Ciw-restr

Rhywun Wrth y Drws

Llinellau gan Morris (Cyfanswm: 1158)

 
(1, 0) 51 Ydyn nhw wedi mynd?
 
(1, 0) 58 Be. ydych chi'n ei deipio Miss Parry?
 
(1, 0) 60 Gadewch i mi weld.
 
(1, 0) 62 Gwyneth.
 
(1, 0) 65 Pam y byddwch chi'n tynnu eich sbectol bob tro y bydda' i'n cyrraedd?
 
(1, 0) 68 Wnâi hi mo'r tro i fod felly?
 
(1, 0) 71 Gwyneth bach, annwyl.
 
(1, 0) 75 Alwodd rhywun i ngweld i?
 
(1, 0) 79 O'r rheini.
(1, 0) 80 Rhaid iddyn nhw ddisgwyl.
(1, 0) 81 'Dydw i ddim yn berffaith glir ynghylch y plania' eto.
 
(1, 0) 84 O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd.
 
(1, 0) 86 Ydyn, ydyn.
(1, 0) 87 Rydyn ni'n gwybod hynny.
(1, 0) 88 Yn fodlon derbyn beth bynnag a gynigir iddyn nhw debyg.
(1, 0) 89 Cael to uwch eu penna', ac enw, ond dim y medrwch chi ei alw yn gartre'.
(1, 0) 90 Ddim diolch.
(1, 0) 91 Os felly mae hi gadewch iddyn nhw chwilio am rywun arall!
(1, 0) 92 Mi ellwch dd'eud hynny wrthyn nhw y tro nesa' y galwan nhw.
 
(1, 0) 97 B'aswn 'nenw'r Tad.
(1, 0) 98 A gwynt teg ar eu hola' nhw, os felly mae hi i fod.
(1, 0) 99 Mi fyddai hynny'n well na chodi tŷ heb wybod b'le rydw i'n sefyll.
(1, 0) 100 Heblaw hynny, 'chydig iawn a wn i am y bobol yma hyd yn hyn.
 
(1, 0) 104 Gonest, o ddigon gonest.
(1, 0) 105 Nid dyna ydw i'n 'i feddwl.
(1, 0) 106 Duw annwyl, ydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith?
 
(1, 0) 108 'Na i ddim byd â'r bobol ddiarth 'ma.
(1, 0) 109 Mi gân' nhw ofyn i bwy fynnon nhw o'm rhan i.
 
(1, 0) 112 Ydw ar ei phen, am unwaith.
 
(1, 0) 114 Wrth reswm.
 
(1, 0) 124 Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma.
 
(1, 0) 127 Steddwch chi ddim?
 
(1, 0) 131 Dyma chi.
(1, 0) 132 Cymerwch y gadair yma.
(1, 0) 133 A rŵan?
 
(1, 0) 138 Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o.
 
(1, 0) 141 Tewch.
(1, 0) 142 Mae hi'n eitha' arno yma 'ddyliwn i.
(1, 0) 143 Ond os eisio mwy o gyflog mae o, f'aswn i ddim yn gwrthod ystyried...
 
(1, 0) 148 Ydych chi'n meddwl y gwnâi Elwyn rywbeth ohoni hi ar ei ben ei hun?
 
(1, 0) 153 Wel 'dydy o ddim wedi dysgu dim byd yn drwyadl felly, ar wahân i dipyn ar bapur, wrth gwrs.
 
(1, 0) 156 Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi.
 
(1, 0) 162 Hi sy'n dymuno hynny?
 
(1, 0) 169 Fedrwch chi ddim disgwyl i mi dynnu gwaith o'r awyr.
 
(1, 0) 172 Oes?
 
(1, 0) 174 Sut fath o waith ydy o?
 
(1, 0) 177 Hwnnw.
(1, 0) 178 Rydw i'n mynd i godi hwnnw fy hun.
 
(1, 0) 181 Dim gwahaniaeth gen i.
(1, 0) 182 Nâc oes?
(1, 0) 183 Pwy sy'n meiddio d'eud hynny?
 
(1, 0) 185 Twt, twt.
(1, 0) 186 Peidiwch â chymryd sylw o be' fydda' i'n ei dd'eud.
(1, 0) 187 F'asen nhw yn rhoi'r gwaith yna i Elwyn?
 
(1, 0) 191 Ydyn nhw'n hoffi'r cynllunia'?
(1, 0) 192 Y bobol fydd yn mynd i fyw yno.
 
(1, 0) 195 Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw?
 
(1, 0) 197 Oho! gwreiddiol ai e?
(1, 0) 198 Ddim mor hen ffasiwn â'r petha' fydda' i'n eu g'neud debyg.
 
(1, 0) 201 Felly i weld Elwyn y daethon nhw yma pan oeddwn i allan?
 
(1, 0) 204 Rhoi'r gora' iddi.
 
(1, 0) 206 Fi.
(1, 0) 207 Rhoi'r gora' iddi hi, i 'neud lle i'ch mab chi!
 
(1, 0) 209 O, 'run peth yn union.
 
(1, 0) 211 A felly mae hi ai e?
(1, 0) 212 Ydy hi'n bryd i Ryan Morris feddwl am hel ei bac i neud lle i ddynion fengach, y fenga un o bosib?
(1, 0) 213 Mae'n rhaid iddo fynd o'r ffordd... i 'neud lle.
 
(1, 0) 216 O, does 'na ddim cymaint â hynny o le yn sbâr chwaith.
(1, 0) 217 Ond p'run bynnag, riteiria' i ddim byth.
(1, 0) 218 'Ro' i 'mo fy lle i neb os medra' i beidio.
(1, 0) 219 Byth dragywydd hedd, wna i 'mo hynny.
 
(1, 0) 227 Hm.
(1, 0) 228 Peidiwch â gofyn dim mwy rŵan.
 
(1, 0) 232 Rhaid i chi adael y byd 'ma ora' y gellwch chi.
 
(1, 0) 236 Fedrwch chi ddim deall nad oes gen i ddim help.
(1, 0) 237 Rydw i yr hyn ydw i, a fedra' i ddim newid fy natur.
 
(1, 0) 241 Wrth gwrs.
 
(1, 0) 246 Elwyn, gwell iti ddod i nôl dy dad a mynd â fo adre.
 
(1, 0) 253 Rhaid i Miss Parry aros, dim ond am funud.
(1, 0) 254 Mae na lythyr iddi i'w deipio.
 
(1, 0) 258 Pnawn da.
 
(1, 0) 263 Nâc oes wrth gwrs.
 
(1, 0) 265 Gwyneth.
 
(1, 0) 269 Dowch yma.
(1, 0) 270 Ar unwaith.
 
(1, 0) 274 Yn nes.
 
(1, 0) 278 I chi y mae'r diolch am hyn i gyd?
 
(1, 0) 282 Ond waeth i chi gyfaddef rŵan; mae arnoch chi eisio priodi.
 
(1, 0) 285 Felly rydych chi'n teimlo'i bod hi'n bryd i hynny ddod i ben.
(1, 0) 286 Onid fel 'na y mae hi?
 
(1, 0) 290 Gwyneth, mae gennych chi dipyn o feddwl o Elwyn hefyd on'd oes?
 
(1, 0) 292 Ond rŵan 'does gennych chi fawr i'w dd'eud wrtho o gwbwl?
 
(1, 0) 297 Ie, rydych chi'n d'eud hynny ac eto rydych chi am fynd i ffwrdd a ngadael i yma fy hun a'r cwbwl ar f'ysgwydda' i.
 
(1, 0) 300 O na.
(1, 0) 301 Mae hynny'n hollol amhosib.
(1, 0) 302 Os ydy Elwyn am fy ngadael i a dechra' gweithio ar ei ben ei hun, yna, wrth gwrs, mi fydd eich angen chi arno fo.
 
(1, 0) 306 Yna gofalwch gael y syniada' 'ma o ben Elwyn.
(1, 0) 307 Priodwch o ar bob cyfrif.
 
(1, 0) 309 Hynny ydy, peidiwch â gadael iddo roi'r gora' i'w swydd dda yma achos mi alla' i eich cadw chitha' wedyn, Gwyneth annwyl.
 
(1, 0) 313 Achos fedra' i ddim g'neud heboch chi ydych chi'n gweld.
(1, 0) 314 Mae'n rhaid i mi eich cael chi efo mi bob dydd.
 
(1, 0) 318 Gwyneth.
(1, 0) 319 Gwyneth.
 
(1, 0) 324 Codwch, bendith y Tad i chi.
(1, 0) 325 Rydw i'n meddwl i mi glywed rhywun!
 
(1, 0) 334 O chi sy' 'na 'nghariad i?
 
(1, 0) 337 Ddim o gwbwl.
(1, 0) 338 Mae gan Miss Parry lythyr byr i'w deipio, dyna'r cwbwl.
 
(1, 0) 340 Be' sy' Gladys?
 
(1, 0) 344 Hm.
(1, 0) 345 Ydy'r meddyg eisio 'ngweld i'n arw?
 
(1, 0) 349 Ie debyg.
(1, 0) 350 Wel gofynnwch iddo fo aros am funud.
 
(1, 0) 352 'Ddo' i wedyn.
(1, 0) 353 Toc, fy nghariad i.
(1, 0) 354 Reit fuan.
 
(1, 0) 360 Nâc ydy, ddim o gwbwl.
(1, 0) 361 Ddim mwy nag arfer beth bynnag.
(1, 0) 362 Ond mynd fyddai ora' i chi rŵan, p'run bynnag Gwyneth.
 
(1, 0) 366 A mi 'newch chi ymorol bod y mater yna wedi'i setlo i mi?
(1, 0) 367 Glywsoch chi?
 
(1, 0) 369 Mae'n rhaid i mi gael setlo'r peth, cofiwch: yfory, ddim hwyrach.
 
(1, 0) 373 Ei thorri?
(1, 0) 374 Ydych chi o'ch co'?
(1, 0) 375 F'asech chi'n meddwl am y fath beth?
 
(1, 0) 381 Ond Duw a'm helpo i!
(1, 0) 382 Be' am Elwyn wedyn?
(1, 0) 383 Elwyn sydd gen i...
 
(1, 0) 387 Nâc e.
(1, 0) 388 Nâc e, wrth gwrs.
(1, 0) 389 Dydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith?
(1, 0) 390 Wrth gwrs chi sydd arna' i eisio ei chadw yn fwy na dim, Gwyneth.
(1, 0) 391 Ond am yr union reswm hwnnw rhaid i chi rwystro Elwyn rhag rhoi'r gora' i'w swydd.
(1, 0) 392 Dyna ni rŵan, dyna ni.
(1, 0) 393 Ewch adre rŵan.
 
(1, 0) 396 Nos dawch.
 
(1, 0) 398 O 'rhoswch am eiliad.
(1, 0) 399 Ydy cynllunia' Elwyn yma?
 
(1, 0) 401 Wel ewch i chwilio amdanyn nhw i mi ynte'.
(1, 0) 402 Hwyrach y medra' i daro golwg arnyn nhw wedi'r cwbwl.
 
(1, 0) 405 Er eich mwyn chi Gwyneth f'anwylyd.
(1, 0) 406 Rŵan, gadewch i mi eu cael nhw ar unwaith os gwelwch chi'n dda.
 
(1, 0) 410 Da iawn.
(1, 0) 411 Rhowch nhw ar y bwrdd yn fan 'na.
 
(1, 0) 416 O mi fydda' i'n g'neud hynny bob amser.
(1, 0) 417 P'nawn da, Gwyneth bach annwyl.
 
(1, 0) 419 Ewch, ewch rŵan.
 
(1, 0) 424 Wel, ynte'; dowch i mewn yma.
 
(1, 0) 429 Do, un byr oedd o.
 
(1, 0) 431 'Gewch chi fynd rŵan Miss Parry.
(1, 0) 432 Dowch yn gynnar yfory os gwelwch chi'n dda.
 
(1, 0) 437 Ydy wir.
(1, 0) 438 Mae hi'n ddefnyddiol iawn mewn llawer modd.
 
(1, 0) 441 Mae hi wedi cael digon o brofiad yn ystod y ddwy flynedd ddwaetha' 'ma.
(1, 0) 442 A mae hi mor ddymunol a chymwynasgar ym mhob modd.
 
(1, 0) 445 Ydy, mae o.
(1, 0) 446 Yn enwedig os nad ydy dyn yn arfer cael rhyw lawer o hynny.
 
(1, 0) 449 Na fedraf, wrth gwrs, Gladys annwyl.
(1, 0) 450 Maddeuwch i mi.
 
