Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Polina (Cyfanswm: 58)

 
(1, 0) 211 Mae'n damp yma.
(1, 0) 212 Ewch i nôl eich glosiars.
 
(1, 0) 214 Fyddwch chi byth yn ofalus, 'rydych chi'n gyndyn dros ben.
(1, 0) 215 Mi wyddoch yn eitha da, doctor, nad ydi aer y nos ddim yn dda ichi, ond 'rydych chi'n licio mhoeni i, mi ddaru'ch eistedd ar y teras neithiwr o bwrpas.
 
(1, 0) 218 'Roeddych chi'n cael gormod o flas ar eich sgwrs hefo Irina Nicolaiefna, dyna pam na ddaru'ch ddim sylwi ar yr oerfel.
(1, 0) 219 Mae hi'n eich plesio chi'n tydi?
 
(1, 0) 221 Twt lol, waeth pa mor hen ydi'r dyn.
(1, 0) 222 'Rydych chi'n dal eich oedran yn dda, ac y mae'r merched yn ddigon parod i'ch canlyn chi.
 
(1, 0) 224 Rydych chi'r dynion bob amser yn barod i fynd ar eich gliniau o flaen actres, ydych, bob un ohonoch.
 
(1, 0) 228 'Roedd y merched bob amser yn eich caru chi, a'u breichiau am eich gwddw chi.
(1, 0) 229 |Idealism| oedd hyna hefyd, debyg?
 
(1, 0) 235 'Nghariad i!
 
(1, 0) 299 Dyna chi wedi tynnu'ch het.
(1, 0) 300 Rhowch hi am eich pen rhag ofn ichi gael annwyd.
 
(1, 0) 342 'Rochor arall i'r llyn y maen nhw.
 
(2, 0) 649 Ond be fedra i neud?
(2, 0) 650 Rhowch eich hunan yn fy lle i.
(2, 0) 651 Be fedra i neud?
 
(2, 0) 664 Mae o wedi gyrru'r ceffylau gorau i'r caeau; a rhyw ffrae newydd bob dydd.
(2, 0) 665 O, taech chi'n gwbod mor galed y mae arna i!
(2, 0) 666 Mae'n fy ngneud i'n sâl, welwch chi fel 'rydw i'n crynu?
(2, 0) 667 Fedra i ddal dim mwy, mae o mor gas.
 
(2, 0) 669 Iefgeni, nghariad i, cannwyll fy llygaid i, ewch â fi gyda chi i rywle.
(2, 0) 670 Mae'r amser yn mynd, 'dydym ni ddim mor ifanc ag y buom, gadwch inni fynd i ymguddio am flwyddyn neu ddwy cyn mynd o'r byd ma, a rhoi taw ar yr holl dwyll a'r clwyddau ma.
 
(2, 0) 673 Na, nid dyna'r rheswm, mi wn i'n eitha da.
(2, 0) 674 Mae na ddigon o ferched heblaw fi o fewn eich cyrraedd, ac wrth gwrs, fedrwch chi mo'u cymyd nhw i gyd i'ch tŷ.
(2, 0) 675 'Rwy'n dallt.
(2, 0) 676 Maddeuwch imi am eich blino chi.
 
(2, 0) 678 Mae arna i wenwyn, wrth gwrs, doctor.
(2, 0) 679 Fedrwch chi ddim peidio mynd ar ôl y merched, mi wn i hynny.
(2, 0) 680 Mi 'dw i'n dallt...
 
(2, 0) 692 O'r blodau annwyl!
(2, 0) 693 Rhowch nhw i mi, rhowch nhw i mi.
 
(3, 0) 1174 Dyma ichi ychydig o eirin melys ar gyfer y siwrnai; disgwyl y cewch chi flas arnyn nhw.
 
(3, 0) 1176 Da y boch chi, maddeuwch inni os cawsoch rywbeth allan o'i le.
(3, 0) 1177 (Yn wylio.)
 
(3, 0) 1181 Mae'r amser yn mynd mor gyflym.
 
(4, 0) 1278 Mae ar Piotr Nicolaiefits isio cysgu yn ystafell Costia.
 
(4, 0) 1281 Mae hen bobol fel plant.
 
(4, 0) 1288 Dyna ddigon, nos dawch ta.
 
(4, 0) 1291 Pwy feddyliodd y byddech chi, Costia bach, yn llenor go iawn?
(4, 0) 1292 A dyma chi, i Dduw y bo'r gogoniant, yn cael arian o'r papurau.
(4, 0) 1293 Bachgen hardd ydych chi hefyd.
(4, 0) 1294 Da chi, Costia annwyl, byddwch yn ffeindiach wrth fy Masia bach i.
 
(4, 0) 1298 Geneth ardderchog ydi hi; 'does ar ferch isio fawr, Costia, dim ond gwên rŵan ac yn y man.
(4, 0) 1299 Mi wn i hynny trwy brofiad.
 
(4, 0) 1302 Ond mae biti gin i drostach chi, Masia.
 
(4, 0) 1304 Ond mae nghalon i'n gwaedu drostoch chi.
(4, 0) 1305 'Rydw i'n gweld popeth ac yn dallt popeth.
 
(4, 0) 1313 Dyna Costia yn canu'r piana, arwydd ei fod o'n ddigalon.
 
(4, 0) 1344 Ie, i chi.
 
(4, 0) 1416 Dyna nhw wedi dwad o'r stesion.
 
(4, 0) 1463 Cerdded ar noson mor fawr!
 
(4, 0) 1465 Dowch, gyfeillion.
 
(4, 0) 1475 Dowch, os gwelwch chi'n dda.
(4, 0) 1476 Rhaid inni beidio colli'n hamser neu mi fydd y gloch swper yn canu.
 
(4, 0) 1514 Dyna Costia yn canu piano, arwydd ei fod yn ddigalon.
 
(4, 0) 1729 Dowch â'r tê i mewn rŵan.