed o'r blaen res o goed mawr fel coed y Plas ar ganol stryt. Ond 'ddyliwn nad oes gynnoch chi 'run Local Board yma?
 
(3, 1) 853 Erbyn meddwl, wir, Mr. Williams, synnwn i ddim nad ydyn nhw yn ddigon handi ar ddiwrnod ffair i rwymo catel.
(3, 1) 854 Ond mi ddaru nhw yn nharo i yn od pan weles i nhw.
(3, 1) 855 Ond dyma ti, Rhys, wyt ti am 'y nghymyd i dipyn o gwmpas i weld y dre?
(3, 1) 856 Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti amser?
 
(3, 1) 860 Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn.
 
(3, 1) 862 'Molchi! I be wyt ti isio molchi?
(3, 1) 863 Ond wyt ti fel pin mewn papur!
(3, 1) 864 Does yna yr un specyn arnat ti.
(3, 1) 865 Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?
 
(3, 1) 867 Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma.
(3, 1) 868 Ches di ddim bwyd?
 
(3, 1) 870 Rhyd-y-fen?
(3, 1) 871 Lle mae fan honno, dywed?
(3, 1) 872 Ydi hi'n daith?
 
(3, 1) 874 Be, be?
(3, 1) 875 Ydyn nhw'n lowio i brygethwrs fynd i dyfarne yn y wlad ucha yma?
(3, 1) 876 Ond 'does dim harm yn y peth-ynddo'i hun, yn ol y meddwl i; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny.
 
(3, 1) 879 Mae i ti groeso, machgen i.
 
(3, 1) 882 Oes drwg am hynny?
(3, 1) 883 Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala?
 
(3, 1) 887 Hy-hy! a finne'n clwad mai rhai garw oeddach chi am smocio; ond bid a fynno am hynny, chwedl y dyn hwnnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn ni.
(3, 1) 888 Mae gen i eisio gweld tri pheth,—Green y Bala, y Llyn, a'r Gloch.
(3, 1) 889 Rydw i 'n cychwyn.
 
(3, 1) 924 Ydach chi ddim yn dwad, fechgyn?
(3, 1) 925 'Rydach chi'n hir iawn.
 
(3, 2) 941 Wyst ti be?
(3, 2) 942 Mae 'ma lot ryfeddol o honoch chi, a 'rydach chi'n debyg iawn i'ch gilydd, 'blaw y dyn acw a'r trwyn cam.
(3, 2) 943 Ydi o yn biwpyl techar?
 
(3, 2) 961 Maddeuwch i mi, ond mae gwynt y Bala yma 'n gryf iawn.
(3, 2) 962 Mae arna i eisieu cysgu anwedd.
 
