Ciw-restr

Y Sosban

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 92)

(1, 0) 1 GOLYGFA
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Mae'r llwyfan wedi ei rannu'n dri ─ mae golygfa llys ynadon yn y cefn, yna cynulleidfa y llys ac ar y dechrau mae blaen y llwyfan yn wag.
(1, 0) 4 Cyn codi'r golau mae pawb yn ei le yn barod ar wahân i'r ynadon.
(1, 0) 5 Pan ddaw'r golau, clywir cymeradwyaeth swnllyd gan aelodau'r oriel gyhoeddus.
(1, 0) 6 Mae un ohonynt ar ei draed yn eu hannerch.
 
(1, 0) 36 Daw'r ynadon i mewn yn gwisgo hetiau blodeuog.
 
(1, 0) 62 Daw'r Offisar a Samuel Jones i mewn.
(1, 0) 63 Mae Sami'n edrych ar goll braidd.
 
(1, 0) 82 Mae'n rhannu adroddiadau i'r ynadon a'r clerc tra mae'r gynulleidfa yn siarad ymysg ei gilydd.
 
(1, 0) 122 Mae'n tynnu ei lyfr nodiadau allan o'i boced a throi i'r dudalen gywir.
(1, 0) 123 Mae'n darllen yn fawreddog.
 
(1, 0) 156 Y golau'n tywyllu a llais Sami i'w glywed yn fain dros yr uchelseinydd yn dweud 'Dwi'n oer...
(1, 0) 157 dwi'n oer..." gan gryfhau fel mae'r doctor yn mynd rhagddo.
 
(1, 0) 160 Clywir Sami'n dweud 'Dwi'n oer...dwi'n oer!" nes ei fod yn gweiddi'n niwrotig.
(1, 0) 161 Mae tywyllwch llwyr ar ôl geiriau'r Doctor ─ digon o amser i rai o'r gynulleidfa yn y llys i adael y llwyfan.
(1, 0) 162 Cwyd sbot o olau ar ochr flaen chwith y llwyfan lle mae Sami yn ei gwman.
(1, 0) 163 Ar ôl i'r llais dros yr uchelseinydd orffen, daw rhai o gynulleidfa'r llys i flaen y llwyfan mewn dillad plant.
(1, 0) 164 Mae'r golau'n codi arnynt ac maent yn dawnsio mewn cylch gan weiddi-canu 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer!'
(1, 0) 165 Yna daw clerc y llys ─ mae wedi tynnu ei siwt a'i dei ac mae'n gwisgo trowsus bach; P.C. Davies ─ mae'n gwisgo cap ysgol yn lle helmed ac wedi rowlio ei drowsus i fyny at ei bengliniau, a'r Doctor sydd hefyd mewn dillad plentyn, ymlaen at weddill y plant.
(1, 0) 166 Mae'r golau'n ehangu i gynnwys canol y llwyfan ond gan gadw golygfa'r llys yn y tywyllwch os yn bosibl.
 
(1, 0) 175 Daw Cadeiryddes y Fainc i mewn fel Annie gyda sgarff rownd ei llygaid a'i breichiau allan yn ymbalfalu ei ffordd.
(1, 0) 176 Mae'r plant yn rhedeg o'i chwmpas.
 
(1, 0) 333 Mae'r plant yn gadael rhesi'r 'dosbarth' ac yn rhedeg o amgylch Sami.
(1, 0) 334 Exit y Doctor.
 
(1, 0) 355 Sami yn cychwyn ato eto ─ tua chornel chwith y llwyfan a'r un peth yn digwydd eto.
(1, 0) 356 Ar ôl iddo ddisgyn yr ail waith, nid yw'n codi tan i'r plant fynd allan i'r chwith efo'r gadair yn gweiddi 'Sami bach yn oer, Sami bach yn oer' ac i un ohonynt gymryd y sgarff oddi ar ei lygaid cyn mynd.
(1, 0) 357 ~
(1, 0) 358 Fel mae sŵn y plant yn distewi, daw Siopwraig i mewn o'r chwith i flaen chwith y llwyfan, yr Helth Inspector i mewno'r dde i ganol y llwyfan a'r Doctor i mewn o'r dde i flaen dde y llwyfan.
(1, 0) 359 Maent yn cario bwrdd neu ddesg fechan bob un gyda rhowlyn o bapur linen wedi ei binio i flaen pob desg.
(1, 0) 360 Yn union cyn dechrau siarad maent yn gollwng y rhowlyn o'u blaenau.
(1, 0) 361 Byddai'n medru bod yn effeithiol pe gellir cael sbot yn dilyn Sami o'r naill i'r llall.
 
