YR ACT GYNTAF Pan gyfyd y llen gwelir stafell, stafell mewn hen dŷ, ond erbyn hyn wedi ei throi yn stydi. Ar un mur mae silffoedd llyfrau yn llawn o hen lyfrau Cymraeg di-liw. Wrth y silffoedd mae cadair efo llyfrau arni. Ar y mur sydd gyferbyn mae ffenestr a'r llenni wedi eu tynnu. O flaen y ffenestr mae telisgop seryddol a chadair wrth ei ymyl. Yn y cefn, sef y mur gweladwy arall, mae drws yn y canol, yr unig ddrws yn y stafell. Wrth ymyl y drws, eto yn y cefn, mae bwrdd ac arno lyfrau. Yn wir, mae llyfrau wedi eu gadael yma ac acw ar hyd y stafell. Yng nghanol y stafell mae soffa hynod o flêr efo rhyw fath o gwrlid gwlân budr ar ei chefn. Wrth ei hochr mae hen gadair ledr hynod flêr a chlustogau budr arni. Rhwng y soffa a'r gadair mae bwrdd coffi ac arno botel o wisgi, gwydrau, jwg ddŵr, a phaced o fisgedi. Yn nhu blaen y llwyfan, yn y canol, mae tân trydan ac yn y tu blaen hefyd wrth ymyl cadair olwyn mae hen lamp drydan. Wrth ymyl y soffa, yn eistedd yn y gadair olwyn, mae hen wraig, sef Emily, yn eistedd. Mae ei dillad yn flêr, hen, a budr. O'i blaen mae bwrdd bychan ac arno deganau clwt. Mae hi wrthi'n gwnïo'n llafurus pan gyfyd y llen. O hirbell, clywir sŵn awyren jet yn nesâu. Mae Emily yn rhoi'r gorau i'r gwnïo a chodi ei phen. Fel y cryfha'r sŵn mae Emily yn aflonyddu a dechrau mwmial yn annealladwy, sy'n troi yn fath o weiddi hunllefus. Ynghanol y llefain hwn mae'r drws yn agor a daw Roberts a Parry i mewn. Mae Roberts yn flêr ei wisg — hen siwt, hen grys a thei budr — ac nid yw wedi siafio ers dyddiau. Mae Parry yn weddol dalcus — trowsus llwyd, crys gwyn, a'i wddw'n agored, a chôt olau ysgafn sy'n gweddu i'w oed. Pan wêl Roberts ei wraig Emily yn y cyflwr y mae hi, mae'n rhuthro ati a'i chysuro fel pe bai'n cysuro plentyn. Saif Parry yn syllu ar hyn. Yn raddol, daw Emily ati ei hun ac y mae'n mynd ymlaen unwaith eto efo'r gwnïo. |
|
Roberts |
(Gan droi at Parry sydd wrth y drws.) Yr awyrenna'. Maen nhw'n... |
Parry |
Deall yn iawn. Deall yn iawn. |
Roberts |
Steddwch. |
Parry |
Diolch o galon. Caredig iawn. Caredig iawn. |
Roberts |
Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd. |
Parry |
Byw. Ymddeol i Ynys Môn. Dyna ydi gwir nefoedd ar y ddaear. Y peth gwâr i'w wneud ar ôl oes o lafur di-ildio. Cael lle, stafell, llyfrgell fechan, i freuddwydio, meddwl a chreu. |
Roberts |
Diferyn bach? (Yn ymestyn at y wisgi.) |
Parry |
Caredig iawn. Caredig iawn. |
Mae Roberts yn tywallt dau wydriad o wisgi. |
|
Roberts |
Dŵr? |
Parry |
Hanner diferyn. Dim mwy. Dim llai. Dyna fo. Perffaith. (Yn cymryd y gwydr.) Diolch. (Saib.) Mm. Cael byw efo'ch llyfrau. A'r fath lyfrau. Gwerth cannoedd. Miloedd mae'n siwr. |
Roberts |
Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd. |
Parry |
Digwydd bod yn y gogledd. Pwyllgor ym Mangor 'fory. Penderfynu picio i Fôn. Stopio yn Rhosneigr am betrol; a phwy wel'is i? |
Roberts |
Bob amser yn mynd am ryw dro bach ar ôl swper, bydda', Emily? (Nid yw'n ei ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo.) |