(1, 0) 457 Ydych chi ar frys Doctor?
 
(1, 0) 459 Ga' i sgwrs bach efo chi?
 
(1, 0) 461 Gadewch i ni eistedd i lawr ynte'.
 
(1, 0) 464 D'wedwch i mi, ddar'u chi sylwi bod yna rywbeth yn rhyfedd yn Gladys?
 
(1, 0) 466 Ie, yn ei hymddygiad ata' i.
(1, 0) 467 Ddar'u rhywbeth eich taro chi?
 
(1, 0) 470 Wel?
 
(1, 0) 472 Ai dyna'r cwbwl?
(1, 0) 473 Rydw i wedi sylwi ar hynny fy hun.
 
(1, 0) 475 Be'?
 
(1, 0) 477 Nâc ydy siŵr.
(1, 0) 478 Rydych chi'n iawn ynglŷn â hynny ddyliwn, a Gladys hefyd.
(1, 0) 479 Ond mae unrhyw newid yn amhosib.
 
(1, 0) 482 Rhywun rywun, fasai'n ei gynnig ei hun.
(1, 0) 483 Ddim diolch; wnâi hynny byth 'mo'r tro i mi.
 
(1, 0) 487 Wel, bron na dd'wedwn i, 'does 'mo'r help.
(1, 0) 488 Rhaid i mi gadw Gwyneth Parry.
(1, 0) 489 Fedrai neb arall gymryd ei lle hi.
 
(1, 0) 492 Na fedrai; neb.
 
(1, 0) 496 Ar bob cyfri'.
 
(1, 0) 498 Oes wir.
(1, 0) 499 Does dim gronyn o amheuaeth ynghylch hynny... ond...
 
(1, 0) 501 Ie.
(1, 0) 502 Be' wedyn?
 
(1, 0) 505 Oho!
 
(1, 0) 508 Nâc oes.
 
(1, 0) 510 Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun.
 
(1, 0) 512 Do mi fûm i.
 
(1, 0) 514 O do, 'nâ' i ddim gwadu.
 
(1, 0) 517 Na, dim o gwbwl o'm hochor i.
 
(1, 0) 519 Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor.
 
(1, 0) 521 Digon gwir.
(1, 0) 522 A chyn belled â hynny... {gostwng ei lais} mewn ffordd... dydy Gladys ddim ymhell iawn o'i lle efo'i greddf fel rydych chi'n galw'r peth.
 
(1, 0) 526 Dr Hughes rydw i am dd'eud stori ryfedd wrthych chi os leciwch chi wrando ami hi.
 
(1, 0) 528 O'r gora' ynte'.
(1, 0) 529 Rydych chi'n cofio, mae'n siŵr, i mi gymryd Owen Meredith a'i fab i weithio i mi wedi i fusnes yr hen frawd fynd i'r gwellt.
 
(1, 0) 531 Mae'r ddau yma, mewn gwirionedd, yn ddynion clyfar.
(1, 0) 532 Mae gan bob un ohonyn nhw, allu, yn ei ffordd ei hun.
(1, 0) 533 Ond mi gymerodd y mab yn ei ben i addo priodi, a'r peth nesa', wrth gwrs, oedd ei fod o eisio priodi, a dechra' adeiladu ar ei ben ei hun.
(1, 0) 534 Fel 'na mae'r bobol ifainc yma i gyd.
 
(1, 0) 537 Yn hollol.
(1, 0) 538 Ond, wrth gwrs, roedd hynny yn d'rysu fy nghynllunia' i.
(1, 0) 539 Achos roedd arna' i eisio Elwyn fy hun a'r hen ŵr hefyd.
(1, 0) 540 Mae o'n dda ofnadwy efo mathemateg, clandro straen pwysa' ac ati.
 
(1, 0) 542 Yn bendant.
(1, 0) 543 Ond roedd Elwyn yn benderfynol o ddechra' gweithio iddo'i hun.
(1, 0) 544 'Doedd wiw sôn am ddim arall.
 
(1, 0) 546 Ydy.
(1, 0) 547 Mi dd'weda' i wrthych chi sut y digwyddodd hynny.
(1, 0) 548 Ryw ddiwrnod, mi ddaeth yr hogan ma, Gwyneth Parry, i'w gweld nhw ar ryw neges neu'i gilydd.
(1, 0) 549 'Doedd hi erioed wedi bod yma cyn hynny.
(1, 0) 550 A phan welais i gymaint yr oedd y ddau wedi gwirioni am ei gilydd, mi drawodd arna' i; petawn i ddim ond yn medru ei chael hi i'r swyddfa yma, yna efallai y b'asai Elwyn yn aros hefyd.
 
(1, 0) 552 Ie, ond ar y pryd, ddwedais i ddim gair o'r hyn oedd ar fy meddwl i.
(1, 0) 553 Wnes i ddim byd ond aros ac edrych arni hi a dal i feddwl yn galed mor braf fyddai ei chael hi yma.
(1, 0) 554 Yna siarad dipyn efo hi yn gyfeillgar... ynghylch hyn a'r llall.
(1, 0) 555 Wedyn mi aeth.
 
(1, 0) 557 Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi.
 
(1, 0) 559 Ynghylch yr union beth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano fo.
(1, 0) 560 Ond 'doeddwn i ddim wedi sôn gair am y peth.
 
(1, 0) 562 Oedd.
(1, 0) 563 On'd oedd o?
(1, 0) 564 A wedyn roedd hi eisio gwybod beth oedd hi i'w 'neud yma, a fyddai hi'n iawn iddi hi ddechra'r bore wedyn ac ati.
 
(1, 0) 566 Dyna ddaeth i'm meddwl inna' i gychwyn.
(1, 0) 567 Ond nid dyna oedd.
(1, 0) 568 Roedd hi i'w gweld yn llithro i ffwrdd yn llwyr oddi wrtho fo unwaith y daeth hi yma ata' i.
 
(1, 0) 570 Do'n gyfangwbwl.
(1, 0) 571 Os digwydd imi edrych ami hi pan fydd hi a'i chefn ata' i mi fedra' i dd'eud ei bod hi'n synhwyro hynny.
(1, 0) 572 Mi fydd yn crynu ac yn cynhyrfu y munud y bydda' i'n mynd yn agos ati hi.
(1, 0) 573 Be' 'ddyliech chi o hyn 'na?
 
(1, 0) 576 Ond be' am y peth arall?
(1, 0) 577 Ei bod hi'n credu 'mod i wedi d'eud wrthi yr hyn na wnes i ddim ond ei ddymuno a'i ewyllysio ynof fi fy hun; yn ddistaw oddi fewn.
(1, 0) 578 Fedrwch chi egluro hyn 'na Doctor Hughes?
 
(1, 0) 580 Roeddwn i'n siŵr na 'naech chi ddim; dyna pam yr ydw i wedi bod yn anfodlon siarad am y peth o'r blaen.
(1, 0) 581 Ond yn y pen draw, mae o'r teimlad annifyrra dan haul i mi.
(1, 0) 582 Dyma fi'n gorfod dal ati i gymryd arnaf bob dydd...
(1, 0) 583 A mae o'n bechod trin yr hogan fel 'na, druan ohoni.
 
(1, 0) 585 Ond fedra' i 'neud dim arall.
(1, 0) 586 Achos os rhed hi i ffwrdd yna bydd Elwyn yn mynd hefyd.
 
(1, 0) 588 Naddo.
 
(1, 0) 590 Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi.
 
(1, 0) 592 Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr.
 
(1, 0) 594 Ie.
(1, 0) 595 A mae hynny bob amser yn help i dawelu dipyn ar feddwl dyn.
(1, 0) 596 Mae rhywun yn cael ei wynt ato am ysbaid, ydych chi'n gweld?
 
(1, 0) 601 Wel, wel, wel.
(1, 0) 602 Soniwn ni ddim mwy am y peth ynte'.
 
(1, 0) 605 Rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi fy nhynnu i allan reit ddel, debyg gen i Doctor?
 
(1, 0) 609 Dowch.
(1, 0) 610 Allan â hi, achos rydw i'n ei gweld hi fel haul, wyddoch chi.
 
(1, 0) 613 Eich bod chi wedi bod yn cadw llygad arna' i'n slei.
 
(1, 0) 616 Am eich bod chi'n meddwl 'mod i...
 
(1, 0) 618 Wel twt, dam, rydych chi'n meddwl yr un peth â Gladys amdana' i.
 
(1, 0) 621 Mae hi wedi dechra' meddwl 'mod i'n, 'mod i'n... sâl.
 
(1, 0) 627 Mae Gladys wedi dod i'r penderfyniad 'mod i wedi d'rysu.
(1, 0) 628 Dyna be' mae hi'n ei feddwl.
 
(1, 0) 631 Ydy ar fy ngwir.
(1, 0) 632 Fel 'na mae petha', coeliwch chi fí.
(1, 0) 633 A mae hi wedi medru'ch perswadio chitha' i gredu'r un peth; yn bendifadda' Doctor.
(1, 0) 634 Rydw i'n ei weld o ar eich gwyneb chi mor glir â dim.
(1, 0) 635 Fedrwch chi 'mo 'nhwyllo i mor hawdd, cofiwch.
 
(1, 0) 639 Ddar'u chi ddim?
(1, 0) 640 O ddifri?
 
(1, 0) 644 Chynghorwn i mohonoch chi i 'neud hynny.
(1, 0) 645 Ydych chi'n gweld, efallai nad ydy hi ymhell iawn o'i lle yn meddwl peth felly.
 
(1, 0) 649 Wel, wel Doctor annwyl, rhaid i ni roi'r gora' i siarad am y peth.
(1, 0) 650 Waeth i ni gytuno i anghytuno.
 
(1, 0) 652 Ond edrychwch yma rŵan Doctor; hm...
 
(1, 0) 654 Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen...
 
(1, 0) 656 Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni?
 
(1, 0) 659 Nâc e, wrth gwrs.
(1, 0) 660 Gwared y gwirion, meddyliwch am funud.
(1, 0) 661 Isaac Ryan Morris, adeiladwr a datblygwr pwysica'r ardaloedd yma.
(1, 0) 662 Mae gen i le mawr i fod yn ddiolchgar.
 
(1, 0) 666 Ffodus, o do.
(1, 0) 667 'Does gen i ddim lle i gwyno am hynny.
 
(1, 0) 670 Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch.
 
(1, 0) 672 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg.
 
(1, 0) 674 Y ddau beth efo'i gilydd.
 
(1, 0) 679 Ydy, ond dyna'r union beth sy'n peri cymaint o ofn i mi.
 
(1, 0) 682 Mae'n ddychryn i mi, yn ddychryn i mi bob awr o'r dydd.
(1, 0) 683 Achos, yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd fy lwc i'n troi, welwch chi.
 
(1, 0) 687 Y genhedlaeth newydd!
 
(1, 0) 691 Bydd fy lwc yn troi.
(1, 0) 692 Rydw i'n gwybod hynny.
(1, 0) 693 Mi glywa' i'r diwrnod yn dod yn nes.
(1, 0) 694 Mi ddaw i feddwl rhywun neu'i gilydd i dd'eud: "Rhowch gyfle i |mi|," a wedyn bydd y lleill i gyd yn rhuthro ar ei ôl, yn crochlefain ac yn ysgwyd eu dyrna' a gweiddi arna' i "G'newch le, g'newch le, gnewch le!"
(1, 0) 695 Bydd, gewch chi weld Doctor.
(1, 0) 696 Yn fuan mi fydd y to ifanc yn dod i gnocio ar fy nrws i...
 
(1, 0) 699 Pan ddôn nhw, dyna ddiwedd Isaac Ryan Morris, yr adeiladwr wedyn.
 
(1, 0) 701 Be' oedd na?
(1, 0) 702 Glywsoch chi ddim byd?
 
(1, 0) 705 Dowch i mewn.
 
(1, 0) 715 Sut ydych chi?
 
(1, 0) 718 Ydw, rhaid i mi gyfadde'... am funud...
 
(1, 0) 735 Heno y daethoch chi i'r dre 'ma?
 
(1, 0) 739 O'Reilly, O'Reilly ydy'ch enw chi?
 
(1, 0) 742 Rhaid mai merch y doctor draw ym Mryn Padarn ydych chi felly?
 
(1, 0) 745 O wel.
(1, 0) 746 Rhaid ein bod ni wedi cyfarfod pan oeddwn i yno yn codi tŵr ar yr hen eglwys.
 
(1, 0) 749 Wel, mae dipyn go lew o amser ers hynny.
 
