Ciw-restr

Y Sosban

Llinellau gan Catherine (Cyfanswm: 48)

 
(1, 0) 501 'Esu, 'dwi 'di ca'l llond bol o'r hen le 'ma.
 
(1, 0) 503 Mor dawal.
 
(1, 0) 505 Hen le oer.
 
(1, 0) 507 Mae o bron â 'ngyrru fi rownd y bend.
 
(1, 0) 510 Ond, chwara' teg Ann ─ mae hi'n galad arnon ni...
 
(1, 0) 512 Hy, cath wedi cael ei chaneri neithiwr debyg.
 
(1, 0) 515 Mae'n galad ar rei 'sdi.
 
(1, 0) 518 'Roedd hi'n galad arno fynta hefyd dwi'n siŵr.
 
(1, 0) 520 Am fod 'i 'leave' o wedi gorffen o'n i'n 'i feddwl siŵr.
(1, 0) 521 Nôl i'r ffrynt heddiw ia?
 
(1, 0) 523 Join ddy clyb 'ta, 'ngenath i.
 
(1, 0) 525 Clwb dim dynion 'de?
(1, 0) 526 'Does 'na 'run i'w ga'l yn unlla 'sdi.
 
(1, 0) 529 Dyn!
(1, 0) 530 'Choelia i ddim yn fy mywyd.
 
(1, 0) 534 Dwn 'im ─ 'chydig o trening i hwn a mi fydd cystal ag unrhyw ddyn.
 
(1, 0) 536 Dowch yn nes.
 
(1, 0) 538 Hei, Sami ─ ti'n gw'bod be'?
 
(1, 0) 540 Mae'r hogan acw... {mae'n pwyntio at Anwen} yn dy ffansio di...
 
(1, 0) 543 Actia'r part hogan i mi ga'l dipyn o hwyl.
 
(1, 0) 545 Wel, be' ti'n mynd i'w wneud am y peth, e?
 
(1, 0) 547 I'w cha'l hi i ddod allan efo ti siŵr iawn.
 
(1, 0) 549 Gwranda.
(1, 0) 550 Wyt ti isho i imi ddangos i ti?
(1, 0) 551 Mi fyddi di'n ddyn wedyn yli.
(1, 0) 552 Yn ffilm star ella.
(1, 0) 553 Rwan cwyd i mi gael dangos i ti.
 
(1, 0) 555 Sbia ar hyn.
 
(1, 0) 557 Hi there, pussy cat.
(1, 0) 558 Ti'n dod am diod bach efo fi?
(1, 0) 559 (Wrth Anwen, fel petai'n gweini.)
(1, 0) 560 Siampen!
(1, 0) 561 Keep 'da change!
 
(1, 0) 563 Here's lookin' at you, kid.
 
(1, 0) 565 Ti'n gweld?
(1, 0) 566 Mae o'n hawdd yn tydi?
(1, 0) 567 Rwan tria di o...
 
(1, 0) 570 Ty'd rwan Sami bach.
 
(1, 0) 573 O, ti'n rel llo gwlyb yn dwyt?
 
(1, 0) 575 Faint ydi dy oed di Sami?
 
(1, 0) 577 Faint ydi dy oed di'r lembo?
 
(1, 0) 580 Y... y... newydd droi ugain... y... dest iawn... ydi o wchi...
 
(1, 0) 587 Dwyt ti ddim yn ffarmwr yn nagwyt, a dwyt ti ddim yn conshi ─ fasa fo ddim yn gw'bod be' mae hynny'n ei feddwl.
(1, 0) 588 Felly pam nad wyt ti yn yr armi 'ta, 'mlodyn gwyn i?
 
(1, 0) 593 R'wbath yn bod arnat ti, ia Sami bach?
(1, 0) 594 Deud ti be rwan 'ngwas bach annwyl i.
 
(1, 0) 597 Am bod ti'n dwlali.
 
(1, 0) 602 Mi fasat ti'n lladd yn hogia ni.