Ciw-restr

Y Sosban

Llinellau gan Doctor (Cyfanswm: 51)

 
(1, 0) 74 Mi rydw i wedi astudio'r person hwn yn ofalus iawn ─ mae o dan fy ngofal personol i yn yr ysbyty.
(1, 0) 75 Ces diddorol iawn, iawn.
(1, 0) 76 Elfennau o'r clefydau nosophobia, ffilophobia a ffrwadophobia'n perthyn iddo fo.
(1, 0) 77 Eithriadol!
(1, 0) 78 Meddwl plentyn er ei fod o yn tynnu at ei drigain.
(1, 0) 79 Wedi ei fagu gan ei nain mae'n debyg, ─ er nad ydan ni'n siwr os oedd hi'n perthyn drwy waed.
(1, 0) 80 Diddorol 'dach chi'n gweld.
(1, 0) 81 Wedyn mi rydan ni wedi cael llawer o dystiolaeth gan gyn-athrawon, gan gyfoedion oedd yn yr ysgol hefo fo ─ a gwahanol aelodau o'i gymdeithas leol o...
 
(1, 0) 94 Felly mi garwn argymell fod y llys yn ystyried Samuel Jones yn ddiffygiol ei feddwl ac yn un nad yw'n gyfrifol am ei weithrediadau.
 
(1, 0) 155 Os oedd meddwl abnormal Samuel yn deud ei fod o'n oer...
 
(1, 0) 158 ...yna mi fyddai'i gorff o'n wirioneddol oer.
(1, 0) 159 Roedd hyn yn mynd yn ôl i'w blentyndod o mae'n debyg ─ diddorol wyddoch chi ─ ac mae o i'w weld drwy'i lencyndod o adeg y rhyfel hefyd diddorol iawn...
 
(1, 0) 215 Dwi heb gael tro ers lot...
 
(1, 0) 458 Isho ymuno a'r armi ia?
(1, 0) 459 Wel, maen nhw'n cymryd rwbath ond iddyn nhw basio'r medical yn gynta ti'n gweld.
(1, 0) 460 Rwan agor dy geg a deud "A".
 
(1, 0) 462 Yr argian fawr, mi roedd hwnna'n swnio'n wag.
(1, 0) 463 Tria fo eto.
 
(1, 0) 465 Mm.
(1, 0) 466 Wyt ti wedi gweld doctor o'r blaen, Sami?
 
(1, 0) 468 Mae gen i lythyrau gan athrawon ysgol fan hyn ac un gan dy blismon pentra di ac yn ôl be' maen nhw'n ddeud, mi ddylat ti fod wedi gweld un ers blynyddoedd.
(1, 0) 469 Be' ydi dy broblem di, Sami?
 
(1, 0) 471 Be' wyt ti'n da yn fa'ma 'ta?
 
(1, 0) 473 Methu cael job, ia?
 
(1, 0) 475 Agor dy grys.
 
(1, 0) 478 Paid a dychryn.
(1, 0) 479 Dim ond gofyn i ti agor dy grys wnes i.
(1, 0) 480 Dim ond eisiau testio curiadau dy galon di 'rydw i.
(1, 0) 481 Rwan agor...
 
(1, 0) 484 Ond pam?
(1, 0) 485 Be 'di'r matar?
 
(1, 0) 487 Oes gen ti ofn bod yn oer 'ta?
 
(1, 0) 492 Hym.
(1, 0) 493 Diddorol iawn.
(1, 0) 494 Mi rwyt ti'n ges arbennig iawn.
(1, 0) 495 'Does 'na ddim lle i rai fel ti yn yr armi wrth gwrs, ond mi rwyt ti'n ddiddorol iawn.
 
(1, 0) 682 Dyma ti Sami, gwisga hon.
 
(1, 0) 684 Wrth gwrs ei bod hi ─ mae popeth yn wyn mewn 'sbyty.
(1, 0) 685 Rwan gwisga hi...
 
(1, 0) 687 Mi gei di berffaith hedd a chwarae teg i wella yn fan'ma ti'n gweld.
(1, 0) 688 Mi gei di lonydd...
 
(1, 0) 690 Mi fydd y nyrsus yn edrych ar dy ol di ─ yn rhoi bwyd i ti, yn dy folchi di, yn newid dy ddillad di ac mi fydda inna'n trio dy wella di.
(1, 0) 691 Fydd dim rhaid i ti wneud dim byd, na phoeni am ddim byd.
(1, 0) 692 Rwan gorwedd i lawr yn dy wely...
 
(1, 0) 694 ... gad lonydd i ni wneud y cyfan.
(1, 0) 695 Cofia paid â phoeni, a phaid â meddwl.
 
(1, 0) 720 Ie, wel ar ôl cyfnod y rhyfel 'roedd yn amhosibl i'r claf gael gwaith wrth gwrs.
(1, 0) 721 Doedd ganddo fo ddim cymwysterau na thestimonials ac mi roedd pobl yn sylwi fod rhywbeth o'i le arno fo.
(1, 0) 722 Ac yn y diwedd mi ddaethon nhw ag o atom ni i'r ysbyty...
 
(1, 0) 730 Y cyfan sydd gen i i'w ddweud yw awgrymu mai'r peth gorau fyddai iddo ddychwelyd atom ni.
(1, 0) 731 Mae gen i ofn ei fod o'n un o'r rheiny sydd wedi cael eu geni i'r byd er mwyn i weddill cymdeithas ofalu amdanyn nhw.