Ciw-restr

Ymylau Byd

Llinellau gan Parry (Cyfanswm: 231)

 
(1, 0) 36 Deall yn iawn.
(1, 0) 37 Deall yn iawn.
 
(1, 0) 39 Diolch o galon.
(1, 0) 40 Caredig iawn.
(1, 0) 41 Caredig iawn.
 
(1, 0) 43 Byw.
(1, 0) 44 Ymddeol i Ynys Môn.
(1, 0) 45 Dyna ydi gwir nefoedd ar y ddaear.
(1, 0) 46 Y peth gwâr i'w wneud ar ôl oes o lafur di-ildio.
(1, 0) 47 Cael lle, stafell, llyfrgell fechan, i freuddwydio, meddwl a chreu.
 
(1, 0) 50 Caredig iawn.
(1, 0) 51 Caredig iawn.
 
(1, 0) 54 Hanner diferyn.
(1, 0) 55 Dim mwy.
(1, 0) 56 Dim llai.
(1, 0) 57 Dyna fo.
(1, 0) 58 Perffaith.
 
(1, 0) 60 Diolch.
 
(1, 0) 62 Mm.
(1, 0) 63 Cael byw efo'ch llyfrau.
(1, 0) 64 A'r fath lyfrau.
(1, 0) 65 Gwerth cannoedd.
(1, 0) 66 Miloedd mae'n siwr.
 
(1, 0) 68 Digwydd bod yn y gogledd.
(1, 0) 69 Pwyllgor ym Mangor 'fory.
(1, 0) 70 Penderfynu picio i Fôn.
(1, 0) 71 Stopio yn Rhosneigr am betrol; a phwy wel'is i?
 
(1, 0) 74 Iach iawn.
 
(1, 0) 76 Ma' rhywun.
 
(1, 0) 80 Na, na.
(1, 0) 81 Na, na.
 
(1, 0) 83 Eifionydd.
 
(1, 0) 87 A chitha o...?
 
(1, 0) 90 Gwyn ych byd chi...
(1, 0) 91 Ych tad yn weinidog efo'r Hen Gorff, ynte?
 
(1, 0) 93 Siwr iawn.
(1, 0) 94 Wedi'i gladdu?
 
(1, 0) 96 Dw i'n siwr mod i wedi darllen am yr angladd.
(1, 0) 97 Ysgolhaig, on'd oedd?
 
(1, 0) 99 Mi sgwennodd esboniad ar Epistol Iago.
 
(1, 0) 101 Wrth gwrs.
(1, 0) 102 Wrth gwrs.
(1, 0) 103 Be' haru mi?
 
(1, 0) 105 Tewch â deud.
 
(1, 0) 107 Ac mi ddaru chi ei brynu o.
 
(1, 0) 109 O barch, fel petai.
 
(1, 0) 111 A rhoi mwy na deg ceiniog iddyn nhw siwr o fod.
 
(1, 0) 113 Chware teg ichi.
 
(1, 0) 115 Na, na.
 
(1, 0) 117 Fawr o fynd ar esboniada y dyddia' yma.
 
(1, 0) 127 Diwylliedig neu beidio.
(1, 0) 128 Maen nhw'n fwy o werth i chi nag iddyn nhw.
 
(1, 0) 134 Mae'n ddrwg gen i.
 
(1, 0) 136 Wel, wel.
 
(1, 0) 141 Mae hi'n fyw.
(1, 0) 142 Dyna'r peth mawr.
 
(1, 0) 144 Ac yn gysur mawr a chwmni ichi.
 
(1, 0) 147 Môn.
 
(1, 0) 150 Gwneud byd o les i rywun ddwad i Fôn.
(1, 0) 151 Ynys, yn wir, gwlad, ar ei phen ei hun.
(1, 0) 152 Wyddoch chi na wnes i rioed deimlo nac ing na gwewyr ar dir Môn 'ma.
(1, 0) 153 Ac wedi meddwl am y peth, dyna pam na chododd llenor gwir fawr o'r lle 'ma rioed.
(1, 0) 154 Pobol wedi clywed am boen ydi pobol Môn.
(1, 0) 155 Clywed sgrechfeydd o hirbell.
(1, 0) 156 Cael rhyw gip sydyn ar ingoedd Eryri drwy dduwch y Fenai.
 
(1, 0) 159 Caredig iawn.
 
(1, 0) 161 Caredig iawn.
 
(1, 0) 165 Digestive.
 
(1, 0) 168 Hyfryd.
 
(1, 0) 170 Cymaint o flynyddoedd, on'd oes?
 
(1, 0) 172 Rywsut mi ddaru ni... golli nabod ar yn gilydd.
 
(1, 0) 174 Chwarae teg ichi.
 
(1, 0) 177 Do... do.
 
(1, 0) 179 Y Llyfrgell Genedlaethol.
 
(1, 0) 183 Rwan te, cyn ymddeol roeddech chi yn ochrau Maldwyn?
 
(1, 0) 185 O?
 