Parry |
Iach iawn. |
Roberts |
Rhywun yn cysgu'n well. |
Parry |
Ma' rhywun. |
Roberts |
Awyr môr, ynte Emily? (Nid yw'n ei ateb.) Dim gormod o ddŵr, gobeithio? |
Parry |
Na, na. Na, na. |
Roberts |
O Ben Llŷn, ynte? |
Parry |
Eifionydd. |
Roberts |
Eifionydd. Wrth gwrs. Wrth gwrs. |
Parry |
A chitha o...? |
Roberts |
Fan 'ma. Môn. |
Parry |
Gwyn ych byd chi... Ych tad yn weinidog efo'r Hen Gorff, ynte? |
Roberts |
Yr Annibynwyr. |
Parry |
Siwr iawn. Wedi'i gladdu? |
Roberts |
Ugain mlynedd yn ôl. |
Parry |
Dw i'n siwr mod i wedi darllen am yr angladd. Ysgolhaig, on'd oedd? |
Roberts |
Oedd, oedd. |
Parry |
Mi sgwennodd esboniad ar Epistol Iago. |
Roberts |
Epistol cyntaf Pedr. |
Parry |
Wrth gwrs. Wrth gwrs. Be' haru mi? |
Roberts |
Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl. |
Parry |
Tewch â deud. |
Roberts |
Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo. |
Parry |
Ac mi ddaru chi ei brynu o. |
Roberts |
O, do. |
Parry |
O barch, fel petai. |
Roberts |
Hollol. |
Parry |
A rhoi mwy na deg ceiniog iddyn nhw siwr o fod. |
Roberts |
Punt. |
Parry |
Chware teg ichi. |
Roberts |
Nid 'mod i angen copi. |
Parry |
Na, na. |
Roberts |
Ma' gen i dri. |
Parry |
Fawr o fynd ar esboniada y dyddia' yma. |
Roberts |
Ma' gen i ddwsina ohonyn nhw. Llond stafell i fyny 'na. Sawl un sy wedi bod yma, Emily? Pedwar? Pump? Ia. Pump. Pump wedi bod yma yn cynnig eu prynu nhw. Pobol glên iawn, cofiwch, a diwylliedig. |
Parry |
Diwylliedig neu beidio. Maen nhw'n fwy o werth i chi nag iddyn nhw. |
Roberts |
Hollol. Dyma be ddeud'is i, ynte, Emily? |
Nid yw'n ateb ond bwrw 'mlaen gyda'i gwnïo. |
|
Roberts |
(Yn codi a mynd at Emily.) Damwain car. |
Parry |
Mae'n ddrwg gen i. |
Roberts |
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. |
Parry |
Wel, wel. |
Roberts |
Wrth Pentrafoelas. Methu'r tro. Mi gafodd ei bwrw o'r car. Doeddwn i ddim gwaeth. |
Parry |
Mae hi'n fyw. Dyna'r peth mawr. |
Roberts |
Hollol. |
Parry |
Ac yn gysur mawr a chwmni ichi. |
Roberts |
Ydi. |
Saib. |
|
Parry |
Môn. |
Roberts |
(Yn troi yn sydyn.) Mm? |
Parry |
Gwneud byd o les i rywun ddwad i Fôn. Ynys, yn wir, gwlad, ar ei phen ei hun. Wyddoch chi na wnes i rioed deimlo nac ing na gwewyr ar dir Môn 'ma. Ac wedi meddwl am y peth, dyna pam na chododd llenor gwir fawr o'r lle 'ma rioed. Pobol wedi clywed am boen ydi pobol Môn. Clywed sgrechfeydd o hirbell. Cael rhyw gip sydyn ar ingoedd Eryri drwy dduwch y Fenai. |
Roberts |
(Yn estyn paced o fisgedi.) Bisgedan? |
Parry |
Caredig iawn. (Yn cymryd un.) Caredig iawn. |
Mae Roberts yn mynd at Emily a rhoi bisgeden yn ei llaw gan arwain ei llaw at ei cheg. Mae Emily yn bwyta. Daw Roberts yn ôl ac eistedd. |
|
Parry |
Digestive. |
Roberts |
Ia. Digestive. |
Parry |
Hyfryd. (Saib.) Cymaint o flynyddoedd, on'd oes? |
Roberts |
Oes, mae. |
Parry |
Rywsut mi ddaru ni... golli nabod ar yn gilydd. |
Roberts |
Meddwl llawer amdanoch chi. |
Parry |
Chwarae teg ichi. |
Roberts |
