Ciw-restr

Yr Wylan

Llinellau gan Trigorin (Cyfanswm: 148)

 
(1, 0) 327 Mae pawb yn sgwennu fel y myn ac fel y gall.
 
(1, 0) 387 Dydw i ddim yn ei dallt hi, ond 'roedd yn bleser edrych arni, 'roeddych yn actio â'ch holl enaid.
 
(1, 0) 389 Rhaid bod digon o bysgod yn y llyn acw.
 
(1, 0) 391 'Rydw i'n hoff iawn o bysgota, wn i am ddim mwy difyr nag eistedd ar y lan gyda'r hwyr â'm llygad ar y fflôt.
 
(2, 0) 727 Bore da ichi, mae'n ymddangos fod rhaid inni fynd i ffwrdd heddiw.
(2, 0) 728 Mae'n ddrwg gin i am hynny, prin y cefais i olwg arnoch chi.
(2, 0) 729 Nid bob dydd y ceith dyn gyfle i gyfarfod â merched ifainc diddorol, mi dw i wedi anghofio sut y byddwn i'n teimlo pan oeddwn i'n ddeunaw oed, ac felly fedra i ddim rhoi darlun cywir o ferched ifainc yn fy straeon.
(2, 0) 730 Mi liciwn fod yn eich sgidiau chi am awr fechan i gael gwbod sut y byddwch yn edrych ar y byd a sut un ydych chi'n gyffredinol.
 
(2, 0) 732 Pam?
 
(2, 0) 735 Sut?
(2, 0) 736 Fydda i'n teimlo dim, mi gredaf, feddyliais i rioed am y peth.
(2, 0) 737 Rhaid eich bod chi'n fy ngosod yn rhy uchel neu ynte d'oes gan f'enwogrwydd ddim effaith o gwbwl ar fy nheimlad.
 
(2, 0) 739 Os byddan nhw'n canmol, mi fyddaf wrth fy modd; os bydden nhw'n lladd arna i, byddaf yn ddrwg fy hwyl am ddiwrnod neu ddau.
 
(2, 0) 744 Fi?
(2, 0) 745 Mmm!
(2, 0) 746 Digon hawdd ichi siarad am enwogrwydd, a dedwyddwch a bywyd disglair, diddorol, ond i mi 'dydi hyna i gyd ddim ond geiriau teg, mor ddibwys â jam cwsberins, a fydda i byth yn bwyta hwnnw.
(2, 0) 747 'Rydych chi'n ifanc ac yn garedig iawn.
 
(2, 0) 750 Wela i ddim ardderchog yno fo fy hun.
 
(2, 0) 752 Rhaid imi fynd i sgwennu.
(2, 0) 753 Maddeuwch i mi, mae f'amser yn brin.
 
(2, 0) 755 Ond dyna chi wedi rhoi'ch bys ar fy nolur a minnau'n dechrau cynhyrfu a cholli nhymer.
(2, 0) 756 Wel, rhaid imi gael bwrw drwyddi hi.
(2, 0) 757 Cymwch fy mywyd ardderchog, disglair – o ble cawn ni ddechrau?
 
