Ciw-restr

Ystori'r Streic

Llinellau gan Mari (Cyfanswm: 55)

 
(1, 1) 110 Halo! Mavis! Ble ry chi os!
 
(1, 1) 113 P'am! Beth sy'n bod?
 
(1, 1) 126 Dir! Gwelwch fel mae'r babi yn enjoyo'ch clywed chi'n canu, Mavis!
(1, 1) 127 Mae e'n edrych fel pe licse fe ganu gyda chi, yr un bach anwyl, shwd ag yw e!
(1, 1) 128 Ond does dim shwd gantwraig a chi, Mavis, yn y wlad yma.
 
(1, 1) 130 Hen wraig wir!
(1, 1) 131 Dy chi ddim ond croten, ond croten yn canu yn gwmws fel angel.
 
(1, 1) 135 Hanner cant o blismen dierth!
 
(1, 1) 139 Glywsoch chi ddim!
(1, 1) 140 O achos y streic!
 
(1, 1) 143 Nag oes, eitha gwir!
(1, 1) 144 Ond mae nhw'n gweyd fod Symonds, y manager, wedi persuado Mr Wynn i hala i mo'yn lot o blismen a gwyr ceffylau rhag ofn i'r bechgyn ar streic wneud niwed i'r gwaith
 
(1, 1) 146 Fe allawn feddwl hynny wir!
(1, 1) 147 Fe wnaiff Gruffydd Elias fwy ei hunan i gadw'r bechgyn yn dawel nag a wnaiff cant o blismen Bendith ar ei ben e!
 
(1, 1) 149 Tae chi'n ei nabod e fel fi fe fysech chithau'n ei addoli e hefyd.
(1, 1) 150 Rwy'n meddwl weithiau mai rhyw un tebyg i Gruffydd Elias oedd Iesu Grist!
 
(1, 1) 154 Na gwrandewch chi arna'i Mavis fach!
(1, 1) 155 Ry chi'n cofio i fì gladdu'r gwr, William Huw, yr haf diweddaf.
(1, 1) 156 Doedd gen i neb i ennill tamaid o fara i'r plant bach yco, ond William bach, a doedd ei gyflog e, fel gwyddoch chi, ddim yn fawr.
(1, 1) 157 Ond fe ymdopson nes i'r streic yma ddod.
(1, 1) 158 Dim ond shar crwt oedd William bach yn gael o arian y streic, wrth gwrs—a doedd hynny ddim digon i gadw bara yn y ty chwaethach dim rhagor.
 
(1, 1) 162 Fe wn hynny, merch fach i!
(1, 1) 163 Ond fues i erioed yn cardota, a alla i ddim dechreu 'nawr.
(1, 1) 164 Ond ta beth, fe ethon i'r gwely un noswaith, y plant a finnau, heb ddim tamaid o ddim byd oddiar amser cinio.
(1, 1) 165 Wel fe weddiais i'r noswaith honno fel nw weddiais i erioed o'r blaen!
(1, 1) 166 Wyddoch chi ddim, Mavis fach, beth yw teimlad mam yn gwel'd ei phlant bach yn dioddef eisieu bwyd!
(1, 1) 167 Ond ar ol gweddio, fe dawelodd fy nghalon, a fe es i'r gwely a fe gysgais drwy'r nos.
(1, 1) 168 Bore tranoeth roedd Mari fach yn chwilio am rywbeth ar ffenest y gegin, a dyma hi'n gwaeddi:
(1, 1) 169 "Mam fach! dyma bapur ar y ffenest a'i lond e o arian!" Ac erbyn edrych dyna beth oedd e hefyd.
(1, 1) 170 'Roedd yno dwll bach yn nghornel y ffenest, a rhyw un wedi saco papur a chwpl o sylltau ynddo fe mewn yn y nos.
 
