Ciw-restr

Rhys Lewis

Llinellau gan Wil (Cyfanswm: 344)

 
(1, 2) 115 Pregethu?
(1, 2) 116 Be ŵyr hwnnw am bregethu?
(1, 2) 117 Ond mae o wrthi yn cabarddilio rhywbeth bob Sul.
 
(1, 2) 122 Fel hyn yr ydw i yn 'i gweld hi, Mari Lewis, —mae hi yn fwy cyfforddus yn yr Eglwys, ond yn fwy saff yn y capel.
(1, 2) 123 Un gwahaniaeth mawr rhwng yr Eglwys a'r capel, Mari Lewis, yw fod pobol yr Eglwys yn meddwl eu hunain yn dda, a phawb yn gwybod eu bod yn ddrwg; a phobol y capel yn meddwl eu hunain yn ddrwg, a phawb yn credu eu bod yn dda, wyddoch.
 
(1, 2) 127 Mae digon o hono i'w gael, on' does, Mari Lewis?
(1, 2) 128 —ond fydda i byth yn leicio cymyd fwy na fy share o ddim, wyddoch.
 
(1, 2) 131 Felly bydd y gaffer acw yn deyd.
 
(1, 2) 133 Ond "yr hen law" acw,—y nhad, —wyddoch.
 
(1, 2) 137 All right.
(1, 2) 138 Y tro nesaf mi galwaf o yn Hugh Bryan, Esq., General Grocer and Provision Dealer, Baker to His Royal Highness yr Hen Grafwr, and——
(1, 2) 139 Aros di, William; yr wyt ti yn mynd yn rhy bell.
(1, 2) 140 Dwyt ti ddim i siarad fel ene.
(1, 2) 141 Mae arna i ofn fod y diafol wedi cael tipyn o afael arnat ti.
(1, 2) 142 Be ddaru mi, Mari Lewis?
(1, 2) 143 Ddaru mi ddim lladd neb, ai do?
 
(1, 2) 145 Pwy ydach chi'n feddwl, Mari Lewis?
(1, 2) 146 Ai y gaffer acw?
(1, 2) 147 Na na i, neno'r anwyl, ddim lladd yr hen law.
(1, 2) 148 Be ddoi o hono i?
(1, 2) 149 Mi fyddwn wedi llwgu.
 
(1, 2) 151 Does yma'r un, mi gymra fy llw.
 
(1, 2) 153 O! yr ydw i'n y'ch dallt chi 'rwan.
(1, 2) 154 Pam na siaradwch yn blaen, Mari Lewis?
(1, 2) 155 Ond dydi pechod yn y'n c'lonne ni i gyd, medde'r hen——y nhad acw.
 
(1, 2) 171 Wn i ddim, ond mae ene un fantais wrth i goliar gael ei gymryd i'r jail.
 
(1, 2) 173 Fedra nhw ddim rhoi y County crop iddo fo, achos mi ddyffeia i nhw i dorri 'i wallt o yn fyrrach nag ydi o.
 
(1, 2) 184 Dydi Bob ddim wedi dwad!
 
(1, 2) 188 Mae'r bechgyn yn deyd y daw o yn siwr efo'r tren nesa.
(1, 2) 189 Ty'd, Rhys, gad i ni fynd i'r stesion, mae hi jest yn amser.
 
(1, 2) 200 Peidiwch a rhoi'ch calon i lawr, Mari Lewis.
(1, 2) 201 Yr ydw' i yn credu y troiff Bob i fyny o rywle toc.
 
(1, 2) 204 Ond doedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mari Lewis, fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, er yr holl hymbygio fu arno fo, ond oedd o?
 
(1, 2) 207 Mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mari Lewis, achos yr ydach mor dduwiol a Job, mi gymra fy llw.
 
(1, 2) 209 Yr ydw i yn deyd y gwir o nghalon; ac yn ol fel yr oedd y pregethwr yn deyd hanes Job, yr ydw i yn y'ch gweld chi'ch dau yn debyg iawn i'ch gilydd.
(1, 2) 210 Mi ddaru chi y'ch dau sticio at y'ch cylars yn first class, ac mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chithe.
 
(1, 2) 213 Lol! Nid lol ydyw at all.
(1, 2) 214 Mi fetia,—hynny ydi, mi gymra fy liw, y bydd hi yn all right arnoch chi yn y diwedd.
 
(1, 2) 216 Miloedd ar filoedd.
 
(1, 2) 218 Wel, ie, mewn ffordd o siarad, wyddoch, Mari Lewis.
(1, 2) 219 Yr ydw i yn siwr fod yno just i gant.
 
(1, 2) 225 'Roedd o'n gweithio stem y dydd.
 
(1, 2) 227 Neb, ond 'y mod i yn meddwl hynny.
 
(1, 2) 229 No sooner said than done.
 
(1, 2) 232 Stand at ease; as you were!
(1, 2) 233 Os bydd y twllwch yn dew iawn, mi torra fo efo nghyllell. {Exit.}
 
(1, 2) 238 Rydan ni wedi colli sport iawn.
 
(1, 2) 240 Dydi o ddim gartre'.
 
