a1, g1a1, g2

Owain Glyndwr (1879)

Beriah Gwynfe Evans

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 2

GOLYGFA II.—WESTMINSTER: ystafell yn y Palas.

Yn dyfod i fewn BRENIN HARRI IV, HARRI TYWYSOG CYMRU, ARGLWYDD GREY, ARGLWYDD KENDAL, SYR CLARENCE CLIFFORD, ac ereill,

Brenin
Wel f' Arglwydd Grey, pa fodd yr ydych chwi
Yn teimlo fel mae'r amser yn nesau
I chwi wynebu Owen de Glendore?

Grey
Fy Arglwydd Frenin! tawel ydwyf fi,
A chryf yn nerth fy iawn a'th ffafr di.
Fy iawn rydd imi fuddugoliaeth lwyr
A'th ffafr di, O Frenin! rydd i mi
Y nerth i sefyll ar fy hawl yn dyn.

Brenin
Ai nid wyt ti yn teimlo iasau oer
O ddychryn erch yn rhedeg trwy dy waed,
A pheri i'th wallt i sefyll ar dy ben,
Wrth feddwl cael cyfarfod bwystfil gwyllt,
Fel y darluniaist ti Glyndwr imi?

Grey
Raid i'r bytheuad ofni gwel'd y pryf?
A raid i'r heliwr ofni ei ysglyfaeth?

Tywysog
Yn bwyllog Arglwydd Grey! Ni cha un dyn
I chwareu'r ffyrnig gi, na'r heliwr chwaith,
Ac yn ysglyfaeth dewrddyn fel Glyndwr,
Tra bo gan Harri Mynwy law neu lais,
I godi i'w amddiffyn.

Brenin
Beth fy mab!
A feiddi godi dy blentynaidd lais
Yn erbyn mawrion gwlad yn llys dy dad?

Tywysog
Fy Arglwydd Frenin! Pob dyledus barch
A dala'th fab i ti, ac i dy lys;
Ond ni wna parch i lys, nac arglwydd chwaith
Ddileu y ddyled enfawr arnaf sydd
I Owen o Glyndwr.

Brenin
Dy ddyled iddo?

Tywysog
Pan ydoedd haul dy lwyddiant di fy nhad,
A'm llwyddiant i dan dywyll gwmwl erch;
Tydi yn Ffraingc, yn alltud o dy wlad;
A mi, a'm cefnder, Gloster, draw yn mhell,
Yn Nghastell Trim yn garcharorion, heb
Un cyfaill ini'n agos, nac un wên
O obaith ini'n codi o un man:
Ein rhwymau'n dyn, a'n bwyd yn hynod wael;
Ein rhyddid ini mynodd y Glyndwr,
A throsom ni yn feichiau aeth ei hun,
Ei dy gymerodd le y dywell gell,
A'i huliog fwrdd, ein gwrthwyneblyd fwyd.
Ei garedigrwydd nid annghofiaf byth.

Brenin
Mae'n gofus genyf glywed genyt son
Am hyn o'r blaen, a thalu iddo wnaf
Ryw adeg eto.

Grey
Gall eich mawrhydi
Anrhegu 'r gwylltddyn troednoeth, difoes hwn,
A rhyw ychydig eifr. Ofni yr wyf,
Fodd bynag, y bydd i'w amlwg ddiffyg moes,
Ei anadl gan dawch cenin yn dromlwythog,
A rhestr ei gyndeidiau cy'd a barf
Ei wylltion eifr, wneyd i chwi deimlo 'n flin
(Cyn darfod i'ch hynawsedd wneyd y rhodd)
I chwi erioed fwriadu gwneyd y rhodd.
A syn fydd genyf, os na ddengys ef
Ei ddiffyg dysg a moes o fewn y llys.

Kendal
Fy Arglwydd Grey, eich amheu raid imi,
Yr wyf yn cofio, flwyddi maith yn ol,
Yr oedd Syr Owen de Glendore yn un
O fargyfreithwyr dysgedica'r oes.

