Ciw-restr

Rhywun Wrth y Drws

Llinellau gan Meredith (Cyfanswm: 78)

 
(1, 0) 23 Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.
 
(1, 0) 25 Mae arna i ofn 'mod i'n mynd yn waeth bob dydd.
 
(1, 0) 28 Mynd i 'ngwely?
(1, 0) 29 Wyt ti am i mi fygu'n lân?
 
(1, 0) 34 Dydw i ddim am fynd odd' 'ma nes y daw o.
(1, 0) 35 Rydw i'n benderfynol o setlo petha' heddiw {yn chwerw} efo fo,... efo'r mistar.
 
(1, 0) 40 Yh. Yh.
(1, 0) 41 Does gen i fawr o amser ar ôl i aros.
 
(1, 0) 85 Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw.
 
(1, 0) 94 Rhywun arall?
(1, 0) 95 Fasech chi'n ystyried gollwng y job rŵan?
 
(1, 0) 101 Mae'r bobol yn iawn.
(1, 0) 102 Mae Elwyn yn eu nabod nhw.
(1, 0) 103 Mae o'n gyfaill i'r teulu; pobol berffaith onest.
 
(1, 0) 110 Ydych chi o ddifri?
 
(1, 0) 113 Ga' i air neu ddau efo chi?
 
(1, 0) 116 Dos di drwodd am funud Gwyneth.
 
(1, 0) 119 Gwna fel rydw i'n d'eud wrthyt ti, 'ngeneth i.
(1, 0) 120 A chau'r drws ar d'ôl.
 
(1, 0) 123 Does arna' i ddim eisio i'r plant druain yma wybod pa mor sâl ydw i.
 
(1, 0) 125 Mi fydd y cwbwl ar ben arna' i reit fuan.
(1, 0) 126 Rydw i'n gwanio bob dydd.
 
(1, 0) 128 Os ca' i.
(1, 0) 129 Diolch.
 
(1, 0) 135 Wel, fel hyn y mae hi, ydych chi'n gweld.
(1, 0) 136 Ynghylch Elwyn, dyna sy'n fy mhoeni fi fwya'.
(1, 0) 137 Be' ddaw ohono fo?
 
(1, 0) 139 Ond dyna'r union beth na fynn o.
(1, 0) 140 Mae o'n teimlo na fedr o aros ddim hwy.
 
(1, 0) 144 Na, na.
(1, 0) 145 Nid dyna sy'n bod.
(1, 0) 146 Ond yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd rhaid i'r hogyn gael cyfle i 'neud rhywbeth ar ei liwt ei hun.
 
(1, 0) 149 Wel, nâc ydw.
(1, 0) 150 Dyna sy'n dorcalonnus.
(1, 0) 151 Rydw i'n dechra' ama' gallu'r hogyn, achos 'dydych chi ddim wedi rhoi'r un gair da iddo fo; ac eto fedra' i yn fy myw lai na theimlo bod yna allu ynddo fo.
(1, 0) 152 Dydy o ddim yn ddidalent, yn fy marn i.
 
(1, 0) 155 Digon 'chydig wyddech chi o'r busnes pan oeddech chi'n gweithio i mi ond ddar'u hynny 'mo'ch rhwystro chi rhag dechra' arni {yn anadlu'n drwm} a'ch gwthio'ch hun i fyny, a dwyn y gwynt o'm hwylia' i a phobol eraill.
 
(1, 0) 157 Rydych chi'n iawn.
(1, 0) 158 Roedd popeth o'ch tu chi.
(1, 0) 159 Ond eto, sut yn eich byw y medrwch chi adael i mi fynd i 'medd heb weld be' fedr Elwyn ei 'neud.
(1, 0) 160 Ac wrth gwrs mi fyddai'n dda iawn gen i eu gweld nhw wedi priodi cyn imi fynd.
 
(1, 0) 163 Nid Gwyneth yn gymaint ag Elwyn.
(1, 0) 164 Mae o'n siarad am y peth bob dydd.
(1, 0) 165 Mae'n rhaid, ydy mae'n rhaid i chi helpu i gael rhyw waith ar ei ben ei hun iddo rŵan.
(1, 0) 166 Mae'n rhaid imi gael gweld rhywbeth y bydd yr hogyn wedi'i 'neud.
(1, 0) 167 Ydych chi'n clywed?
 
(1, 0) 170 Mae ganddo fo gyfle am waith ardderchog y funud yma; job reit fawr.
 
(1, 0) 173 Pe rhoech chi'ch caniatâd.
 
(1, 0) 176 Mi gaiff 'neud y tŷ yna draw ym Mrynfelin.
 
(1, 0) 179 Ond 'does dim llawer o wahaniaeth gennych chi.
 
(1, 0) 184 Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'.
 
(1, 0) 188 B'asen.
(1, 0) 189 Mae o'n nabod y teulu ydych chi'n gweld.
(1, 0) 190 A pheth arall, mae o wedi g'neud plania', ─ o ran 'myrraeth felly, a rhoi amcan o'r gost ac ati...
 
(1, 0) 193 Ydyn.
(1, 0) 194 Dim ond i chi edrych arnyn nhw a rhoi eich caniatâd.
 
(1, 0) 196 Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw.
 
(1, 0) 199 Eu gweld nhw'n wahanol rywsut yr oedden nhw.
 
(1, 0) 202 Galw i'ch gweld chi ddar'u nhw ac ar yr un pryd gofyn a fyddai wahaniaeth gennych chi roi'r gora' i'r gwaith.
 
(1, 0) 205 A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn...
 
(1, 0) 208 Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl.
 
(1, 0) 214 Pam 'nenw'r Tad?
(1, 0) 215 Mae 'na le i fwy nag un, debyg.
 
(1, 0) 221 Felly mi fydd rhaid i mi adael y byd 'ma heb ddim sicrwydd.
(1, 0) 222 Heb lygedyn o lawenydd?
(1, 0) 223 Heb hyder na ffydd yn Elwyn?
(1, 0) 224 Heb weld dim o'i waith o.
(1, 0) 225 Felly mae hi i fod?
 
(1, 0) 229 Ond atebwch yr un cwestiwn yna.
(1, 0) 230 Fydd raid i mi farw mor druenus o dlawd â hynny?
 
(1, 0) 233 Felly y bo hi ynte'.
 
(1, 0) 238 Na fedrwch debyg.
 
(1, 0) 240 Ga'i lasiad o ddŵr, os gwelwch chi'n dda?
 
(1, 0) 243 Diolch.
 
(1, 0) 249 Rho dy fraich i mi.
(1, 0) 250 Gad i ni fynd rŵan.
 
(1, 0) 256 Pnawn da.
(1, 0) 257 Cysgwch yn iawn,... os medrwch chi.