Ciw-restr

Ei Seren Tan Gwmwl

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 90)

(1, 0) 1 Pan gyfyd y llen, gwelir ROLANT HUW yn eistedd ar y seil wrth y tân, yn darllen "Seren tan Gwmwl", o waith Jac Glan-y-Gors.
(1, 0) 2 Y mae'n amlwg fod sylwadau miniog a bachog yr awdur wrth fodd ei galon.
(1, 0) 3 Tyrr allan i chwerthin yn uchel.
(1, 0) 4 Daw ei wraig #Sara
(1, 0) 5 i mewn, a chyn gynted ag y daw drwy'r drws, dywed:
 
(1, 0) 8 Y mae ganddi swp o ddillad yn ei breichiau, ac y mae yn eu rhoi ar y bwrdd o'i blaen.
(1, 0) 9 Yn ystod yr ymddiddan a ganlyn, y mae'n eu trin a'u dosbarthu, etc.
 
(1, 0) 91 Daw IFOR i mewn drwy ddrws y gegin fach, yn ddrwg ei dymer.
(1, 0) 92 Y mae ar ganol gwisgo, a heb ei gôt.
 
(1, 0) 166 Cyflyma'r tempo yma.
 
(1, 0) 188 Erbyn hyn y mae Ifor wedi cilio'n araf ac ofnus at ddrws y gegin fach.
(1, 0) 189 Mae ei fam yn mynd ati i'w gysuro dan fflangell lem ei dad.
 
(1, 0) 233 Rolant yn mynd allan i'r cyntedd.
(1, 0) 234 Clywir lleisiau'r ddau yno.
 
(1, 0) 237 Daw y ddau i mewn.
 
(1, 0) 294 Oddi yma ymlaen, cyflyma'r tempo, hyd at exit Mr. Foster, a chyfyd tymer Rolant.
(1, 0) 295 Erys Mr. Foster yn ddi-gyffro bron.
 
(1, 0) 386 Yn ystod y sgwrs sy'n dilyn, y mae ROLANT yn bur anesmwyth, heb allu setlo'i lawr i wneud dim.
(1, 0) 387 Mae SARA erbyn hyn wedi cael pecyn yr hen Feti at ei gilydd.
(1, 0) 388 Y mae'n paratoi i fynd allan.
 
(1, 0) 403 Y mae SARA yn mynd.
(1, 0) 404 Chwilia ROLANT am lyfr, cymer un a gwna ei hun yn gyfforddus i ddarllen ar y setl wrth y tân, fel ar ddechrau'r chwarae.
(1, 0) 405 ~
(1, 0) 406 Ymhen ysbaid gwelir drwy'r ffenestr wyneb JAC GLAN-Y-GORS.
(1, 0) 407 Edrycha hwnnw o'i gwmpas yn wyliadwrus, yna y mae'n tapio'n ddistaw ar y ffenestr.
(1, 0) 408 Cwyd Rolant ei olwg, ond y mae ei gefn at y ffenestr, ac ni wêl Jac.
(1, 0) 409 ~
(1, 0) 410 Dechreua'r tapio drachefn, yn uwch.
(1, 0) 411 Trŷ Rolant at y ffenestr, a gwêl wyneb Jac.
(1, 0) 412 Neidia ar ei draed, gan sibrwd gyda chryn syndod, "Jac"!
(1, 0) 413 ~
(1, 0) 414 Amneidia Rolant arno i ddod i mewn drwy'r cefn, a rhuthra i dynnu llenni'r ffenestr at ei gilydd.
(1, 0) 415 Diffodda'r ddwy gannwyll sydd ar y silf-ben-tân, nes bod y llwyfan rhwng tywyll a golau.
(1, 0) 416 ~
(1, 0) 417 Yna egyr ddrws y bac, a daw JAC i mewn.
(1, 0) 418 Y mae hwnnw'n cario pecyn bychan.
(1, 0) 419 ~
(1, 0) 420 Yn ystod rhan gyntaf yr ymgom sy'n dilyn, ymddengys Rolant yn lled anesmwyth, yn edrych o gwmpas yr ystafell yrŵan ac yn y man, a chlustfeinio am unrhyw sŵn dieithr.
 
(1, 0) 443 Y mae'n cymryd yr unig gannwyll, ac yn croesi i oleuo'r ddwy arall ar y silff-ben-tân.
 
(1, 0) 513 Mae'n dal i chwerthin, ac ni all Rolant yntau beidio ag ymuno yn yr hwyl.
(1, 0) 514 ~
(1, 0) 515 A phan fo'r chwerthin ar ei fan uchaf, daw JANET FOSTER, merch y Person, i mewn heb gnocio, yn ôl ei harfer.
(1, 0) 516 ~
(1, 0) 517 Saif yn sydyn pan wêl pwy sydd yno.
(1, 0) 518 Derfydd y chwerthin hefyd yn sydyn iawn.
 