(1, 2) 242 Mae ene gryn dair batel wedi bod, a Ned-un-llygad wedi ei gymryd i'r Rowndws; ond mi 'mladdodd fel llew efo'r plisman——
 
(1, 2) 244 Ddim yn mynd adre heno,—wedi deyd wrth y gaffer——
 
(1, 2) 251 Be' ydach chi'n weld ar y nhrwyn i, yr angau pheasant gennoch chi?
 
(2, 2) 349 Holo! yr hen fil blynyddoedd!
(2, 2) 350 Sut sy ers cantoedd?
(2, 2) 351 Roeddwn i just a meddwl dy fod ti wedi mynd i'r nefoedd, ond y mod i yn credu na faset ti ddim yn mynd heb ddeyd goodbye wrth dy hen chum.
(2, 2) 352 Honour bright, rwan!
(2, 2) 353 Ydi'n ffaith dy fod di wedi cael diwygiad, ne ymweliad, ne be maen hw yn 'i alw fo?
(2, 2) 354 Wyst ti be?
(2, 2) 355 'Rydw inne yn ddigon parod i fynd i'r nefoedd, ne' at y sowldiwrs, waeth gen i p'run, achos 'rydw i wedi glân flino gartref acw.
(2, 2) 356 Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug.
 
(2, 2) 358 Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw?
(2, 2) 359 Roedd tipyn o natur colli yno fo yn ddiweddar,—a fault, by the way, not entirely unknown amongst other orders of swperior creatures.
(2, 2) 360 Yr oeddwn i yn credu o hyd y medrwn i ei giwrio fo bydaswn i yn cael amser, er na fues i 'rioed o'r blaen yn trio glanhau cloc, achos mi wyddost nad ydw i ddim yn un dwl at rywbeth felly.
(2, 2) 361 Wel i ti, mi aeth yr hen bobol i ffair Wrexham, with strict injunctions that Will, in the meantime, should diligently apply himself to weighing and wrapping sugar, which occupation the said Will considered unworthy of his admitted abilities; and the said Will, following his more congenial inclination, betook himself to clock cleaning, thinking that thereby he did not waste valuable time by putting the timekeeper to rights.
(2, 2) 362 Ond yr oedd hi yn fwy o job nag oeddwn i wedi feddwl, wel di; achos wrth 'i dynnu o yn dipia, yr oeddwn i yn gorfod gneyd notes o ble yr oedd pob darn yn dwad, ac i bwy 'roedd o yn perthyn.
(2, 2) 363 Ar ol i mi'i lanhau o i gyd, a rhoi tipyn o fenyn ar bob olwyn, screw a bar—doedd ene ddim oil yn y ty—'roedd hi wedi mynd ymhell i'r p'nawn, er i mi fod heb fy nghinio rhag colli amser, ac yr oedd hi yn hen bryd dechre ei roi o wrth 'i gilydd cyn i'r gaffer ddwad adre o'r ffair.
(2, 2) 364 So far,—good.
(2, 2) 365 Ond pan es i ati i roi yr hen wyth niwrnod yn 'i gilydd, ac i gonsyltio fy notes,—welaist ti 'rioed shwn beth,—roeddwn i 'run fath a Mr. Brown, y person, yn ffilio dallt fy notes fy hun!
(2, 2) 366 Ond mi ddysges hyn,—y dyle dyn sy'n mynd i lanhau clocie, 'run fath ag i bregethu, ' fedryd gneyd y job heb notes.
(2, 2) 367 Welest di 'rod'shwn helynt ges i.
(2, 2) 368 Ond rhaid i ti gofio y mod i yn labouring under great disadvaniages, achos cyllell ac efel bedoli oedd y nhŵls i.
(2, 2) 369 'Roeddwn i yn chwys diferol rhag ofn y base yr hen Daith y Pererin yn dwad adre o'r ffair cyn i mi roi yr hen gloc wrth i gilydd.
(2, 2) 370 However i ti, mi weithies fel black, a mi ces o wrth 'i gilydd rywsut.
(2, 2) 371 Ond yr oedd gen i un olwyn yn spâr, na wyddwn i yn y byd mawr lle 'roedd o i fod, na be i neyd â fo, a mi rhois o yn y mhoced. {yn dangos yr olwyn}
(2, 2) 372 Wel, iti, mi 'sodes yr hen wyth yn 'i le, a mi weindies o, a'r peth cynta naeth my nabs oedd taro i lawr hyd i'r gwaelod.
(2, 2) 373 Mi darodd filoedd ar filoedd, a mi 'roedd swn y gloch yn y mhen i wedi ngneyd i reit syn; ac 'roedd o'n gneyd ffasiwn row fel yr oeddwn i yn ofni i'r cymdogion feddwl fod merch y Plas yn mynd i'w phriodi!
(2, 2) 374 Ar ol iddo daro gymin a fedra fo, y peth nesa naeth my nabs oedd stopio yn stond.
(2, 2) 375 Wrth i mi ddal ati i bwtian y pendil yr oedd yr hen wyth yn mynd yn go lew, ond gynted y stopiwn i bwtian, mi stopie fynte fynd.
(2, 2) 376 A deyd y gwir i ti, mi chwerthes nes oeddwn i yn rholio,—fedrwn i ddim peidio bydase rhwfun yn fy lladd i.
(2, 2) 377 So here endeth a true account of the clock-cleaning.
(2, 2) 378 Bul wait a bit.
(2, 2) 379 Toc i ti, fe ddaeth yr hen bererinion adre o'r ffair, a'r peth cynta naeth y mam oedd edrach be oedd y gloch.
(2, 2) 380 Roeddwn i wedi trio gesio faint o'r gloch oedd hi, a rhoi'r bysedd yn o agos i'w lle, bygswn i.
(2, 2) 381 Ond fe spotiodd yr hen wraig fod yr hen gloc wedi sefyll, a medde hi, "Be sy ar yr hen gloc yma, William?"
(2, 2) 382 "Ydi o wedi stopio?," medde finne.
(2, 2) 383 "Ydi, debyg, er's dwyawr, medde hithe, a mi roth bwt i'r pendil.
(2, 2) 384 Yr oeddwn just a marw eisio chwerthin.
(2, 2) 385 "Be-sy-ar-yr-hen-gloc-yma?," medde'r hen wraig wedyn, a mi roth shegfa iddo fo, fel y gweles di rai yn trio deffro dyn meddw wedi cysgu ar ochr y ffordd.
(2, 2) 386 Er mwyn i mi gael esgus i chwerthin, ebe fi, "Yr ydw i'n mawr gredu, mam, fod cwlwm ar 'i berfedd o, run fath a hunter gwr y Plas, a bydd raid i ni ei saethu o neu 'i agor o".
(2, 2) 387 Ond dyma'r forwyn i fewn, ac yn splitio'n syth mod i wedi bod drwy'r dydd yn glanhau yr hen wyth.
(2, 2) 388 Wel, weles di 'rod'shwn row.
(2, 2) 389 Mi ath y mam yn yfflon, a'r gaffer yn gynddeiriog.
(2, 2) 390 Yr ydw i'n mawr gredu y base yr hen law yn leicio rhoi cweir i mi, ond mi wydde na fedra fo ddim.
(2, 2) 391 And Will went to his boots.
(2, 2) 392 Drannoeth mi ddaryn yru am Mr. Spruce, y watchmaker, i roi'r hen wyth niwrnod i fynd; ond mi wyddwn na fedre fo ddim, achos 'roedd un olwyn ym mhoced Wil, a mi gafodd Wil ei revenge.
(2, 2) 393 "Give it up," ebe'r hen fenspring.
(2, 2) 394 Ond pan gaiff y chap yma gefn yr hen bobol am chwe awr, mae o'n bound o neyd gwyrthiau ar yr hen wyth niwrnod.
(2, 2) 395 Wel, dyna fi wedi deyd fy helynt i ti.
(2, 2) 396 Ond honour brigh, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni?
 