(1, 0) 752 Rhaid nad oeddech chi ond plentyn bach yr adeg honno f'aswn i'n meddwil.
 
(1, 0) 758 Dydych chi'n nabod neb yma chwaith?
 
(1, 0) 761 O, rydych chi'n ei nabod hitha' felly?
 
(1, 0) 764 O, i fyny yno.
 
(1, 0) 768 Rhyfedd na f'asai hi wedi sôn.
 
(1, 0) 775 Mi fedrwn ni drefnu hynny rydw i'n siŵr.
 
(1, 0) 779 O mi ofalwn ni am hynny.
(1, 0) 780 Rŵan mi a' i i dd'eud wrth fy ngwraig.
 
(1, 0) 782 le, dyna chi.
(1, 0) 783 A dowch yn eich ôl wedyn.
 
(1, 0) 788 Sut felly?
 
(1, 0) 791 Do.
(1, 0) 792 Ond mewn ffordd wahanol iawn i'r un oedd gen i mewn golwg.
 
(1, 0) 797 Gladys, dowch yma os gwelwch chi'n dda.
(1, 0) 798 Dyma ffrind i chi, Miss O'Reilly.
 
(1, 0) 805 Newydd gyrraedd mae Miss O'Reilly.
(1, 0) 806 Mi f'asai hi'n hoffi aros noson yma.
 
(1, 0) 809 Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld.
 
(1, 0) 816 Fedrwn ni ddim rhoi un o stafelloedd y plant iddi hi?
(1, 0) 817 Mae'r rheini yn barod eisoes.
 
(1, 0) 827 Mae yma dair yn y tŷ yma.
 
(1, 0) 830 Na 'does yma'r un plentyn.
(1, 0) 831 Ond rŵan mi gewch chi fod yn blentyn yma am dipyn.
 
(1, 0) 836 Ie, rydych chi wedi blino'n arw reit siŵr.
 
(1, 0) 839 Fyddwch chi'n breuddwydio'n aml yn y nos?
 
(1, 0) 841 Am be' y byddwch chi'n breuddwydio amla'?
 
(1, 0) 846 Ydych chi'n chwilio am rywbeth?
 
(1, 0) 850 Twt, twt.
(1, 0) 851 G'newch ar bob cyfri.
 
(1, 0) 853 Nac e.
(1, 0) 854 F'ysgrifenyddes i.
 
(1, 0) 857 Wrth gwrs.
 
(1, 0) 859 Ie.
 
(1, 0) 861 Na, sengal ydy hi.
 
(1, 0) 863 Ond mae hi'n mynd i briodi reit fuan, rydw i'n meddwl.
 
(1, 0) 865 Ond fydd hynny ddim yn braf i mi achos fydd gen i neb i f'helpu i wedyn.
 
(1, 0) 867 Hwyrach y b'asech chi yn aros yma fel ysgrifenyddes?
 
(1, 0) 875 Siŵr iawn.
(1, 0) 876 Yn gynta' peth mi fyddwch eisio mynd rownd y siopa' i brynu dillad newydd debyg?
 
(1, 0) 879 O, felly wir.
 
(1, 0) 882 Na chesus na phres felly!
 
(1, 0) 884 Wel dyna hogan.
(1, 0) 885 Rydw i'n hoffi hyn'na ynoch chi.
 
(1, 0) 887 Hyn 'na ymhlith petha' eraill.
 
(1, 0) 889 Ydy'ch tad yn dal yn fyw?
 
(1, 0) 891 Rydych chi'n meddwl astudio yma hwyrach?
 
(1, 0) 893 Ond mi fyddwch yn aros am dipyn?
 
(1, 0) 897 Wel?
 
(1, 0) 899 Fy ngho' i'n ddrwg.
(1, 0) 900 Ddim hyd y gwn i.
 
(1, 0) 903 I fyny ym Mryn Padarn yna?
 
(1, 0) 905 'Doedd yno ddim byd o bwys hyd y gwn i.
 
(1, 0) 911 O do.
(1, 0) 912 Anghofia' i 'mo'r diwrnod hwnnw'n hawdd.
 
(1, 0) 916 Drwg?
 
(1, 0) 919 A! Ie, y baneri rheini.
(1, 0) 920 Rydw i'n cofio'r rheini, mi ellwch fentro.
 
(1, 0) 924 Roeddwn i'n g'neud hynny bob amser ers talwm; mae o'n hen arferiad.
 
(1, 0) 928 Ie, ie, ie.
(1, 0) 929 Mi allai hynny fod wedi digwydd yn hawdd achos roedd yno un g'nawes bach, yn ei ffrog wen, yn mynd trwy'i phetha'n ofnadwy, ac yn sgrechian cymaint ama' i...
 
(1, 0) 934 A roedd hi'n codi'i law a chwifio'i baner gymaint nes yr oeddwn i'n teimlo dipyn o bendro wrth edrych arni hi.
 
(1, 0) 938 Rydw i'n siŵr o hynny rŵan.
(1, 0) 939 Mae'n rhaid mai chi oedd hi.
 
(1, 0) 946 Sut roeddech chi'n medru bod mor siŵr nad oedd arna i...?
 
(1, 0) 952 Canu?
(1, 0) 953 Wnes i ganu?
 
(1, 0) 956 Chanais i erioed nodyn yn fy mywyd.
 
(1, 0) 965 Y peth mawr?
 
(1, 0) 968 Oes wir.
(1, 0) 969 D'wedwch ychydig bach i'm hatgoffa i o hynny hefyd.
 
(1, 0) 971 Ydw.
(1, 0) 972 Rhaid mai'r un pnawn oedd hi, achos mi es i odd'no'r bore wedyn.
 
(1, 0) 974 Rydych chi'n iawn Miss O'Reilly.
(1, 0) 975 Mae'n syndod gymaint o argraff y mae'r manion yma wedi'i 'neud arnoch chi.
 
(1, 0) 979 Oeddech chi ar eich pen eich hun?
 
(1, 0) 982 Nac e debyg.
 
(1, 0) 984 'Dydw i ddim yn ama' nad oeddech chi, Miss O'Reilly.
(1, 0) 985 A pheth arall, roeddwn i'n teimlo mor rhydd a llon y diwrnod hwnnw.
 
(1, 0) 988 Bobol annwyl.
(1, 0) 989 Dd'wedais i hynny hefyd?
 
(1, 0) 994 le, wel.
(1, 0) 995 Ar ôl cinio da, fydd dyn ddim yn dadla' ynghylch rhyw geiniog neu ddwy.
(1, 0) 996 Ond, ddar'u i mi dd'eud hyn 'na i gyd, o ddifri'?
 
(1, 0) 999 Wel, be' oedd o?
 
(1, 0) 1001 Enw hyfryd iawn wir.
 
(1, 0) 1003 Rydw i'n siwr nad hynny oedd fy mwriad i.
 
(1, 0) 1005 Be' ar y ddaear wnes i wedyn?
 
(1, 0) 1009 Ol reit.
(1, 0) 1010 Rhowch ryw awgrym bach i mi, a wedyn, efallai....
(1, 0) 1011 Wel?
 
(1, 0) 1015 Wnes i?
 
(1, 0) 1018 Rŵan, mewn difri', Miss O'Reilly...
 
(1, 0) 1021 Ydw.
(1, 0) 1022 Rydw i'n gwadu'r cwbwl.
 
(1, 0) 1028 Miss O'Reilly...
 
(1, 0) 1030 Peidiwch â sefyll fel delw yn fan 'na.
(1, 0) 1031 Rhaid eich bod chi wedi breuddwydio'r cwbwl.
 
(1, 0) 1033 Rŵan, gwrandewch.
 
(1, 0) 1036 Neu...!
(1, 0) 1037 'Rhoswch am funud.
(1, 0) 1038 Ma 'na rywbeth wrth wraidd hyn i gyd, mi ellwch fentro.
 
(1, 0) 1041 Mae'n rhaid fy mod i wedi |meddwl| hyn 'na i gyd.
(1, 0) 1042 Rhaid fy mod i wedi'i |ddymuno| fo, ei ewyllysio, wedi ysu am gael g'neud y petha' yma.
(1, 0) 1043 Ac yna...
(1, 0) 1044 Ai dyna ydy'r eglurhad, o bosib?
 
(1, 0) 1052 Ydw, unrhyw beth leciwch chi.
 
(1, 0) 1054 Do.
 
(1, 0) 1056 O, reit yn ôl.
 
(1, 0) 1058 Do, mi wnes i.
 
(1, 0) 1060 Gymaint o weithia' ag a fynnoch chi.
 
(1, 0) 1069 Na, rhaid i chi beidio meddwl hynny amdana i.
 
(1, 0) 1072 Miss O'Reilly?
 
(1, 0) 1074 Be' ddigwyddodd?
(1, 0) 1075 Be' ddaeth o hyn i gyd... rhyngon ni'n dau?
 
(1, 0) 1079 Do wrth gwrs, mi ddaeth y Ileill i mewn.
(1, 0) 1080 Pwy f'asai'n meddwl y b'aswn i'n anghofio hynny hefyd.
 
(1, 0) 1083 Na, dyna fasai rhywun yn ei feddwl.
 
(1, 0) 1086 Pa ddiwrnod?
 
(1, 0) 1090 Hm.
(1, 0) 1091 Rhaid i mi gyfaddef 'mod i wedi anghofio yr union ddiwrnod.
(1, 0) 1092 Mi wn i mai deng mlynedd yn ôl oedd hi.
(1, 0) 1093 Rywdro yn yr Hydref.
 
(1, 0) 1097 Ie, mae'n rhaid mai tua'r adeg honno oedd hi.
(1, 0) 1098 Pwy fuasai'n meddwl y b'asech chi'n cofio hynny hefyd.
(1, 0) 1099 O!...
 
(1, 0) 1101 Ond 'rhoswch am funud...
(1, 0) 1102 Ie, y pedwerydd ar bymtheg o Fedi ydy hi heddiw.
 
(1, 0) 1105 Addo i chi?
(1, 0) 1106 Bygwth ydych chi'n feddwl, debyg.
 
(1, 0) 1108 Wel, dipyn o dynnu coes hwyrach?
 
(1, 0) 1111 Neu gael jôc bach.
(1, 0) 1112 'Does gen i ddim co' ond, mewn difri, rhaid mai felly roedd hi i radda'.
(1, 0) 1113 Wedi'r cwbwl, dim ond plentyn oeddech chi'r adeg honno.
 
(1, 0) 1117 Oeddech chi o ddifri calon yn disgwyl y down i'n ôl?
 
(1, 0) 1120 Dod yn ôl i'ch tŷ chi a mynd â chi i ffwrdd efo mi?
 
(1, 0) 1122 A'ch g'neud chi'n dywysoges?
 
(1, 0) 1124 A rhoi teyrnas i chi hefyd?
 
(1, 0) 1128 Ond rhywbeth lawn cystal?
 
(1, 0) 1132 Wn i ddim yn iawn b'le rydw i'n sefyll efo chi, Miss O'Reilly.
 
(1, 0) 1135 Na, fedra' i ddim penderfynu ydych chi'n golygu popeth ydych chi'n ei dd'eud ynte' dim ond gyboli ydych chi.
 
(1, 0) 1139 le, yn hollol.
(1, 0) 1140 Yn chwara' castia'... ein dau.
 
(1, 0) 1142 Oeddech chi'n gwybod 'mod i'n briod?
 
(1, 0) 1145 O wel.
(1, 0) 1146 Rŵan y trawodd o arna i.
 
(1, 0) 1148 Pam y daethoch chi?
 
(1, 0) 1152 Wel, rydych chi'n goblyn o hogan!
 
(1, 0) 1161 Rŵan, a siarad o ddifri'; pam y daethoch chi?
(1, 0) 1162 Be' sy' arnoch chi ei eisio yma mewn gwirionedd?
 
(1, 0) 1164 Dipyn o waith cerdded o'ch blaen chi felly.
 
(1, 0) 1167 Ydw wir, yn enwedig y blynyddoedd d'waetha yma.
 
(1, 0) 1170 Na.
(1, 0) 1171 Fydda' i ddim yn codi tyra' eglwysi erbyn hyn, nac eglwysi chwaith.
 
(1, 0) 1173 Cartrefi i bobol.
 
(1, 0) 1187 Na.
(1, 0) 1188 'Does dim gofyn am betha' felly.
 
(1, 0) 1192 Ond rydw i'n g'neud tŷ newydd i mi fy hun, rŵan, dros y ffordd.
 
(1, 0) 1194 Ie, mae o bron wedi'i orffen.
(1, 0) 1195 Ac y mae yna dŵr arno fo.
 