(2, 0) 759 Meddyliwch am ddyn a chwilen yn ei ben, yn meddwl am y lleuad, deudwch, bob munud awr o'r dydd a nos; mae gennyf innau fy lleuad a'r un hen chwilen yn fy nghosi ddydd a nos; rhaid imi sgwennu, rhaid imi sgwennu, oes, rhaid.
(2, 0) 760 Prin y bydda i wedi gorffen un stori, ac am ryw reswm neu'i gilydd rhaid imi ddechrau ar un arall, ac un arall ar ei hôl hithau ac un arall ar ôl honno.
(2, 0) 761 Rhaid imi sgwennu ar garlam yn ddi-dor, fedra i ddim peidio.
(2, 0) 762 Be sy'n ardderchog yn hyn, 'rwy'n gofyn ichi, bywyd gwyllt a rhyfedd.
(2, 0) 763 Dyma fi, welwch chi, wedi cynhyrfu, eisoes, ac eto'n cofio bob munud awr fod stori heb ei gorffen ar fy nesg yn y tŷ.
(2, 0) 764 Dyma fi'n gweld cwmwl tebyg i biana, a bydd raid imi beidio ag anghofio sôn mewn stori am gwmwl tebyg i biana yn hwylio drwy'r awyr.
(2, 0) 765 Clywaf oglau blodau'r erwain, i lawr ag o yn y llyfr na: 'oglau melys masw', ar gyfer disgrifiad o noswaith haf.
(2, 0) 766 'Rwy'n dal ar bob brawddeg o'ch genau ac o'm genau innau hefyd, yn sylwi ar bob gair ac yn eu cloi yn fy nghadw-mi-gei llenyddol, gall lenwi bwlch ryw ddydd.
(2, 0) 767 Wedi cadw noswyl, byddaf yn rhedeg i'r theatr neu'n mynd i bysgota, gan ddisgwyl cael gorffwys ac anghofio popeth – yn hollol ofer; wele destun newydd yn troi yn fy mhen fel pelen haearn drom, ac yn fy llusgo yn ôl at y ddesg i'r hen gaethiwed blin, i sgwennu, sgwennu, sgwennu.
(2, 0) 768 Cha i byth lonydd, 'rwy'n teimlo mod i'n ysu fy mywyd yn hel mêl o flodau gorau f'oes, yn ei wastraffu ar rywun yn y pellter, yn rhwygo'r blodau eu hunain ac yn sathru eu gwreiddiau dan fy nhraed.
(2, 0) 769 Tybed mod i'n wallgof?
(2, 0) 770 A fydd fy nghyfeillion gorau yn fy nhrin i fel dyn iach?
(2, 0) 771 'Be sy gynnoch chi ar y gweill?
(2, 0) 772 Be gawn ni gynnoch chi nesa?' Yr un hen botas fyth a hefyd.
(2, 0) 773 Mi fydda i'n meddwl weithiau mai twyll ydi eu holl sylw nhw, a'u canmoliaeth a'u brwdfrydedd, ac mi fydd arna i ofn weithiau iddyn nhw afael yn fy ngwegil i'n sydyn a mynd a mi i'r gwallgofdy.
(2, 0) 774 Ac yn nyddiau f'ieuenctid, dyddiau gorau fy mywyd, 'roedd camau cynta fy ngyrfa fel llenor yn un boen hir ac annioddefol; mae llenor ifanc aflwyddiannus yn teimlo'n drwsgl, yn chwithig, ac megis ar ffordd pawb, yn anniddig a'i nerfau'n wan, ond serch hynny fedr o ddim peidio â chanlyn gwŷr y wasg, llenorion ac artistiaid o bob math, a neb yn sylwi arno, nac yn ei gydnabod, ac yntau'n rhy swil i edrych ym myw llygad neb, fel gambler heb geiniog yn ei boced.
(2, 0) 775 Welais i rioed mo'm darllenwyr, ond rywsut mi fyddwn yn tybied eu bod yn elynion imi ac yn f'amau.
(2, 0) 776 Mi fyddai arnaf ofn y gynulleidfa yn y theatr a phan berfformir drama newydd o'm heiddo, byddwn yn meddwl bob tro fod y bobol â phryd golau yn elyniaethol a'r rhai pryd tywyll yn oer a didaro, O!
(2, 0) 777 'Roedd yn ddychrynllyd, yn arteithiol.
 