(1, 0) 187 Wrth gwrs...
(1, 0) 188 Dysgu?
 
(1, 0) 190 Wedyn?
 
(1, 0) 192 Sgwennu...
(1, 0) 193 Gwyn ych byd chi.
 
(1, 0) 196 Caredig iawn.
 
(1, 0) 198 Hyfryd.
 
(1, 0) 201 Rywsut, am ryw reswm, blerwch ar fy rhan i mae'n debyg, ddois i rioed ar draws eich erthygla chi.
(1, 0) 202 Sgwennu dan ffugenw fyddech chi?
 
(1, 0) 204 Doeth iawn.
(1, 0) 205 Pobol yn medru bod mor greulon.
 
(1, 0) 208 Credu imi'ch gweld chi yn Steddfod Llangefni.
(1, 0) 209 Roeddech chi yno, on'd oeddech?
 
(1, 0) 211 Yng ngwaelod y cae oeddech chi.
(1, 0) 212 Tu ôl i'r pafiliwn.
(1, 0) 213 Roeddech chi'n eistedd dan sycamorwydden anferth yn darllen y cyfansoddiada'.
(1, 0) 214 Mi godi's i law arnoch chi.
(1, 0) 215 Ond ddaru chi mo 'ngweld i.
(1, 0) 216 Rhy brysur yn darllen yr awdl mae'n siwr...
(1, 0) 217 Welsoch chi fi?
 
(1, 0) 219 Na.
 
(1, 0) 225 Deall yn iawn.
(1, 0) 226 Deall yn iawn.
 
(1, 0) 230 Caredig iawn.
 
(1, 0) 233 Hanner diferyn.
(1, 0) 234 Dim mwy.
(1, 0) 235 Dim llai.
(1, 0) 236 Perffaith.
 
(1, 0) 238 Diolch.
(1, 0) 239 Ma' un peth sy'n ddirgelwch i mi.
(1, 0) 240 Sut ar wyneb y ddaear na wnaethoch chi gipio'r Goron neu'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith.
(1, 0) 241 Chi oedd y llenor yn ein plith ni.
(1, 0) 242 Yr athrylith efo'r gynghanedd a'r mesurau.
(1, 0) 243 Atoch chi y bydden ni i gyd yn dod am gymorth.
(1, 0) 244 Chi fyddai'n cipio'r Goron a'r Gadair yn Steddfod y Colega.
(1, 0) 245 Cofio'r fuddugoliaeth yn Abertawe?
(1, 0) 246 Roeddwn i efo chi yn cael pryd o fwyd ar ôl y seremoni.
(1, 0) 247 Cofio?
(1, 0) 248 Mae gen i ryw frith gof...
 
(1, 0) 250 Testun ych awdl.
 
(1, 0) 252 Ia.
(1, 0) 253 Wrth gwrs.
(1, 0) 254 'Aberhenfelen'.
(1, 0) 255 Cofio rwan.
(1, 0) 256 Ac mi gafodd hi 'i chyhoeddi debyg?
 
(1, 0) 258 Diolch am hynny.
(1, 0) 259 Mae'n bwysig rhoi ceinder ar gof a chadw.
 
(1, 0) 261 Ar ôl y seremoni.
(1, 0) 262 Ia.
 
(1, 0) 264 Abertawe.
 
(1, 0) 266 Y ddau ohonan ni.
 
(1, 0) 268 Hynod wâr.
 
(1, 0) 274 Deall yn iawn.
(1, 0) 275 Deall yn iawn.
 
(1, 0) 283 Mm?
 
(1, 0) 285 Wrth gwrs.
(1, 0) 286 Mae'n ddrwg gen i.
 
(1, 0) 291 Abertawe.
 
(1, 0) 293 Aberhenfelen.
 
(1, 0) 297 Wedi dal ati mae'n siwr?
 
(1, 0) 299 I sgwennu.
 
(1, 0) 301 Cerdd?
(1, 0) 302 Nofel?
(1, 0) 303 Ysgrif?
 
(1, 0) 305 Nofel.
(1, 0) 306 Diddorol.
(1, 0) 307 Edrych ymlaen yn fawr at 'i darllen hi.
(1, 0) 308 Pa bryd wnewch chi 'i chyhoeddi hi?
(1, 0) 309 Eleni?
(1, 0) 310 Y flwyddyn nesaf?
 
(1, 0) 312 Ddylai neb ruthro efo nofel.
 
(1, 0) 314 Perffeithydd fuoch chi erioed.
 
(1, 0) 316 A 'chydig, gwaetha'r modd, sy'n poeni am hynny heddiw.
 
(1, 0) 318 Hollol.
 
(1, 0) 320 Wedi peidio â bod.
 
(1, 0) 322 Erchyll.
 
(1, 0) 324 Diffyg gwybodaeth sylfaenol o amserau'r ferf.
 
(1, 0) 326 Wedi peidio â bod.
 
(1, 0) 330 Nid bod y to ifanc heb ddyheadau.
 