(1, 0) 1197 Ie.
 
(1, 0) 1199 'Does dim dwywaith na ddyfyd pobol ei fod o'n rhy uchel i dŷ.
 
(1, 0) 1202 D'wedwch i mi, Miss O'Reilly, be' ydy eich enw chi, eich enw cynta' chi ydw i'n el feddwl?
 
(1, 0) 1205 Helen?
(1, 0) 1206 Ie wir?
 
(1, 0) 1209 O, felly?
 
(1, 0) 1211 O, oeddech chi ddim yn hoffi hynny, Miss Helen?
 
(1, 0) 1216 Yn dda iawn wir, 'Y Dywysoges Helen'.
(1, 0) 1217 O, ie, be' oedd enw'r deymas i fod?
 
(1, 0) 1221 On'd ydy o'n rhyfedd?
(1, 0) 1222 Po fwya' y meddylia' i am y peth, tebyca'n y byd mae o'n edrych fel petawn i wedi bod yn poeni 'mhen ar hyd y blynyddoedd efo... hm...
 
(1, 0) 1224 Efo rhyw ymdrech i adennill rhywbeth, rhyw brofiad yr oeddwn i'n meddwl ei fod 0owedi mynd yn ango'.
(1, 0) 1225 Ond fu gen i erioed syniad be' fyddai o.
 
(1, 0) 1227 A phendronni wedyn pam roedd o yna, mae'n debyg.
 
(1, 0) 1231 Dyna beth da eich bod chi wedi dod ata' i rŵan.
 
(1, 0) 1234 Achos rydw i wedi bod mor unig yma.
(1, 0) 1235 Rydw i wedi bod yn syllu mor ddiymadferth ar y cwbwl.
 
(1, 0) 1237 Mi dd'weda' i wrthych chi.
(1, 0) 1238 Ers sbel rydw i wedi dechra' ofni, ie, ofni'n arw lawn, y to ifanc.
 
(1, 0) 1242 O, ydyn.
(1, 0) 1243 Dyna pam yr ydw i wedi fy nghloi a'm bario fy hun i mewn.
 
(1, 0) 1245 Ryw ddiwmod mi ddaw'r genhedlaeth ifanc a tharanu ar fy nrws i.
(1, 0) 1246 Mi ruthran amdana' i.
 
(1, 0) 1248 Agor y drws?
 
(1, 0) 1257 Medrwch wir.
(1, 0) 1258 Achos rydych chitha'n martsio dan faner newydd.
(1, 0) 1259 Yr ifanc yn amddiffynfa yn erbyn yr ifanc...
 
(1, 0) 1263 Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'.
 
(1, 0) 1274 Un o stafelloedd y plant?
 
(1, 0) 1278 Mi gaiff Helen gysgu yn un o stafelloedd y plant.
 
(1, 0) 1281 Ie, Helen ydy enw Miss O'Reilly.
(1, 0) 1282 Roeddwn i'n ei nabod hi'n blentyn.
 
(1, 0) 1292 Chi ydy'r union eneth yr ydw i wedi bod ei hangen hi fwyaf.
 
(1, 0) 1296 Sut?
 
(1, 0) 1299 Helen.
 
(2, 0) 1325 O, chi sy' na?
 
(2, 0) 1327 Ie, ie, popeth yn iawn.
(2, 0) 1328 Ddaeth Elwyn ddim?
 
(2, 0) 1332 Sut mae'r hen ŵr heddiw?
 
(2, 0) 1334 Yn hollol; mi fydd yn lles iddo fo gael gorffwys, ar bob cyfri'.
(2, 0) 1335 Well i chi fynd ymlaen efo'ch gwaith.
 
(2, 0) 1338 Na, wela' i ddim bod gen i ddim byd arbennig i'w dd'eud wrtho fo.
 
(2, 0) 1344 Ynta' hefyd?
(2, 0) 1345 Pwy arall ydych chi'n ei feddwl?
 
(2, 0) 1347 Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach?
 
(2, 0) 1351 Dal i gysgu mae hi?
 
(2, 0) 1355 Cofio amdani hi yn sydyn 'nes i.
 
(2, 0) 1357 O, ydy hi?
 
(2, 0) 1361 Dyna un o'r stafelloedd plant wedi dod i mewn reit handi wedi'r cwbwl, Gladys.
 
(2, 0) 1363 Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn.
 
(2, 0) 1367 O hyn ymlaen Gladys mi fydd petha'n well, gewch chi weld.
(2, 0) 1368 Mi fydd yn brafiach, mi fydd bywyd yn haws, yn arbennig i chi.
 
(2, 0) 1370 Ie'n sicir i chi Gladys.
 
(2, 0) 1373 Be' oeddwn i'n ei feddwl, wrth gwrs, oedd... wedi i ni symud i'r tŷ newydd.
 
(2, 0) 1377 Mae'n rhaid iddi fod.
(2, 0) 1378 Rydych chitha' 'n credu hynny debyg?
 
(2, 0) 1387 Peidiwch, peidiwch â d'eud hyn'na er mwyn popeth, Gladys.
(2, 0) 1388 Fedra' i ddim diodde' eich clywed chi'n d'eud y fath beth.
 
(2, 0) 1390 Rydw i'n dal at be' dd'wedais i.
(2, 0) 1391 Gewch chi weld y bydd hi'n brafiach o lawer arnoch chi yn y tŷ newydd.
 
(2, 0) 1394 Bydd wir, mi fydd hi.
(2, 0) 1395 Mi ellwch fod yn berffaith siŵr achos mi fydd y lle'n llawn o betha' fydd yn eich atgoffa chi o'ch hen gartre'.
 
(2, 0) 1398 Ie, ie.
(2, 0) 1399 Gladys druan, roedd honno'n ergyd drom iawn i chi.
 
(2, 0) 1403 Wel yn enw'r nefoedd gadewch i ni beidio sôn dim mwy am y peth ynte'.
 
(2, 0) 1407 Fydda' i?
(2, 0) 1408 A pham y b'aswn i'n g'neud hynny, gwrthod meddwl am y peth?
 
(2, 0) 1413 Amdanoch chi, chi'ch hun ydych chi'n sôn Gladys?
 
(2, 0) 1416 Bobol annwyl.
 
(2, 0) 1419 Rydych chi'n iawn.
(2, 0) 1420 'Anodd atal anlwc,' chwedl yr hen air.
 
(2, 0) 1423 Peidiwch â meddwl amdano fo, Gladys.
 
(2, 0) 1427 Chi eich hun.
 
(2, 0) 1433 Gladys, rhaid i chi addo na 'newch chi byth feddwl am hyn eto.
(2, 0) 1434 Newch chi addo f'annwyl i?
 
(2, 0) 1439 O, mae hyn yn anobeithiol.
(2, 0) 1440 Dim llygedyn o heulwen na gwawr fach o oleuni ar ein cartre' ni.
 
(2, 0) 1442 O nâc ydy.
(2, 0) 1443 Hawdd y gellwch chi dd'eud hynny.
 
(2, 0) 1445 A hwyrach eich bod chi'n iawn na fydd hi ddim gwell yn y tŷ newydd chwaith.
 
(2, 0) 1449 Pam ar y ddaear yr ydyn ni wedi'i adeiladu o ynte'?
(2, 0) 1450 Fedrwch chi dd'eud wrtha i?
 
(2, 0) 1454 Be' yn hollol ydych chi'n ei feddwl Gladys?
 
(2, 0) 1456 Ie.
(2, 0) 1457 Be' aflwydd ydych chi'n ei feddwl?
(2, 0) 1458 Mi ddwed'soch chi'r peth mor rhyfedd fel 'tai rhyw ystyr gudd ynddo fo.
 
(2, 0) 1461 Dowch rŵan.
(2, 0) 1462 Mi wn i be ydy be.
(2, 0) 1463 'Dydw i ddim yn ddall nâc yn fyddar.
 
(2, 0) 1467 Rydych chi'n gweld rhyw ystyr gudd a llechwraidd yn y petha' mwya' diniwed fydda' i'n ei ddeud, on'd ydych?
 
(2, 0) 1470 Ho, ho, ho.
(2, 0) 1471 Mae o'n ddigon naturiol, debyg, a chitha' efo dyn sâl i edrych ar ei ôl.
 
(2, 0) 1475 Dyn hanner call ynte', dyn wedi drysu.
(2, 0) 1476 Galwch fi be' fynnoch chi.
 
(2, 0) 1479 Ond rydych chi wedi methu, chi a'r doctor.
(2, 0) 1480 Nid dyna sy' o'i le arna' i.
 
(2, 0) 1484 Mewn gwirionedd 'does 'na ddim o gwbwl o'i le arna' i.
 
(2, 0) 1487 Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled.
 
(2, 0) 1491 Rydw i mewn dyled ddiderfyn i chi Gladys.
 
(2, 0) 1495 Does yna ddim byd y tu ôl iddo fo.
(2, 0) 1496 'Dydw i erioed wedi g'neud dim drwg i chi, ddim o fwriad beth bynnag.
(2, 0) 1497 Ac eto, mae fel petai yna euogrwydd mawr yn fy ngwasgu fi i lawr.
 
(2, 0) 1499 Ie, chi'n bennaf.
 
(2, 0) 1502 Mae'n rhaid fy mod i, neu bod rhywbeth o'i le.
 
(2, 0) 1504 A, dyna hi'n goleuo rŵan.
 
(2, 0) 1509 Ddar'u chi gysgu'n iawn?
 
(2, 0) 1514 Roeddech chi'n berffaith gyffyrddus felly?
 
(2, 0) 1516 Ac mi ddar'u chi freuddwydio reit siŵr.
 
(2, 0) 1518 O?
 
(2, 0) 1521 Byddaf, rŵan ac yn y man.
 
(2, 0) 1523 Iasa' nes bod rhywun yn teimlo'n oer drosto.
 
(2, 0) 1525 Byddaf cyn uched fyth ag a fedra' i.
 
(2, 0) 1542 Ie, ond mi allai pobol gymryd yn eu penna' eich bod chitha' o'ch co', ydych chi'n gweld.
 
(2, 0) 1546 Dyma i chi |un| beth bynnag.
 
(2, 0) 1549 Ydych chi ddim wedi sylwi ar hynny eto?
 
(2, 0) 1553 Glywsoch chi |hyn'na| Gladys?
 
(2, 0) 1557 Dowch rŵan, allan â fo.
 
(2, 0) 1561 Ydych chi'n meddwl hynny?
 
(2, 0) 1567 Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld rhyw arwydd o hynny o gwbwl?
 
(2, 0) 1570 Mae Gladys wedi mynd yn swil iawn efo pobol ddiarth y blynyddoedd d'waetha' 'ma.
 
(2, 0) 1572 Ond dim ond i chi ddod i'w nabod hi'n iawn, mae hi mor neis a charedig.
(2, 0) 1573 Mae ganddi hi galon fawr.
 
(2, 0) 1576 Ei dyletswydd?
 
(2, 0) 1579 Pam?
 
(2, 0) 1584 Hm!
(2, 0) 1585 Feddyliais i ddim llawer amdano fo.
 
(2, 0) 1588 Ond nefoedd fawr, be' f'asech chi wedi hoffi iddi hi 'i ddeud ynte'?
 
(2, 0) 1591 Felly yr hoffech chi?
 
(2, 0) 1595 Oes.
(2, 0) 1596 Rydw i wedi hel cryn dipyn.
 
(2, 0) 1598 Mi fyddwn i'n arfer trïo.
(2, 0) 1599 Fyddwch chi'n darllen llawer?
 
(2, 0) 1603 Dyna'n union fydda' inna' 'n ei feddwl.
 
(2, 0) 1606 Nâc e.
(2, 0) 1607 Dyn ifanc sy'n gweithio i mi sy' wedi'i g'neud nhw.
 
(2, 0) 1609 Ydy, yn ddiama' mae o wedi dysgu dipyn oddi wrtha i.
 
(2, 0) 1614 Dydy o ddim yn ddrwg, at be' ydw i ei angen.
 
(2, 0) 1616 Ydych chi'n medru gweld hynny o'r cynllunia'?
 
(2, 0) 1619 Ond mae 'na ddigonedd o bobol sy' wedi dysgu efo mi ac wedi g'neud ychydig iawn o'u hôl er hynny.
 
(2, 0) 1622 Twp?
(2, 0) 1623 Ydych chi'n meddwl 'mod i'n un gwirion iawn?
 
(2, 0) 1627 Wel, a pham lai?
 
(2, 0) 1636 Sut ar y ddaear y daeth hyn'na i'ch pen chi?
 