(2, 2) 402 Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed.
 
(2, 2) 404 Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis i salach lawer gwaith.
(2, 2) 405 Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o?
 
(2, 2) 407 Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di.
(2, 2) 408 Far from it.
(2, 2) 409 Mae'n dda gan 'y nghalon i dy fod wedi cael tro.
(2, 2) 410 'Rwyt ti am fod yn bregethwr, yn 'dwyt ti.
 
(2, 2) 412 Waeth i ti heb ysgwyd dy ben, pregethwr fyddi di.
(2, 2) 413 Mi wyddwn pan oeddat ti'n kid mai dyna fyddet ti, a mi rof air o gyngor i ti.
(2, 2) 414 Wel, cofia fod yn true to nature.
(2, 2) 415 Ar ol i ti ddechreu pregethu, paid a newid dy wyneb a dy lais a dy got cyn pen y pythefnos.
(2, 2) 416 Os gnei di, mi fydda i'n bound o dy hymbygio di.
(2, 2) 417 Paid a thrio bod yn rhywun arall, ne fyddi di neb.
(2, 2) 418 Wyst ti be, mae ene ambell i bregethwr fel ventriloquist,—pan fydd o yn y ty, mae o 'run fath a fo'i hun; ond pan aiff o i'r pulpud, mi dynget mai rhwfun arall ydi o, a mae y rhwfun arall yn salach na fo'i hun, achos tydi o ddim yn true to nature.
(2, 2) 419 Paid a chanu wrth ymresymu, 'run fath a phydaet ti ddim yn dy sens, achos dydi'r ffaith dy fod ti yn y pulpud ddim yn rhoi licence iti fod yn wirionach nag yn rhywle arall.
(2, 2) 420 Pan ' fyddi di yn bregethwr, a mi 'rwyt yn bound o fod, {RHYs yn ysgwyd ei ben} waeth i ti heb ysgwyd dy ben,—paid a chymryd arnat fod ti yn fwy duwiol nag wyt ti, ne' mi fydd gan blant dy ofn di.
(2, 2) 421 Wyst ti be, 'roedd ene bregethwr yn lodgio yn ein ty ni y Cyfarfod Misol dweutha, a 'roedd gen i ofn o drwy nghalon.
(2, 2) 422 Roedd o'n reit iach, ac yn byta yn riol, ond 'roedd o'n ochneidio fel bydase'r ddannodd arno fo o hyd.
(2, 2) 423 Roedd o 'run fath a bydase geno fo blât arch ar 'i frest o hyd, a 'roeddwn i fel bydaswn i mewn claddedigaeth tra bu o acw.
(2, 2) 424 Mi gymra fy llw y baswn i yn fwy hy ar yr Apostol Paul pe basa fo acw.
(2, 2) 425 Doedd o ddim yn true to nature, wyddost.
(2, 2) 426 Os byddi di eisio rhoi rhyw airs fel yna i ti dy hun, cadw nhw nes byddi yn y ty 'rwyt yn talu rhent am dano fo.
(2, 2) 427 Cofia fod yn honourable.
(2, 2) 428 Pan fyddi di yn lodgio yn rhywle, cofio roi chwech i'r forwyn, bydae gen ti 'run chwech arall, ne chredith hi 'run gair o dy bregeth di.
(2, 2) 429 Os byddi di yn smocio,—a mae y prygethwrs mawr i gyd yn smocio,—cofia smocio dy faco dy hun, rhag iddyn nhw rwmblan ar ol i ti fynd i ffwrdd.
(2, 2) 430 Wrth bregethu, paid a beatio gormod o gwmpas y bush,—ty'd at y point, taro'r hoelen yn 'i phen, a darfod hefo hi.
(2, 2) 431 Cofia fod yn true to nature yn y ty, ac yn y pulpud, ac os na fedri di neyd i bob one yn y capel wrando amat ti, rhoi fyny am bad job, a cher i werthu calico.
(2, 2) 432 Os byddi yn mynd i'r College,—a mi fyddi, mi wn,—paid a bod 'run fath a nhw i gyd.
