Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Priaf (Cyfanswm: 111)

 
(0, 3) 158 Fy meibion, fy arglwyddi
(0, 3) 159 a'm hyderus gwmpeini,
(0, 3) 160 yn eich cyngor a'ch gweithred
(0, 3) 161 mae fy holl ymddiried.
(0, 3) 162 Y mae trigain brenin
(0, 3) 163 yn barod yn ein herbyn,
(0, 3) 164 bob awr yn disgwyl llosgi
(0, 3) 165 ein holl wledydd a'n trefi,
(0, 3) 166 a difetha o'r diwedd
(0, 3) 167 nyni, ein plant a'n gwragedd.
(0, 3) 168 A'r achos oll am ddewis
(0, 3) 169 o Helen chwychwi Paris.
(0, 3) 170 ~
(0, 3) 171 Eich cyngor, pa un orau,
(0, 3) 172 ai rhoddi Helen adre
(0, 3) 173 ac ymadael â thristwch
(0, 3) 174 a byw mewn diofalwch,
(0, 3) 175 ai trwy drawster ei dala
(0, 3) 176 a gofyn byth y gwaetha,
(0, 3) 177 a byw fel y gellir
(0, 3) 178 er bygythion y Groegwyr?
(0, 3) 179 Atolwg i chwi ddwedyd
(0, 3) 180 beth a fynnwch chwi ei wneuthyd.
(0, 3) 181 ~
(0, 3) 182 Yn gyntaf doedwch, Hector;
(0, 3) 183 beth yw eich meddwl a'ch cyngor?
(0, 3) 184 Ai rhyfel ai heddwch?
 
(0, 3) 260 Fy ymddiffynwyr o'm blinder,
(0, 3) 261 trwy eich synnwyr a'ch gwychder,
(0, 3) 262 i'm henaint llawenydd
(0, 3) 263 trwy eich moliant tragywydd,
(0, 3) 264 fy nghytsain cywiriad
(0, 3) 265 a'm hyderus ymddiriaid,
(0, 3) 266 eich geiriau cytson
(0, 3) 267 a ddefrôdd fy nghalon
(0, 3) 268 trwy adrodd fy modlondeb
(0, 3) 269 i ufuddhau i'ch cytundeb.
(0, 3) 270 A chymerwch feddyliau
(0, 3) 271 Antenor i'r gorau.
(0, 3) 272 ~
(0, 3) 273 Efo yn siwr a aned
(0, 3) 274 tan rhyw fanach blaned
(0, 3) 275 fel nad yw cyn gryfed
(0, 3) 276 yn ei feddwl a'i weithred
(0, 3) 277 ag ydyw Hector a Troelus.
(0, 3) 278 Am y cam a wnaethon
(0, 3) 279 â'm chwaer Hesion,
(0, 3) 280 Helen a gadwa'
(0, 3) 281 o fewn caerau Troea.
 
(0, 3) 295 Dos ymaith yn brysur;
(0, 3) 296 cyrch ferch y traetur
(0, 3) 297 i gael cosbedigaeth
(0, 3) 298 am gelu traeturiaeth.
 
(0, 3) 300 Oni edrychir, fy meibion,
(0, 3) 301 i'r pethau hyn yn greulon,
(0, 3) 302 a'r tân parod a enynnodd
(0, 3) 303 mewn amser i'w ddiffodd,
(0, 3) 304 onide fe geir gweled
(0, 3) 305 ormod traeturiaid.
(0, 3) 306 Rhaid gwneuthur yn helaeth
(0, 3) 307 am hyn gosbedigaeth,
(0, 3) 308 onide rwyf yn ofni
(0, 3) 309 y bydd gormod drygioni.
(0, 3) 310 a Antenor a welir
(0, 3) 311 yn dywedyd y caswir.
 
(0, 3) 317 Ati ti yw unferch Calchas,
(0, 3) 318 yr hen siwrl anghyweithas,
(0, 3) 319 a werthai ei holl fraint
(0, 3) 320 yn niwedd ei henaint
(0, 3) 321 er bod yn dwyllodrus
(0, 3) 322 i'w wlad anrhydeddus
(0, 3) 323 a mynd mewn caethiwed
(0, 3) 324 ym mysg dieithriaid?
(0, 3) 325 ~
(0, 3) 326 Dy gydwybod a'th arfer
(0, 3) 327 sy'n cyhuddo dy ffalster
(0, 3) 328 ac euog wyt ti
(0, 3) 329 o'i gwbwl ddrygioni.
(0, 3) 330 ~
(0, 3) 331 Am ei fawrddrwg a'i draha
(0, 3) 332 ei genedl a ddistrywia.
(0, 3) 333 Arnat ti yn gyntaf,
(0, 3) 334 Cresyd y dechreuaf.
(0, 3) 335 Dy waed, dy einioes,
(0, 3) 336 dy benyd, dy fawrloes,
(0, 3) 337 a'th farwolaeth greulon
(0, 3) 338 a esmwytha fy nghalon.
(0, 3) 339 Beth a ddywedwch, fy arglwyddi;
(0, 3) 340 pa farwolaeth a rown arni?
 
(0, 3) 417 Eich dymuniad ni gwrthneba'
(0, 3) 418 dros golli tir yr Asia.
(0, 3) 419 Cewch, Cresyd, yn wirion
(0, 3) 420 a diolchwch i'm meibion.
(0, 3) 421 Awn i mewn i fyfyr
(0, 3) 422 beth sydd chwaneg i'w wneuthur.
 
(0, 7) 1278 Ni a glywson, Diomedes, ddeisyfiad Agamemnon;
(0, 7) 1279 i gyflawni hyn o'i ewyllys yr ydym yn fodlon,
(0, 7) 1280 a thrwy rym y Senedd hon a'i chyngor
(0, 7) 1281 yn cyfnewidio â chwi Cresyd am Antenor.
(0, 7) 1282 A phan ddygoch yma
(0, 7) 1283 Antenor i Droea,
(0, 7) 1284 chwithau gewch Cresyd:
(0, 7) 1285 hyn yw ein addewid.
 
(0, 9) 1659 Diomedes: mae i chwi groeso oddi wrth frenin Agamemnon:
(0, 9) 1660 sefyll ydd ydym ni yn y cytundeb addawson,
(0, 9) 1661 derbyn y carcharwr Antenor i'w ryddid
(0, 9) 1662 a rhoddi i chwi amdano y forwyn yma, Cresyd.
(0, 9) 1663 Ymsicrhewch Agamemnon
(0, 9) 1664 nas torrwn ni ar a addawson;
(0, 9) 1665 brenin Troea nis torrodd
(0, 9) 1666 ar ddim erioed addawodd.