(1, 0) 399 Saib.
 
(1, 0) 404 Saib.
(1, 0) 405 Nid yw Sami'n edrych ar y cerdyn.
 
(1, 0) 411 Saib.
 
(1, 0) 421 Mae'r Helth Inspector yn gollwng ei rhowlyn o flaen ei desg ac arno mae'r geiriau 'Yn eisiau, gofalwr tai bach'.
 
(1, 0) 457 Mae'r Doctor yn dadrowlio'r hysbyseb ar flaen ei ddesg ac arno mae'r geiriau: 'Yn eisiau: Dynion i'r Armi.'
 
(1, 0) 491 Saib.
 
(1, 0) 496 Mae'r Siopwraig, Yr Helth Inspector a'r Doctor yn gafael yn eu byrddau a mynd allan.
(1, 0) 497 ~
(1, 0) 498 Clywir lleisiau'r plant dros yr uchelseinydd yn gweiddi-canu: Sami bach yn oer. Oeri! Oeri! OERI!
(1, 0) 499 ~
(1, 0) 500 Daw dwy ferch i mewn o ochr chwith y llwyfan, maent yn gwisgo dillad y 40au, llawer o golur, sgidia sodlau uchel a handbags.
 
(1, 0) 509 Daw Megan i'r golwg.
 
(1, 0) 554 Mae'n ei godi a chan afael rownd iddo fo mae'n mynd at Anwen ac yn defnyddio ei freichiau ef fel petai'n bwped i gyffwrdd Anwen.
 
(1, 0) 605 Mae'r tair yn mynd allan i'r dde.
(1, 0) 606 Clywir sŵn Sarjant yr Hôm Gards yn gweiddi 'lefft, rait, lefft, rait' etc. o ochr chwith y llwyfan am dipyn cyn iddo ef a thri milwr yn cario sosban, cot a brwsh llawr ymddangos.
 
(1, 0) 622 Troi at y milwyr.
 
(1, 0) 625 Mae'r milwr yn cerdded mewn sgwar ffurfiol ymlaen, yna at Sami, rhoi'r gôt iddo ac yn ôl rownd y cefn i'w safle.
 
(1, 0) 629 Mae'n martsio fel yr un o'i flaen a rhoi brwsh llawr iddo.
 
(1, 0) 632 Mae yntau'n rhoi sosban am ben Sami.
(1, 0) 633 Yna a'r Sarjant at Sami.
 
(1, 0) 636 Sami'n ceisio ymsythu.
 
(1, 0) 640 Sami yn mynd o flaen rhes y milwyr.
 
(1, 0) 644 Sami'n cychwyn troi i'r dde ond yn cywiro'i hun.
 
(1, 0) 647 Maent yn mynd rownd i gefn y llwyfan gyda Sami yn arwain, yna fel y maent yn dod yn ôl tua blaen y llwyfan mae'r tri milwr arall yn aros yn y cefn gan adael i Sami droi mewn cylchoedd dan orchmynion y Sarjant sy'n sefyll ar ochr dde'r llwyfan.
 
(1, 0) 649 Daw'r plant a chynulleidfa'r llys i mewn gan weiddi 'Sami Sosban! Sami Sosban!' yn wawdlyd.
(1, 0) 650 Ar uchafbwynt y gweiddi daw P.C. Davies a'r Offisar i mewn.
 
(1, 0) 654 Mae'r lle'n tawelu'n raddol.
 
(1, 0) 658 Mae'n troi a gweld Sami.
 
(1, 0) 666 Mae'n ei thynnu a'i rhoi i'r Offisar.
 
(1, 0) 668 Mae'n ei roi i'r Offisar.
 
(1, 0) 670 Ei rhoi i'r Offisar sy'n mynd allan.
 
