Ciw-restr

Troelus a Chresyd

Llinellau gan Troelus (Cyfanswm: 594)

 
(0, 3) 240 Fy ngrasol dad, fy mrenin uchel,
(0, 3) 241 fy nghydymdeithion rhyfel,
(0, 3) 242 hebryngwch fy mrawd Antenor
(0, 3) 243 at ei gydymaith Meneläws;
(0, 3) 244 mae fe'n siarad yn debyg,
(0, 3) 245 a'i ddull fel gŵr bonheddig
(0, 3) 246 a fyddai wedi ei elïo
(0, 3) 247 'rhyd cledrau ei ddwylo.
(0, 3) 248 Mae'r eli o gymhendod
(0, 3) 249 yn sawrio ar ei dafod.
(0, 3) 250 Nis gwêl ef mo'r niwed
(0, 3) 251 er dal mewn hir gaethiwed
(0, 3) 252 Fy modryb Hesion
(0, 3) 253 sydd gystal merch â hithe.
(0, 3) 254 Moeswch wneuthur ein meddwl,
(0, 3) 255 na choeliwn iddo'n gwbwl,
(0, 3) 256 sy'n dewinio y gwaetha
(0, 3) 257 dros oes a chenedl Troea.
(0, 3) 258 Glynwn yn ein gafael:
(0, 3) 259 croeso wrth ffrotun rhyfel!
 
(0, 3) 349 I'r gwirion na wnewch ddialedd
(0, 3) 350 dros yr euog a'i gamwedd,
(0, 3) 351 ac na fyddwch rhy greulon;
(0, 3) 352 fe ddichon hon fod yn wirion.
 
(0, 3) 386 Hector, fy annwyl frawd,
(0, 3) 387 ymddiffynnwr gwiriondlawd,
(0, 3) 388 Erfyn yr wy ich mawredd
(0, 3) 389 ymddiffyn gwirionedd.
(0, 3) 390 Ymddiffynwch i Gresyd,
(0, 3) 391 i heinioed, a'i bywyd.
 
(0, 3) 407 Rho fy einioes drosti
(0, 3) 408 o bu yn hon un drygioni,
(0, 3) 409 nac erioed yn arfer
(0, 3) 410 â thwyll neu ffalster.
(0, 3) 411 Yr ydym yn atolwg i chwi
(0, 3) 412 roi maddeuant iddi,
(0, 3) 413 ac o'r awr hon allan,
(0, 3) 414 yr wyf i, Troelus, fy hunan
(0, 3) 415 yn caethiwo fy rhyddid
(0, 3) 416 dros gywirdeb Cresyd.
 
(0, 3) 431 Tydi, fudredd celwyddog,
(0, 3) 432 i bob achwyn yn chwannog,
(0, 3) 433 dy rodresus ddyfeisiau
(0, 3) 434 ydyw arwain celwyddau
(0, 3) 435 a bwrw beiau ar wirion
(0, 3) 436 trwy faleisus ddychmygion
(0, 3) 437 ac esgusodi camwedd
(0, 3) 438 ac anafus fuchedd
(0, 3) 439 er mwyn ysgwyd dy gynffon
(0, 3) 440 ar bob math ar ddynion.
(0, 3) 441 Oni bai fod yn bresennol
(0, 3) 442 fy ngwir dad naturiol,
(0, 3) 443 myn yr holl Dduwiau
(0, 3) 444 rhown drwyddot fy nghleddau!
 
(0, 3) 446 Onid oes gariad, o Dduw, pa beth sy'm trwblio,
(0, 3) 447 os oes gariad, pa fodd, pa sut sydd arno?
(0, 3) 448 Os da cariad, o ble mae'n dyfod i'm blino?
(0, 3) 449 Os drwg cariad, mae'n rhyfedd iawn ei drino!
(0, 3) 450 Rhwng poen, cyffro a thynged,
(0, 3) 451 er maint yr wyf yn ei yfed,
(0, 3) 452 mwyfwy im yw'r syched.
(0, 3) 453 ~
(0, 3) 454 Os wŷf â thi gytûn mewn cariad
(0, 3) 455 mae beiau mawr am achwyn arnad.
(0, 3) 456 Mewn llong foel rwyf yn amddifad,
(0, 3) 457 rhwng dau wynt, gwrthwyneb dreiglad.
(0, 3) 458 O Dduw, pa fath ryfeddod
(0, 3) 459 sydd mor ddisymwth i'm gorfod?
(0, 3) 460 Rhag gwres mewn oerfel dwyn nychdod,
(0, 3) 461 rhag oerfel mewn gwres rwy'n darfod.
(0, 3) 462 ~
(0, 3) 463 O'r uchelfraint arglwyddes cariad,
(0, 3) 464 fy nhrafferthus ysbryd derbyn atat,
(0, 3) 465 neu ddod im rinwedd ddianynad
(0, 3) 466 i ufuddhau meistres ddigwyddiad.
(0, 3) 467 Ei gwas a'i gwasanaethwr
(0, 3) 468 a'i dirgel ewyllysiwr,
(0, 3) 469 nes fy rhoddi mewn amdo
(0, 3) 470 nis caiff wybod oddi wrtho.
(0, 3) 471 ~
(0, 3) 472 O Troelus, druan tuchanllyd,
(0, 3) 473 mae tynged it i ddwyn penyd.
(0, 3) 474 Pes gwyddai dy feistres dy ofid
(0, 3) 475 nid oes fodd nas trugarhau wrthyd.
(0, 3) 476 Mal rhew yw'r ddyn feindlos
(0, 3) 477 ar eglur leuad gaeafnos;
(0, 3) 478 tithau yw'r eira oerfelog
(0, 3) 479 yn toddi wrth eirias dân gwresog.
(0, 3) 480 ~
(0, 3) 481 I borth marfwolaeth, Duw, na bawn wedi'n rheiglo!
(0, 3) 482 Prudd-der, o'r diwedd, a'm dwc i yno!
 