(2, 2) 433 Mae nhw'n deyd fod y students 'run fath a'u gilydd,—fel lot o postage stamps.
(2, 2) 434 'Treia fod yn exception to the rule.
(2, 2) 435 Paid a gadael i'r blaenoriaid dy gyhoeddi yn wr ieuanc o'r Bala.
(2, 2) 436 Pregetha nes byddan nhw yn dy gyhoeddi 'Rhys Lewis,' heb son o ba le 'rwyt ti'n dwad.
(2, 2) 437 Pan fyddi di yn y college, beth bynnag arall fyddi di'n ddysgu, stydia Nature, Literature, a Saesneg, achos mi daliff rheiny am 'u bwyd iti rw ddiwrnod.
(2, 2) 438 Os byddi di yn dwad yn dy flaen,—ac yr wyt ti yn bound o ddwad,—paid a llyncu poker, ac anghofio dy hen chums.
(2, 2) 439 Paid a gwisgo spectols i dreio rhoi ar ddeall dy fod ti wedi stydio mor galed nes colli dy olwg, ac i gael esgus i beidio nabod dy hen chums, achos mi ŵyr pawb mai fudge ydi'r cwbl.
(2, 2) 440 Paid byth a thori dy gyhoeddiad er mwyn cael chwaneg o bres, neu mi nei fwy o infidels nag o Gristionogion.
(2, 2) 441 Er mwyn popeth, paid a bod yn bregethwr cybyddlyd, a bedyddio dy hun yn ddyn cynnil.
(2, 2) 442 Honour bright! gobeithio na chlywa i byth hynny am danat ti.
(2, 2) 443 Mi fuasa well gen i glywed dy fod wedi mynd ar dy spri, na chlywed dy fod yn gybydd.
(2, 2) 444 Weles i 'rioed gybydd yn altro, ond mi welis ugeinie yn sobri.
(2, 2) 445 Mae o'n stranger than fiction i mi; bydaet ti'n mynd ar dy spri dim ond unwaith, mi dy stopien di i bregethu; ond bydae ti'n mynd y cybydd mwya yn y wlad, mi lowian di bregethu yr un fath.
(2, 2) 446 Old fellow, wyt ti ddim yn meddwl mod i'n rhoi cynghorion go lew i ti, a chysidro pwy ydw i?
(2, 2) 447 Does gan y Cyfarfod Misol mo'r courage i roi cynghorion fel 'rydw i wedi roi.
(2, 2) 448 Ond mi wela dy fod ar frys.
(2, 2) 449 Give us thy paw, and wire in, old boy.
 
(2, 4) 661 Ddaru chi ddim dychryn, Miss Hughes, gobeithio?
(2, 4) 662 Very sorry, begio'ch pardwn.
 
(2, 4) 664 Be' ddyliech chi o Rhys am fynd i'r Coleg?
 
(2, 4) 666 Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti.
 
(2, 4) 669 Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti.
(2, 4) 670 Yr unig beth ddaru diclo tipyn ar 'y ffansi i, oedd yr Hen Grafwr yn insistio am i ti bregethu o flaen y seiat iddyn nhw weld ffasiwn stwff sydd ynnot ti, a'r hen Water Wyrcs yn'i ateb o y basa'r cynllun yn un iawn bydaset ti newydd ddwad o'r Merica, a neb yn gwybod am danat ti.
(2, 4) 671 Dydw i ddim yn gwybod am ddim arall gwerth ei adrodd wrthot ti, heblaw fod yr hen thoroughbred, Tomos Bartley, pan oeddan ni'n codi llaw o d'ochor di, wedi codi ei ddwy law,—'run fath a phictiwr Whitfield, a hynny, 'roeddwn i yn meddwl, fel apology am the unavoidable absence of Barbara Bartley, owing to a severe attack of rheumatism....
(2, 4) 672 'Rydwi wedi dwad yma i gael ymgom difrifol hefo ti, ond rhaid cael Miss o'r ffordd.
(2, 4) 673 Sut?
(2, 4) 674 Mi wn i.
 
