Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Ciwpid (Cyfanswm: 26)

 
(0, 17) 2193 Syrs, y sawl a ddirmygo ei dduw ei hun yn annuwiol
(0, 17) 2194 ar ei air neu ar ei weithred er trwstaneiddrwydd bydol,
(0, 17) 2195 i'r duwiau eraill i gyd mae'n gwneuthur cywilydd a cholled
(0, 17) 2196 a hwn a ddylai ddwyn cosbedigaeth galed.
(0, 17) 2197 Hyn a wnaeth y ffilog yma, Cresyd,
(0, 17) 2198 a fu gynt yn ben ar lendid.
(0, 17) 2199 Yr owran mae yn rhoi beiau
(0, 17) 2200 ar waith Fenws a minnau,
(0, 17) 2201 ~
(0, 17) 2202 yn dywedyd ac yn achwyn am ei rhyglyddus ddrygioni
(0, 17) 2203 mai fy mam a minnau oedd yn achos o hynny;
(0, 17) 2204 yn galw Fenws yn dduwies ddall, anwadal,
(0, 17) 2205 a llawer o ddrwg eiriau anosbarthus, gwamal.
(0, 17) 2206 Hi a fynn fwrw atom ninnau
(0, 17) 2207 ei godinebus fuchedd hithau.
(0, 17) 2208 I hon erioed dangosais
(0, 17) 2209 gymaint o help ag y gellais.
(0, 17) 2210 ~
(0, 17) 2211 Ac yn gymaint â bod hyn atoch chwi eich pump yn perthyny,
(0, 17) 2212 a chwithau'ch pump yn rhannog o'r holl ysbrydol allu,
(0, 17) 2213 y neb a wnaeth gam i'ch uchel alwedigaeth
(0, 17) 2214 a ddylech chwi ei gosbi â thrwm gosbedigaeth.
(0, 17) 2215 Ni chawsoch, mi a wrantaf,
(0, 17) 2216 y fath gamfraint â hyn yma.
(0, 17) 2217 Cytunwch am y dialedd
(0, 17) 2218 a rowch arni am y camwedd.