(2, 0) 1638 Na, nid dyna ydw i'n ei feddwl.
(2, 0) 1639 Ond rŵan mi dd'weda i rywbeth wrthych chi.
 
(2, 0) 1641 Yma, ar fy mhen fy hun, mi fydda i'n synfyfyrio uwchben yr union syniad yna.
 
(2, 0) 1644 Ydych chi wedi sylwi'n barod, felly?
 
(2, 0) 1646 Ond gynna' pan ddar'u chi dd'eud eich bod chi'n meddwl bod 'na ryw un peth od...
 
(2, 0) 1648 Be' oedd o?
 
(2, 0) 1651 Iawn, fel y mynnoch chi.
 
(2, 0) 1653 Dowch yma.
(2, 0) 1654 Mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.
 
(2, 0) 1657 Welwch chi yn fan'cw, yn yr ardd?
 
(2, 0) 1660 Reit uwchben y chwarel.
 
(2, 0) 1662 Ie, yr un sy'n cael ei adeiladu rŵan, bron wedi'i orffen.
 
(2, 0) 1664 Mae'r sgaffald yn dal i fyny.
 
(2, 0) 1666 Ie.
 
(2, 0) 1668 Ie.
 
(2, 0) 1671 Oes, tair fel sy' yma.
 
(2, 0) 1673 Ie, a fydd yno byth un.
 
(2, 0) 1676 Sut felly?
 
(2, 0) 1678 Hynny oedd y tu ôl i'ch meddwl chi?
 
(2, 0) 1682 Mi |fu| gan Gladys a finna' blant wyddoch chi.
 
(2, 0) 1685 Dau hogyn bach, yr un oed.
 
(2, 0) 1687 Ie, gefeilliaid.
(2, 0) 1688 Mae un mlynedd ar ddeg neu ddeuddeng mlynedd ers hynny rŵan.
 
(2, 0) 1693 Dim ond rhyw dair wythnos y buon nhw gennyn ni, prin hynny.
 
(2, 0) 1695 O Helen, fedra' i ddim d'eud wrthych chi pa mor fendithiol ydy eich bod chi wedi dod.
(2, 0) 1696 Achos, o'r diwedd mae gen i rywun y medra' i |siarad| efo hi.
 
(2, 0) 1698 Ddim am hyn.
(2, 0) 1699 Nid fel yr ydw i'n dymuno.
(2, 0) 1700 Ac fel y mae'n rhaid i mi siarad.
 
(2, 0) 1702 Nâc am lawer o betha' eraill chwaith.
 
(2, 0) 1705 Hynny'n fwy na dim.
(2, 0) 1706 O leiaf, ddoe, achos erbyn heddiw dydw i ddim mor siŵr.
 
(2, 0) 1708 Helen, dowch yma; mi eisteddwn ni.
(2, 0) 1709 Eisteddwch chi yn fan'na lle medrwch chi weld yr ardd.
 
(2, 0) 1712 Fasech chi'n hoffi clywed am y peth?
 
(2, 0) 1715 Mi dd'weda' i'r cyfan wrthych chi ynte'.
(2, 0) 1716 'Helen
(2, 0) 1717 Reit.
(2, 0) 1718 Mi alla' i weld yr ardd a chitha.
(2, 0) 1719 Away.
 
(2, 0) 1721 Draw ar y codiad tir acw... lle gwelwch chi'r tŷ newydd.
 
(2, 0) 1723 Roedd Gladys a finna''n byw yn fan'na y blynyddoedd cyntaf ar ôl priodi.
(2, 0) 1724 Roedd yno hen dŷ wedi bod yn perthyn i'w mam hi.
(2, 0) 1725 Fe gafodd ei adael i ni a'r cwbwl o'r hen ardd i'w ganlyn o.
 
(2, 0) 1727 Nâc oedd.
(2, 0) 1728 Dim byd tebyg.
(2, 0) 1729 O'r tu allan roedd o'n edrych fel bocs pren mawr tywyll ond oddi fewn roedd o'n ddigon clyd a chysurus.
 
(2, 0) 1732 Na.
(2, 0) 1733 Mi aeth ar dân.
 
(2, 0) 1735 Ie.
 
(2, 0) 1737 Mae'n dibynnu sut yr edrychwch chi ar y peth.
(2, 0) 1738 O ran busnes dyna'r peth gora' a ddigwyddodd i mi.
 
(2, 0) 1740 Yn fuan wedi geni'r ddau hogyn bach oedd hi.
 
(2, 0) 1742 Roedden nhw'n fabanod bach cryf, nobl.
(2, 0) 1743 A thyfu yr oedden nhw.
(2, 0) 1744 Mi fedrech chi weld y gwahaniaeth bob dydd.
 
(2, 0) 1746 Fel y byddai'r ddau'n gorwedd ym mreichia'u mam, ddela' welsoch chi erioed.
(2, 0) 1747 Ond wedyn mi ddaeth noson y tân...
 
(2, 0) 1752 Naddo.
(2, 0) 1753 Mi ddaeth pawb allan o'r tŷ yn ddiogel.
 
(2, 0) 1755 Roedd Gladys wedi dychryn a chynhyrfu'n arw.
(2, 0) 1756 Y corn tân, y rhuthro allan ar frys gwyllt ac ar ben hynny, awyr oer y nos...
(2, 0) 1757 Achos mi fu'n rhaid eu cario allan yn union fel yr oedden nhw'n gorwedd, hi a'r plant.
 
(2, 0) 1759 Na, doedden nhw ddim gwaeth.
(2, 0) 1760 Ond mi gafodd Gladys dwymyn ac mi effeithiodd ar ei llaeth hi.
(2, 0) 1761 Thalai dim ond iddi gael eu magu nhw ei hun, am mai dyna oedd ei dyletswydd hi, meddai hi.
(2, 0) 1762 A mi ddaru ein dau blentyn bach ni...
 
(2, 0) 1764 Mi fuon nhw...
 
(2, 0) 1766 Naddo.
(2, 0) 1767 Dyna sut y dar'u ni eu colli nhw.
 
(2, 0) 1769 Roedd hi'n ddigon drwg arna' i ond roedd hi'n saith gwaeth ar Gladys.
 
(2, 0) 1771 I feddwl bod y fath beth yn cael ei ganiatáu ar y ddaear yma.
 
(2, 0) 1773 O'r diwrnod y collais i nhw 'doedd gen i ddim awydd i adeiladu eglwysi mwy.
 
(2, 0) 1775 Na doedd o ddim yn bleser.
(2, 0) 1776 Mi wn i pa mor hapus a rhydd oeddwn i'n teimlo pan orffennwyd y tŵr hwnnw.
 
(2, 0) 1778 A rŵan, adeilada' i byth ddim byd fel 'na eto, byth eto.
(2, 0) 1779 Nâc eglwysi na thyra' eglwysi.
 
(2, 0) 1782 Cartrefi i foda' dynol Helen.
 
(2, 0) 1784 Ie, hwyrach.
 
(2, 0) 1786 Ond, fel yr oeddwn i'n d'eud, y tân roddodd fi ar fy nhraed, fel contractor ydw i'n ei feddwl.
 
(2, 0) 1788 Chefais i erioed yr addysg dechnegol.
(2, 0) 1789 Petha' ydw i wedi ddysgu wrth fynd ydy'r rhan fwyaf o'r hyn a wn i.
 
(2, 0) 1791 Do, diolch i'r tân.
(2, 0) 1792 Mi rannais i bron y cwbwl o'r ardd yn blotia' a chodi tai ar y rheini yn ôl fy ffansi.
(2, 0) 1793 Mi ddois i ymlaen yn wych.
 
(2, 0) 1797 Hapus?
(2, 0) 1798 Ydych chitha'n d'eud hynny hefyd, 'run fath â'r lleill?
 
(2, 0) 1801 Y ddau fachgen bach; 'dydyn nhw ddim mor hawdd eu hanghofio, Helen.
 
(2, 0) 1805 Dyn hapus dd'wedsoch chi?
 
(2, 0) 1808 Pan oeddwn i'n d'eud yr hanes am y tân...
 
(2, 0) 1810 Ddaru 'na ddim byd eich taro chi'n arbennig?
 
(2, 0) 1815 Y tân yna a hwnnw'n unig roddodd y cyfle i mi i neud cartrefi.
(2, 0) 1816 Cartrefi clyd a chysurus a siriol lle gall tad a mam a phlant fyw'n ddiogel a llawen a theimlo ei bod hi'n braf bod yn fyw.
(2, 0) 1817 A mwy na hynny bod yn perthyn y naill i'r llall mewn petha' bach a phetha' mawr.
 
(2, 0) 1820 Y pris Helen, y pris dychrynllyd y bu raid i mi ei dalu am hynny.
 
(2, 0) 1822 Na fedraf.
(2, 0) 1823 Er mwyn g'neud cartrefi i bobol eraill roedd yn rhaid i mi fyw heb gartre' i mi fy hun,... am byth, hynny ydy cartre' i griw o blant ac i dad a mam.
 
(2, 0) 1827 Dyna oedd pris yr hapusrwydd yma y bydd pobol yn sôn amdano.
(2, 0) 1828 'Doedd yr hapusrwydd yma ddim i'w gael yn rhatach Helen.
 
(2, 0) 1831 Byth yn y byd yma.
(2, 0) 1832 Byth.
(2, 0) 1833 Dyna un arall o ganlyniada'r tân.
(2, 0) 1834 Ac o afiechyd Gladys ar ei ôl o.
 
(2, 0) 1838 Ydych chi erioed wedi sylwi fel mae'r amhosib yn hudo dyn, yn codi'i law a galw'n daer ar rywun?
 
(2, 0) 1844 Ydw.
 
(2, 0) 1846 Dewin?
 
(2, 0) 1849 Ie, hwyrach eich bod chi'n iawn.
 
(2, 0) 1851 Ond sut y medra i ddianc o afael yr ysbrydion yma, pan fo popeth yn troi allan fel hyn yn fy hanes i bob amser?
 
(2, 0) 1854 Gwrandewch yn ofalus Helen.
(2, 0) 1855 Mae'r cwbwl ydw i wedi llwyddo i'w 'neud, adeiladu tai, llunio cyfle llawenydd, ceisio darparu cysur, ie, a'r gwychter hefyd...
 
(2, 0) 1857 O, mae'n ofnadwy meddwl am y peth...
 
(2, 0) 1859 Bod rhaid i mi dalu'n ôl am hyn i gyd, talu, nid mewn arian ond mewn hapusrwydd.
(2, 0) 1860 Ac nid fy hapusrwydd fy hun yn unig ond efo hapusrwydd pobol eraill hefyd.
(2, 0) 1861 Welwch chi Helen?
(2, 0) 1862 Dyna bris bod yn artist, y pris am |lwyddo wrth gyflawni rhywbeth yn y byd 'ma|, i mi ac eraill.
(2, 0) 1863 A phob un dydd mae'n rhaid i mi wylio tra bo'r pris yn cael ei dalu drosta' i o'r newydd.
(2, 0) 1864 Drosodd a throsodd a throsodd, am byth.
 
(2, 0) 1867 Ie, am Gladys yn bennaf.
(2, 0) 1868 Oherwydd roedd ganddi hitha' ei galwedigaeth mewn bywyd gymaint ag oedd gen i.
 
(2, 0) 1870 Ond mi fu raid gwasgu ei gweledigaeth hi, ei malu a'i chwalu er mwyn i f'un i fedru gwthio'i ffordd i ryw fath o fuddugoliaeth fawr.
(2, 0) 1871 Roedd gan Gladys ddawn i adeiladu hefyd, cofiwch.
 
(2, 0) 1874 Nid tai a thyra' a'r petha' y bydda' i yn gweithio arnyn nhw.
 
(2, 0) 1877 Llunio eneidia' plant bach, Helen; eu llunio nhw i dyfu'n gytbwys i fod yn bobol ifainc o gymeriad ac yna'n bobol dda, yn gryf ac yn annibynnol.
(2, 0) 1878 Dyna oedd talent Gladys.
(2, 0) 1879 A dyna hi'n gorwedd heb ei harfer, yn ddiffrwyth am byth... yn dda i ddim i neb,... yn union 'run fath â'r adfeilion ar ôl y tân.
 
(2, 0) 1881 Mae o'n wir.
(2, 0) 1882 O, ydy.
(2, 0) 1883 Mi wn i.
 
(2, 0) 1886 A! Dyna ydy'r cwestiwn mawr, y cwestiwn brawychus.
(2, 0) 1887 Ama' hynny sy'n fy mwyta i nos a dydd.
 
