Ciw-restr

Yr Unig Fab

Llinellau gan Gwen (Cyfanswm: 64)

 
(1, 0) 7 'Does yna ddim yn y Jwg?
 
(1, 0) 10 Sut ffair gawsoch chi heiddiw?
 
(1, 0) 12 Gawsoch chi bris go dda am Mwynig?
 
(1, 0) 15 'Rhen Fwynig druan!
(1, 0) 16 Llawar dendiodd John bach arni hi cyn iddo fo fynd i'r Mericia.
 
(1, 0) 18 Mi fydda yn dda gin i yn fy nghalon i weld o yma eto, ond mae'n debig i fod o yn well allan yno.
 
(1, 0) 21 Tair blynadd i heno yr aeth o i ffwrdd.
(1, 0) 22 Mi fydda i yn eirio 'i ddillad o'n ofalus pan ddaw y dydd heibio!
 
(1, 0) 24 'Tydyn nhw ddim gwaeth na newydd.
 
(1, 0) 26 Ofn sy arna i y bydd o yn ormod o swell i wisgo'r rhein.
(1, 0) 27 Ond mae 'i brwsio nhw a'i troi fel hyn yn rhoi cysur mawr i mi.
(1, 0) 28 Amsar difir oedd hi pan oedd o'n fachgan a Jane yn dechra cerddad.
 
(1, 0) 31 Yn y siambar yn trin i het.
(1, 0) 32 Mae'r ffasiwn wedi newid eto.
 
(1, 0) 34 Jane!
 
(1, 0) 37 Mae dy dad wedi dwad adra.
 
(1, 0) 48 Mi neith y tro'n iawn.
(1, 0) 49 Does neb mor byrticilar yn yr ardal hefo rubana a Jane.
 
(1, 0) 51 Peidiwch a'i gwirioni hi, mae hi'n colli gormod o'i hamsar hefo'r ffasiyna esys.
(1, 0) 52 Dos i orffan dy het, Jane, rhag llosgi chwanag o gnwylla heno eto.
 
(1, 0) 58 Rhaid i mi fod, ne mi fydd yn siwr o gael i dyfetha gin i thad.
 
(1, 0) 60 A chitha 'n i ddwrdio fo'n ddibaid nes yr aeth o i ffwrdd.
 
(1, 0) 62 Peidio i hagor nhw yn y dechra oedd isio.
 
(1, 0) 64 'Rydw i am 'neud.
(1, 0) 65 Gywsoch chi ddigon o fwyd?
 
(1, 0) 68 Be ddeudodd Robat 'y mrawd?
 
(1, 0) 70 Un cwta ydi Robat.
(1, 0) 71 Beth newch chi rwan?
 
(1, 0) 73 A'r bil blawd heb i dalu?
 
(1, 0) 76 A'r moch ddim yn agos yn barod i gwerthu.
 
(1, 0) 78 Wn i yn y byd o ble 'leni.
 
(1, 0) 80 Beth arall sy'n ych poeni chi?
 
(1, 0) 82 Pa help sy gynnoch chi i hwnnw?
 
(1, 0) 85 Rhaid ceryddu os torrodd o'r rheola.
(1, 0) 86 Waeth mab pwy ydi o.
 
(1, 0) 88 Ma Margiad i fam yn ddigon pen-uchal a lartsh.
(1, 0) 89 Mi gafodd lawar |visit| yma, ond ches i rioed wadd i'r Fron Ganol i'r |visit|, er fod rhai heb fod ddim gwell na minna wedi cael.
 
(1, 0) 92 Lol i gyd.
(1, 0) 93 Be mae rhiw hogia fel Ned Parri yn i hitio?
 
(1, 0) 95 Na, 'n wir, isio tynnu Margiad i lawr dipin sy'.
(1, 0) 96 Mi fydd yn iechid mawr iddi hi.
 
(1, 0) 108 Pwy wyt ti?
 
(1, 0) 110 John, y machgan bach i.
 
(1, 0) 113 Peidiwch a bod yn galad, Griífith, cofiwch ma'ch mab ych hun ydi o.
 
(1, 0) 121 Cha nhw ddim dy ddal di, machgan i, tra bydd anadl yn dy fam.
 
(1, 0) 124 Wyddwn i o'r gora ma rhiw hen gnafon odd wedi hudo'r hogyn druan.
 
(1, 0) 130 Dy frawd John ydi o.
 
(1, 0) 138 Danghoswch chydig o deimlad tad, Griffith!
 
(1, 0) 148 Mae llaeth cynnas yn hon, machgan tlawd i.
 
(1, 0) 159 'Y machgan tlawd i.
 
(1, 0) 167 'Ddeudodd o rioed gelwydd, beth bynnag ydi i feia fo.
 
(1, 0) 171 Mi nawn ein gora, John bach.
 
(1, 0) 173 Os na chweilith i rieni o'r stori, 'does dim disgwyl i ddyn diarth neud.
(1, 0) 174 Ceisiwch feddwl am rhiw gynllun i achub o o'i gafal nhw.
 
(1, 0) 176 Os |dim| teimlad ynoch chi, Griffith?
 
(1, 0) 186 Pwy sy 'na?
 
(1, 0) 194 Weils i rioed fel mae'r hen ddrws yna wedi mynd.
(1, 0) 195 Mi fydd mymryn o wynt yn i agor o.
(1, 0) 196 Mae'r gŵr yma yn sôn bob dydd am fynd a'r gliciad i'r efal.
(1, 0) 197 Rhaid i ni gadw clo ne rewi gan annwyd, Mr. Brown.
 
(1, 0) 199 Be sy'n bod felly?
 
(1, 0) 204 Lle tlawd iawn i leidar sy yma, Mr. Brown.
 
(1, 0) 206 Ag mi gwelsoch o felly?
 
(1, 0) 208 Maddeuwch i mi, ond yn siŵr 'rydach chi'n camgymeryd y tro yma, Mr. Brown.