(2, 4) 680 Love story sydd gennych yn siwr, Miss Hughes.
(2, 4) 681 Well i chwi aros peth eto?
 
(2, 4) 685 'Nawn ni ddim.
(2, 4) 686 Good night, Miss Hughes, happy dreams.
 
(2, 4) 688 Bravo!
(2, 4) 689 Wel, Rhys, 'rwyt ti wedi cyrraedd y point yr ydw i wedi bod yn edrach am dano ers talwm.
(2, 4) 690 Yr wyt ti 'rwan wedi dewis dy brofession; a choelia fi, mae yn dda gen i feddwl mai pregethwr wyt ti am fod.
(2, 4) 691 Mae nghydwybod i heno dipyn yn fwy tawel.
(2, 4) 692 Mi wn o'r gore mai fi ddaru dy daflu di oddiar y metals, a fum i byth yn hapus nes dy weld ar y metals yn d'ol.
(2, 4) 693 Yr ydan ni wedi trafaelio llawer efo'n gilydd, ond yr ydan ni wedi dwad i'r junction heno.
(2, 4) 694 Y fact o'r matter ydi, rhaid i ni ffarwelio, fel y mae y gân yn deyd, â'r "Dear happy hours, that can return no more."
(2, 4) 695 Yr ydw i am 'i gloewi hi, a hwyrach na wela i monot ti byth eto, a mae ene lwmp yn y ngwddw i wrth i mi ddeyd hynny, mi gymra fy llw.
(2, 4) 696 Glywes di am danom ni acw?
 
(2, 4) 699 Wel, mae hi yn "U P" acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi.
(2, 4) 700 Be ydi'r prospect?
(2, 4) 701 Liquidation by arrangement a starvalion!
(2, 4) 702 Ac am hynny yr ydw i am 'i gloewi hi.
(2, 4) 703 I ble?
(2, 4) 704 Wn i ddim.
(2, 4) 705 Be fedra i neyd?
(2, 4) 706 There's the rub.
(2, 4) 707 Fy nyleit i, fel y gwyddost, oedd dreivio ceffyl, a doedd o ddim odds gen i prun ai dreivio llwyth o fara ai dreivio llwyth o ferched ifinc nawn i; ond wythnos i heddyw, fydd gan Hugh Bryan, Provision Dealer, yr un ceffyl i'w ddreivio!
(2, 4) 708 Wyddost ti be?
(2, 4) 709 Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth.
 
(2, 4) 712 Rhy faith i fynd drostyn nhw, was.
(2, 4) 713 Y nhad yn rhy grasping,—mi drodd i speculatio.
(2, 4) 714 Fifty pounds a month, ddyn bach!
(2, 4) 715 Sut yr oedd yn bosib iddo ddal?
(2, 4) 716 Hwyrach y bydd pobol yn y ngweld i'n selfish wrth skidadlo, ond fedra í ddim dal y disgrace.
(2, 4) 717 A dyna Sus,—poor girl!—fedrwn i ddim edrach yn 'i gwyneb hi.
(2, 4) 718 Mae'n lwc nad oes ene ddim byd definite rhyngom ni.
(2, 4) 719 Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru.
 
(2, 4) 722 Beth ydi hynny, old fellow?
 
(2, 4) 724 Fedra i ddim, Rhys.
(2, 4) 725 Yr oeddwn i wedi meddwl troi dalen newydd ar ol i mi gael fy fling, ond mi gymres ormod o fling.
(2, 4) 726 Rydw i'n ffaelio dwad yn f'ol.
(2, 4) 727 'Rydw i past feeling, mae gen i ofn, 'does dim byd yn effeithio arna i.
(2, 4) 728 Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—"Had I but served my God,"—mi wyddost am y geirie.
 
(2, 4) 730 Waeth iti heb siarad!
(2, 4) 731 Fedri di ddeyd dim newydd wrthai.
(2, 4) 732 Nid wyf ond kid o ran oed, ond yr wyf yn teimlo fy hun yn hen mewn pechod.
(2, 4) 733 Be' nes i? {yn codi}
(2, 4) 734 Laddes i ryw un?
(2, 4) 735 Dim danger!
(2, 4) 736 Eis i ar fy spri ryw dro?
(2, 4) 737 Dim perygl!
(2, 4) 738 Wnes i gam â rhywun?
(2, 4) 739 Nid wyf yn gwybod.
(2, 4) 740 Rhys, raid i ti wneyd yr un o'r pethe mawr yna i gael dy adael ar ol.
(2, 4) 741 Be' nes i?
(2, 4) 742 Dim ond lot o bethe bach, Rhys,—canu comîc songs yn lle emynau Williams ac Ann Griffiths; gwneyd sport o dy hen fam dduwiol ac Abel Hughes; mynd at y billiard table gan amlach nag i'r seiat a'r cyfarfod gweddi.
(2, 4) 743 Yr wyf wedi cymeryd fy fling, ond cymerais ormod o fling, fel yr wyf yn methu dod yn ol.
(2, 4) 744 Yr ydw i yn teimlo yn ddigalon, ac eto, dydw i ddim yn edifeiriol.
(2, 4) 745 Yr ydw i yn teimlo remorse, ond yr un blewyn o edifeirwch!
(2, 4) 746 Os ydw i'n dallt be' ydi edifeirwch.
(2, 4) 747 Ond waeth tewi!
(2, 4) 748 Nos dawch.
(2, 4) 749 A ffarwel.
(2, 4) 750 ~
(2, 4) 751 "It may be for years,
(2, 4) 752 And it may be for ever!"
(2, 4) 753 ~
 
(4, 1) 1024 Wel, yr hen ganfed!
(4, 1) 1025 Ai ti wyt ti, dywed?
 