(1, 0) 676 Daw'r Doctor i mewn; mae P.C. Davies yn mynd allan, mae'r plant a chynulleidfa'r llys wedi rhannu'n ddau grwp ─ un yn mynd yn ôl i un ochr y llwyfan yn lein syth a'r llall yn mynd yn ôl i ochr arall y llwyfan.
(1, 0) 677 Mae dwy stand dal cotiau ar bob ochr i'r llwyfan ers y dechrau a chynfasau gwynion arnynt.
(1, 0) 678 Maer criw yn cymryd cynfas wen bob un oddi ar y standiau ac yn eu gwisgo amdanynt.
(1, 0) 679 Rhaid mesur y cynfasau a rhoi pinnau ynddynt ymlaen llaw fel bod pawb yn gwybod pa un yw ei un ef a bod modd ei rhoi amdano'n gyflym a heb dynnu gormod o sylw.
(1, 0) 680 Ar hyn o bryd mae'r ddwy res a'u cefnau at ganol y llwyfan.
 
(1, 0) 686 Sami'n gwneud.
 
(1, 0) 689 Ar y gair hwn mae'r ddwy res yn troi i wynebu canol y llwyfan GYDA'I GILYDD gan droi'r ysgwydd sy'n wynebu'r gynulleidfa gyntaf.
 
(1, 0) 693 Mae Sami'n mynd ar ei benliniau.
 
(1, 0) 696 Mae'r Doctor yn mynd allan drwy gefn y llwyfan a phan yw Sami'n cychwyn siarad mae'r gynulleidfa a'r plant yn cerdded i mewn i ganol y llwyfan yn raddol gan gau'n hanner cylch o gwmpas Sami ─ fel muriau tafell.
 
(1, 0) 700 Edrych yn wyllt o'i gwmpas ar y 'waliau' sydd wedi cau amdano bellach.
(1, 0) 701 Yng nghefn y llwyfan mae swyddogion y llys yn mynd i'w safleoedd yn ddistaw yn barod ar gyfer yr olygfa nesa')
 
(1, 0) 703 Mae'n gweiddi yn awr gan dynnu ei goban i ffwrdd.
 
(1, 0) 705 Yna'n ddistawach, fel un wedi ei ddychryn.
 
(1, 0) 714 Mae'r ddwy 'wal' yn symud yn ôl gyda'i gilydd ond yn dal i wisgo'r cynfasau gwynion gan edrych yn syth o'u blaenau fel doliau yn awr.
(1, 0) 715 Mae'r golau'n codi'n gyflym ar olygfa'r llys.
(1, 0) 716 Mae Sami yng nghanol y llwyfan.
 
(1, 0) 725 Ben Little yn ceisio'i dawelu.
 
(1, 0) 732 Yr ynadon yn sibrwd ymysg ei gilydd.
 
(1, 0) 736 Saib.
 
(1, 0) 752 Ar yr un pryd mae'r Clerc yn rhoi nod i'r Doctor sy'n symud ymlaen at Sami, yn rhoi'r goban dros ei ysgwydd a'i symud i gornel flaen chwith y llwyfan ─ lle mae'r sbot yn codi arno ar y diwedd.
(1, 0) 753 Yna ar ôl geiriau olaf y Gadeiryddes a'r Doctor allan.
 
(1, 0) 756 Ar y geiriau hyn mae'r ddwy res yn tynnu eu cynfasau gwyn a symud ymlaen i ganol y llwyfan ac eistedd i lawr ─ ar y cynfasau fel yr oeddent ar ddechrau'r ddrama.
(1, 0) 757 Mae popeth yn bywiogi eto.
 
(1, 0) 766 Y gynulleidfa'n canu 'Fe orchfygwn ni'.
(1, 0) 767 Mae'r golau'n graddol dywyllu arnynt ac maent yn canu'n ysgafnach.
(1, 0) 768 Mae'r sbot yn codi ar Sami yng nghornel chwith y llwyfan a chlywir ei lais dros yr uchelseinydd yn dweud yn ysgafn i ddechrau 'Dwi'n oer... dwi'n oer'.
(1, 0) 769 Diffoddir y golau ar olygfa'r llys gan adael dim ond y sbot a chlywir llais Sami'n dweud yr un geiriau yn uwch ac yn uwch nes ei fod yn fyddarol.
(1, 0) 770 Tywyllwch.