Drama Newydd.—Nos Lun y Pasg, yn yr Hen Gapel Cynulleidfaol, Pencader, rhoddwyd perfformiad o'r ddrama Llwybrau Anrhydedd gan gwmni lleol. Yr oedd yr adeilad wedi ei orlenwi ar yr amgylchiad, a chafodd y gynulleìdfa luosog wledd a hir gofir. Drama newydd spon ydyw Llwybrau Anrhydedd o waith y bardd a'r nofelydd D. Derwenydd Morgan. Fferyllydd wrth ei alwedigaeth ydyw'r awdwr, a cheidw faelfa ym Mhencader. Heblaw bod yn fferyllydd, y mae hefyd yn bregethwr gwir boblogaidd gyda'n Henwad. Dyma'r tro cyntaf i Derwenydd anturio i'r byd dramodol, ond y mae ei enw yn hysbys tbrwy Gymru fel bardd a nofelydd. Dyma'r perfformiad cyntaf o'r ddrama, a deallaf y cyhoeddir hi yn fuan. Cymerwyd y gadair gan Mr. J. D. Evans, Tremle. Rhoddodd y perfformwyr a phawb eu gwaith yn rhad, a thrwy hynny gwnawd swm sylweddol o arian tuag at gynorthwyo y milwyr lleol sydd wedi ymuno â'r fyddin.
Y Tyst. 16 Mai 1917.