Mi gawsoch yrfa brysur? Ffrwythlon? |
Parry |
Do... do. |
Roberts |
Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte? |
Parry |
Y Llyfrgell Genedlaethol. |
Roberts |
Wrth gwrs. Wrth gwrs. Yr hen go' yn pallu. |
Parry |
Rwan te, cyn ymddeol roeddech chi yn ochrau Maldwyn? |
Roberts |
Ddim yn hollol. |
Parry |
O? |
Roberts |
Mwy tua'r gororau. |
Parry |
Wrth gwrs... Dysgu? |
Roberts |
Am gyfnod. |
Parry |
Wedyn? |
Roberts |
Sgwennu. |
Parry |
Sgwennu... Gwyn ych byd chi. |
Roberts |
Un arall? (Ymestyn at y paced bisgedi.) |
Parry |
Caredig iawn. |
Roberts |
Digestive. |
Parry |
Hyfryd. |
Roberts |
Y ddau ohonan ni yn mynd drwy baced bob dydd, tydan Emily? (Nid yw'n ei ateb, ond bwrw mlaen gyda'i gwnïo.) |
Parry |
Rywsut, am ryw reswm, blerwch ar fy rhan i mae'n debyg, ddois i rioed ar draws eich erthygla chi. Sgwennu dan ffugenw fyddech chi? |
Roberts |
Bob amser. |
Parry |
Doeth iawn. Pobol yn medru bod mor greulon. |
Roberts |
Cenedl fechan. |
Saib. |
|
Parry |
Credu imi'ch gweld chi yn Steddfod Llangefni. Roeddech chi yno, on'd oeddech? |
Roberts |
Siwr o fod. |
Parry |
Yng ngwaelod y cae oeddech chi. Tu ôl i'r pafiliwn. Roeddech chi'n eistedd dan sycamorwydden anferth yn darllen y cyfansoddiada'. Mi godi's i law arnoch chi. Ond ddaru chi mo 'ngweld i. Rhy brysur yn darllen yr awdl mae'n siwr... Welsoch chi fi? |
Roberts |
Na. |
Parry |
Na. |
Roberts |
Na. |
Saib. |
|
Roberts |
Eich hun oeddech chi? Fy hun fyddwn i'n arfer mynd i'r Steddfod. Emily... |
Parry |
Deall yn iawn. Deall yn iawn. |
Saib. |
|
Roberts |
Un arall? (Mae'n ymestyn at y botel wisgi.) |
Parry |
Caredig iawn. (Mae Roberts yn ei dywallt.) |
Roberts |
Dŵr? |
Parry |
Hanner diferyn. Dim mwy. Dim llai. Perffaith. (Yn derbyn y gwydr.) Diolch. Ma' un peth sy'n ddirgelwch i mi. Sut ar wyneb y ddaear na wnaethoch chi gipio'r Goron neu'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith. Chi oedd y llenor yn ein plith ni. Yr athrylith efo'r gynghanedd a'r mesurau. Atoch chi y bydden ni i gyd yn dod am gymorth. Chi fyddai'n cipio'r Goron a'r Gadair yn Steddfod y Colega. Cofio'r fuddugoliaeth yn Abertawe? Roeddwn i efo chi yn cael pryd o fwyd ar ôl y seremoni. Cofio? Mae gen i ryw frith gof... |
Roberts |
'Aberhenfelen'. |
Parry |
Testun ych awdl. |
Roberts |
Ia. |
Parry |
Ia. Wrth gwrs. 'Aberhenfelen'. Cofio rwan. Ac mi gafodd hi 'i chyhoeddi debyg? |
Roberts |
Do, do. |
Parry |
Diolch am hynny. Mae'n bwysig rhoi ceinder ar gof a chadw. |
Roberts |
Pryd o fwyd, ddeudsoch chi? |
Parry |
Ar ôl y seremoni. Ia. |
Roberts |
Yng Nghaerdydd? |
Parry |
Abertawe. |
Roberts |
Y ddau ohonan ni. |
Parry |
Y ddau ohonan ni. |
Roberts |
Gwâr. |
Parry |
Hynod wâr. |
O'r pellter megis, daw sŵn peiriant awyren jet eto a'r un yw ymateb Emily pan fo'r awyren yn nesâu. Mae Roberts yn rhuthro ati a'i chofleidio. Mae'r sŵn yn graddol bellhau. |
|
Roberts |
Yr awyrennau jet... Maen nhw'n... |
Parry |
Deall yn iawn. Deall yn iawn. |
Roberts |