(1, 1) 173 Wel, rown i'n meddwl am y gigfran yn porthi Elias, ac fe ddwedais wrth y plant mai Duw oedd wedi danfon ei angel i'n porthi ninnau pan ar newynu!
(1, 1) 174 Ond fe dd'gwyddws yr un peth wed'yn y pythefnos diweddaf yma, a hynny bob tro pan bysen ni wedi mynd heb ddim tamaid o fara yn y ty.
(1, 1) 175 A rown i'n meddwl am y wraig weddw a'r phiol olew a'r blawd yn y celwrn, ac yn ceisio meddwl pwy oedd y prophwyd santaidd oedd yn bendithio ffenest y gegin i fi a'r plant bach.
(1, 1) 176 A rown i a'r plant yn siarad yn aml licsen ni wel'd angel yr Arglwydd oedd mor garedig ini.
 
(1, 1) 178 Wel, neithiwr ddiwetha, doedd dim o Sioned fach yn dda iawn, ac fe godais wedi canol nos rywbryd i fynd lawr i'r gegin i mo'yn cwpaned o ddwr iddi.
(1, 1) 179 Fe etho heb un ganwyll, waeth fe wyddwn ble i roi fy llaw ar y cwpan a'r dwr.
(1, 1) 180 A chyda mod i'n cyrraedd godre'r stair, gwelwn law rhywun yn gwthio papur mewn drwy'r twll yn y ffenest.
(1, 1) 181 "Dyna'r angel does dim dowt!" myntwn i wrthyf fy hun.
(1, 1) 182 'Roedd hi'n oleu leuad fel y dydd, ac fe welais ar unwaith nag oedd dim adenydd gan yr angel, ta beth.
(1, 1) 183 A mlaen a fi'n ddistaw bach i edrych drwy'r ffenest ar yr angel yn mynd ar hyd y llwybr, a phan gyrhaeddodd e gat fach yr ardd, fe drows eì wyneb nes oedd goleuni'r lleuad yn taro arno fe, a fe welais oleuni'r nefoedd, a thrugaredd, a Duw yn llewyrchu ar ei wyneb gwyn e—a phwy oedd e ond Gruffydd Elias!
 
(1, 1) 187 Ie. Fe oedd e.
(1, 1) 188 Yn rhanu ei damaid bach ei hunan rhwng y weddw a'r amddifad!
(1, 1) 189 A bore heddy gwnes ryw esgus i fynd draw at Shani, lle mae e'n lodjo, a fe ddwedodd Shani wrthyf ei bod hi'n siwr fod Gruffydd Elias yn hanner starvo ei hunan, nag oes gydag e ddim hanner digon o fwyd i gynnal dyn yn reit.
(1, 1) 190 A rhoi ei fwyd mae e, welwch chi, i fi a rhai fel fi, sydd heb ddim i'w gael, ac yn gwneyd hynny'n ddistaw bach, heb neb yn cael gwybod gydag ef.
 
(1, 1) 192 Ry chi'n gwel'd nawr pa'm rw i'n dweyd mod i'n meddwl fod Iesu Grist yn debyg i beth oedd gwyneb Gruffydd Elias neithwr.
 
(1, 1) 196 A dyna'r dyn mae'n rhaid cael hanner cant o blismen i'w gadw e rhag gwneud drwg!
 
(1, 1) 200 Ody! ody!
(1, 1) 201 Dyna'r hen air:
(1, 1) 202 "Hir yr erys Duw cyn taro,
(1, 1) 203 Llwyr y dial pan y delo!"
(1, 1) 204 Ond peidwch a becso am y babi.
(1, 1) 205 Gwaith dannedd sy' arno fe'r un bach.
(1, 1) 206 'Rwy'n mynd nawr i gael clywed yr hanes.
(1, 1) 207 'Roedd Gruffydd Elias a rhai o'r dynion i gael siarad a Mr Wynn a Symonds heddy i gael treio setlo.
(1, 1) 208 Fe ddo i nol maes law.