(4, 1) 1027 Wil Bryan!
(4, 1) 1028 At your service.
(4, 1) 1029 Wyddost ti pwy weles i rwan just?
 
(4, 1) 1031 Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe.
(4, 1) 1032 Ond be ydi'r row?
(4, 1) 1033 O ble yn y byd mawr y doist ti?
(4, 1) 1034 Wyst ti be, rydw i wedi meddwl am danat ti filoedd o weithie, ac wedi bod yn gofyn, tybed fase Rhagluniaeth yn ein tymblo ar draws ein gilydd rywdro.
(4, 1) 1035 Ond tyrd adre hefo fi.
(4, 1) 1036 Does gynnom ni fawr o ffordd i'r crib acw.
(4, 1) 1037 Fyddwn ni 'run dau funud hwy yn mynd heibio'r ty, 65 Gregg Street.
(4, 1) 1038 Mi danghosa i o i ti.
(4, 1) 1039 Tyrd.
 
(4, 2) 1059 Dyma'r crib iti.
(4, 2) 1060 Dydw i ddim wedi dechra cadw bwtler eto.
(4, 2) 1061 Aros di, lle mae'r ganwyll?
(4, 2) 1062 Dyma hi.
(4, 2) 1063 Fase'n well i ni beidio mynd at y ty hwnnw, ond pwy fase'n meddwl y base raid i ti gael mynd i ben y ffenestr?
(4, 2) 1064 Ond be ydi'r row?
(4, 2) 1065 Be ydi meaning of all this?
(4, 2) 1066 Spowtia.
 
(4, 2) 1074 Gwna dy hun gartref tra byddai yn ceisio'r grub yn barod.
(4, 2) 1075 Dacw le i ti 'molchi yn y fan yna, achos chei di ddim byta yn y nhy i heb molchi, a tithe wedi bod yn handlo corff y son of a gun ene.
 
(4, 2) 1077 Wel, mi welaf fod ti'n cymeryd stoc.
 
(4, 2) 1079 Dwad i be?
(4, 2) 1080 I un room?
(4, 2) 1081 'Rydw i'n dal fod o'n true to nature.
(4, 2) 1082 Mae pob creadur 'blaw dyn yn byw mewn un room ar ol iddo adael yr open air, a dydi o ddim ond humbug cael lot o rooms, ond paid di a meddwl mai hard up ydw i, fel y ca i ddangos i ti toc.
(4, 2) 1083 Dywed y gair, te neu goffi?
 
(4, 2) 1085 Same here.
(4, 2) 1086 Daset ti wedi dweyd coffi, does yma ddim yn ty.
(4, 2) 1087 Does dim isio gwell gwraig na'r Iandlady yma, ond mae gen i ofn 'i bod hi yn go ffri hefo nhe i.
(4, 2) 1088 Cyn mynd allan heddyw, mi rois i wybedyn yn y canister ma, a mi gawn weld ydi o yno 'rwan,—edrych di yr ochr yma, a mi edrycha inna yr ochr yna.
(4, 2) 1089 Wyt ti yna?
(4, 2) 1090 'Rwan.
(4, 2) 1091 Gone!
(4, 2) 1092 Dene ti certain proof..
(4, 2) 1093 Ond ama i mae'r bai, hefyd.
(4, 2) 1094 Mae'n debyg fod y wraig yn eitha gonest daswn i yn cloi y cwpwrdd.
(4, 2) 1095 Draw your chair to the table.
(4, 2) 1096 Mi wela fod yna un drawback,—does yma ond un gwpan a sowser; ond am y tro, cymera di y gwpan, a mi gymera inne y sowser.
(4, 2) 1097 Does gen i ddim llefrith chwaith,—ma'r tuberculosis yn enbyd ar y gwartheg yma, ac mae te heb laeth ynddo 'n torri syched yn well lawer, Rhys.
 
