Ciw-restr

Rhywun Wrth y Drws

Llinellau gan Elwyn (Cyfanswm: 117)

 
(1, 0) 26 Mi ddylech chi fynd adre nhad.
(1, 0) 27 Ceisiwch gysgu dipyn.
 
(1, 0) 31 Ie, dowch.
(1, 0) 32 Mi ddo' i efo chi.
 
(1, 0) 38 Ie, mi fasai'n well aros, 'nhad.
 
(1, 0) 77 Do y pâr ifanc sydd eisio cael codi tŷ draw ym Mrynfelin.
 
(1, 0) 83 Roedden nhw'n awyddus iawn i weld y cynllunia' ar unwaith.
 
(1, 0) 248 Be' sy' 'nhad?
 
(1, 0) 251 O'r gora'.
(1, 0) 252 Mi fyddai'n well i titha' wisgo amdanat hefyd Gwyneth.
 
(2, 0) 1902 O mae'n ddrwg gen i, Mr Morris.
 
(2, 0) 1906 Ie wir.
(2, 0) 1907 Piti na fedren ni.
 
(2, 0) 1909 Mae 'nhad yn gwanio'n gyflym.
(2, 0) 1910 Am hynny rydw i'n gofyn ac yn erfyn arnoch chi, 'newch chi sgrifennu gair neu ddau o gymeradwyaeth ar y plania'.
(2, 0) 1911 Rhywbeth i 'nhad ei ddarllen cyn iddo...
 
(2, 0) 1914 Ydych chi wedi edrych arnyn nhw?
 
(2, 0) 1916 A dydyn nhw'n dda i ddim?
(2, 0) 1917 Na finna'n dda i ddim chwaith?
 
(2, 0) 1923 Ah wel.
(2, 0) 1924 Felly mae'n rhaid i mi fynd adre a gadael i 'nhad wybod be' ydych chi'n ei dd'eud.
(2, 0) 1925 Dyna wnes i addo.
(2, 0) 1926 Dyna ydych eisio i mi dd'eud wrth fy nhad cyn iddo farw?
 
(2, 0) 1931 Ga' i'r plania' i fynd efo mi?
 
(2, 0) 1935 Diolch.
 
(2, 0) 1943 O'r gora'.
 
(2, 0) 1945 Ie, rhaid i mi.
 
(2, 0) 1950 Wrth gwrs, maddeuwch i mi.
 
(3, 0) 2861 Roeddwn i wedi addo i'r fforman y g'nawn i.
 
(3, 0) 2864 Nâc ydy.
 
(3, 0) 2866 Roedd hi'n rhy hwyr.
 
(3, 0) 2868 Pan gyrhaeddodd hi roedd o'n anymwybodol.
(3, 0) 2869 Wedi cael strôc.
 
(3, 0) 2872 'Dydy o mo f'angen i ddim mwy.
 
(3, 0) 2874 Mae hi'n eistedd wrth ei wely fo.
 
(3, 0) 2878 Ie, Gwyneth.
 
(3, 0) 2883 Dydych chi erioed yn meddwl g'neud hynny'ch hun?
 
(3, 0) 2888 Rydw i'n deall na fyddwch chi mo' f'angen i yn y dyfodol.
(3, 0) 2889 Ond rydw i'n aros heddiw.
 
(3, 0) 2902 Diolch.
(3, 0) 2903 Ddylwn i fod wedi diolch iddo fo?
 
(3, 0) 2905 Rydw i'n meddwl mai i chi y dylwn i ddiolch.
 
(3, 0) 2908 Ond byddwch yn ofalus, Miss O'Reilly.
(3, 0) 2909 'Dydych chi ddim yn ei nabod o eto.
 
(3, 0) 2913 Diolch iddo fo!
(3, 0) 2914 Y dyn gadwodd fi i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn.
(3, 0) 2915 Y dyn barodd i 'nhad golli ffydd yn fy ngallu i.
(3, 0) 2916 Wnaeth i mi golli ffydd ynof fi fy hun...
(3, 0) 2917 A'r cwbwl dim ond iddo fo...
 
(3, 0) 2921 Iddo fo gael ei chadw hi efo fo.
 
(3, 0) 2924 Ie.
 
(3, 0) 2928 Roeddwn innau yn gwrthod credu hynny hyd heddiw... pan dd'wedodd hi ei hun.
 
(3, 0) 2934 Mi dd'wedodd hi ei fod o wedi meddiannu ei meddwl hi... yn gyfangwbwl.
(3, 0) 2935 Wedi'i orseddu'i hun yn ei holl feddylia' hi.
(3, 0) 2936 Na fedrith hi ddim dianc.
(3, 0) 2937 ... Ei bod hi am aros yma, lle mae o...
 
(3, 0) 2940 Pwy sy'n d'eud?
 
(3, 0) 2942 O, rydw i'n deall.
(3, 0) 2943 Ar ôl hyn fasai hi ddim ond yn rhwystr iddo.
 
