g1g2g3

Faust (1922)

Johann-Wolfgang von Goethe
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1922 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3

RHAN GYNTAF Y DRAGOEDIA.
Nos.
Ystafell gyfyng, o ddull Gothig, a nen uchel.
FAUST yn eistedd yn aflonydd o flaen ei ddesg.

Faust
Astudiais, och! Ffilosoffi,
A chyfraith, do, a Meddyginiaeth,
A Diwinyddiaeth—gwae fyfi!—
Drwy lafur mawr a garw driniaeth.
A dyma fi, 'r ynfytyn plaen,
Cyn ddoethed bob tipyn ag oeddwn o'r blaen!
Fe'm gelwir yn Athro a Doethur, mae'n wir,
A minnau ers deng mlynedd hir
Yn tynnu 'nisgyblion ar hyd ac ar draws
Gerfydd eu trwyn, heb fod ronyn haws,
I weld nad oes dim y gallwn ei wybod!—
Mae hynny agos a llosgi 'nghydwybod.
'Rwyf lawn cyn ddoethed â'r crach ysgolorion,
Athrawon, Meistriaid, Offeiriaid, Llenorion;
'Does wendid nac ameu a bair im ffaelu,
Ac nid wyf yn ofni na diawl na'i deulu.
Collais drwy hynny bob rhyw sirioldeb;
Am wybod dim a fyddai fuddioldeb,
Neu beth i'w ddysgu, ni waeth heb ffugio,
Er gwella dynion na'u diwygio;
At hynny, 'does imi nac aur na chlud,
Na pharch na diddanwch yn y byd;
Ni ddaliai gi ddim yn hwy mo'r driniaeth,
O'r herwydd, ymroddais at Ddewiniaeth,
Rhag na bo ambell bwnc i'w drafod
Na ddeuai'n glir drwy bwyll a thafod,
Fel na bo rhaid, drwy chwys a phendroni,
Im draethu'r ddysg na wn i moni,
Ac fel y gwypwyf beth yw'r byd
A'r hyn a gynnwys oll i gyd,
A gweld ei had a'i rym i'w eigion
Yn lle rhyw ddelio mewn geiriau gweigion!

O loergan leuad, a weli di,
Am yr olaf waith, fy llafur i?
Dydi, a welais i mor dlos
Uwchben fy nesg aml hanner nos;
O blith papurau a llyfrau lu,
Gyfeilles brudd, y'th wyliwn fry!
Och! na chawn fynd i gopa'r bryn
Ynghanol dy oleuni gwyn;
Crwydro gydag ysbrydion lu
Drwy ogofeydd y creigiau fry,
Hofran yn dy hanner goleu
I'w canlyn hwy uwchben y dolau;
Poen meddwl wedi'i lwyr anghofio,
A mi'n dy wlith yn nwyfus nofio!
Gwae! yma'r wy'n y carchar cau,
Felltigaid, dywyll bared ffau,
Lle rhaid i wawl y nefoedd wiw
Ryw dorri'n llwyd trwy wydryn lliw,
A fforchi yn y llyfrdy, fo
A gny pryfetach, tan ei lwch;
A'i bared yntau, hyd y to,
A phapur myglyd trosto'n drwch;
Gwydrau ac estyll ym mhob cwrr,
Ac offer lu ar draws a hyd,
Hynafol ddodrefn, ddidrefn dwrr—
Dy fyd, y peth a elwi'n fyd!
A fynni dithau holi pam
Y rhydd dy galon ynot lam?
Paham y daw rhyw ofid mud
I darfu gwerth dy yrfa i gyd?
Yn lle bod gyda Natur fyw,
I lonni dyn, a luniai Duw,
Bod yma yn y mwg a'r staen,
Rhwng ysgerbydau ac esgyrn braen!
Ffo! ymaith dos i'r wlad sy draw
A'r llyfr, sy lawn o bethau cudd,
Gwaith Nostradamus[1] tan ei law,
I'th arwain, onid digon fydd?
Pan ddysger di gan Natur hithau,
Ti adnabyddi hynt y bydoedd,
A daw yr enaid rym i tithau.
Megys y sieryd yr ysbrydoedd;
Ofer, tra byddo pŵl deimladau,
I'r Arwydd roddi Datguddiadau—
Ysbrydion, sydd o'm hamgylch i,
O'm clywoch, doed eich ateb chwi!