(2, 0) 782 Ond sut llwyddiant?
(2, 0) 783 Fûm i rioed yn fodlon ar fy ngwaith, 'rwy'n ffieiddio fy hun fel llenor.
(2, 0) 784 Byddaf megis mewn llewyg wrth ysgrifennu ac yn methu deall fy ngeiriau fy hun.
(2, 0) 785 'Rwy'n caru'r llyn yma, a'r coed a'r awyr las, ac yn teimlo cyfaredd natur i'r byw.
(2, 0) 786 Mae'n peri imi gynhyrfu fel na fedraf beidio ag ysgrifennu.
(2, 0) 787 Ond 'rwyf yn rhywbeth amgen na disgrifiwr natur, 'rwyf yn ddinesydd yn caru fy ngwlad a'r werin ac yn teimlo fod rhaid imi sôn am y werin a'i dioddefiadau, am hawliau dyn a'i dynged, am wyddoniaeth a phethau cyffelyb.
(2, 0) 788 Rhaid imi siarad am bopeth, ac y mae'r byd yn drech na mi, a minnau'n troi ac yn trosi fel llwynog yng nghanol y cŵn.
(2, 0) 789 Mae bywyd a gwyddoniaeth yn mynd rhagddynt yn rhy gyflym i mi eu dal, ac yr wyf bob amser ar ôl fel hogyn o'r wlad wedi colli'r trên, ac yn teimlo o'r diwedd mai am natur yn unig y gallaf ysgrifennu ac nad yw pob gair arall o'm heiddo ond hoced, ffalster a thwyll.
 
(2, 0) 794 Ie, mewn cerbyd, fel Agamemnon i'r lladdfa.
 
(2, 0) 800 Dacw nhw'n galw.
(2, 0) 801 Rhaid imi bacio, mae'n debyg.
(2, 0) 802 'Does arna i ddim eisiau mynd.
 
(2, 0) 804 Y fath wynfa!
 
(2, 0) 806 Gwelaf.
 
(2, 0) 809 Mae hi'n braf arnoch chi yma.
 
(2, 0) 811 Be di hwn?
 
(2, 0) 813 Deryn braf, yn wir, 'does arna i ddim isio mynd.
(2, 0) 814 Triwch gael gynni hi aros.
 
(2, 0) 817 O, dim ond nodyn, awgrym testun stori fer ddaeth i mhen i.
 
(2, 0) 819 Geneth yn byw ar lan llyn, geneth ifanc fel chi, mae hi'n caru'r llyn fel yr wylan, ac yn ddedwydd a rhydd fel yr wylan.
(2, 0) 820 Dyma ŵr yn digwydd dŵad heibio, ac am nad oes ganddo ddim gwell i'w neud yn ei difa hi fel yr wylan yma.
 
(2, 0) 824 Yn dŵad rwan.
 
(3, 0) 836 Sut y gnewch chi hynny?
 
(3, 0) 838 Yr athro?
 
(3, 0) 840 Wela i mo'r angen.
 
(3, 0) 843 Fydd hynny ddim yn ormod?
 
(3, 0) 853 'D oes arna i ddim isio mynd.
 
(3, 0) 855 Na, rosith hi ddim rwan.
(3, 0) 856 Mae'r mab mor wirion.
(3, 0) 857 Dyna fo'n trio saethu ei hun, ac wedyn, meddan nhw, yn mynd i roi sialens i mi.
(3, 0) 858 Ac am ba reswm?
(3, 0) 859 Mae o'n chwythu ac yn chwyrnu ac yn pregethu efengyl ffurfiau newydd - ond neno'r annwyl, mae digon o le i'r hen a'r newydd, 'does dim gofyn ffrae, dybiwn i.
 
(3, 0) 875 Dwy.
 
(3, 0) 880 Fedr neb roi cyngor ichi.
 
(3, 0) 886 Mae hi'n neis.
 
(3, 0) 889 Mi fydde i'n siwr o neud, mi feddylia i amdanoch fel yr oeddech chi ar y diwrnod heulog hwnnw, ydych chi'n cofio, 'r wythnos dwaetha, mewn ffrog wen – mi gawsom sgwrs – a'r wylan wen ar y fainc.
 