(3, 2) 966 Welsoch chi 'rioed fy salach i am ddeyd rhywbath, syr; ond fydda i byth yn leicio bod yn od ac anufudd.
(3, 2) 967 Mi glywes lawer o son am y Bala, syr, a phan ddoth Rhys yma atoch chi, 'roedd i fam o a finne yn ffrindie mawr,—y hi ddaru nwyn i at grefydd, a doeddwn i yn gwybod dim nes iddi hi 'sponio i mi, a gwraig ryfeddol oedd hi.
(3, 2) 968 Mi ddeydis wrthi lawer gwaith, bydase hi yn hapno bod yn perthyn i'r Ranters, y byse hi'n gneyd champion o brygethwr. {cheers}
(3, 2) 969 Hoswch chi, be oeddwn i'n mynd i ddeyd.
(3, 2) 970 O ie, pan ddoth Rhys atoch chi, mi bendrafynnes y down i i weld y Bala rwdro, a heddyw'r bore, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn,—{cheers},—'befi,—Heddyw am dani.
(3, 2) 971 O Gorwen i'r Bala, mi ges ride efo lot o'r prygethwrs ifinc yma, a mi ges fy synnu yn fawr ynyn nhw, syr.
(3, 2) 972 Roeddwn i'n wastad yn meddwl am y students mai rhw bethe a'u penne yn 'u plu oeddan nhw,—wedi hannar dorri'u clonne, ac yn darn lwgu 'u hunen; ond weles i 'rioed fechgyn cleniach,— doeddan nhw ddim yn debyg i brygethwrs, achos 'roeddan nhw'n od o ddifyr.
(3, 2) 973 Wyddoch chi be, syr?
(3, 2) 974 Roedd Mr. Williams,—{gan roddi ei law ar ei ysgwydd},—yn medryd y'ch actio chi i'r blewyn; bydaswn i yn cau fy llygaid, faswn i ddim yn gwybod nad y chi oedd o.
(3, 2) 975 Ond rhaid i mi ddeyd y gwir yn 'u gwynebe nhw, syr,—dydw i ddim yn 'u gweld nhw mor glyfar wrth brygethu.
(3, 2) 976 Mi na i gyfadde mod i'n ddwl, achos yr oeddwn i yn hen yn dwad at grefydd.
(3, 2) 977 A mi na i gyfadde mai ychydig o honyn nhw glywes i yn prygethu, a hwyrach nad oedd y rheiny y rhai gore.
(3, 2) 978 Pan fyddwch chi yn prygethu, syr, yr ydw i yn y'th dallt chi'n champion.
(3, 2) 979 Ond, a deyd y gwir yn onest, fedrwn i neyd na rhawn na bwgan o'r stiwdents fu acw, a fedre Barbara neyd dim ar chwyneb y ddaear o honyn nhw.
(3, 2) 980 Wrth bygethu yn Gymraeg ma'r bechgyn yma yn disgwyl ennill i byfoliaeth, ond ma' Rhys yma yn dweyd wrtha i nad ydach chi ddim yn dysgu Cymraeg yn y Coleg.
(3, 2) 981 Most y piti ydi hynny! achos waeth iddi nhw heb ddysgu ieithodd pobol wedi marw ers cantodd, os na fedra nhw bygethu mewn iaith y medrai pobol i dallt nhw.
(3, 2) 982 Wrach y mod i yn misio hefyd, achos dydw i ddim yn llawer o slaig, tw bi shwar.
(3, 2) 983 A fedra i ddim ond ryw grap ar y llythrena, welwch chi.
(3, 2) 984 Yr ydw i'n synnu mai mewn ty gwâg yr ydach chi'n cadw'r ysgol, a ma'n dda gen i, ar ol i mi y'ch gweld chi, y mod i wedi rhoi hanner sofren i'r dyn bychan hwnnw fu'n casglu at i chi gael ysgol newydd.
(3, 2) 985 Dene un o'r dynion noblia, syr, weles i 'rioed â'm llygad,—faswn i byth yn blino gwrando arno fo.
(3, 2) 986 Roedd o'n deyd mai o'r Bala 'roeddan ni yn cael ceiliogod i ganu, a fydda i byth yn clywed y ceiliogod ifinc acw yn canu ar y buarth heb gofio am 'i air o.
(3, 2) 987 Os ddaru chi sylwi, syr, rhw nâd ddigon rhyfedd fydd y ceiliogod ifinc yn 'i neyd am gryn bedwar mis, yn enwedig os na fydd ene hen geiliog i roi patrwm iddyn nhw.
(3, 2) 988 Ond waeth i chi prun, mae nhw yn dwad bob yn dipyn i diwnio yn nobyl.
(3, 2) 989 Yr ydwi yn cymyd dipyn o interest mewn fowls, syr, —mae Rhys yn gwybod,—{cheers},—a'r cywion casa gen i ydi rheiny na wyddoch chi prun ai iâr ai ceiliog ydyn nhw.
(3, 2) 990 Os na fyddan nhw yn dangos yn o fuan be ydyn nhw, mi fydda yn torri'u penne nhw. {cheers}
(3, 2) 991 Wel, mae yn dda gen i o nghalon ych gweld chi mor gyfforddus, a gobeithio y gwnewch chi fadde i mi am gymyd cymin o'ch hamser chi. {cheers}
 
(3, 2) 993 Be ydi menin y cheers yma, Mr. Williams?
(3, 2) 994 Ddaru mi siarad yn o deidi?
 