(0, 3) 486 Oddi yma y byddwn gysurus i ymado
(0, 3) 487 ar blinder trallodrys beunydd sy'm cystyddo.
 
(0, 3) 492 Pa rhyw beth a'th trefnodd di i glywed
(0, 3) 493 fy meddwl trwblus a'm anoddefus gaethiwed,
(0, 3) 494 yr hyn mae pawb yn orthrwm ganddynt ei weled?
(0, 3) 495 Atolwg it oddi yma fyned!
 
(0, 3) 499 Erfyn i ti fyned ymaith!
 
(0, 3) 505 Os wyt yn meddwl mai ofn gwŷr ac arfau
(0, 3) 506 sydd ddychryn i'm corff a'm trwblus feddyliau,
(0, 3) 507 mae rhywbeth arall sydd drymach i'm gruddiau
(0, 3) 508 nac ofni'r Groegiaid a'u mawrion eiriau.
(0, 3) 509 A'r achos hwn sydd farwol
(0, 3) 510 trwy drymder naturiol;
(0, 3) 511 na ddod arnaf fai anianol
(0, 3) 512 am gelu hyn; mae'n weddol.
 
(0, 3) 521 Cariad, po fwya rhagddo amddiffynnwy',
(0, 3) 522 bydd fy mhoen a'm penyd fwyfwy,
(0, 3) 523 heb obaith ond trymder mawrglwy
(0, 3) 524 a marwolaeth drom lle y byddwy.
 
(0, 3) 533 Y sôn am ddagrau Niobe'r frenhines;
(0, 3) 534 Nis gellwch im les, na help am fesitres.
 
(0, 3) 537 Mae'ch geiriau mawrion, erchyll,
(0, 3) 538 yn chwedlau y'm cewyll;
(0, 3) 539 nid yw hon wamal na thrythyll,
(0, 3) 540 nid oes fodd i allu ei hennill.
 
(0, 3) 550 Gadewch hen chwedl i orwedd i'ch mynwes,
(0, 3) 551 cynhyrchol farwolaeth i mi sydd gynnes.
 
(0, 3) 583 Os rhaid i minnau bellach ddywedyd
(0, 3) 584 pwy ydyw'r ferch a'm rhoes mewn penyd,
(0, 3) 585 y mae pawb yma yn adwaenyd,
(0, 3) 586 hon yw'r lân arweddaidd Cresyd.
(0, 3) 587 Er nych, er poen, er galar,
(0, 3) 588 er dwyn marwolaeth gynnar,
(0, 3) 589 ni chaiff ar y ddaear
(0, 3) 590 wybod hyn onid Pandar.
 
(0, 3) 622 Pandar, Pandar, nis medraf draethu fy meddwl!
(0, 3) 623 Synhwyrol wyt, ti a wyddost y cwbwl.
(0, 3) 624 I'r ych a gerddo ni raid un swmbwl;
(0, 3) 625 i amddiffyn fy einioes ti a ddaethost mewn trwbwl.
(0, 3) 626 Gorchymyn y cwestiwn
(0, 3) 627 at un ferch a garwn;
(0, 3) 628 fy hoedl pe'i collwn,
(0, 3) 629 ei digio nis mynnwn.
 
(0, 4) 822 O Pandar, fy anwylyd,
(0, 4) 823 na saf rhyngof a Cresyd,
(0, 4) 824 ar liniau yn dyfod
(0, 4) 825 i wneuthur fy ufudd-dod.
 
(0, 4) 828 Yr anwylferch! O Cresyd drugarorg!
(0, 4) 829 Trugaredd, trugaredd i wylofus farchog!
 
(0, 4) 834 Y peth a'ch trefnodd yma i'm cysuro,
(0, 4) 835 yr un peth a ganiata i chwi fy ngwrando
(0, 4) 836 a deall y pethau, hir yn guddiedig,
(0, 4) 837 a rhoddi i mi unwaith olwg caredig
(0, 4) 838 a bod ohonoch fodlon
(0, 4) 839 i wir ewyllys calon
(0, 4) 840 er gofal, er adfyd,
(0, 4) 841 i'ch gwasanaeth fy nghymryd.
(0, 4) 842 ~
(0, 4) 843 Fel fy nghyfiawn arglwyddes a'm beunydd gyrchfa,
(0, 4) 844 trwy gwbwl o'm synnwyr a'm ufudd-dod i'r eithaf,
(0, 4) 845 a chaffael cyfiawnder y modd y rhyglydda,
(0, 4) 846 y da am y gorau, y drwg am y gwaethaf,
(0, 4) 847 a gwneuthur o'ch mawredd
(0, 4) 848 un cymaint trugaredd,
(0, 4) 849 a thrwy fy nymuniad
(0, 4) 850 fy ngorchymyn yn wastad.
(0, 4) 851 ~
(0, 4) 852 A minnau i fod i chwi yn ostyngedig ddidifar
(0, 4) 853 i'ch gwasanaethu beunydd fel cyfrinachwr diodefgar,
(0, 4) 854 bob dydd bigilydd yn chwanegu,
(0, 4) 855 fy mhoen a'm wyllys yn ych gwasanaethu.
(0, 4) 856 Er fy mod yn gwybod
(0, 4) 857 y dygaf hir nychod,
(0, 4) 858 gorchmyna yngwasanaeth
(0, 4) 859 i'ch unig feistrolaeth.
 