(3, 0) 2947 Pam, ynte'?
 
(3, 0) 2949 Dd'wedodd o hynny wrthych chi?
 
(3, 0) 2954 A'r funud y daethoch chi, mi adawodd o iddi hi fynd.
 
(3, 0) 2959 Oes posib mai f'ofn i oedd arno fo drwy'r amser?
 
(3, 0) 2963 Mae'n siŵr ei fod o wedi sylweddoli ers talwm fod gen i rywfaint o allu.
(3, 0) 2964 P'run bynnag, ydych chi ddim yn gweld mai ofn sy' amo fo?
 
(3, 0) 2967 Yn ei ffordd ei hun mae o'n llwfr.
(3, 0) 2968 Isaac Ryan Morris, Contractor!
(3, 0) 2969 Does arno fo ddim ofn dwyn oddi ar bobol eraill,... eu hapusrwydd.
(3, 0) 2970 Fel mae o wedi difetha bywyd 'nhad a finna'.
(3, 0) 2971 Ond pan ddaw hi i ddringo rhyw fymryn o sgaffald, mae'n well ganddo fo 'neud unrhyw beth na hynny.
 
(3, 0) 2973 Welsoch chi hynny?
 
(3, 0) 2977 Mi wn i iddo fo fentro yr un tro hwnnw yn ei fywyd.
(3, 0) 2978 Dim ond un tro.
(3, 0) 2979 Rydyn ni'r dynion ifainc wedi bod yn sôn am y peth.
(3, 0) 2980 Ond 'does 'na 'run gallu ar y ddaear fedrai ei gael o i 'neud hynny eto.
 
(3, 0) 2983 Gawn ni |weld|.
 
(3, 0) 2985 Welwch chi na finna' mo hynny.
(3, 0) 2986 Bendant.
 
(3, 0) 2991 Na, wnaiff o ddim.
(3, 0) 2992 Feiddith o ddim.
(3, 0) 2993 Dyna'r man gwan yn ei gymeriad o... y giaffar, er mor glyfar ydy o... y contractor pwysig.
 
(3, 0) 2998 Mae Mr Morris i lawr yn fan'na efo'r dynion,
 
(3, 0) 3006 Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris?
 
(3, 0) 3011 O'r gora', mi 'na i hynny Mrs Morris.
 
(3, 0) 3236 Oes.
(3, 0) 3237 Band yr Undeb ydy o.
 
(3, 0) 3239 Mi ofynnodd y fforman i mi ddeud wrthych chi 'i fod o'n barod i fynd i fyny efo'r |wreath|.
 
(3, 0) 3270 Miss O'Reilly.
(3, 0) 3271 Welwch chi'r dynion ifainc 'na i lawr yn y stryd?
 
(3, 0) 3273 Y gweithwyr ifainc a'r prentisiaid ydyn nhw, wedi dod i wylio'r bos.
 
(3, 0) 3275 Mae nhw eisio gweld cymaint o ofn arno fo na 'naiff o ddim dringo i ben ei dŷ ei hun.
 
(3, 0) 3278 Mae o wedi'n dal ni i lawr.
(3, 0) 3279 Rŵan, mi gawn ni ei weld o'i hun yn gorfod aros i lawr yn y gwaelod.
 
(3, 0) 3283 Felly wir.
(3, 0) 3284 B'le gwelwn ni o ynte'?
 
(3, 0) 3288 Fo?
(3, 0) 3289 Dyna ydych |chi|'n ei feddwl.
 
(3, 0) 3292 Meddwl, ie.
(3, 0) 3293 Mi fedra' i gredu hynny'n hawdd.
(3, 0) 3294 Ond |fedrith| o ddim.
(3, 0) 3295 Mi gâi bendro... ymhell cyn cyrraedd hanner y ffordd.
(3, 0) 3296 Mi f'asai'n rhaid iddo gropian i lawr ar ei bedwar.
 
(3, 0) 3303 Ond Duw annwyl... fo.
 
(3, 0) 3327 Rhaid iddo droi'n ôl rŵan.
(3, 0) 3328 ... 'Does dim arall amdani.
 
(3, 0) 3345 Ond, mae hyn yn...
 
(3, 0) 3350 Rydw i'n teimlo mod i'n gweld rhywbeth amhosib.
 
(3, 0) 3355 Na, does 'na neb arall.
 
(3, 0) 3358 Does 'na neb yna.
 
(3, 0) 3360 Rhaid mai'r gwynt ydy o, ym mriga'r coed.
 
(3, 0) 3390 Mae'n rhaid ei fod o wedi'i falu'n ddarna'.
(3, 0) 3391 Wedi'i ladd yn y fan.
 
(3, 0) 3394 Fedra' i ddim symud...
 
(3, 0) 3397 Sut mae petha?
(3, 0) 3398 Ydy o'n fyw?
 
(3, 0) 3406 Mae hyn yn ofnadwy.
(3, 0) 3407 Methu ddaru o yn y diwedd.