Ciw-restr

Ystori'r Streic

Llinellau gan Symonds (Cyfanswm: 26)

 
(1, 1) 29 Ti gofi nghusan i ynte!
 
(1, 1) 34 Pe gallasech wel'd eich hun y funud yma, a deall mor dlos ydych, f'anwylyd brydferth, fysech chi'n synnu dim!
 
(1, 1) 37 Does yma neb gwerth ei alw yn weithiwr ymhlith y Cymry!
(1, 1) 38 Yr unig beth da welais i yn Nghymru yw'r merched; a chi, merch anwyl i, yw'r oreu welais i eto.
 
(1, 1) 43 Insulto!
(1, 1) 44 Na!
(1, 1) 45 Na talu compliment uchel i chi ow'n i, nghariad i.
 
(1, 1) 49 Twt!
(1, 1) 50 Merch fach i, peidiwch bod mor ddwl!
(1, 1) 51 Fe ddwgais i un cusan oddiarnoch chi.
(1, 1) 52 Rw i am fod yn onest, ac am ei roi yn ol i chi nawr.
 
(1, 1) 63 Y creadur impudent!
(1, 1) 64 Pwy fusnes sy' gen ti i ymyryd a mi!
 
(1, 1) 66 Ti gei weld!
(1, 1) 67 Mi ro i'r sac iti ddydd Sadwrn, was i!
 
(1, 1) 71 Wnaiff hi byth o'r tro i Mr Wynn gael gwybod, neu fe gawswn y sac fy hunan!
(1, 1) 72 Rhaid i fi geisio taflu llwch i'w llygaid hwynt!
 
(1, 1) 74 Peidiwch gadael ini gwympo maes!
(1, 1) 75 Chi wyddoch galla i fel manager wneud llawer o ddrwg i chi fel gweithiwr.
 
(1, 1) 77 Ie, ie!
(1, 1) 78 Ond 'dw i ddim am wneud niwed i chi'r dyn!
(1, 1) 79 Dyma hanner sofren i chi.
(1, 1) 80 Dow'n i'n meddwl dim drwg i'r ferch—a fe bryna i brooch beautiful yn bresent iddi yn Abertawe dydd Sadwrn fel iawn am yr hyn a wnaethum.
 
(1, 1) 88 Ond fel mai byw fy enaid, chi gewch 'difaru eich dau gynifer gwelltyn sy ar eich pen!
(1, 1) 89 Fe gadwa i lygad arnat ti Gruffydd Elias yn y gwaith, was i!
(1, 1) 90 Ac am danat ti, Mavis, fe wna i ti fynd ar dy liniau o'm mlaen i eto am hyn, tae hi'n cymeryd dwy flynedd o amser i fi wneud hynny.