(2, 0) 1889 Ie.
(2, 0) 1890 Fy mai i oedd o mewn rhyw ffordd, cofiwch.
 
(2, 0) 1893 Y cwbwl, y tân a'r cwbwl.
(2, 0) 1894 Ac eto hwyrach 'mod i'n ddieuog.
 
(2, 0) 1897 Hm.
(2, 0) 1898 'Dydw i ddim yn meddwl y bydda i byth yn iach,... mewn un ystyr.
 
(2, 0) 1904 Na, paid â mynd.
(2, 0) 1905 Gad i ni ei gael o drosodd.
 
(2, 0) 1908 Dydy dy dad ddim gwell rydw i'n deall.
 
(2, 0) 1913 Wrandawa' i ddim mwy am y cynllunia' yma sy' gen ti.
 
(2, 0) 1915 Ydw.
 
(2, 0) 1919 Aros di yma efo mi, Elwyn.
(2, 0) 1920 Gei di bopeth dy ffordd dy hun.
(2, 0) 1921 Mi fedri di briodi Gwyneth wedyn a byw yn braf, yn hapus hwyrach, pwy a ŵyr.
(2, 0) 1922 Ond paid â meddwl am godi tai ar dy liwt dy hun.
 
(2, 0) 1928 O, o.
(2, 0) 1929 Dywed ti be' fynnot ti o'm rhan i.
(2, 0) 1930 Gwell peidio deud dim wrtho fo.
 
(2, 0) 1932 Cei, cymer nhw ar bob cyfri.
(2, 0) 1933 Maen nhw ar y bwrdd yn fan 'na.
 
(2, 0) 1938 Pam?
 
(2, 0) 1940 Ond rydych chi |wedi bod|...
 
(2, 0) 1942 Gadael nhw yma ynte'.
 
(2, 0) 1944 Gwell i ti fynd adre at dy dad ar d'union.
 
(2, 0) 1947 Elwyn, rhaid i ti beidio gofyn i mi 'neud rhywbeth sy' y tu hwnt i ngallu i.
(2, 0) 1948 Wyt ti'n clywed?
(2, 0) 1949 Rhaid i ti beidio.
 
(2, 0) 1955 Ydych chi'n meddwl hynny?
 
(2, 0) 1958 Dydych chi ddim yn deall fy sefyllfa i.
 
(2, 0) 1961 Mi dd'wedsoch eich hun gynna' na ddylai neb arall ond fi gael adeiladu.
 
(2, 0) 1964 Siawns na cha' i, yn anad neb, fi sy' wedi talu mor ddrud am fy safle.
 
(2, 0) 1967 A thawelwch cydwybod yn y fargen.
 
(2, 0) 1976 Eisteddwch i lawr am funud eto Helen.
(2, 0) 1977 Mi dd'weda' i rywbeth doniol wrthych chi.
 
(2, 0) 1980 Mae o'n swnio'n beth bach mor wrthun; achos mae'r stori i gyd yn troi o gylch dim byd ond... crac mewn simdde.
 
(2, 0) 1982 Ddim yn y dechra'.
 
(2, 0) 1987 Roeddwn i wedi sylwi ar y crac yn y simdde.
(2, 0) 1988 O, ymhell cyn y tân.
(2, 0) 1989 Bob tro y byddwn i'n mynd i'r atig mi fyddwn i'n edrych oedd o'n dal yno.
 
(2, 0) 1991 Oedd, 'doedd neb arall yn gwybod amdano fo.
 
(2, 0) 1993 Dim gair.
 
(2, 0) 1995 O, do.
(2, 0) 1996 Mi feddyliais i am 'neud ond dyna'r cwbwl.
(2, 0) 1997 Bob tro y byddwn i'n bwriadu dechra' arni roedd yn union fel petai rhyw law yn fy nal i'n ôl.
(2, 0) 1998 Ddim heddiw, meddwn i wrthyf fy hun,... yfory.
(2, 0) 1999 Yn y diwedd chafodd o 'mo'i 'neud.
 
(2, 0) 2001 Am fy mod i'n pendronni ynghylch rhywbeth.
 
(2, 0) 2003 Mi fedrwn i, hwyrach, drwy'r crac bach yn y simdde, fy ngwthio fy hun i fyny... fel adeiladwr.
 
(2, 0) 2006 Bron yn llwyr.
(2, 0) 2007 Wel, yn llwyr.
(2, 0) 2008 Achos yr adeg honno roeddwn i'n ei weld o'n fater syml a hawdd.
(2, 0) 2009 Mi ddigwyddai yn y gaeaf,... ychydig cyn amser cinio.
(2, 0) 2010 Mi fyddwn i allan am dro bach yn y car efo Gladys.
(2, 0) 2011 Byddai'r forwyn, gartre', wedi g'neud tanllwyth o dân iawn i gynhesu'r tŷ.
 
(2, 0) 2013 Yn oer iawn allan.
(2, 0) 2014 A byddai'r forwyn yn awyddus i Gladys deimlo'r tŷ yn berffaith glyd a chynnes pan ddoen ni adre.
 
(2, 0) 2016 Ydy, mae hi.
(2, 0) 2017 Ac fel y bydden ni'n agosáu, roedden ni i weld mwg.
 
(2, 0) 2019 Y mwg gynta'.
(2, 0) 2020 Ond pan fydden ni'n dod at giat yr ardd, mi fyddai'r hen dŷ i gyd ar dân a'r fflama' 'n rhuo drwy'r ffenestri.
(2, 0) 2021 Felly roeddwn i'n dychmygu sut y byddai hi, ydych chi'n gweld.
 
(2, 0) 2023 Pam yn wir?
 
(2, 0) 2026 Nâc ydw.
(2, 0) 2027 I'r gwrthwyneb, rydw i'n hollol siŵr nad oedd a wnelo'r crac yn y simdde ddim byd o gwbwl â'r tân.
 
(2, 0) 2029 Mi wnaethpwyd yn berffaith siŵr mai yn y cwpwrdd dillad, mewn darn hollol wahanol o'r tŷ y cychwynnodd y tân.
 
(2, 0) 2031 Ga' i ddal i siarad efo chi am dipyn, Helen?
 
(2, 0) 2034 Mi wnâ i 'ngore.
 
(2, 0) 2038 Ydych chi ddim yn cytuno fod na rai pobol, rhai wedi cael eu dewis yn arbennig.
(2, 0) 2039 Rhai'n meddu'r gallu a'r ddawn i ddymuno rhywbeth, awchu amdano, ewyllysio rhywbeth efo cymaint o ddyfalbarhad ac mor benderfynol, fel yn y diwedd bod yn rhaid i'r peth ddigwydd?
(2, 0) 2040 Ydych chi ddim yn credu hyn na?
 
(2, 0) 2043 All rhywun ddim g'neud petha' mor fawr ohono'i hun yn unig, cofiwch.
(2, 0) 2044 O na.
(2, 0) 2045 Mae'n rhaid i'r rhai nad ydyn nhw ond gweision a negeswyr 'neud eu rhan hefyd,... i'r peth weithio.
(2, 0) 2046 Ond fydd y rheini byth yn dod ohonyn nhw'u hunain.
(2, 0) 2047 Mae'n rhaid i ddyn alw yn daer iawn arnyn nhw.
(2, 0) 2048 Galw oddi mewn iddo'i hun, ydych chi'n deall?
 
(2, 0) 2050 O mi gawn ni siarad am hynny rywdro eto.
(2, 0) 2051 Ar hyn o bryd gadewch i ni gadw at fusnes y tân 'ma.
 
(2, 0) 2053 Petai'r tŷ wedi digwydd bod yn perthyn i'r hen Owen Meredith, fasai fo byth wedi mynd ar dân mor hwylus iddo fo.
(2, 0) 2054 Rydw i'n siŵr o hynny achos ŵyr o ddim sut i alw'r gweision a'r negeswyr.
 
(2, 0) 2056 Felly fy mai i oedd o wedi'r cwbwl, bod rhaid aberthu bywyda'r bechgyn bach, ydych chi'n gweld, Helen?
(2, 0) 2057 Ydych chi ddim yn meddwl, hefyd, mai arna' i mae'r bai am gyflwr Gladys?
(2, 0) 2058 Na chafodd hi ddatblygu i'r ddynes allai hi fod a'r hyn yr oedd hi'n hiraethu am fod?
 
(2, 0) 2060 Pwy alwodd ar y gweision a'r negeswyr?
(2, 0) 2061 Fi!
(2, 0) 2062 Ac mi ddaethon ac ufuddhau i'm hewyllys i.
 
(2, 0) 2064 Bod yn lwcus, dyna fydd pobol yn galw hyn 'na.
(2, 0) 2065 Ond mi dd'weda' i wrthych chi sut mae'r lwc 'ma'n teimlo.
(2, 0) 2066 Mae o fel petai gen i ddarn mawr o gig noeth ar fy mrest.
(2, 0) 2067 A'r gweision a'r negeswyr wrthi'n wastad yn plicio darna' o groen oddi ar gyrff pobol eraill i gau fy mriw i.
(2, 0) 2068 Ond 'dydy'r briw ddim wedi'i gau byth.
(2, 0) 2069 O, pe baech chi ond yn gwybod sut y mae o'n tynnu ac yn llosgi weithia'.
 
(2, 0) 2072 Wedi drysu, waeth i chi ddeud, achos dyna ydych chi'n ei feddwl.
 
(2, 0) 2074 Ar be' ynte'?
(2, 0) 2075 Allan â fo.
 
(2, 0) 2077 Cydwybod giami?
(2, 0) 2078 Be goblyn ydy hynny?
 
(2, 0) 2081 Hm.
(2, 0) 2082 Ga' i ofyn, sut gydwybod ddylai fod gan ddyn?
 
(2, 0) 2084 Felly wir?
(2, 0) 2085 Cadarn ai e?
(2, 0) 2086 Ydy'ch cydwybod chi'ch hun yn gadarn?
 
(2, 0) 2089 Chafodd hi 'mo'i phrofi'n galed iawn 'ddyliwn.
 
(2, 0) 2092 A hynny ddim ond am ryw fis neu ddau?
 
(2, 0) 2094 Byth?
(2, 0) 2095 Wel pam y dar'u chi ei adael o ynte'?
 
(2, 0) 2098 Twt lol.
(2, 0) 2099 Oedd 'na rywbeth o'i le gartre' ynte'?
 
(2, 0) 2103 Dyna chi wedi'i tharo hi, Helen.
(2, 0) 2104 Mae yna ddewin neu witj yn eich corddi chi fel finna'.
(2, 0) 2105 Oherwydd yr ysbryd mewn dyn sy'n galw ar y pwera' y tu allan iddo, ydych chi'n gweld.
(2, 0) 2106 A wedyn mae'n rhaid i ni ildio, hoffí hynny neu beidio.
 
(2, 0) 2109 Oes, mae na ysbrydion ar gerdded yn y byd 'ma, Helen.
(2, 0) 2110 Tylwyth na fyddwn i byth yn eu gweld nhw.
 
(2, 0) 2114 Tylwyth teg a thylwyth drwg.
(2, 0) 2115 Rhai pryd gola' a rhai pryd tywyll.
(2, 0) 2116 Petai rhywun ddim ond yn gwybod pa fath sy' wedi gafael ynddo fo.
 
(2, 0) 2118 Ho, ho.
(2, 0) 2119 Mi fuasai'n reit hawdd wedyn.
 
(2, 0) 2123 Rydw i'n credu erbyn hyn mai creaduriaid go wan fel finna' ydy'r rhan fwyaf o bobol yn hynny o beth.
 
(2, 0) 2126 Yn y llyfra' hanes,... ydych chi wedi darllen rhai ohonyn nhw?
 
(2, 0) 2128 Yn y llyfra' hanes mae 'na sôn am y cenhedloedd duon yn hwylio ar longa', o wledydd y gogledd, i ysbeilio a llosgi a lladd...
 
(2, 0) 2130 A'u cadw'n gaeth...
 
(2, 0) 2132 Ac ymddwyn tuag atyn nhw fel... fel diawliaid.
 
(2, 0) 2136 Dwyn merched, ie?
 
(2, 0) 2139 O, felly wir.
 
(2, 0) 2142 Am fod rhaid bod gan yr hogia' yne gydwyboda' go wydn, beth bynnag.
(2, 0) 2143 Ar ôl cyrraedd adre' roedden nhw'n medru bwyta ac yfed a bod yn hapus fel plant.
(2, 0) 2144 Ac am y merched, roedden nhw'n gwrthod gadael wedyn ar unrhyw gyfri'.
(2, 0) 2145 Fedrwch chi ddeall hynny Helen?
 