(Wrth Emily.) Hwyr glas ichi fynd am y drol 'nghariad i. Mae hi wedi troi naw. Mi fydd y doctor yn deud y drefn. Dowch rwan. (Mae'n troi at Parry.) F'asech chi mor garedig â...? |
Parry |
Mm? |
Roberts |
Y drws? |
Parry |
Wrth gwrs. Mae'n ddrwg gen i. |
Mae Parry yn rhuthro at y drws a'i agor. Mae Roberts yn cychwyn rowlio Emily o'r stafell. Cyn mynd mae'n troi at Parry. |
|
Roberts |
Abertawe. |
Parry |
Abertawe. |
Roberts |
Aberhenfelen. |
Parry |
Aberhenfelen. |
Mae Roberts yn rowlio Emily allan gan adael y drws yn lled agored. Mae Parry yn y stafell ei hun ac y mae'n cerdded yn syth at y silff lyfrau, tynnu ei sbectolau a byseddu'r llyfrau. Daw Roberts yn ôl. |
|
Parry |
Wedi dal ati mae'n siwr? |
Roberts |
Dal ati? |
Parry |
I sgwennu. |
Roberts |
Do, do...do. |
Parry |
Cerdd? Nofel? Ysgrif? |
Roberts |
Nofel. |
Parry |
Nofel. Diddorol. Edrych ymlaen yn fawr at 'i darllen hi. Pa bryd wnewch chi 'i chyhoeddi hi? Eleni? Y flwyddyn nesaf? |
Roberts |
Yn fuan. |
Parry |
Ddylai neb ruthro efo nofel. |
Roberts |
Anfodlon iawn ar rai rhannau. |
Parry |
Perffeithydd fuoch chi erioed. |
Roberts |
Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg. |
Parry |
A 'chydig, gwaetha'r modd, sy'n poeni am hynny heddiw. |
Roberts |
Ond cystrawen ydi iaith. |
Parry |
Hollol. |
Roberts |
A be' am gywirdeb gramadegol? |
Parry |
Wedi peidio â bod. |
Roberts |
Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma. |
Parry |
Erchyll. |
Roberts |
Treiglada gwallus. |
Parry |
Diffyg gwybodaeth sylfaenol o amserau'r ferf. |
Roberts |
A be' am y Modd Dibynnol? |
Parry |
Wedi peidio â bod. |
Roberts |
Ac y mae'n rhaid wrtho fo. Sut gallwn ni fel cenedl gyfleu'n dyheadau hebddo fo. Sut? |
Parry |
Nid bod y to ifanc heb ddyheadau. |
Roberts |
Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol. |
Parry |
Doedd gynnon ni, wel y rhan fwyaf ohonan ni, ddim mo'r... |
Roberts |
Asgwrn cefn? |
Parry |
Nac oedd. |
Roberts |
Plant ein hoes. |
Parry |
Dau ryfel byd. |
Roberts |
Roeddech chi yn y rhyfel? |
Parry |
Na. |
Roberts |
Cydwybod? |
Parry |
Ia. |
Roberts |
Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn. |
Parry |
Ac eto, mi fyddai'n teimlo'n aml, o edrych yn ôl, mod i wedi colli rhywbeth mawr. |
Roberts |
Choll'soch chi ddim. Dim. |
Parry |
Na. Fedra'i ddim cytuno efo chi. Mi ddylwn i fod wedi mynd. Roeddwn i'n teimlo mod i'n poeri yn wyneb rhagluniaeth. Yn bradychu fy oes fy hun. Gweld y presennol yn toddi yn y fflama a'r sgrechfeydd a finne'n rhythu o hirbell ar y cwbwl. Gorfod derbyn y byddwn i ar ôl y rhyfel yn ŵr wedi colli'i gyfle. Yn gachwr ar gyfeiliorn yn chwilio am noddfa. Rhywun ar ymylon bywyd. Yn wahanol iawn i chi. Roeddech chi yno. Yno, yn creu Ewrop newydd, byd newydd. Ac o'ch nabod chi, roeddech chi'n ymwybodol o'r peth, yn gwybod eich bod chi'n rhan o rywbeth — be' ydi'r gair? — anorfod? Mi fedrwch heno, y funud yma, edrych yn ôl a dweud, 'Roeddwn i yno, yn creu Ewrop newydd'. Teimlad gwefreiddiol dw i'n siwr. Ydi'r nofel 'ma am y cyfnod hwnnw? |