Tery'r llyfr, ac edrych ar arwydd y macrocosm.[2]

Faust
Ha! pa ryw wynfyd sydd yr ennyd hon
Ar unwaith trwy bob synnwyr yn ehedeg?
Mae pur lawenydd bywyd ieuanc llon
Drwy bob gwythïen fawr a bach yn rhedeg!
Ai Duw oedd ef, a wnaeth y Daflen hon,
Sydd yn tawelu ynof bob blinderau,
Gan lenwi'r druan galon â mwynderau,
Ac â rhyw ddirgel egni, ger fy mron,
Sy'n agor nerthoedd Natur i'w dyfnderau?
Ai duw wyf innau? Mwy, ysgafned wyf!
Mi welaf Natur yma yn ei nwyf
Yn gorwedd ger bron f'enaid i yn noeth,
A gwn yn awr holl ystyr geiriau'r Doeth:
"Nid ydyw byd yr ysbryd tan ei glo,
Dy deimlad ti, a'th galon farw, y sydd;
Fyfyriwr, dos yn llawen yn dy dro,
A golch dy farwol fron yng ngwawl y dydd!"


Edrych ar yr Arwydd.

Faust
Mae'r cyfan drwy ei gilydd megys gwe,
A'r naill drwy'r llall yn bod a llenwi ei le;
Egnïon nef, yn uwch ac is, esgynnant,
A'r cwpan aur, i'w gilydd yr estynnant!
O'r nef a thros y ddaear y disgynnant,
Gan hidlo bendith o'u hadanedd,
A'r cwbl i gyd trwy'r cyfan yn gynghanedd!
Pa chwarae! Eto, dim ond chwarae yw!
Ddi derfyn Natur, sut y'th ddaliaf di?
Dy fronnau, ble? Dy ffrwd sy fythol fyw,
Y crog y nef a'r ddaear wrthi hi,
Y cyrch i'w chyrraedd bob rhyw fynwes wyw,
A lleibio'i llif—ai ofer gwanc i mi?


Tery'r llyfr yn anfodlon, ac edrych ar Arwydd Ysbryd y Ddaear.

Faust
Y mae i'r Arwydd yma amgen rhin!
Ysbryd y Ddaear, 'r wyt yn agoshau,
Mae f'egni ynof eisoes yn cryfhau,
Mae ias i'm ysu, megys newydd win;
Mae arnaf awydd yn y byd anturio,
A phrofi bydol arial a dolurio,
Yn erbyn yr ystormydd ymgyndynnu,
A bod, pan dorro'r llong, heb unwaith grynu!
Tywylla uwch fy mhen—
Fe gudd y lloer ei lliw—
Gwelwa goleuni'r lamp!
Diffydd!—gwing rhyw belydr coch
O gylch fy mhen;—a syrth
Rhyw ias or neni lawr
A gafael ynof!
Mi a'i gwn, O, ysbryd taer, gerllaw'r wyt ti!
Amlyga di dy hun!
Ha! fel yr ymgynhyrfa 'nghalon i!
A newydd iasau'n ysu,
Y mae fy holl synhwyrau'n ymddyrysu!
Y mae fy nghalon iti'n llwyr yn plygu,
Pe costiai 'mywyd, dyred i'th amlygu!


Gafael yn y llyfr, a llefair arwyddion dirgel yr Ysbryd.
Ymoleua fflam goch, ac ymddengys yr Ysbryd yn y fflam.

Yr Ysbryd
Pwy a'm geilw?

Faust
(Yn cilio.)
Erchyll yw dy ddrych!

Yr Ysbryd
Amdanaf taer ofynnaist,
O'm cylch fy hun y'm tynnaist,
Ac weithian—

Faust
Gwae! Ni allaf fod lle bych!

Yr Ysbryd
Am olwg arnaf, daered oedd dy alw,
Am weld fy ngwedd a gwrando ar fy llais;
Gwrandewais. Wele fi! Pa ddychryn salw
A'th ddeil, wyt Íwy na dyn? Mae'r eofn fryd?
Mae'r fynwes oedd o'i mewn yn llunio byd?
A feddai, a feiddiai, a chŵyddai gan wyniasu
Am gaffael ag ysbrydion gymdeithasu?
Ble'r wyt ti, Faust, y neb a'm galwai'n hŷ,
Y neb â phob rhyw rym i'm ceisio fu?
Ai ti yw ef, a'm hanadl i'w gylchynu,
Y sydd hyd isaf wraidd ei fod yn crynu?—
Rhyw ofnus bryf yn gwingo yn y llaid I

Faust
Y fflamgi! pam y ciliwn rhagot tu?
Myfi yw, a'th gydradd dithau, Faust wyf i!

Yr Ysbryd
Yn llanw Bod, yn nherfysg Rhaid,
Treiglaf ym mhob gwedd,
Hwnt ac yma'n gwau!


[Rhagor o destun i'w ychwanegu]


Notes

1 Sêr-ddewin o'r unfed ganrif ar bymtheg. replay
2 Y byd mawr. Dyn oedd y microcosm, neu'r byd bychan. replay
g1g2g3