Act I: Ystafell yn nhy Ifan Harris. Nos Lun.
Act II: Yr un ystafell, Nos Fawrth.
Act III: Yr un ystafell. Prynhawn dydd Mercher. Daw'r Llen i lawr am ennyd tua chanol yr Act hon er mwyn awgrymu ysbaid o hanner awr.
Yr un ydyw'r olygfa drwy'r chwarae ─ ystafell yn nhy Ifan Harries. Dodrefner yr ystafell fel ag i awgrymu "ystafell oreu" lled wych. Awgrymer ychydig bach o ddiffyg chwaeth yn y dodrefnu, i.e. ychydig bach o duedd gwneuthur arddangosfa o'r lle. Eithr y mae golwg lled hen eg afluniaidd ar y bwrdd, y desg, ac un neu ddwy o'r cadeiriau. Y mae drws yn y mur ar yr ochr chwith yn arwain i mewn i'r ty. Y mae drws hefyd yn y mur gyferbyn a'r edrychwyr, ychydig i'r dde, a phan agorir ef gellir gweled y porth sydd yn arwain (yn ol awgrymiadau'r ddeialog) i ddrws yr heol. Y mae'r porth hwn hefyd yn arwain i mewn i'r ty. Y mae drws bach hefyd yn y mur ar yr ochr dde yn arwain i mewn i ystafell a gyfeirir ati fel y "rwm fach".
Tua chanol y mur, gyferbyn a'r edrychwyr, y mae darn mawr o liain gwyn yn orchudd ar agen neu gell fechan yn y mur. O fewn yr agen yma saif cof-golofn o ben ac ysgwyddau yr anfarwol Ifan Harris.