Clifford
Rhaid dweyd y gwir, 'rwyf finau'n cofio 'n dda
Am dano yn y fyddin. Nid oedd neb
Mwy hynaws, mwy caredig, na mwy dewr,
Na mwy o wir foneddwr nag oedd ef.
Fel byddai'r galw, calon dynes fwyn,
Neu ddiofn galon llew oedd ganddo ef;
A'i lygaid wylent,—neu a fflachient dân;
Yn ol fel galwai amgylchiadau arno.



Yn dyfod i fewn y Prif farnwr GASCOIGNE; IOAN TREFOR, Esgob Llanelwy; OWEN GLYNDWR, ac ereill. Y brenin yn esgyn yr Orsedd.

Brenin
Arglwyddi Lloegr! Y mae gwaith o'n blaen
Sy'n galw am ddoethineb, ac am bwyll,
Fel gellir gwneyd cyfiawnder a phob un
O'n hufydd ddeiliaid, wrth gyfreithiau'n tir.
Mae Arglwydd Grey, ac Owen de Glendore,
Eill dau o'n blaen; ac hawlio maent,
Pob un o'r ddau, neillduol ddarn o dir
A elwir Croesau. Ein dyledswydd ni
Yw gwrando hawl pob un o'r ddau ymgeisydd,
A phenderfynu, fel bo iawn a theg,
Cydrhwng y ddau yn ol cyfreithiau'n gwlad,
Ac os y cyfyd unrhyw ddyrus bwnc
O Gyfraith lythyrenol ger ein bron,
Ein doeth Brif farnwr yma heddyw sydd,
I'n harwain drwy y dyrus lwybrau hyn.
Cyfiawnder! ei theg glorian ddaliwn ni.
Y ddau ymgeisydd ddont a'u nwyddau'n mlaen;
Gascoigne a farna a wna'r nwyddau'r tro:
Cewch chwithau ddweyd pa fodd y try y glorian!
Fy Arglwydd Grey o Ruthyn ddaw yn mlaen
Yn gyntaf oll i nodi i'n ei hawl.

Grey
Fy Arglwydd Frenin! chwithau 'm cyd arglwyddi:
Fy nghwyn yn fyr yw hyn,—Fy hawl i'r tir
Dan sylw, brofwyd eisioes ddwywaith lawn
Mewn llys cyfreithlawn, yn ol deddf y wlad.
Y cyntaf dro, er profi 'm hawl yn glir,
Fe ddallwyd llygaid tegwch, gwyrwyd barn,
Gan law y teyrn ei hun.—Melldigaid fo
Risiart Plantagenet, yr hwn o ffafr
I'm gwrthwynebydd hwn, yn ddirym wnaeth
Fy nghyfiawn hawl. Ond dan gyfreithiau teg
Fy Arglwydd Frenin Harri y Pedwerydd,
Fy hawl ge's 'nol. Ond darfu i Glyndwr
(Pan y danfonais Swyddog dros y ffin,
I hawlio tir y Croesau, fel y rho'dd
Teg lys y Gyfraith imi berffaith hawl,)
Nacau fy hawl, a gyru'm Swyddog 'nol,
Dan fygwth erch, y gyrai ef a mi
Fel cwn yn ol i'w ffau, os deuem byth
Dros ffin y Croesau. Felly, deddf y wlad
Ddirmygwyd, ac a wawdiwyd ganddo ef.
A minau'n awr wyf yn apelio'n hy,
At deyrn, a phenarglwyddi doeth y tir,
Am anrhydeddu cyfraith deg y wlad,
A rhoddi imi hawl i'r tir yn ol,

Brenin
Syr Owen de Glendore! beth ddwedwch chwi?

