Ciw-restr

Ymylau Byd

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 53)

(1, 0) 1 YR ACT GYNTAF
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Pan gyfyd y llen gwelir stafell, stafell mewn hen dŷ, ond erbyn hyn wedi ei throi yn stydi.
(1, 0) 4 Ar un mur mae silffoedd llyfrau yn llawn o hen lyfrau Cymraeg di-liw.
(1, 0) 5 Wrth y silffoedd mae cadair efo llyfrau arni.
(1, 0) 6 Ar y mur sydd gyferbyn mae ffenestr a'r llenni wedi eu tynnu.
(1, 0) 7 O flaen y ffenestr mae telisgop seryddol a chadair wrth ei ymyl.
(1, 0) 8 Yn y cefn, sef y mur gweladwy arall, mae drws yn y canol, yr unig ddrws yn y stafell.
(1, 0) 9 Wrth ymyl y drws, eto yn y cefn, mae bwrdd ac arno lyfrau.
(1, 0) 10 Yn wir, mae llyfrau wedi eu gadael yma ac acw ar hyd y stafell.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Yng nghanol y stafell mae soffa hynod o flêr efo rhyw fath o gwrlid gwlân budr ar ei chefn.
(1, 0) 13 Wrth ei hochr mae hen gadair ledr hynod flêr a chlustogau budr arni.
(1, 0) 14 Rhwng y soffa a'r gadair mae bwrdd coffi ac arno botel o wisgi, gwydrau, jwg ddŵr, a phaced o fisgedi.
(1, 0) 15 Yn nhu blaen y llwyfan, yn y canol, mae tân trydan ac yn y tu blaen hefyd wrth ymyl cadair olwyn mae hen lamp drydan.
(1, 0) 16 ~
(1, 0) 17 Wrth ymyl y soffa, yn eistedd yn y gadair olwyn, mae hen wraig, sef Emily, yn eistedd.
(1, 0) 18 Mae ei dillad yn flêr, hen, a budr.
(1, 0) 19 O'i blaen mae bwrdd bychan ac arno deganau clwt.
(1, 0) 20 Mae hi wrthi'n gwnïo'n llafurus pan gyfyd y llen.
(1, 0) 21 ~
(1, 0) 22 O hirbell, clywir sŵn awyren jet yn nesâu.
(1, 0) 23 Mae Emily yn rhoi'r gorau i'r gwnïo a chodi ei phen.
(1, 0) 24 Fel y cryfha'r sŵn mae Emily yn aflonyddu a dechrau mwmial yn annealladwy, sy'n troi yn fath o weiddi hunllefus.
(1, 0) 25 ~
(1, 0) 26 Ynghanol y llefain hwn mae'r drws yn agor a daw Roberts a Parry i mewn.
(1, 0) 27 Mae Roberts yn flêr ei wisg — hen siwt, hen grys a thei budr — ac nid yw wedi siafio ers dyddiau.
(1, 0) 28 Mae Parry yn weddol dalcus — trowsus llwyd, crys gwyn, a'i wddw'n agored, a chôt olau ysgafn sy'n gweddu i'w oed.
(1, 0) 29 ~
(1, 0) 30 Pan wêl Roberts ei wraig Emily yn y cyflwr y mae hi, mae'n rhuthro ati a'i chysuro fel pe bai'n cysuro plentyn.
(1, 0) 31 Saif Parry yn syllu ar hyn.
(1, 0) 32 Yn raddol, daw Emily ati ei hun ac y mae'n mynd ymlaen unwaith eto efo'r gwnïo.
 
(1, 0) 52 Mae Roberts yn tywallt dau wydriad o wisgi.
 
(1, 0) 131 Nid yw'n ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo.
 
(1, 0) 146 Saib.
 
(1, 0) 162 Mae Roberts yn mynd at Emily a rhoi bisgeden yn ei llaw gan arwain ei llaw at ei cheg.
(1, 0) 163 Mae Emily yn bwyta.
(1, 0) 164 Daw Roberts yn ôl ac eistedd.
 
(1, 0) 207 Saib.
 
(1, 0) 221 Saib.
 
(1, 0) 227 Saib.
 
(1, 0) 269 O'r pellter megis, daw sŵn peiriant awyren jet eto a'r un yw ymateb Emily pan fo'r awyren yn nesâu.
(1, 0) 270 Mae Roberts yn rhuthro ati a'i chofleidio.
(1, 0) 271 Mae'r sŵn yn graddol bellhau.
 
(1, 0) 287 Mae Parry yn rhuthro at y drws a'i agor.
(1, 0) 288 Mae Roberts yn cychwyn rowlio Emily o'r stafell.
(1, 0) 289 Cyn mynd mae'n troi at Parry.
 
(1, 0) 294 Mae Roberts yn rowlio Emily allan gan adael y drws yn lled agored.
(1, 0) 295 Mae Parry yn y stafell ei hun ac y mae'n cerdded yn syth at y silff lyfrau, tynnu ei sbectolau a byseddu'r llyfrau.
(1, 0) 296 Daw Roberts yn ôl.
 
(1, 0) 377 Saib.
 
(1, 0) 472 Mae Parry yn anesmwytho.
 
(1, 0) 479 Saib.