(4, 2) 1099 Wel, mi wyddost pan yr es i oddi cartre.
(4, 2) 1100 Wel i ti, mi fu dipyn yn galed arna i tan ges i job i ddreivio cab.
(4, 2) 1101 Mi weithies yn galed, a byw yn gynnil,—a deyd y gwir i it, mi es yn gybydd,—ac yr oeddwn i yn cyfri mhres bob nos.
(4, 2) 1102 Un nosweth, mi ges mod i yn werth £48, heblaw y ceffyl a'r cab, a mi brynnes chwarter o sausage i'm swper; ar ol y swper, yr oeddwn i yn teimlo rwsut yn hapus ac independent.
(4, 2) 1103 Y sausage nath y job, rydw i'n meddwl.
(4, 2) 1104 Mi ddechreuais fwmian canu, a be ddyliet ti oedd y dune?
(4, 2) 1105 "Yr hen flotyn du!"
(4, 2) 1106 A dydw i ddim yn meddwl i neb 'blaw fi gael bendith wrth 'i chanu hi 'rioed.
(4, 2) 1107 Pan ddois i at y geirie,
(4, 2) 1108 Pa sut mae hynt fy mam a'm tad?
(4, 2) 1109 Pa sut mae'r stad yn 'styried?
(4, 2) 1110 mi ges break-down, a mi ddoth hireth sobor arna i, a mi gries lond y mol.
(4, 2) 1111 Doeddwn i ddim wedi 'sgrifennu at yr hen bobol er pan es i oddicartre; a wyddwn i ddim oeddan nhw yn cael bwyd, ne oeddan nhw'n fyw.
(4, 2) 1112 "This is not true to nature," 'be fi, a mi gries spel wedyn, a mi es ati i 'sgrifennu at y gaffer i ofyn oedd o yn fyw, sut yr oedd o'n dwad ymlaen, faint oedd amount 'i failure o?
(4, 2) 1113 A mi rois y llythyr yn y post y noswaith honno.
(4, 2) 1114 Yr oeddwn i ar dân nes cael ateb, a mi ges by return.
(4, 2) 1115 Yr hen wraig oedd wedi'i sgrifennu o, achos 'roedd y nhad, medde hi, yn rhy cut up.
(4, 2) 1116 Ond mi wyddwn mai dodge yr hen wraig oedd hynny, achos dydi'r hen Hugh ddim mor dyner-galon a hi.
(4, 2) 1117 'Roedd yr hen wraig yn crefu fel cripil arna i ddwad adre, ac yn deyd mor dda oedd ganddi glywed oddiwrth ei mab afradlon.
(4, 2) 1118 'Roedd hi yn gneyd mistake yn y fan ene hefyd!
(4, 2) 1119 'Does ene ddim analogy rhwng y Mab Afradlon a fi.
(4, 2) 1120 'Roedd tad y chap hwnnw yn wr bonheddig, a mi roth hanner 'i stad iddo fo, a mi wariodd ynte filoedd o bunnau, a mi ath i dendio ar y moch, a mi ath adre mewn rags!
(4, 2) 1121 'Roedd 'y nhad i wedi torri i fyny, a ches i 'rioed mo'r chance i wario pum punt o'i arian, a ddaru mi ddim lorio fy hun i fynd i dendio ar y moch, a da'i byth adre mewn rags, mi gymra fy llw!
(4, 2) 1122 Does ene ddim analogy at all.
(4, 2) 1123 Wel, £400 oedd failure yr hen law, ac yr oedd y creditors wedi acceptio pum swllt yn y bunt.
(4, 2) 1124 'Roedd o'n dwad yn 'i flaen yn o lew, a just ffansia gyfrwystra 'r hen wraig,—mae hi'n deyd yn y llythyr, "Mae Sus yn ferch ifanc o hyd".
(4, 2) 1125 Fasa'r gaffer byth yn meddwl am tactics fel ene, wyddost.
(4, 2) 1126 Mi effeithiodd hynny yn arw arna i, a mi faswn yn rhoi cymin ag oedd gen i am gipolwg arni hi.
(4, 2) 1127 Ond to make a long story short, mi yrris yn ol i ddeyd nad awn i ddim adre nes bydde nhad wedi talu pob dimai o'i ddyled, a mi ddeydis yr helpiwn i o, a dene sydd yn mynd ymlaen rwan.
(4, 2) 1128 Mae'r cwbl just a chael ei dalu rhyngom ni.
 
(4, 2) 1131 Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir.
 
(4, 2) 1134 Wait till the clouds roll by.
(4, 2) 1135 Stranger things have happened.
(4, 2) 1136 Hwyrach na choeli di mona i; ond mi gymra fy llw, yr ydw i yn credu fod Wil Bryan yn dechreu dwad yn ei ol.
 
(4, 2) 1139 Ddylies i'n siwr mai y got las oedd ene, having run us down to earth.
 
(4, 2) 1141 Never be too sure!
(4, 2) 1142 Rhai garw ydi'r bobbies yma.
(4, 2) 1143 Synnwn i ddim na welwn ni o eto.
(4, 2) 1144 Os daw'r officer yma, be ddeydwn ni wrtho, dywed?
 
(4, 2) 1147 Deyd y gwir!
(4, 2) 1148 Chreda nhw byth mo'r gwir.
(4, 2) 1149 Bydae ni yn deyd mai eisio gweld drwy shutters y ffenestr pwy oedd yn y ty ene hefo'r hen Niclas, wyt ti'n meddwl y coelien nhw ni?
(4, 2) 1150 Dim peryg!
 
