Ciw-restr

Ystori'r Streic

Llinellau gan Mavis (Cyfanswm: 73)

 
(1, 1) 5 Does gen i gynnyg i'r hen Symonds yna, ys wedi dod yn |fanager| gwaith Mr Wynn.
(1, 1) 6 Rwy'n siwr mai hen greadur twyllodrus yw e, ac mai hen un cas yw e hefyd!
(1, 1) 7 Fuaswn i byth yn esmwyth fy meddwt tae William dano fe.
(1, 1) 8 Y lwc fwya yn y byd oedd i William gael cynnyg ar y lle yna yn offis Mr Davies.
(1, 1) 9 Fe fydda i'n esmwyth fy meddwl nawr am William, ta beth!
(1, 1) 10 A does dim ond mis eto cyn bydd William a finnau wedi priodi!
(1, 1) 11 Dim ond mis!
(1, 1) 12 Rwy'n ofni bydd rhaid i fi roi'r canu heibio wed'yn.
(1, 1) 13 Rwy'n gwybod nad yw William yn leicio mod i'n mynd ar gerdded cymaint i ganu.
(1, 1) 14 A leiciwn i ddim er y byd i wneud dim i siomi William.
(1, 1) 15 Ond fe gaf ganu gartref, a digon o achos canu rwy'n siwr.
 
(1, 1) 17 Canu, canu, canu,
(1, 1) 18 Y mae'r aderyn pur:
(1, 1) 19 Canu, canu, canu,
(1, 1) 20 Y mae fy nghalon wir.
(1, 1) 21 Canu mae'r aderyn,
(1, 1) 22 Wrth gofio'i gydmar cu;
(1, 1) 23 Canu mae fy nghalon,
(1, 1) 24 Wrth gofio'th gusan di!
 
(1, 1) 28 William anwyl!
 
(1, 1) 32 Chi, Mr Symonds, sydd yna!
(1, 1) 33 Rwy'n synnu atoch!
 
(1, 1) 35 A ry chi'n galwch hunan yn foneddwr!
(1, 1) 36 Does dim gweithiwr yn Nghymru na fuase'n teimlo'i hunan yn ormod o wr bonheddig i insulto merch dd'amddiffyn!
 
(1, 1) 41 A dyma beth yw gyniad Sais am fod yn foneddwr!
(1, 1) 42 Insulto merched ifanc ar yr heol.
 
(1, 1) 48 Ry chi'n lwcus nad oes un o'r gweithwyr yr ydych chi'n edrych lawr arnyn' nhw yma nawr, neu fe gawsech wel'd!
 
(1, 1) 56 Help!
 
(1, 1) 61 Gruffydd Elias anwyl!
 
(1, 1) 83 Fe allswn feddwl hynny, wir!
 
(1, 1) 98 A nawr dyma'r streic wedi bod am chwech wythnos yn ngwaith Mr Wynn!
(1, 1) 99 Diolch byth na arhosodd William yn yr offis yno o dan Symonds!
(1, 1) 100 Mae lle William yn saff o dan Mr Davies yn ngwaith y Glyn, neu wn i ddm beth wnelawn i!
(1, 1) 101 Oh! hen greadur cas yw'r hen Symonds yna!
(1, 1) 102 Mae nhw'n dweyd mai fe yw achos y drwg i gyd yn nglŷn a'r streic yma.
(1, 1) 103 Rwy'n methu deall shwd mae Mr Wynn, ac yntau'n gystal gwr bonheddig ei hunan, yn rhoi cymaint o'i ffordd i greadur fel yr hen Symonds yna.
 
(1, 1) 106 Dyco'r babi'n llefain!
(1, 1) 107 Dyw e ddim hanner 8 iach, yr un bach at wyl ag e!
 
(1, 1) 112 Mae'n dda gen i eich gwel'd chi, fenyw!
 
(1, 1) 114 Dyw'r babi ddim hanner iach gen i.
(1, 1) 115 Dyna! dyna! Paid ti llefain y nghariad bach i.
(1, 1) 116 Dyma mami'n canu i ti.
 
(1, 1) 118 Myfi sy'n magu'r baban,
(1, 1) 119 Myfi sydd yn siglo'r cryd,
(1, 1) 120 Myfi sy'n hwian hwian,
(1, 1) 121 Ac yn hwian hwy o hyd.
(1, 1) 122 Bu'n crio bore heddyw
(1, 1) 123 O hanner y nos tan dri,
(1, 1) 124 Ond fi sy'n colli'm cysgu,
(1, 1) 125 Mae'r gofal i gyd arnaf fi.
 
(1, 1) 132 Hush! Beth sy'na, gwedwch?
 
(1, 1) 136 Plismen dierth!
(1, 1) 137 Hawyr bach!
(1, 1) 138 Beth mae nhw'n wneud a phlismen yma!
 
(1, 1) 141 Ond beth mae plismen yn wneud a'r streic!
(1, 1) 142 Does yma ddim |rows|!
 
(1, 1) 145 Dyna gywilydd, ontefe!
 
(1, 1) 148 Ry chi'n hanner addoli Gruffydd Elias, rwy'n credu!
 
(1, 1) 151 Mari! Mari!
(1, 1) 152 Ody chi'n ystyried beth ry chi'n ddweyd!
(1, 1) 153 Ymswynwch!
 
(1, 1) 160 Pa'm ne fuasech yo dod yma ata i!
(1, 1) 161 Fe gesech dorth bryd mynsech chi, a'ch greso!
 
(1, 1) 171 Oh! Mari!
(1, 1) 172 Rhyw un caredig oedd e!
 
(1, 1) 185 Oh! Mari fach!
(1, 1) 186 A fe oedd e!
 
(1, 1) 193 Odw! odw!
(1, 1) 194 Rwy'n deall!
(1, 1) 195 Duw a'i fendithio!
 
(1, 1) 197 Ie! Onid yw e'n gywilydd!
(1, 1) 198 Ond gwaith yr hen Symonds y felldith yna yw'r cwbwl!
(1, 1) 199 Ond mae Duw yn siwr o ddial arno cyn hir.