(2, 0) 2147 Oho!
(2, 0) 2148 Hwyrach y b'asech chi'n medru g'neud yr un peth eich hun.
 
(2, 0) 2150 Fasech chi byth, o'ch bodd, yn dewis byw efo rhyw fwystfil fel 'na.
 
(2, 0) 2152 Fedrech chi ddod i garu dyn fel 'na?
 
(2, 0) 2156 Ie.
(2, 0) 2157 Mae'n debyg mai'r dewin tu fewn i rywun sy'n gyfrifol am hynny.
 
(2, 0) 2161 Wel, rydw i'n gobeithio â'm holl galon y bydd yr ysbrydion yn dewis yn garedig drosoch chi, Helen.
 
(2, 0) 2165 Helen, rydych chi fel deryn gwyllt o'r coed!
 
(2, 0) 2168 Na.
(2, 0) 2169 Dipyn o deulu'r barcud sy' ynoch chi.
 
(2, 0) 2175 Helen, wyddoch chi be ydych chi?
 
(2, 0) 2178 Na.
(2, 0) 2179 Rydych chi megis toriad gwawr.
(2, 0) 2180 Pan fydda' i'n edrych arnoch chi mae fel petawn i'n gweld y dydd yn deffro.
 
(2, 0) 2184 Bron na thybiwn i fod yn rhaid 'mod i wedi g'neud.
(2, 0) 2185 58 Helen
(2, 0) 2186 Be' sy' arnoch chi ei eisio gen i?
(2, 0) 2187 Chi ydy'r genhedlaeth ifanc, Helen.
 
(2, 0) 2191 Ac yr ydw i'n hiraethu cymaint amdano yn fy nghalon.
 
(2, 0) 2195 Rhowch y petha' yna o'r neilltu.
(2, 0) 2196 Rydw i wedi gweld digon arnyn nhw.
 
(2, 0) 2198 Cymeradwyaeth?
(2, 0) 2199 Byth.
 
(2, 0) 2203 Ie, dyna'n union be' gâi o.
(2, 0) 2204 Mae o wedi g'neud yn siŵr o hynny,... y dyn ifanc smart 'ma.
 
(2, 0) 2206 Celwydd?
 
(2, 0) 2208 Helen, ewch â phlania'r diafol o 'ngolwg i.
 
(2, 0) 2215 Ddim arna' i.
 
(2, 0) 2218 Arhoswch ble rydych chi, Helen.
(2, 0) 2219 Mi ddylwn i dd'eud celwydd, meddech chi.
(2, 0) 2220 Wel, dylwn hwyrach er mwyn yr hen ddyn ei dad druan.
(2, 0) 2221 Achos mi wnes i ddrwg iddo fo, ei wasgu o i lawr.
 
(2, 0) 2223 Roedd arna' i angen lle í mi fy hun.
(2, 0) 2224 Ond yr Elwyn ma, does wiw iddo fo ddechra' dod yn ei flaen.
 
(2, 0) 2227 Os daw Elwyn Meredith yn ei flaen mi fydd yn fy ngwthio i i lawr, yn rhoi'r farwol i mi.
 
(2, 0) 2229 O ydy, mi ellwch fentro.
(2, 0) 2230 Fo ydy'r genhedlaeth newydd sy'n barod i gnocio ar fy nrws i a rhoi diwedd am byth ar Isaac Ryan Morris, y contractor.
 
(2, 0) 2234 Mae'r frwydr y bûm i'n ei hymladd wedi costio'n ddrud iawn i mi eisoes.
(2, 0) 2235 Ac y mae arna' i ofn na fydd y gweision a'r negeswyr yn ufuddhau i mi mwy.
 
(2, 0) 2238 Anobeithiol, Helen.
(2, 0) 2239 Mae fy lwc i'n siŵr o droi.
(2, 0) 2240 Yn hwyr neu'n hwyrach.
(2, 0) 2241 Talu'r pris fydd raid.
(2, 0) 2242 Y pris eithaf.
 
(2, 0) 2247 A be' ydy hwnnw?
 
(2, 0) 2255 Mae gen i un yn fan 'ma.
 
(2, 0) 2264 Dwedwch un peth wrtha i Helen.
 
(2, 0) 2266 Os ydych chi wedi bod yn disgwyl amdana' i ar hyd y deng mlynedd yma...
 
(2, 0) 2268 Pam na ddaru chi sgrifennu ata' i?
(2, 0) 2269 Mi allwn i fod wedi ateb wedyn.
 
(2, 0) 2273 Pam?
 
(2, 0) 2276 Ie, siŵr.
 
(2, 0) 2281 Fuoch chi erioed yn caru rhywun, Helen?
 
(2, 0) 2284 Dim ond gofyn fuoch chi'n caru rhywun.
 
(2, 0) 2287 Rhywun arall, ie.
(2, 0) 2288 Fuoch chi o gwbwl?
(2, 0) 2289 Yn ystod y deng mlynedd?
(2, 0) 2290 Erioed?
 
(2, 0) 2293 Roeddech ch'n cymryd diddordeb mewn bechgyn, felly?
 
(2, 0) 2296 Helen.
(2, 0) 2297 I be daethoch chi yma?
 
(2, 0) 2300 Atebwch, Helen.
(2, 0) 2301 Be sy arnoch chi eisio gen i?
 
(2, 0) 2303 H'm.
 
(2, 0) 2311 Gladys.
 
(2, 0) 2313 Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa?
 
(2, 0) 2316 H'm.
 
(2, 0) 2319 Wel mi ro' i hwn iddi hi ynte', a d'eud wrthi bod...
 
(2, 0) 2324 Miss Parry.
 
(2, 0) 2327 Gwyneth, rydw i'n meddwl.
 
(2, 0) 2338 Rhowch nhw i'r hen ŵr cyn gynted ag y medrwch chi.
 
(2, 0) 2340 Mi gaiff Elwyn gyfle i godi tai ar ei ben ei hun rŵan.
 
(2, 0) 2343 'Does ama i ddim eisio diolch.
(2, 0) 2344 D'wedwch 'mod i'n d'eud hynny.
 
(2, 0) 2346 A d'wedwch wrtho fo'r un pryd na fydda' i angen ei wasanaeth o o hyn ymlaen.
(2, 0) 2347 Na chitha' chwaith.
 
(2, 0) 2350 Mi fydd gennych chi betha' eraill i feddwl amdanyn nhw ac edrych ar eu hola' rŵan.
(2, 0) 2351 Dyna'r ffordd ora' debyg.
(2, 0) 2352 Adre â chi efo'r plania' rŵan, Miss Parry.
(2, 0) 2353 Ar unwaith.
(2, 0) 2354 Ydych chi'n clywed?
 
(2, 0) 2359 Hi?
(2, 0) 2360 Y greadures fach yna?
 
(2, 0) 2363 Ydw.
 
(2, 0) 2365 Dyna oeddech chi eisio Gladys.
(2, 0) 2366 Rydw i'n gwybod.
 
(2, 0) 2372 Hidiwch befo, hidiwch befo.
(2, 0) 2373 Mi fydd popeth yn iawn, Gladys.
(2, 0) 2374 Yr unig beth sy' eisio i chi ei 'neud rŵan ydy meddwl am symud i'n cartre' newydd cyn gynted ag y medrwch chi.
(2, 0) 2375 Heno mi rown ni'r dorch floda' i fyny.
 
(2, 0) 2377 Reit ar binacl y tŵr.
(2, 0) 2378 Be ydych chi'n dd'eud am |hyn 'na|, Miss Helen?
 
(2, 0) 2381 Fi!
 
(2, 0) 2391 Amhosib, ydy yn amhosib.
(2, 0) 2392 Ond mi wnes i sefyll yno er hynny.
 
(2, 0) 2396 Hwyrach y gwelwch chi rywbeth gwahanol heno.
 
(2, 0) 2402 Ond Gladys...!
 
(2, 0) 2410 Mod i'n cael pendro?
 
(2, 0) 2412 Fel'na ydych chi'n ei gweld hi?
 
(2, 0) 2414 'Does 'na 'run darn ohono i yn ddiogel oddi wrthych chi, 'ddyliwn.
 
(2, 0) 2419 Mi allech chi gael y stafell ucha yn y tŵr, Helen.
(2, 0) 2420 Mi allech chi fyw fel tywysoges yno.
 
(2, 0) 2423 |Ddaru| mi?
 
(2, 0) 2430 Ydych chi'n berffaith siŵr nad breuddwyd ydy hyn i gyd... rhyw ffansi yn eich pen chi?
 
(2, 0) 2434 Dydw i ddim yn gwybod yn iawn.
 
(2, 0) 2436 Ond un peth a wn i rŵan, sef...
 
(2, 0) 2439 Y dylwn i fod wedi g'neud.
 
(2, 0) 2442 Heno, mi rown i'r dorch floda' i fyny... Dywysoges Helen.
 
(2, 0) 2445 Uwchben tŷ newydd na fydd o byth yn gartre' i mi.
 
(3, 0) 2636 Ydych chi wedi sylwi, Helen, ei bod hi'n mynd pan fydda' i'n ymddangos?
 
(3, 0) 2638 Hwyrach.
(3, 0) 2639 Ond 'does gen i mo'r help.
 
(3, 0) 2641 Ydych chi'n oer, Helen?
(3, 0) 2642 Rydych chi'n edrych felly.
 
(3, 0) 2644 Be' ydych chi'n 'i feddwl?
 
(3, 0) 2647 Rydw i'n meddwl mod i'n deall...
 
(3, 0) 2649 Mi gefais i gip arnoch chi o'r fan 'cw.
 
(3, 0) 2651 Mi wyddwn i yr âi hi ar unwaith pan ddeuwn i yma.
 
(3, 0) 2653 Mewn ffordd mae o'n rhyddhad hefyd.
 
(3, 0) 2655 Ie.
 
(3, 0) 2657 Ie, hynny'n bennaf.
 
(3, 0) 2661 Gawsoch chi sgwrs hir efo hi?
 
(3, 0) 2663 Mi ofynnais i gawsoch chi sgwrs hir?
 
(3, 0) 2665 Am be' roedd hi'n siarad Helen?
 
(3, 0) 2669 Ddaw hi byth drosto fo.
(3, 0) 2670 Byth, tra bo hi ar y ddaear 'ma.
 
(3, 0) 2672 Rydych chi'n sefyll yn fan'na fel delw eto, yn union fel roeddech chi'n sefyll neithiwr.
 
(3, 0) 2676 Mynd i ffwrdd?
 
(3, 0) 2678 Ond, 'na i ddim gadael i chi fynd.
 
(3, 0) 2680 Dim ond aros yma Helen.
 
(3, 0) 2686 Wel, gora' oll.
 
(3, 0) 2690 Pwy sy'n sôn am hynny?
 
(3, 0) 2698 Ie, ond wnes i erioed awgrymu y dylech chi.
 
(3, 0) 2702 A be' ddaw ohonof fi wedi i chi fynd?
(3, 0) 2703 Be' fydd gen i i fyw er ei fwyn o wedyn?
 
(3, 0) 2708 Rhy hwyr.
(3, 0) 2709 Mae'r pwera' 'ma... yr... yr...
 
(3, 0) 2711 Ie, yr ysbrydion 'na.
(3, 0) 2712 A'r dewin oddi mewn i mi hefyd.
(3, 0) 2713 Mae nhw wedi sugno gwaed ei bywyd hi.
 
(3, 0) 2715 Er mwyn fy hapusrwydd i y gwnaethon nhw.
(3, 0) 2716 Ie.
 
(3, 0) 2718 A rŵan mae hi wedi marw... er fy mwyn i.
(3, 0) 2719 A finna', yn fyw, ond wedi fy rhwymo wrth ddynes farw.
 
(3, 0) 2721 Fi, na |alla'| i fyw heb sirioldeb mewn bywyd.
 
(3, 0) 2726 Dydw ddim yn credu yr adeilada' i lawer eto.
 
(3, 0) 2728 Fydd 'na alw am dai felly yn y dyfodol, os gwn i?
 
(3, 0) 2732 Ie, mae 'na lawer o wir yn yr hyn ydych chi'n 'i dd'eud.
 
(3, 0) 2735 Be?
 
(3, 0) 2738 Rhywun nad oes gennych chi ddim hawl i'w wthio o'r neilltu.
 
(3, 0) 2744 Oedd gennych chi gartre' cysurus hapus draw efo'ch tad Helen?
 
(3, 0) 2747 A rydych chi'n benderfynol nad ewch chi'n ôl iddo?
 