(4, 2) 1154 Os ffeindiff y got las ni, mi eiff a ni o flaen His Worship, a mi baliff lot o glwydde am danom ni, a mi gawn 14 days cyn i ti ddeyd Jack Robinson.
(4, 2) 1155 Mi fydd yn go chwith i brygethwr Methodus fod yn y quad, hefyd.
(4, 2) 1156 Mae o'n taro i meddwl i ydi Rhagluniaeth wedi penderfynu i bob un o'ch teulu chi gael y fraint o fynd i'r carchar am spel?
(4, 2) 1157 Roedd dy dad a dy ewythr,—no offence, cofia,—quite at home yno; a dene dy frawd Bob,—un o'r dynion gore allan,—mi gafodd yntau spel; a dyma tithe 'rwan.
(4, 2) 1158 Aros di, fu Paul a Samson,—be oedd 'i enw o, Rhys?—Seilas, ddim mewn durance vile unwaith?
(4, 2) 1159 Wel, yr ydan ni mor ddiniwed ag oedden nhwthe'u dau.
(4, 2) 1160 A sut y daethon nhw allan o'r row?
(4, 2) 1161 Ai nid wrth ganu?
(4, 2) 1162 Wel, mi gana inne nes bydd y lle yn speden, mi gymra fy llw!
 
(4, 2) 1164 Officer, I must give you credit,—you are a smart fellow.
(4, 2) 1165 But I am at a loss to understand what has been the cause of giving us the honour of this visit?
 
(4, 2) 1167 Holo!
(4, 2) 1168 John Jones o Hen Wlad fy Nhadau!
(4, 2) 1169 Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg!
(4, 2) 1170 Cymru Rydd! Cymru Fydd!
 
(4, 2) 1175 To be sure!
(4, 2) 1176 Bydawn i byth yn bren gwely os nad y chi ydi Sergeant Williams.
(4, 2) 1177 Wel, sut yr ydach chi yr hen A 1?
(4, 2) 1178 Take a seat. {Gan estyn ei gadair iddo ac eistedd ar y bocs ei hun.}
 
(4, 2) 1180 Wel, mi fuase'n rhyfedd iawn i mi fod fel neb arall, Sergeant.
(4, 2) 1181 Yr ydych chwi wedi newid yn fawr.
 
(4, 2) 1183 Sylwi 'ron i fod eich trwyn chwi'n gochach lawer nag oedd o.
 
(4, 2) 1187 It never rains but it pours!
(4, 2) 1188 Newydd i ti fod yn gweld corff d'ewythr yn yr Old Bailey, dyma'r newydd yn cyrraedd fod dy dad yn cicio'r bwced mewn private house.
 
(4, 2) 1193 Ie, cyn iddo'i gloewi hi.
 
(4, 2) 1196 Wel, paid a synnu os bydd yours truly yn troi adref yn fuan, achos rydw i yn mawr gredu fod Wil Bryan yn dwad yn ei ol.
 
(4, 3) 1228 Found at last.
(4, 3) 1229 Mi fuon ni acw yn edrach am danat, a mi ddeydodd Miss Hughes dy fod wedi dwad yma.
(4, 3) 1230 And to kill two birds with one stone, drwy ymweld â'r hen thorough-breds, mi ddeuthom yma ar dy ol di.
 
(4, 3) 1234 Wel, Mrs. Bartley, sut yr ydach chi?
 
(4, 3) 1242 Dydi'r gaffer ddim quite up to the knocker heno.
 
(4, 3) 1251 Fel secret, gan ddisgwyl nad eiff o ddim ymhellach, yr ydw i'n deyd wrthoch chi yma fod ene o'r diwedd definite understanding rhwng Sus a minne, ac yn wir ynglŷn â'r cwestiwn yna y daethom i yma i edrach am Rhys.
 
(4, 3) 1254 Mae hynny yn dibynnu ar Rhys yma.
 
(4, 3) 1256 Well, that settles it.
(4, 3) 1257 I will leave it to Sus to name the day.
(4, 3) 1258 Rhys, dyma yr eneth ore fu 'rioed ar y ddaear yma.
(4, 3) 1259 Wyt ti'n cofio mod i'n deyd wrthat ti mod i'n past feeling?
 
(4, 3) 1261 Yr oedd hynny pan oeddwn i'n meddwl fod Sus wedi fy anghofio i.
(4, 3) 1262 Ond pan ddois i adra, a ffeindio fod Sus, fel y deydodd yr hen wraig, yn ferch ifanc o hyd, mi es i edrych am dani, a phan ddalltodd hi mod i yn back-slider, be' ddaru hi ddyliet?
(4, 3) 1263 Nid fel buase llawer o enethod yn gneyd, rhoi y cold shoulder i mi, ond mi fyclodd Sus ati hi, a mi ymresymodd â fi, a mi siaradodd yn ddifrifol a mi.
(4, 3) 1264 Ond oeddwn i ddim yn meddwl am give in.
(4, 3) 1265 Yr oeddwn i wedi sefyll tân yr hen Ddeg Gorchymyn, ac had got the best arnat tithe sydd yn bregethwr Methodus, a doeddwn i ddim yn leicio'r idea o gael fy mowlio allan gan eneth ifanc.
(4, 3) 1266 Ond waeth hynny na chwaneg, mi ddaliodd Sus ati nes y bu raid i mi o'r diwedd throw up my colours, and make an unconditional surrender, ac y mae yn dda gen i ddeyd wrthoch i gyd heno, fod WIL BRYAN O'R DIWEDD WEDI DWAD YN EI OL.