Ciw-restr

Serch Yw'r Doctor

Llinellau gan Côr (Cyfanswm: 73)

 
(1, 0) 6 Cwpan y grawnwin melys,
(1, 0) 7 min wrth fin, min wrth fin,
(1, 0) 8 cwpan a'i sawr fel y mefus,
(1, 0) 9 cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus,
(1, 0) 10 cwpan y gwin.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Mac carol y flwyddyn mewn cerwyni
(1, 0) 13 yn sypiau, grawnsypiau gwin,
(1, 0) 14 a'r winllan yn synnu ysgawned ei llwyni
(1, 0) 15 a'r basgedeidiau grawn o'r twyni,
(1, 0) 16 fin wrth fin,
(1, 0) 17 wedi cyrraedd eu ffin.
(1, 0) 18 ~
(1, 0) 19 Dawnsiwn, canwn, lanciau, llancesi,
(1, 0) 20 glin wrth lin, min wrth fin,
(1, 0) 21 Bacchws lon a'r grawn yn ei dresi
(1, 0) 22 a'i draed dano, siawns,
(1, 0) 23 i arwain y ddawns,
(1, 0) 24 Bacchws a Fenws i gusanu ag anwesu,─
(1, 0) 25 gwin ar fin yw min ar fin.
(1, 0) 26 Dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden,
(1, 0) 27 canwn i'r gwin, min wrth fin,
(1, 0) 28 diod cariadon
(1, 0) 29 ag offeiriadon,
(1, 0) 30 hwb i galon
(1, 0) 31 yr hen a'r blin,─
(1, 0) 32 dawnsiwn orfoledd cynhaea'r winwydden,
(1, 0) 33 glin wrth lin.
(1, 0) 34 ~
(1, 0) 35 Cwpan y grawnwin melys,
(1, 0) 36 min ar fin yw gwin ar fin,
(1, 0) 37 cwpan a'i sawr a'i wawr fel y mefus,
(1, 0) 38 cwpan sy'n gusan yr haul ar wefus,
(1, 0) 39 cwpan y gwin, y gwin.
 
(1, 0) 86 Ond serch
(1, 0) 87 sy'n clymu c'lonnau mab a merch,
(1, 0) 88 a phlentyn siawns yw serch.
(1, 0) 89 Unwn ddwylo,
(1, 0) 90 pa raid wylo?
(1, 0) 91 Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo?
(1, 0) 92 ~
(1, 0) 93 Os siawns
(1, 0) 94 sy'n cyplu c'lonnau yn ei dawns,
(1, 0) 95 hai, yfwn ati, Siawns!
(1, 0) 96 Unwn ddwylo,
(1, 0) 97 pa raid wylo?
(1, 0) 98 Pwy sy dlawd pan fo'n anwylo?
 
(1, 0) 129 Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod,
(1, 0) 130 canwn i'r byw, y byw o bob oed;
(1, 0) 131 gwell llygoden fyw na llew wedi darfod;
(1, 0) 132 canwn cyn drewi; cyn rhewi o bob troed
(1, 0) 133 a gorwedd yn y llan yn anniddan lonydd,
(1, 0) 134 dawnsiwn i serch a llannerch llawenydd;
(1, 0) 135 heddiw mae byw; canwn i ddaioni
(1, 0) 136 a phêr haelioni'r ddaear crioed.
 
(1, 0) 161 Be' wnewch chi, be' wnewch chi â'r aeres?
(1, 0) 162 Nid ei chloi hyd ei thranc
(1, 0) 163 na'i chau mewn lleiandy
(1, 0) 164 i suro'n grin
(1, 0) 165 yn rhyw flin abades!
(1, 0) 166 O rhowch hi i'r llanc,
(1, 0) 167 rhowch hi i'r llanc gydag aur o'r banc
(1, 0) 168 i goroni cynhaea'r gwinllandy.
(1, 0) 169 Be' wnewch chi â'r ferch siwgwr candi?
(1, 0) 170 Nid fel anwariad
(1, 0) 171 ei bwrw i'r llaid,
(1, 0) 172 ond ei rhoi hi i'w chariad,
(1, 0) 173 ag fe brifiwch yn daid,
(1, 0) 174 fe brifiwch yn daid
(1, 0) 175 a mwyneiddio yn hen fel hen frandi.
 
(1, 0) 183 Unwn ddwylo,
(1, 0) 184 pa raid wylo,
(1, 0) 185 pwy sy dlawd pan fo'n anwylo?