(0, 4) 954 Myn fy nghywir Dduw cyfiawn, yr wyf i yn tyngu,
(0, 4) 955 hwn fel y mynn yr hollfyd sy'n llyfodraethu,
(0, 4) 956 os celwydd y ddoeda, Achilles a'i weiw ffon,
(0, 4) 957 a bod ym fywyd tragwyddol, a hyllt fy nghalon,
(0, 4) 958 Os byth i'r addefa
(0, 4) 959 y dirgel chwedlau yma,
(0, 4) 960 i un dyn bydol
(0, 4) 961 ar coweth daearol.
 
(0, 4) 988 O Mercuriws, er mwyn cariad ar ddyn dirion,
(0, 4) 989 achos hon bu Palas wrth Aglawros yn ddicllon,
(0, 4) 990 moes i'm help Diana - arnat rwy'n dymuno
(0, 4) 991 nad i hyn o siwrnai yn ofer fyned heibio.
(0, 4) 992 Chwithau'r tair chwiorydd hefyd
(0, 4) 993 sydd yn tynnu edau'r bywyd,
(0, 4) 994 moeswch i mi eich help yn amser,
(0, 4) 995 na adwch hyn o swirnai'n ofer.
 
(0, 6) 1132 O Cresyd, fy anwylddyn,
(0, 6) 1133 aeth y byd i gyd yn ein erbyn.
(0, 6) 1134 ~
(0, 6) 1135 O greulon ddiwrnod, melltigedig i lawenydd hyfryd,
(0, 6) 1136 lleidr y nos a lleidr cariad wyt hefyd.
(0, 6) 1137 O genfigennus ddiwrnod, melltigedig ddyfodiad
(0, 6) 1138 o fewn caerau Troea heb unwaith yrru amdanad.
(0, 6) 1139 Pa achos yr wyt yn ysbienna?
(0, 6) 1140 A gollaist dy ffordd yma?
(0, 6) 1141 Duw a wnel i ti golli
(0, 6) 1142 dy lewyrch a'th oleuni?
(0, 6) 1143 ~
(0, 6) 1144 Och! Beth a wnaeth cariad ddynion yn dy erbyn
(0, 6) 1145 pan wyt bob amser mor genfigennus unddyn?
(0, 6) 1146 ~
(0, 6) 1147 O Cresyd, beth bellach a wnaf gan hiraethus gariad?
(0, 6) 1148 Yr owran mae'r amser o'r trwm ymadawiad.
(0, 6) 1149 Hir fyw nis gallaf yn y fath drymder;
(0, 6) 1150 oes byth im obaith ond arwain prudd-der?
(0, 6) 1151 Nid oes fodd na ddaw hiraeth
(0, 6) 1152 arnaf i'n ddigon helaeth,
(0, 6) 1153 pan yr wyf yr owran yn ymwrando
(0, 6) 1154 â hiraeth cyn ymado.
(0, 6) 1155 ~
(0, 6) 1156 Yn wir, f'arglwyddes loyw, eurbleth,
(0, 6) 1157 hyn pes gwyddwn yn ddiweiniaith,
(0, 6) 1158 fod eich ufudd was a'ch marchog cywir
(0, 6) 1159 wedi ei osod yn eich meddwl mor sicir
(0, 6) 1160 ar ydd ych chwi, f'arglwyddes,
(0, 6) 1161 yn fy meddwl i a'm mwynes,
(0, 6) 1162 digŵyn yw gen i ymarfer
(0, 6) 1163 â hiraeth twm a phrudd-der.
 
(0, 6) 1172 O cydymaith o'r cymdeithion, y gorau i drugaredd
(0, 6) 1173 a fu erioed, ac a fu byth mewn gwirionedd,
(0, 6) 1174 fy meddwl i a ddygaist i esmwythdra nefol
(0, 6) 1175 o Fflegeton, y tanllyd afon uffernol,
(0, 6) 1176 Pes gallwn i roddi
(0, 6) 1177 fy einioes i'th wasanaethu,
(0, 6) 1178 ni fydde hyn i'w wneuthud
(0, 6) 1179 ddim wrth a ryglyddyd.
 