(3, 0) 900 Ie.
 
(3, 0) 905 'Nos a dydd, tudalen 121, llinell 11 a 12.'
 
(3, 0) 908 Cewch, bydd gofyn amdanyn nhw rywbryd, ond d'oes dim isio'r llyfrau.
 
(3, 0) 911 Tudalen 121, llinell 11 a 12.
(3, 0) 912 Be sy yn y llinellau yna?
 
(3, 0) 914 Ydi fy llyfrau i yn y tŷ?
 
(3, 0) 916 Tudalen 121.
 
(3, 0) 1075 Tudalen 121, llinell 11 a 12 – dyma fo.
 
(3, 0) 1077 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.'
 
(3, 0) 1082 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.'
 
(3, 0) 1085 O, ydi, ydi.
 
(3, 0) 1087 Pam y mae gwaedd calon lân yn codi tristwch ac yn gneud nghalon i'n drwm?
(3, 0) 1088 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd i, tyrd, cymer ef.'
 
(3, 0) 1090 Gadwch inni aros yma tan yfory.
 
(3, 0) 1092 Gadwch inni aros.
 
(3, 0) 1095 Triwch chithau hefyd sobri, triwch fod yn synhwyrol, 'r wy'n crefu arnoch, triwch ystyried y mater fel gwir ffrind imi.
 
(3, 0) 1097 'R ydych yn ddigon mawr i neud yr aberth, byddwch yn ffrind imi, rhowch fy rhyddid yn ôl imi.
 
(3, 0) 1100 Mae rhywbeth yn fy nhynnu ati, a dyna fy mhrif angen, feallai.
 
(3, 0) 1103 Bydd pobol weithiau yn cysgu ar eu traed, felly finnau, wrth siarad wrthoch chi, 'r wy'n cysgu ac yn ei gweld hi yn fy mreuddwyd.
(3, 0) 1104 'R ydw i dan hud breuddwydion melys, rhyfedd, gadwch imi fynd.
 
(3, 0) 1108 Os mynnwch, gellwch fod yn ddynes anghyffredin – Cariad ifanc, swynol, barddonol, yn fy nghodi i fyd gweledigaethau, 'd oes dim arall yn y byd a all roi'r fath wynfyd.
(3, 0) 1109 Phrofais i rioed y fath gariad.
(3, 0) 1110 Yn fy ienctid ni chefais ddim ond crwydro o offis i offis a chynffoni i bob golygydd a brwydro'n erbyn tlodi, rŵan dyma gariad wedi ymddangos o'r diwedd ac yn galw arnaf – pa synnwyr fyddai imi redeg oddi ar ei ffordd?
 
(3, 0) 1113 Gadwch imi fynd.
 
(3, 0) 1117 'D ydi hi ddim yn dallt, fyn hi ddim dallt.
 
(3, 0) 1126 Mi all rhywyn ddŵad i mewn.
 
(3, 0) 1141 Mae fy wyllys i wedi darfod, fu gin i rioed wyllys rydd – llipa, meddal, ufudd, dyna fy hanes i; sut y gall unrhyw ferch garu'r fath ddyn?
(3, 0) 1142 Ewch â fi gyda chi, peidiwch â gollwng eich gafael am hanner cam.
 
(3, 0) 1149 Na, mi awn i ffwrdd gyda'n gilydd.
 
(3, 0) 1154 Mi glywais enw da'r bore ma, 'Llwyn y Forwyn', mi geith le mewn llyfr rywbryd.
 
(3, 0) 1156 Mynd amdani hi, te?
(3, 0) 1157 Mi gawn weld y trên unwaith eto, a'r stesions a'r refreshment rooms a mutton chops a digon o sgwario.
 
(3, 0) 1214 Mi anghofiais fy ffon.
(3, 0) 1215 Mae hi ar y terrace, mae'n debyg.
 