Glyndwr
Fy Arglwydd Frenin! a chwi arglwyddi oll!
Mae'r gwir a'r anwir yn anerchiad Grey,
Fel gwenith da yn gymysg gydâg us;
A rhaid eu nithio'n llwyr cyn gellir cael
Y llafur pur,—A cheisiaf finau'n fyr
Eu dethol:—Gwir ddywedodd ddarfod i
Gyfreithiol lys sicrhau imi fy hawl,
Dan deg deyrnasiad Risiart, frenin da.
Ond anwir noeth oedd d'weyd y gwyrwyd barn.
Gwir ddarfod imi fygwth un o'i gwn,
Ar agwedd dyn, er's 'chydig amser 'nol,
Am geisio treisio merch i un o'm deiliaid.
Pob ci a'm cyfarth, fe ga driniaeth ci;
Pob dyn a'm parcha, parchaf finau ef.
Dewised Reginald Grey pa un o'r ddau,
A'i ci, a'i dyn anfona ataf fi,
A phrofed felly p'run a'i ci a'i dyn
Fydd yntau.
Treftadaeth teulu, er's canrifoedd maith,
Yw tir y Croesau, ddaliwyd genyf fi,
A chan fy nhad, a'm taid, a'm teidiau gynt.
A byth nis gellir, ond trwy drais ei ddwyn
Oddi arnaf.

Grey
Fy Arglwydd Frenin:
Tybiais i nad oedd un dyn yn bod
A feiddiai yn y presenoldeb hwn
Ddyrchafu mawl a chlod Plantagenet.
Ond aros, mae teyrnfradwr fu yn Flint,
Yn ysgwyd cledd o blaid y trawsfeddianwr,
A daw yn hyf i ysgwyd yma 'i dafod.

Brenin
Ha! fuost ti Glyndwr a'th gledd o'r wain,
O blaid y bradwr yn ein herbyn ni?

Glyndwr
Fy nghledd o'r wain a dynais lawer tro
O blaid Plantagenet.

Brenin
A wyddost ti
Dy fod drwy hyn yn gosod 'n awr dy ben
Mewn perygl.

Glyndwr
Fy Arglwydd Frenin;
Nid oes arnaf gywilydd arddel yma
Yr unrhyw weithred wneuthum yn fy oes!
Ond gwir fy mod er hyn yn ddyogel.

Brenin
Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, a yw hyn
Yn dal o'i bwyso mewn clorianau deddf?

Gascoigne
Fy Arglwydd Frenin! mae y proclamasiwn
Gyhoeddwyd genych, pan y daethoch chwi
I'r orsedd hon, yn llwyr ryddhau pob un
Ganlynodd Risiart.

Grey
Felly, 'n eofn mae
Y bradwr hwn yn beiddio codi ei lais
Yn ngwydd ei well.

Glyndwr
Mae genyf eto'i wel'd
Neb gwell o waed, na bôn, na'r un a all
Ei linach olrhain i Dywysogion Cymru!

Grey
(Yn wawdlyd.)
Tywysogion geifr!

Glyndwr
Myn bedd fy nhad,
Cei lyncu 'th air, neu lyncu'm miniog gledd!
Rhof her i ti! a dyna'm maneg lawr!


Yn taflu ei faneg i lawr.

Brenin
A wyt ti'n meiddio roddi her i neb,
Yn mhresenoldeb brenin ar ei sedd?

Glyndwr
Mi welais un a elwid y Duc Henffordd,
Yn herio Norfolk gynt yn ngwydd ei deyrn!

Brenin
A wyt ti yn ein barfu ni fel hyn!
Cei fyn'd yn rhwym, nes oero'th ysbryd poeth!

Glyndwr
Nid oes un rhwym a rwym fy ysbryd i.


Y brenin yn gosod ei law ar ei gledd yn ffyrnig.

Esgob
(Gan ymaflyd yn mraich Owen, a dweyd o'r neilldu wrtho.)
Fy nghyfaill anwyl, O! bydd dawel 'nawr!

Tywysog
(Gan ymaflyd yn mraich ei dad, a dweyd o'r neilldu wrtho.)
Fy anwyl dad, er mwyn eich anwyl fab,
Gwnewch gofio 'i gymwynaswr!

Brenin
(O'r neilldu wrth y Tywysog.)
Gwnaf ar dy air, ond caled goddef hyn.
(Yn codi.)
Urddasol bendefigion, rhaid'i ni
Arfogi ein brenhinol urddas 'n awr.
Ac yn fwy felly, gan fod ereill yn
Annghofio rhoi i'r llys ddyledus barch.
'Nawr aed y prawf yn mlaen.