(0, 6) 1206 Cariad, mae ytt ar dir a môr reoli;
(0, 6) 1207 cariad, mae ytt orchymyn y nefoedd o fri;
(0, 6) 1208 cariad, mae ytt ryddid mawr a gollyngdod;
(0, 6) 1209 O cariad, i ti mae'r holl ufudddod.
(0, 6) 1210 Tydi, cariad, sy'n clymu
(0, 6) 1211 pob cyfraith a chwmpeini;
(0, 6) 1212 cwlwm hyn o gytundeb
(0, 6) 1213 rhag dyfod byth wrthwyneb.
(0, 6) 1214 ~
(0, 6) 1215 Cariad, ir byd mae'n dwyn caredigrwydd;
(0, 6) 1216 i bob peth yn ei ryfogaeth y mae'n digwydd;
(0, 6) 1217 mae hwn yn naturiol i'r pedwar deunydd;
(0, 6) 1218 y rhain sy wrthwynebys bob un yw gilydd.
(0, 6) 1219 Y lleuad sydd dros noswaith,
(0, 6) 1220 yr Haul dros loywddydd perffaith;
(0, 6) 1221 pob un ai dyfodiad
(0, 6) 1222 o achos rhinwedd cariad.
(0, 6) 1223 ~
(0, 6) 1224 Hwn, i'r môr, or maint yw trwst ei donnau,
(0, 6) 1225 sy'n gwneuthur iddo gydnabod ai derfyne;
(0, 6) 1226 hwn sy'n dwyn afonydd a phrydiau digwyddiad
(0, 6) 1227 i ffrwythau tiroedd o meilliondir gwastad.
(0, 6) 1228 Hawsa peth i hepgor
(0, 6) 1229 bob amser ydi'w gyngor;
(0, 6) 1230 anhawsa peth yn wastad
(0, 6) 1231 yw hepgor ydiw cariad.
(0, 6) 1232 ~
(0, 6) 1233 Erfyn it, arglwydd, o'th drugaredd, yn enwedig,
(0, 6) 1234 roddi rhwym ar gariad a chwlwm caredig;
(0, 6) 1235 a phlannu yn ei calonnau hir cytundeb,
(0, 6) 1236 lle bo unwaith gariad, na bo byth anghywirdeb.
(0, 6) 1237 A thyfu o gariad ffyddlon
(0, 6) 1238 ai gwreiddin yn y galon,
(0, 6) 1239 na bo achos iddyn dybied
(0, 6) 1240 byth o angharedig weithred.
 
(0, 7) 1287 O ffortun anffortunus, beth yr owran a'th gyffrôdd?
(0, 7) 1288 Beth a wneuthum yn dy erbyn, nac o'm bodd nac o'm anfodd?
(0, 7) 1289 Pa fodd y gellid fy siomi rhag pechodrwydd?
(0, 7) 1290 Oes dim trugaredd ynot na gonestrwydd?
(0, 7) 1291 Os clywi arnat hyn yma -
(0, 7) 1292 ddwyn Cresyd oddi arna -
(0, 7) 1293 anrhugarog a chreulon
(0, 7) 1294 ydyw meddwl dy galon.
(0, 7) 1295 ~
(0, 7) 1296 Oni ddarfu im dy anrhydeddu hyd yn hyn o'm bywyd
(0, 7) 1297 yn fwy na'r holl dduwiau eraill i gyd?
(0, 7) 1298 Paham yr wyt yn ymgolledu o'm holl ddifyrrwch?
(0, 7) 1299 O Troelus, pa fodd y'th elwir bellach ond tristwch?
(0, 7) 1300 Pawb ath eilw di yn fydredd
(0, 7) 1301 wedi colli dy anrhydedd;
(0, 7) 1302 nes colli it dy fywyd,
(0, 7) 1303 nis coll trymder trwm am Gresyd.
(0, 7) 1304 ~
(0, 7) 1305 O Ffortun, os wyt yn dwyn i mi genfigen
(0, 7) 1306 o ran fy mod yn dwyn fy mynd yn llawen,
(0, 7) 1307 dwyn einioes y brenin a'm tad a ellyd;
(0, 7) 1308 dwyn einioes y mrodyr, am einioes innau hefyd.
(0, 7) 1309 Sy'n trwblio yr owran y byd i gyd a'i gwynfan,
(0, 7) 1310 am farwolaeth yn nychu,
(0, 7) 1311 a marw yn iawn heb fedru.
(0, 7) 1312 ~
(0, 7) 1313 O Cresyd, pe buaswn i heb dy weled,
(0, 7) 1314 Ffortun nis gallase imi mor niwed;
(0, 7) 1315 trwy'r golwg hwn i cafodd arna fantais,
(0, 7) 1316 yr owran fy nifeddiannu or fwy a gerais.
(0, 7) 1317 Ai gorchafiaeth gennyd
(0, 7) 1318 nychu gwan am i fywyd?
(0, 7) 1319 Gad i ffordd hyn yma
(0, 7) 1320 a gwna i mi dy eitha!
(0, 7) 1321 ~
(0, 7) 1322 Beth a wnaf ym prudd-der a caethiwed?
(0, 7) 1323 Ai ymadael a Chresyd a brynais cyn ddruted?
(0, 7) 1324 ~
(0, 7) 1325 Onid ef, mi wnaf y peth allaf ei wneuthud -
(0, 7) 1326 byw'n unig mewn prudd-der a chreulon benyd,
(0, 7) 1327 achwyn fy hunan ar fy anffortunus ddigwyddiad,
(0, 7) 1328 lle ni ddaw na glaw na haul na lleuad.
(0, 7) 1329 Fy niwedd a fydd amlwg
(0, 7) 1330 fel Edipws, mewn tywyllwch,
(0, 7) 1331 dwyn prydd-der yn fy mywyd
(0, 7) 1332 a mawr o'r diwedd mewn adfyd.
(0, 7) 1333 ~
(0, 7) 1334 O'r trymion lygaid, erioed bu eich difyrrwch
(0, 7) 1335 i edrych ar Cresyd, ei glendid a'i hawddgarwch.
(0, 7) 1336 Beth a wnewch, bod yn anghysurus i minnau,
(0, 7) 1337 ai sefyll am ddim i ollwng heilltion ddagrau?
(0, 7) 1338 Ewch ymaith, trymion lygaid,
(0, 7) 1339 nid oes obaith i chwi amnaid,
(0, 7) 1340 nid oes mo'r rhinwedd arnoch,
(0, 7) 1341 eich rhinwedd a gollasoch.
(0, 7) 1342 ~
(0, 7) 1343 O Cresyd, Cresyd, o arglwyddes anrhydeddus,
(0, 7) 1344 pwy im a rydd unwaith un gair cysurus?
(0, 7) 1345 Neb nid oes pan ddarffo i'm calon dorri,
(0, 7) 1346 yn lle'r corff, gad i'm ysbryd dy wasanaethu.
(0, 7) 1347 I'm corff anrhugarog y buost,
(0, 7) 1348 anrhugaredd mawr a wnaethost.
(0, 7) 1349 O hyn allan, Cresyd,
(0, 7) 1350 bydd drugarog i'm ysbryd.
 