(1, 0) 521 Cyfyd y ddau.
(1, 0) 522 Rolant yn araf araf, ond Jac ar unwaith, heb anghofio'i foesau da.
(1, 0) 523 Mae'n amlwg na ŵyr Rolant druan beth i'w wneud â'r sefyllfa newydd hon.
(1, 0) 524 Wedi edrych o un i'r llall yn ddigon ffwndrus, dywed yn drwsgl braidd:
 
(1, 0) 567 Drwy'r adeg, hyd at ei exit y mae Rolant yn lled aneswyth ac anghyfforddus yn ystod y sgwrs rhwng Janet a Jac.
(1, 0) 568 Ond y mae'r ddau yna yn mwynhau pob moment ohoni.
(1, 0) 569 Dylai'r ddau ddangos hyn yn glir, er mwyn datblygu'r gomedi.
 
(1, 0) 593 Y mae Rolant a Jac bron â chael eu taro'n fud gan syndod.
(1, 0) 594 Ond dywed y ddau o'r diwedd, bron gyda'i gilydd:
 
(1, 0) 646 Mae'n mynd o gwmpas yr ystafell, ac edrych yng nghwpwrdd y dresel, etc., tra y sieryd y ddau arall.
 
(1, 0) 665 Wedi i Rolant fynd allan ceir distawrwydd am ennyd neu ddau.
(1, 0) 666 Yma dywed Janet yn eithaf swynol:
 
(1, 0) 676 Cyflyma'r tempo yn sydyn.
(1, 0) 677 Sieryd Janet yn gyflym mewn 'stage whisper', gan dorri'r brawddegaw'n gwta, ond pob gair a ddywed yn dangos ei bod o ddifrif calon.
 
(1, 0) 689 Daw Rolant yn ôl.
 
(1, 0) 731 Daw Jac ato'i hun yn sydyn.
(1, 0) 732 Cyflyma'r tempo ar unwaith.
(1, 0) 733 Sieryd Jac yn gyflym, ac y mae o ddifrif am unwaith.
(1, 0) 734 Darfu'r cellwair.
 
(1, 0) 761 Y mae'n cydio yn ei bac, ac ar gychwyn allan pan y daw Sara ac Ifor i mewn.
(1, 0) 762 Arafa'r tempo.
 
(1, 0) 774 Ifor yn croesi at Jac, ac yn estyn ei law iddo.
(1, 0) 775 Mae rhyw golyn yng nghynffon pob ymadrodd o eiddo Ifor yma, ond ymddengys yn eithaf siriol a chyfeillgar:
 
(1, 0) 807 Clywir cnocio awdurdodol ar y drws canol.
(1, 0) 808 Cyflyma'r tempo ar unwaith.
 
(1, 0) 812 Cnocio eto, a llais: "Agorwch, yn enw'r Brenin!".
 
(1, 0) 820 Mae Jac yn camu at y drws hwnnw, ond saif Ifor ar ei ffordd, â'i gefn at y drws.
 
(1, 0) 823 Cyffro, a'r cnocio yn dal.
 
(1, 0) 833 Cnocio eto, a llais Mr. Foster i'w glywed.
 
(1, 0) 837 Egyr y drws, a daw Mr. Foster i mewn.
(1, 0) 838 Dilynir ef gan Capten Rogers, swyddog ym Milishia Sir Ddinbych.
 
(1, 0) 893 Ac fel yr â Capt. Rogers i gymryd gafael yn Jac, clywir lleisiau'r Milishia oddi allan, ac hefyd lais arall.
(1, 0) 894 Egyr drws, a daw JANET i mewn yn frysiog.
(1, 0) 895 Hawdd gweld bod rhywbeth anghyffredin wedi peri iddi frysio yno.
 
(1, 0) 945 Yn mynd allan gan floeddio'r geiriau yn histeraidd.
 
(1, 0) 948 Saib am ennyd neu ddwy.
 
(1, 0) 962 Â'r Capten allan.
 
(1, 0) 1027 Y mae'n troi at Jac, a cheisio'i orau i ymddangos mor ddi-gyffro ag y sydd modd.
 
(1, 0) 1037 Mr. Foster a Rolant yn mynd allan.
(1, 0) 1038 Saib fer.
 
(1, 0) 1064 Y mae Jac yn ymgrymu i gusanu ei llaw.
(1, 0) 1065 Yn sydyn, tynn hi ato'i hun, a chusana'r ddau ei gilydd.
(1, 0) 1066 Y maent yn ymwahanu, ac â Janet at y drws.
 
(1, 0) 1070 A chyn iddi fynd allan, dywed yntau'n dawel wrthi.
 
(1, 0) 1072 LLEN