(3, 0) 1217 Chi sy na?
(3, 0) 1218 'R ydym ni ar fin cychwyn.
 
(3, 0) 1225 Ewch i aros yn y Slafiansci Bazâr, a gadwch imi wbod ar unwaith; 'moltsianoffca, Grocholsci,' dyna'r drecswin.
(3, 0) 1226 Rhaid imi frysio.
 
(3, 0) 1230 'R ydych chi mor glws.
(3, 0) 1231 Mae'n hyfryd meddwl y cawn ni weld ein gilydd yn fuan!
 
(3, 0) 1233 Mi ga i weld y llygaid disglair yma unwaith eto, a'r wên dyner, hardd a glendid angylaidd eich wynepryd na all undyn byw fyth eu disgrifio.
(3, 0) 1234 Fy nghariad annwyl i!
 
(4, 0) 1423 Sut yr ydych chi, Piotr Nicolaiefits?
(4, 0) 1424 Yn wael eto?
(4, 0) 1425 Mae'n wir ddrwg gin i.
 
(4, 0) 1427 Masia Ilinitsna!
 
(4, 0) 1429 Wedi priodi?
 
(4, 0) 1431 Yn hapus?
 
(4, 0) 1433 Mi ddeudodd Irina Nicolaiefna eich bod chi wedi anghofio'r hen gweryl a'ch dicter.
 
(4, 0) 1439 Mae'ch darllenwyr yn cofio atoch chi.
(4, 0) 1440 Mae pawb yn Petersburg a Mosco yn teimlo diddordeb mawr yn eich gwaith ac yn holi amdanoch: 'Sut un ydi o; faint ydi ei oed o; pryd golau ai pryd tywyll sy gynno fo?' Mae pawb yn meddwl rywsut nad ydych chi ddim yn ifanc.
(4, 0) 1441 Ŵyr neb mo'ch enw chi, am eich bod yn sgwennu dan ffugenw bob amser.
(4, 0) 1442 Mae na ryw ddirgelwch ynglŷn â chi fel gŵr y mwgwd haearn.
 
(4, 0) 1444 Na, 'rwy'n meddwl mynd i Mosco yfory.
(4, 0) 1445 Rhaid imi orffen stori, ac mi dw i wedi addo rhywbeth at gasgliad o straeon hefyd.
(4, 0) 1446 Mewn gair, yr un hen hanes.
 
(4, 0) 1448 Croeso drwg ges i gin y tywydd a'r gwynt creulon na.
(4, 0) 1449 Os bydd hi'n braf, mi a i i bysgota ar lan y llyn yfory; gyda llaw, rhaid imi fynd i gael golwg ar y fan, ydych chi'n cofio, lle'r actiwyd eich drama chi.
(4, 0) 1450 Mae gin i idea am stori, ond mae f'atgofion am y lle braidd yn gymylog.
 
(4, 0) 1518 'Dydi o'n gwneud fawr ohoni hi – mae'n methu taro'r cywair.
(4, 0) 1519 Mae na rywbeth dieithr, annelwig yn ei waith, yn ymylu ar orffwylltra; dim un cymeriad byw!
 
(4, 0) 1527 Tawn i'n byw yn y fath blas, wrth lan y llyn, ydych chi'n meddwl y baswn yn sgwennu?
(4, 0) 1528 Mi fyddwn i'n drech na'r hen nwyd ma, nawn i ddim ond pysgota.
 
(4, 0) 1530 A dal brithyll neu slywen, dyna chi nefoedd ar y ddaear!
 
(4, 0) 1543 Be dych chi'n feddwl?
 
(4, 0) 1545 'Dwy'n cofio dim am y peth.
 
(4, 0) 1547 Na, dim o gwbwl.
 
(4, 0) 1556 Dyna fi wedi ennill, gyfeillion.
 
(4, 0) 1736 'D wy'n cofio dim.
 
(4, 0) 1738 'D 'wy'n cofio dim!