(0, 7) 1359 Chwychwi gariadau, sy'n aros ar dop yr olwyn beraidd,
(0, 7) 1360 duw a drefno i chwi eich cariadu'n dduraidd,
(0, 7) 1361 fel y gallo bod eich bywyd mewn hir ddifyrrwch;
(0, 7) 1362 Ar fy medd pen y deloch, amdanafi meddyliwch,
(0, 7) 1363 a doedwch: 'yn hwn fedd
(0, 7) 1364 mae'n cydymaith ni'n gorwedd;
(0, 7) 1365 i garu bu ei ddigwyddiad,
(0, 7) 1366 er nas rhyglyddodd cariad.'
 
(0, 7) 1380 Och i'r henddyn anheilwng cyn ei amser wedi ei eni;
(0, 7) 1381 och i'r hen Galcas, pa beth a ddarfod i ti?
(0, 7) 1382 Yr owran yn Roegwr, Torean eriod y'th gwelwyd.
(0, 7) 1383 O Calchas, mewn amser drwg i mi y'th aned.
(0, 7) 1384 Gwae fi na chawn afael
(0, 7) 1385 arnat, Calchas, mewn cornel;
(0, 7) 1386 mi a wnawn i ti na chyrchid
(0, 7) 1387 ym mysg Groegwyr mo Cresyd.
 
(0, 7) 1405 Cynt y caiff marwolaeth allan o'm calon wthio
(0, 7) 1406 y fywoliaeth a fu cyd mewn trymder yn trigo
(0, 7) 1407 nag y caiff Cresyd â'm henaid byth ymadael.
(0, 7) 1408 Gyda Proserpina y byddwn i mewn gafael,
(0, 7) 1409 achwyn y byddaf yno
(0, 7) 1410 trwy ochain mawr ac wylo,
(0, 7) 1411 y modd y darfu i minne
(0, 7) 1412 glymu fy hunan yn yr unlle.
 
(0, 8) 1470 O greulon Iau, creulonach ffortun aflawen,
(0, 8) 1471 lledaist Cresyd a Throelus â'th genfigen,
(0, 8) 1472 y cleddau hwn a yrr fy ysbryd i allan,
(0, 8) 1473 i'th ddilyn di, Cresyd, 'rhyd feysydd Elisian.
(0, 8) 1474 Yna y byddwn yn aros
(0, 8) 1475 barnedigaeth brenin Minos,
(0, 8) 1476 gan fod ffortun mor greulon
(0, 8) 1477 a chariad eilwaith mor ddigllon.
(0, 8) 1478 ~
(0, 8) 1479 Gan ddarfod amdanom, myfi a'r byd ydawa,
(0, 8) 1480 i ba le bynnag yr elych, dy ysbryd a gylyna.
(0, 8) 1481 Ni chaiff cariadddyn am Droelus fyth ddoedyd:
(0, 8) 1482 nas llefys, rhag ofn marw, gydfarw a Chresyd.
(0, 8) 1483 Gan nas cewn ni yma aros
(0, 8) 1484 gyda ein gilydd i fyw yn agos,
(0, 8) 1485 dioddefwch yn eneidie
(0, 8) 1486 yn dragwyddol fyw yn yr unlle.
(0, 8) 1487 ~
(0, 8) 1488 Troea, bym yno fyw mewn dolur;
(0, 8) 1489 Priam, a'n holl gywir frodur,
(0, 8) 1490 ac i'm mam y wnaf ganu'n iach heb wybod!
(0, 8) 1491 Croeso Atropos, gwna'r elor i mi'n barod.
(0, 8) 1492 ~
(0, 8) 1493 Ataf a negosed cleddyf creulon,
(0, 8) 1494 er dy fwyn di, at y'ng nghalon.
 
(0, 8) 1542 Mae'n anodd cloffi ger bron cripil heb ei ganfod;
(0, 8) 1543 mae cyfrwysdra Calchas bob amser mor barod.
(0, 8) 1544 I dda bydol er bod ganddo ormod dychwant
(0, 8) 1545 mae hen gyfrwyddyd ganddo a deall somiant.
(0, 8) 1546 Chwi a glywsoch, modd y dywedan,
(0, 8) 1547 haws somi babi na gwrachan.
(0, 8) 1548 Anodd dallu llygaid Argos
(0, 8) 1549 petai bawb yn helpio'r achos.
 
(0, 8) 1558 Beunydd llid a ychwanega wrth golli gwaed gwirion.
(0, 8) 1559 Hyn yw naturiaeth rhyfel - gwneuthur pawb yn greulon,
(0, 8) 1560 a hyn a obeithia lleidr, i'w grogi pan yr elo,
(0, 8) 1561 o tyr y cebystr, fod cyfraith yn ei safio.
(0, 8) 1562 Nis rhoddir Helen adre
(0, 8) 1563 ond yn gyfnewid i Hesione:
(0, 8) 1564 hwn yw gobaith gofalon,
(0, 8) 1565 a'r gobaith hwn a dyr fy nghalon.
 