Roberts |
Dw i'n oer. Ydach chi? (Mae'n codi a rhoi'r tân trydan ymlaen.) |
Parry |
Mm. |
Roberts |
(Yn rhoi'r lamp ymlaen.) Fyddwn ni byth yn gwneud tân. Gormod o faeddol. Gweld rhain yn llawer mwy cyfleus. |
Parry |
Glanach. |
Roberts |
O lawer. |
Parry |
Mi fydda'i bob amser yn prynu 'poppy'. |
Roberts |
'Poppy'? |
Parry |
I gofio'r hogia'. |
Roberts |
O. |
Parry |
Lleddfu tipyn ar y gydwybod siwr o fod. Mi ddylwn i fod wedi mynd. |
Saib. |
|
Roberts |
Buddug, ynte? |
Parry |
Pwy? |
Roberts |
Ych gwraig. |
Parry |
Gwenllian. |
Roberts |
Merch o Abertawe. |
Parry |
Y Drenewydd. |
Roberts |
Wrth gwrs... Mae hi efo chi. |
Parry |
Na. |
Roberts |
Gartra? |
Parry |
Wedi'i chladdu. |
Roberts |
Mae'n ddrwg gen i. Yn ddiweddar? |
Parry |
Llynedd. |
Roberts |
Wel, wel... |
Parry |
Roedd o yn y Daily Post a'r Western Mail. Doeddwn i ddim eisiau ei roi o yn y papur o gwbwl. 'I chwaer hi fynnodd mod i'n gwneud. |
Roberts |
Teulu. Hardd on'd oedd? |
Parry |
Pwy? |
Roberts |
Gwenllian. |
Parry |
Oedd. Mi oedd hi. |
Roberts |
Gwallt du. Gwisgo ffrog goch neu wyrdd bob amser. |
Parry |
Fydde hi 'dwch? |
Roberts |
Bydda. |
Parry |
Mae gynnoch chi go' da. |
Roberts |
Soprano wefreiddiol. 'I chofio hi'n canu yn y 'Meseia' rhyw Ddolig yn neuadd PJ. Tynnu'r lle i lawr. |
Parry |
Do, mi wnaeth. |
Roberts |
Wnaeth hi... ddioddef? Gafodd hi gystudd? Be oedd o? Yr hen elyn? |
Parry |
Ia. |
Roberts |
Oedd hi ei hun yn gwybod. |
Parry |
O, oedd. |
Roberts |
Fyddai hi'n sôn am y peth? |
Parry |
Byth. |
Roberts |
Byth? |
Parry |
Byth. |
Roberts |
Be fyddech chi yn ei drafod? |
Parry |
Ma'n ddrwg gen i? |
Roberts |
Pan fyddech chi'n galw i'w gweld hi. Yn y sbyty oedd hi, ia? |
Parry |
Gartra. |
Roberts |
Be fyddech chi yn ei drafod? |
Parry |
Sawl peth. Yr ardd. Y ci. Cymru... Y Steddfod. |
Roberts |
Y coleg? |
Parry |
Y coleg? |
Roberts |
Fydda hi'n sôn am y coleg? Sôn am yr hen ddyddia. Sôn am yr hen griw? |
Parry |
Weithia'. |
Roberts |
Be fydda' hi'n 'i ddweud? |
Parry |
Anodd cofio. Roedd y beth bach yn mwydro cymaint... cyffuriau. |
Roberts |
Diolch amdanyn nhw. |
Parry |
Ia... Mi fyddai hi'n sôn ym aml am ryw bnawn. Rhyw bnawn yn Llandysilio. Y Fenai... Pwy oedd Emlyn? |
Roberts |
Emlyn? |
Parry |
Mi fyddai hi'n sôn yn aml am rywun o'r enw Emlyn. Pwy oedd o? Un ohonan ni? Fawr o go' am neb o'r enw Emlyn. |
Roberts |
Emlyn?... Emlyn?... Emlyn? |
Parry |
Ewch drwy'r criw. |
Roberts |
Dic Roberts. |
Parry |
Ei gofio fo. |
Roberts |
Arthur Huws, Tregarth. |
Parry |
Morris Elis, Rhosesmor. |
Roberts |
Gwilym bach, Glyn. Trefor Stiniog. |
Parry |
Ond Emlyn? |
Roberts |
Na. Cymaint o amser yn ôl. Blynyddoedd. Oes. Eto, mae'r enw yn canu cloch. |
Parry |
Mae o. Mae o. |
Roberts |
Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch? |
Mae Parry yn anesmwytho. |
|
Parry |
O, oedd. Oedd. |
Roberts |
Hynny'n gysur. Dim byd gwaeth nag edrych yn ôl ar eich bywyd efo... |
Parry |
Efo be? |
Roberts |
Dirmyg. |
Saib. |
|
[Rhagor o destun i'w ychwanegu] |