(3, 2) 999 Tw bi shwar, syr.
(3, 2) 1000 Roeddwn i wedi meddwl cael gweld yr ysgol pan oeddach chi wrthi.
(3, 2) 1001 Mae cystal gen i a choron mod i wedi cael caniatad i ddod yma,—mi fydd gen i gymin mwy i ddeyd wrth Barbara pan a i adref.
(3, 2) 1002 Diolch yn fawr iawn i chwi, syr, a ph'nawn da 'rwan.
 
(3, 2) 1004 Begio'ch pardwn, syr, oes gynnoch chi ddim ffasiwn beth a matsien yn y'ch poced?
(3, 2) 1005 Wn i ddim sut y dois i oddi cartre heb yr un.
 
(4, 3) 1208 Rhaid i ti styrio, Barbara, a dwad i'r capel heno.
(4, 3) 1209 Wyddost ti fod Wil Bryan yn mynd i gael ei dderbyn yno heno?
 
(4, 3) 1211 Peth od iawn na ddaethai Rhys Lewis i edrach am danat ti.
 
(4, 3) 1213 Dacw fo'n dwad ar y gair i ti.
 
(4, 3) 1215 Digon symol ydi Barbara wir, wel di.
(4, 3) 1216 Wyst ti be, Rhys, mae 'i gweld hi yn sal fel hyn yn codi hireth arna i am Seth.
 
(4, 3) 1219 Mae natur tranne yni hi heno, wel di; ac wrth feddwl am hynny, dene sy'n gneyd Barbara deimlo mor sal heno.
(4, 3) 1220 Mae un o'r moch ola ges i yn colli'i stumog bob amser cyn tranne.
 
(4, 3) 1223 Tw bi shwar.
(4, 3) 1224 Rhaid iti aros i gael paned o de efo fi, os gnei di fy sgiwsio i yn i neyd o,—feder Barbara ddim symud.
 
(4, 3) 1226 Edrych pwy sydd yna, Rhys.
 
(4, 3) 1232 Wel, William, mi 'rwyt ti'n edrych yn dda.
(4, 3) 1233 A mae Sus yn edrach yn reit hapus.
 
(4, 3) 1235 Dydi Barbara ddim fel hi ei hun heno.
(4, 3) 1236 Feder hi ddim symud o'r gader.
(4, 3) 1237 Mae hi cyn wanned a chyw giar.
(4, 3) 1238 Rhaid i chi'ch dau gymeryd rhwbeth at y'ch penne; dowch at y bwrdd, closiwch Sus; dowch, peidiwch bod yn swil.
(4, 3) 1239 Sut mae'r hen bobol, William?
(4, 3) 1240 Hwdiwch, byclwch ati.
(4, 3) 1241 Mae yma ddigon o fwyd fel y mae o.
 
(4, 3) 1243 Ho! y tywydd, debicin i.
(4, 3) 1244 Fydda i'n wastad yn deyd fod y tywydd yn effeithio ar rai pobol.
(4, 3) 1245 Lwc garw na phriododd Barbara mo dy dad, wel di.
(4, 3) 1246 Cyn y prioda i eto,—Sus, 'dwyt ti'n byta dim,—mi ofala i gael gwraig nad ydi'r tywydd ddim yn effeithio ar 'i hiechyd hi.
(4, 3) 1247 Nid am fod gen i ddim yn erbyn Barbara, cofia,—yr ydw i'n ffond iawn o Barbara,—mi feder hi ddeyd hynny, —achos, ar ol colli Seth, does gen i neb ond y ddau fochyn a'r ffowls ene, blaw Barbara.
 
(4, 3) 1252 Barbara, rhaid i ni ladd y mochyn cynffon gwta yna, er mwyn i ni fedru rhoi clamp o ddarn o asen fras iddyn nhw yn wedding present.
(4, 3) 1253 Pryd yr ydach chi yn mynd, William?