(0, 8) 1574 Hyn rwyf i yn ei ofni ac wrth ei feddwl mae'n ddolur,
(0, 8) 1575 yr achos mae'ch tad i'ch cyrchu i briodi un o'r Groegwyr.
(0, 8) 1576 Fe a'ch rydd i ryw ddyn a fo mewn mawr urddas;
(0, 8) 1577 geiriau'r tad a dreisia'r ferch i briodas.
(0, 8) 1578 Ac i Troelus cywir druan
(0, 8) 1579 y daw achwyn, ochain a griddfan,
(0, 8) 1580 chwychwi yn byw mewn gwrthwyneb,
(0, 8) 1581 yntau yn marw mewn cywirdeb.
(0, 8) 1582 ~
(0, 8) 1583 Eich tad, er mwyn eich dwyn i hyn yma,
(0, 8) 1584 nyni, ein tref, a'n gallu i gyd, a ddibrisia;
(0, 8) 1585 ac a ddywaid nad aiff Groegwyr byth adre
(0, 8) 1586 nes ennill Troea a llosgi yn llwyr ei chaere.
(0, 8) 1587 Wrthyf fi y doedych
(0, 8) 1588 y gwnewch iddo goelio a fynych;
(0, 8) 1589 mae arna ofn yn fy meddwl
(0, 8) 1590 y gwnaiff i chwi goelio'r cwbwl.
(0, 8) 1591 ~
(0, 8) 1592 Ym mysg Groegwyr llawer marchog glân a gewch ei weled,
(0, 8) 1593 yn llawn rhywiogrwydd, afiaith a rhinweddol weithred,
(0, 8) 1594 modd y bydd pawb mor ufudd, i'ch bodloni yn chwennych,
(0, 8) 1595 fel nas gwyddoch pwy adawoch na phwy a ddewisych.
(0, 8) 1596 Nid oes mewn Troelus ryglyddiad
(0, 8) 1597 i fod munud yn eich cariad,
(0, 8) 1598 ond ei fod yn rhy ffyddlon
(0, 8) 1599 ac yn eich caru chwi yn ei galon.
 
(0, 8) 1635 Derbyn, Cresyd, gan Troelus yr arwyddion yma -
(0, 8) 1636 tlws a modrwy i ti a rodda',
(0, 8) 1637 y tlws i dy atgoffa i ddyfod eilwaith,
(0, 8) 1638 a'r fodrwy hon i feddwl am gydymaith.
(0, 8) 1639 Gwisg yr rhain bob amser
(0, 8) 1640 lle bo dy olwg yn ymarfer.
(0, 8) 1641 Ffarwel, Cresyd, ganwaith
(0, 8) 1642 hyd oni ddelych eilwaith.
 
(0, 9) 1668 Paham nas gwnaf i dlawd a chyfoethog o'r unwaith
(0, 9) 1669 gael digon i wneuthud cyn mynediad Cresyd ymaith?
(0, 9) 1670 Paham nas dysgaf Droea i ryfel disymwth?
(0, 9) 1671 Paham nas laddaf Diomedes cyn ei fygwth?
(0, 9) 1672 A paham nas dygaf
(0, 9) 1673 hon ymaith ar ei gwaethaf,
(0, 9) 1674 a pha aros yr wyf innau
(0, 9) 1675 cyd, heb helpu fy noluriau?
 
(0, 9) 1694 Ble mae yr owran, fy arglwyddes am anwylyd?
(0, 9) 1695 Ble mae ei phryd a'i gwedd? Ble mae Cresyd?
(0, 9) 1696 Ble mae ei deufraych a'i golwg eglur sirian
(0, 9) 1697 ydoedd gynt yn dy lawenychu Troelus, truan?
(0, 9) 1698 Wylo yn hawdd a elli
(0, 9) 1699 yr heilltion ddagrau amdani;
(0, 9) 1700 nid oes yma ddim i'w weled
(0, 9) 1701 ond y llawr y nen ar pared.
 
(0, 9) 1719 Pwy sydd yr owran i'th weled, fy ngwir, gywir arglwyddes?
(0, 9) 1720 Pwy sy'n eiste yn dy ymyl, a phwy sy'n dy alw'n fesitres?
(0, 9) 1721 Pwy sydd a lawenycha dy galon drom hiraethus?
(0, 9) 1722 Mae Troelus heb fod yna; pwy sydd it gynghorus?
(0, 9) 1723 Wrth bwy y gelli ddoedyd
(0, 9) 1724 ydiw Troelus yn y byd?
(0, 9) 1725 Mae Pandar yn ochneidio
(0, 9) 1726 a Throelus truan yn wylo.
 