(3, 0) 2750 Gwell ganddo wibio drwy'r awyr agored...
 
(3, 0) 2754 Biti na bai ysbryd dewr yr hen anturwyr ynon ninna'.
 
(3, 0) 2758 Cydwybod gref.
 
(3, 0) 2762 Mi wyddoch chi fwy nag a wn i ynte', Helen.
 
(3, 0) 2765 Be' fydd o ynte?
 
(3, 0) 2768 Pa gastell?
 
(3, 0) 2770 Ydych chi eisio castell rŵan?
 
(3, 0) 2772 Felly rydych chi'n dal i dd'eud.
 
(3, 0) 2776 Ie.
(3, 0) 2777 |Maen| nhw'n cyd-fynd fel arfer.
 
(3, 0) 2782 Rŵan, y munud 'ma?
 
(3, 0) 2788 Nid mater bach ydy bod yn eich dyled chi Helen.
(3, 0) 2789 | Helen
(3, 0) 2790 Ddylech chi fod wedi meddwl am hynny'n gynt.
(3, 0) 2791 Mae'n rhy hwyr rŵan.
 
(3, 0) 2793 Felly, y castell ar y bwrdd.
(3, 0) 2794 Fy nghastell i ydy o.
(3, 0) 2795 Rydw i eisio fo rŵan!
(3, 0) 2796 | Morris
 
(3, 0) 2798 Sut fath o gastell sy' gennych chi mewn golwg, Helen?
 
(3, 0) 2803 Efo tŵr uchel, 'does dim dwywaith.
 
(3, 0) 2808 O, fel y byddwch chi wrth eich bodd yn sefyll mewn lle mor beryglus o uchel...
 
(3, 0) 2813 Gaiff yr hen adeiladwr ddringo i fyny at y dywysoges?
 
(3, 0) 2816 Felly, rydw i'n credu y daw'r adeiladwr.
 
(3, 0) 2819 Ond wnaiff o byth adeiladu wedyn, yr hen adeiladwr druan.
 
(3, 0) 2825 Helen, d'wedwch wrtha i, be' ydy hwnnw?
 
(3, 0) 2830 Ydyn, mwy na thebyg.
(3, 0) 2831 Ond rŵan dwedwch wrtha' i be' ydy o.
(3, 0) 2832 Y peth hardda' yn y byd.
(3, 0) 2833 Yr un rydyn ni'n mynd i'w adeiladu efo'n gilydd?
 
(3, 0) 2836 Cestyll yn yr awyr?
 
(3, 0) 2841 Dyna'r peth hardda' yn y byd, meddech chi.
 
(3, 0) 2849 Ar ôl heddiw mi adeiladwn ni'n dau efo'n gilydd Helen.
 
(3, 0) 2852 Ie.
(3, 0) 2853 Un â sylfeini cadarn iddo fo.
 
(3, 0) 2860 O, chdi sy' wedi dod â hi Elwyn?
 
(3, 0) 2863 A mae dy dad yn well felly ynte?
 
(3, 0) 2865 Ddaru'r hyn sgrifennais i mo'i gysuro fo?
 
(3, 0) 2867 Rhy hwyr!
 
(3, 0) 2870 Gwell i ti fynd adre ato fo.
(3, 0) 2871 Rhaid i ti fynd i edrych ar ôl dy dad.
 
(3, 0) 2873 Ond mi ddylet ti fod efo fo, debyg iawn.
 
(3, 0) 2876 Gwyneth?
 
(3, 0) 2879 Dos di adre, Elwyn.
(3, 0) 2880 I fod efo fo a hitha'.
(3, 0) 2881 Dyro i mi'r |wreath|.
 
(3, 0) 2884 Rydw i eisio mynd â hi i lawr iddyn nhw fy hun.
 
(3, 0) 2886 A rŵan, dos di adre.
(3, 0) 2887 'Dydyn ni mo d'angen di heddiw.
 
(3, 0) 2890 O'r gora', aros.
(3, 0) 2891 Os wyt ti wedi rhoi dy feddwl ar hynny.
 
(3, 0) 2895 Fy ngwylio i!
 
(3, 0) 2898 Mi siaradwn ni am hynny eto, Helen.
 
(3, 0) 3062 Mae nhw'n d'eud bod rhywun eisio 'ngweld i.
 
(3, 0) 3065 O! Chi sy 'na Helen?
(3, 0) 3066 Roedd arna' i ofn mai'r doctor a Gladys oedd yma.
 
(3, 0) 3069 Ydych chi'n meddwl?
 
(3, 0) 3071 Mae hynny'n fater gwahanol.
(3, 0) 3072 'Helen
(3, 0) 3073 Mae'n wir fod arnoch chi ofn ynte?
(3, 0) 3074 Ydy.
 
(3, 0) 3076 Na, nid hynny.
 
(3, 0) 3078 Ofn cosbedigaeth, Helen, ofn y farn.
 
(3, 0) 3081 Eisteddwch i lawr, a mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.
 
(3, 0) 3085 Mi wyddoch chi mai drwy adeiladu eglwysi y dechreuais i.
 
(3, 0) 3088 Wel, hogyn o gartre duwiol yn y wlad oeddwn i, ydych chi'n gweld.
(3, 0) 3089 Felly roeddwn i'n meddwl mai adeiladu eglwysi oedd y gwaith mwya' teilwng fedrwn i 'i neud.
 
(3, 0) 3091 A rydw i'n meddwl y medra' i dd'eud mod i wedi codi'r eglwysi bychain hynny mor onest a chywir a chyda cymaint o barch fel...
 
(3, 0) 3093 Fel y disgwyliwn i 'mod i wedi'i blesio Fo.
 
(3, 0) 3095 Yr un roedd yr eglwysi er ei fwyn o, wrth gwrs.
(3, 0) 3096 Hwnnw roedden nhw wedi'u cysegru i'w ogoniant o, ac er ei glod.
 
(3, 0) 3100 |Fo| yn falch ohona' i?
(3, 0) 3101 Sut y medrwch chi siarad fel 'na Helen?
(3, 0) 3102 Yr un roddodd y dewin oddi mewn i mi i chwara' ei gastia'?
(3, 0) 3103 Hwnnw barodd iddyn nhw fod wrth law ddydd a nos... nhw... tylwyth yr...
 
(3, 0) 3105 Ie.
(3, 0) 3106 Y ddau fath.
(3, 0) 3107 O, na.
(3, 0) 3108 Mi ddangosodd yn ddigon buan nad oeddwn i wedi'i blesio Fo.
 
(3, 0) 3110 Dyna, mewn gwirionedd, pam y parodd o i'r hen dŷ fynd ar dân, ydych chi'n gweld.
 
(3, 0) 3112 Ie.
(3, 0) 3113 Ydych chi ddim yn deall?
(3, 0) 3114 Roedd o eisio rhoi'r cyfle i mi ddod yn bencampwr yn fy ngwaith fel y b'aswn i'n adeiladu eglwysi mwy gogoneddus iddo Fo.
(3, 0) 3115 Yn y dechra' 'doeddwn i ddim yn deall be' oedd ganddo Fo mewn golwg.
(3, 0) 3116 Ond mi wawriodd arna i mewn amrantiad.
 
(3, 0) 3118 Pan oeddwn i'n codi tŵr yr eglwys i fyny ym Mryn Padarn.
 
(3, 0) 3120 Oherwydd, i fyny yno yn yr ardal anial honno mi fûm i'n crwydro gan fy holi fy hun.
(3, 0) 3121 Yr adeg honno mi sylweddolais i'n glir pam roedd O wedi cymryd fy mhlant bach oddi arna' i.
(3, 0) 3122 Rhag bod gen i ormod o feddwl o betha' eraill.
(3, 0) 3123 Doedd dim byd fel cariad a hapusrwydd yn cyfri', ydych chi'n gweld?
(3, 0) 3124 Adeiladwr oeddwn i i fod a dim arall.
(3, 0) 3125 A thrwy gydol fy mywyd roeddwn i i fod i ddal ati i adeiladu iddo Fo.
 
(3, 0) 3127 Ond, mi fedra' i'ch sicrhau chi nad felly y bu hi.
 
(3, 0) 3129 I ddechra' mi holais fy hun... a phrofi fy hun...
 
(3, 0) 3131 Yna... mi wnes i'r amhosib... fi gystal â Fo.
 
(3, 0) 3133 'Doeddwn i erioed wedi medru dringo i unrhyw uchder.
(3, 0) 3134 Ond y diwrnod hwnnw, mi lwyddais i.
 
(3, 0) 3137 A phan oeddwn i'n sefyll yno yn uchel, reit ar y top, wrth i mi roi'r dorch floda' ar y ceiliog gwynt, mi dd'wedais i wrtho Fo:
(3, 0) 3138 Clyw fi yn awr.
(3, 0) 3139 Tydi yr Hollalluog.
(3, 0) 3140 O'r dydd hwn ymlaen byddaf yn adeiladwr rhydd.
(3, 0) 3141 Myfi yn fy myd fy hun fel yr wyt Ti yn dy fyd.
(3, 0) 3142 Adeilada' i byth eglwysi i Ti eto... dim ond cartrefi i bobol.
 
(3, 0) 3145 Ond wedi hynny mi ddaeth ei dro ynta'.
 
(3, 0) 3148 Dydy codi tai i bobol yn dda i ddim, Helen.
 
(3, 0) 3150 Oherwydd mod i'n gweld nad ydy pobol ddim yn medru defnyddio'r tai er mwyn eu hapusrwydd.
(3, 0) 3151 A f'aswn inna' ddim chwaith petawn i wedi cael un.
 
(3, 0) 3153 Wrth edrych yn ôl, be' sy' 'na?
(3, 0) 3154 'Dydw i wedi adeiladu dim byd.
(3, 0) 3155 Na dim byd wedi'i aberthu chwaith er mwyn cael y cyfle i adeiladu.
(3, 0) 3156 Dim.
(3, 0) 3157 Dim oll!
 
(3, 0) 3160 O g'naf.
(3, 0) 3161 Rydw i ar fin dechra'!
 
(3, 0) 3164 Does dim ond un trigfan i hapusrwydd pobol.
(3, 0) 3165 A dyna ydw i am ei adeiladu rŵan.
 
(3, 0) 3168 Ie.
(3, 0) 3169 Cestyll yn yr awyr.
 
(3, 0) 3171 Nid os ca' i fynd i fyny law yn llaw efo chi, Helen.
 
(3, 0) 3175 Pwy arall?
 
(3, 0) 3179 Oho!
(3, 0) 3180 Amdani hi yr oedd Gladys yn siarad efo chi?
 
(3, 0) 3184 Ateba' i 'mo'r fath gwestiwn.
(3, 0) 3185 Rhaid i chi gredu ynof fi, yn llwyr.
 
(3, 0) 3187 Rhaid i chi ddal i gredu ynof fi.
 
(3, 0) 3190 Helen, nid bob dydd y medra' i neud hynny.
 
(3, 0) 3197 Os ceisia' i Helen, mi safa' i fyny yn fan 'cw a siarad fel y gwnes i o'r blaen.
 
(3, 0) 3200 Mi dd'weda' i wrtho Fo:
(3, 0) 3201 Clyw fi, Arglwydd Hollalluog.
(3, 0) 3202 Rhaid i Ti fy marnu i yn ôl dy ddoethineb.
(3, 0) 3203 Ond o hyn allan, adeilada' i ddim ond y peth hardda' yn y byd...
 
(3, 0) 3206 Ei adeiladu o gyda thywysoges a garaf.
 
(3, 0) 3210 G'naf.
(3, 0) 3211 Ac yna mi dd'weda' i wrtho Fo:
(3, 0) 3212 Yn awr rwy'n mynd i lawr, rhoi fy mreichia' amdani hi a'i chusanu...
 
(3, 0) 3215 Laweroedd o weithia', dyna dd'weda' i.
 
(3, 0) 3217 Yna mi chwifia' i fy het a dod i lawr i'r ddaear a g'neud fel y d'wedais i.
 
(3, 0) 3221 Sut ddar'u chi ddatblygu i'r hyn ydych chi, Helen?
 
(3, 0) 3224 Mi gaiff y dywysoges ei chastell.
 
(3, 0) 3229 Ar ei sylfaen gadarn.
 
(3, 0) 3241 Iawn.
(3, 0) 3242 Mi a' i i lawr.
 
(3, 0) 3246 Rhaid i mi fod i lawr 'na efo'r dynion.
 
(3, 0) 3249 Dyna lle bydda' i bob amser.
(3, 0) 3250 Fel arfer.