Grey
Urddasol deyrn:
Deisyfaf genad i ofyn cwestiwn teg
I'm gwrthwynebydd.

Brenin
Cenad wyf yn ro'i.

Grey
Syr Owen do Glendore, A wnei di ddweyd
Pa un a'i Cymro, ynte Sais wyt ti?

Glyndwr
'Rwyf eisioes wedi dyweyd fy mod yn disgyn
O uchel fon Tywysogion Gwalia wen,
Nid yw etifedd dewr Llewelyn Lyw
Yn myn'd i wadu ei wlad! Ie, Cymro wyf!

Grey
D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais?

Glyndwr
A'i Sais wyt ti?

Grey
Ie, Sais o waed wyf fi.

Glyndwr
Tra bo ti'n Sais, ni fyddaf byth yn Sais!

Grey
Os felly, mae y prawf yn wir ar ben.
Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, wnewch chwi
Hysbysu'r llys, a ellir derbyn llw
Un Cymro i orbwyso llw un Sais,
'Nol ysbryd a llythyren deddf y wlad.

Gascoigne
Rhaid i'm gydnabod, er cywilydd, fod
Ar lyfrau cyfraith Lloegr heddyw un
Sy'n dweyd nas gellir derbyn llw un Cymro
O fewn llys barn, os cyfyd yno Sais,
I wrthwynebu ei hawl.

Grey
Mae de Glendore
Yn hawlio'n hyf mai Cymro ydyw ef:
'Rwyf fi'n ymfalchu yn yr enw Sais;
Mae ef yn hawlio'r Croesau ar ei lw;
'Rwyf finau'n hawlio'r Croesau ar fy llw,
Ac yn ol deddf y wlad, 'rwyf fi fel Sais
Yn gwrthwynebu hawl Glyndwr, i ro'i
Ei lw fel Cymro heddyw, ger eich bron.

Gascoigne
Mae eto gan Syr Owen de Glendore
Ei lw, fel un o bendefigion Lloegr:
Ac er nas gallwn heddyw dderbyn llw
Un Cymro,—nis beiddiwn wrthod chwaith
Lw un pendefig.

Glyndwr
Diolch ganwaith sydd,
O eigion calon Owain Glyndowrdy,
I'r doeth Brif Farnwr, am ei eiriau mwyn;
Ond os na chaf gyfiawnder teg fel Cymro,
Ni fyn etifedd Bleddyn Fawr o Powys,
Ni fyn orwyr Llewelyn, Tywysog Cymru;
Ni fyn olynydd union Arthur Frenin;
Ni fyn y tri, yn Owain Glyndowrdy,
Gyfiawnder fel pendefig Lloegr byth,
Pe'r Groesau'n Gymru, a phe Cymru'n fyd!
Ond gwae y wlad a wnelo gam mewn llys;
A gwae y teyrn ar sedd. a wyro farn!

Brenin
Gwell f'ai it' ro'i dy ben yn safn y llew,
Na chodi yma ger ein bron dy gloch.
Pe na buasai'm mab yn eiriol drosot,
Er mwyn y caredigrwydd wne'st ag ef.
Anghofio eto wnaf dy eiriau llym.

Grey
Ond nid anghofiaf i!

Glyndwr
Fy maneg gwel,
Mae eto ar y llawr o'th flaen: os wyt
Yn meddu gradd o ysbryd dyn i'w chodi.
(Yn myned allan.)

Grey
Fy Arglwydd Frenin doeth, apelio 'rwyf
Am ddedryd i'w chyhoeddi o fy mhlaid.

Esgob
Fy Arglwydd Frenin, boed i minau'n awr
Apelio atoch i gymeryd pwyll,
A phwyso'n iawn holl hawliau teg Glyndwr.

Brenin
Yr hawl amlycaf a ddangosodd ef
O'n blaen ni, ydoedd hawl i golli ei ben!
Ond doed a ddel, gadawaf ef yn rhydd.
Cyhoeddi raid im' 'nawr, nol deddf y wlad,
Fod tir y Croesau'n eiddo Arglwydd Grey.


Yn myned allan: de Grey yn myned dan ymddyddan gyda'r Brenin.

a1, g1a1, g2