(0, 10) 1762 Pa fodd y gallaf aros deng niwrnod modd yma,
(0, 10) 1763 pan ydyw cyn anhawsed i'm gydfod y diwrnod cyntaf?
(0, 10) 1764 ~
(0, 10) 1765 Pandar, gan yr hiraethus drymder sydd arnaf,
(0, 10) 1766 parhau yn hir yn wir mi a wn nis gallaf,
(0, 10) 1767 odid im gaffael fy einioes hyd yfor.
(0, 10) 1768 Oherwydd hyn yma, atolwg i ti ddychmygu
(0, 10) 1769 pa fodd y gwneir fy medd,
(0, 10) 1770 os rhaid i mi yno orwedd,
(0, 10) 1771 ac am bethau anghenrheidiol
(0, 10) 1772 i roddi lle y'u bo gweddol.
(0, 10) 1773 ~
(0, 10) 1774 Fy nghlon, pan fyddo wedi llosgi hyd yn ulw,
(0, 10) 1775 hel hwn yn yr unlle a bydd sicr o'i gadw,
(0, 10) 1776 a dod mewn llestr o aur wedi ei wneuthur i hynny
(0, 10) 1777 a hebrwng i'r arglwyddes a fum gynt yn ei gwasanaethu.
(0, 10) 1778 A dangos mai o'i chariad
(0, 10) 1779 y digwyddodd y digwyddiad:
(0, 10) 1780 am gadw hwn dymunaf
(0, 10) 1781 er mwyn dwyn cof amdanaf.
 
(0, 10) 1790 Myfi a wn wrth y modd y cymrodd fy nolur myfi a'm prudd-der
(0, 10) 1791 ac wrth fy mreuddwydion i, rhaid im farw ar fryder.
(0, 10) 1792 Hefyd y dylluan hon a elwir Aschaffilo
(0, 10) 1793 sydd y ddwy nos diwetha uwch fy mhen yn cregleisio.
(0, 10) 1794 Tithe, y duw Mercwri,
(0, 10) 1795 pan rhyglydd bodd i ti,
(0, 10) 1796 gyrchi yr ysbryd poenedig
(0, 10) 1797 allan o'r corff aniddig.
 
(0, 13) 1936 Bellach mae yn canlyn y goleubryd siriol Fenws
(0, 13) 1937 rhyd y cynefin lwybr y disgynes ar i wared Phebws;
(0, 13) 1938 bellach, mae Citherea ai chyfle i gwagen yn tynny
(0, 13) 1939 ac yn troi allan o'r llew hyd y mae ei gallu.
(0, 13) 1940 Mae signiffer yn gole
(0, 13) 1941 y ddaear a'i chanwylle;
(0, 13) 1942 bellach, mai rhyfeddod
(0, 13) 1943 am Cresyd yma yn dywod!
(0, 13) 1944 ~
(0, 13) 1945 O arglwydd Ciwpid, mawr fi i mi dy anrugaredd,
(0, 13) 1946 pan atgoffaf fy hun o'm holl ddrwstan fuchedd,
(0, 13) 1947 ac fel y blinaist bob dydd yn waeth na'i gilydd:
(0, 13) 1948 fy muchedd i yn ystori i'r byd i gyd a ddigwydd.
(0, 13) 1949 Pa oruchafiaeth sydd i ti
(0, 13) 1950 bob amser fy ngorchfygu?
(0, 13) 1951 Mi a ymrois i ti yn ffyddlon,
(0, 13) 1952 er dy gael yn arglwydd creulon.
(0, 13) 1953 ~
(0, 13) 1954 Planna yng nghalon Cresyd y fath ewyllys ddyfod cyn gynted fel y rhoddaist i mi hiraeth a chwant am ei gweled.
(0, 13) 1955 ~
(0, 13) 1956 Y diwrnodiau a'r nosweithiau a fu'n hwy o lawer
(0, 13) 1957 nag y byddai y rhain arferol o fod bob amser;
(0, 13) 1958 yr haul a gerddes ei gwmpas ar gam yn bellach,
(0, 13) 1959 neu mae'n myned i'w siwrnai yn annibennach.
(0, 13) 1960 Y degfed ddydd aeth heibio,
(0, 13) 1961 Y ddegfed nos yw heno;
(0, 13) 1962 yn llawen bellach y'm gwelir
(0, 13) 1963 os yw'r byd i gyd yn gywir.
 
(0, 15) 2004 Am fi'n cysgu, noswaith, yn syrn flin, Cassandra,
(0, 15) 2005 mi a freuddwydiais yn y modd i chwi y ddoeda:
(0, 15) 2006 mi am gwelwn mewn forest yn rhodio ac wylo y byddwn
(0, 15) 2007 o gariad ar ryw ferch ryw amser a adwaewn.
(0, 15) 2008 Gwelwn, wrth rodio am gylchion,
(0, 15) 2009 ryw faedd ac yscithredd creulon;
(0, 15) 2010 a'r baedd ydoedd yn cysgu
(0, 15) 2011 a'r haul arno yn llewyrchu.
(0, 15) 2012 ~
(0, 15) 2013 Yn cusanu y baedd yma, mi a welwn Cresyd,
(0, 15) 2014 ac ai deufraych yn bleth amdano y gwelwn hefyd.
(0, 15) 2015 Trwy chwithder a dychryn ei gweled yn y fath fodd
(0, 15) 2016 ac felly yr ofn yma o'n cyntyn a'm deffrodd.
(0, 15) 2017 Er pan welais y breuddwyd,
(0, 15) 2018 yr wyf mewn gofal ac arswyd,
(0, 15) 2019 yr wyf fi yn erfyn ac yn damuno
(0, 15) 2020 i chwi roddi deallt arno.
 