(1, 0) 332 Doedd gynnon ni, wel y rhan fwyaf ohonan ni, ddim mo'r...
 
(1, 0) 334 Nac oedd.
 
(1, 0) 336 Dau ryfel byd.
 
(1, 0) 338 Na.
 
(1, 0) 340 Ia.
 
(1, 0) 342 Ac eto, mi fyddai'n teimlo'n aml, o edrych yn ôl, mod i wedi colli rhywbeth mawr.
 
(1, 0) 345 Na.
(1, 0) 346 Fedra'i ddim cytuno efo chi.
(1, 0) 347 Mi ddylwn i fod wedi mynd.
(1, 0) 348 Roeddwn i'n teimlo mod i'n poeri yn wyneb rhagluniaeth.
(1, 0) 349 Yn bradychu fy oes fy hun.
(1, 0) 350 Gweld y presennol yn toddi yn y fflama a'r sgrechfeydd a finne'n rhythu o hirbell ar y cwbwl.
(1, 0) 351 Gorfod derbyn y byddwn i ar ôl y rhyfel yn ŵr wedi colli'i gyfle.
(1, 0) 352 Yn gachwr ar gyfeiliorn yn chwilio am noddfa.
(1, 0) 353 Rhywun ar ymylon bywyd.
(1, 0) 354 Yn wahanol iawn i chi.
(1, 0) 355 Roeddech chi yno.
(1, 0) 356 Yno, yn creu Ewrop newydd, byd newydd.
(1, 0) 357 Ac o'ch nabod chi, roeddech chi'n ymwybodol o'r peth, yn gwybod eich bod chi'n rhan o rywbeth — be' ydi'r gair? — anorfod?
(1, 0) 358 Mi fedrwch heno, y funud yma, edrych yn ôl a dweud, 'Roeddwn i yno, yn creu Ewrop newydd'.
(1, 0) 359 Teimlad gwefreiddiol dw i'n siwr.
(1, 0) 360 Ydi'r nofel 'ma am y cyfnod hwnnw?
 
(1, 0) 364 Mm.
 
(1, 0) 369 Glanach.
 
(1, 0) 371 Mi fydda'i bob amser yn prynu 'poppy'.
 
(1, 0) 373 I gofio'r hogia'.
 
(1, 0) 375 Lleddfu tipyn ar y gydwybod siwr o fod.
(1, 0) 376 Mi ddylwn i fod wedi mynd.
 
(1, 0) 379 Pwy?
 
(1, 0) 381 Gwenllian.
 
(1, 0) 383 Y Drenewydd.
 
(1, 0) 386 Na.
 
(1, 0) 388 Wedi'i chladdu.
 
(1, 0) 391 Llynedd.
 
(1, 0) 393 Roedd o yn y Daily Post a'r Western Mail.
(1, 0) 394 Doeddwn i ddim eisiau ei roi o yn y papur o gwbwl.
(1, 0) 395 'I chwaer hi fynnodd mod i'n gwneud.
 
(1, 0) 398 Pwy?
 
(1, 0) 400 Oedd.
(1, 0) 401 Mi oedd hi.
 
(1, 0) 404 Fydde hi 'dwch?
 
(1, 0) 406 Mae gynnoch chi go' da.
 
(1, 0) 410 Do, mi wnaeth.
 
(1, 0) 415 Ia.
 
(1, 0) 417 O, oedd.
 
(1, 0) 419 Byth.
 
(1, 0) 421 Byth.
 
(1, 0) 423 Ma'n ddrwg gen i?
 
(1, 0) 426 Gartra.
 
(1, 0) 428 Sawl peth.
(1, 0) 429 Yr ardd.
(1, 0) 430 Y ci.
(1, 0) 431 Cymru...
(1, 0) 432 Y Steddfod.
 
(1, 0) 434 Y coleg?
 
(1, 0) 438 Weithia'.
 
(1, 0) 440 Anodd cofio.
(1, 0) 441 Roedd y beth bach yn mwydro cymaint... cyffuriau.
 
(1, 0) 443 Ia...
(1, 0) 444 Mi fyddai hi'n sôn ym aml am ryw bnawn.
(1, 0) 445 Rhyw bnawn yn Llandysilio.
(1, 0) 446 Y Fenai...
(1, 0) 447 Pwy oedd Emlyn?
 
(1, 0) 449 Mi fyddai hi'n sôn yn aml am rywun o'r enw Emlyn.
(1, 0) 450 Pwy oedd o?
(1, 0) 451 Un ohonan ni?
(1, 0) 452 Fawr o go' am neb o'r enw Emlyn.
 
(1, 0) 456 Ewch drwy'r criw.
 
(1, 0) 458 Ei gofio fo.
 
(1, 0) 460 Morris Elis, Rhosesmor.
 
(1, 0) 463 Ond Emlyn?
 
(1, 0) 469 Mae o.
(1, 0) 470 Mae o.
 
(1, 0) 473 O, oedd.
(1, 0) 474 Oedd.
 
(1, 0) 477 Efo be?