(0, 15) 2056 Celwydd, gyfarwyddes, yw dy drafferthus eirie gweigion,
(0, 15) 2057 a'th holl anuwiol broffodoliaethu ffeilsion!
(0, 15) 2058 Di a fynni fod dy fuchedd a'th chwedle di'n dduwiol
(0, 15) 2059 a thithe'n codi chwedlau ar arglwyddesau rhinweddol.
(0, 15) 2060 Duw a drefno i ti brudder —
(0, 15) 2061 ffwrdd o'm golwg mewn amser;
(0, 15) 2062 yn wir, nid hwyrach y byddi
(0, 15) 2063 yn gelwyddog, cyn yfory.
(0, 15) 2064 ~
(0, 15) 2065 Cyn hawsed y gelli ddoedyd y celwydd yma
(0, 15) 2066 ar rinweddol Alceste, ei ddoedyd ar Gresyda;
(0, 15) 2067 gwr hon, pan oedd mewn perygl mawr amdano,
(0, 15) 2068 naill ai gorfod marw ei hunan a'i rhoi un i farw drosto,
(0, 15) 2069 Hon a ddewisodd gydfod
(0, 15) 2070 a marfolaeth droes ei phriod.
(0, 15) 2071 Gwn mae felly y gwnai Cresyd
(0, 15) 2072 cyn colli Troelus ei fywyd.
 
(0, 16) 2083 O Cresyd, f'anwylyd, o f'arglwyddes eurbleth,
(0, 16) 2084 ble mae'r owran eich addewid, na phle mae'r crediniaeth?
(0, 16) 2085 Ble mae'r cariad? Ble mae'r gwirionedd, Cresyd?
(0, 16) 2086 Diomedes sydd yr owran yn cael arnoch chwi ei wynfyd.
(0, 16) 2087 Hyn yma a ddygaswn,
(0, 16) 2088 a hyn drosot a dyngaswn,
(0, 16) 2089 er dywedyd ohonot anwir
(0, 16) 2090 na buesit byth anghywir.
(0, 16) 2091 ~
(0, 16) 2092 Pwy o hyn allan i'th lyfau di, Cresyd, a goelia?
(0, 16) 2093 Gwae fi, tyngaswn nas gwneuthit byth hyn yma.
(0, 16) 2094 Pwy a feddyliai fod ynddot ti feddwl cyn anwadaled,
(0, 16) 2095 na phwy a dybiai fod dy galon di cyn greuloned
(0, 16) 2096 â lladd dyn truan diniwed
(0, 16) 2097 trwy dwyll a thrwy ymddiried?
(0, 16) 2098 Gwae fi erioed o ddigwyd
(0, 16) 2099 i ti, Cresyd, anonestrwydd.
(0, 16) 2100 ~
(0, 16) 2101 Oedd yr un arwydd gennyt ti i'w roddi
(0, 16) 2102 i'th newydd gariad ond hwn i'w lawenychu?
(0, 16) 2103 Ar hwn llawer heilltion ddagrau a wylais;
(0, 16) 2104 i ti er mwyn dwyn cof amdanaf y rhoddais,
(0, 16) 2105 a thithau er cas arnaf
(0, 16) 2106 i Diomedes rhoist hwn yma.
(0, 16) 2107 ~
(0, 16) 2108 Wrth hyn y gwn fy mod yn rhy drwstan,
(0, 16) 2109 gan ddarfod i chwi fy mwrw o'ch meddwl allan.
(0, 16) 2110 Er yr holl fyd eich bwrw chwi nis medraf,
(0, 16) 2111 allan o'm meddwl un chwarter awr nis gallaf.
(0, 16) 2112 Ar amser drwg y'm ganed,
(0, 16) 2113 pawb a ŵyr hyn wrth glywed:
(0, 16) 2114 chwychwi dwyllodrus i mi,
(0, 16) 2115 a minnau er hyn i'ch caru.
(0, 16) 2116 ~
(0, 16) 2117 Trefna im, Arglwydd, er dwyn mawr artaith,
(0, 16) 2118 gyfarfod â Diomedes yma unwaith;
(0, 16) 2119 trefna im nerth ac amser eilwaith;
(0, 16) 2120 mi a wnaf i'w galon waedu am draeturiaeth.
(0, 16) 2121 Atolwg ti, Arglwydd, edrych
(0, 16) 2122 am y pethau hyn yn fynych:
(0, 16) 2123 os gadewch chwi hyn heb dramgwydd,
(0, 16) 2124 y cyffelyb a all ddigwydd.
(0, 16) 2125 ~
(0, 16) 2126 O, Pandar, ti a erchaist im na choeliwn i freuddwydion;
(0, 16) 2127 gwêl modd y digwyddod hyn yn rhy unuion;
(0, 16) 2128 gwêl mor gywir yw dy annwyl nith Cresyd;
(0, 16) 2129 meddi ti "er dim hi a gywirai dy addewid"!
(0, 16) 2130 Mynych y mae'r duwiau
(0, 16) 2131 yn dangos hyn o wyrthiau
(0, 16) 2132 ac yn rhybydd o'n cyntun
(0, 16) 2133 o'r pethau sydd i'n herbyn.
(0, 16) 2134 ~
(0, 16) 2135 Ar y gwir wirionedd heb chwaneg o eiriau y dywedaf:
(0, 16) 2136 o'r dydd hwn allan, cyn gynted ag y gallaf,
(0, 16) 2137 fy marwolaeth greulon ar flaen yr arfau a gyrchaf,
(0, 16) 2138 a'm trafferthus flinder ar unwaith a diweddaf.
(0, 16) 2139 O hyn allan fe ddywedir
(0, 16) 2140 dy fod, Cresyd, yn anghywir.
(0, 16) 2141 Ni chaiff undyn byth ddywedyd
(0, 16) 2142 fod Troelus yn ffals i Cresyd.