a1, g1a1, g2
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 2


GOLYGFA II. YN WESTMINSTER.

Yr Olygfa: Llys y Brenin Harri IV. Gall yr olygfa fod naill ai'n Ystafell ym Mhalas Westminster, neu'n Lawnt rhwng y Palas a'r Afon.

Yr Amser: Yn tynnu tua hanner dydd.

Yn gynulledig: SYR EDMUND MORTIMER; PERCY HOTSPUR; IARLL SOMERSET; y PRIF FARNWR GASCOIGNE; DAFYDD GAM; ac eraill. Ymgomiant bob yn ddau neu dri.

Yn dod i fewn─L 2─IOAN TREVOR (Esgob Llanelwy); a'r TYWYSOG HARRI O FYNWY (mab y Brenin), fraich ym mraich, yn ymgomio'n gariadus.

Tywysog

(Wrth yr Esgob.) Rwy'n mawr obeithio nad yw De Grey wedi dylanwadu ar fy nhad yn erbyn Syr Owen de Glendore.

Esgob

Mae gan eich Gras syniad uchel am Glyndwr?

Tywysog

I mi y patrwn yw o Farchog dewr a chywir.

Esgob

Ai nid felly Arglwydd Grey?

Tywysog

Na! Grey, rhyw gadnaw cyfrwys yw. Ust! Dacw de Glendore!



Yn dyfod i fewn─R 2─GLYNDWR, IOLO GOCH, a SYR RHYS TEWDWR.

Tywysog

(Yn croesi i gyfarfod GLYNDWR.) Croesaw i Westminster, Syr Owen de Glendore!

Glyndwr

(Yn moesgrymu.) Diolch i'ch Huchelder Brenhinol. Mae eich croesaw yn anrhydedd a'ch cwmni yn ddywenydd bob amser i Gymro tlawd fel myfi!

Tywysog

(Yn chwerthin.) Cymro tlawd aie? Dywedir fod Glyndwr yn wr cyfoethog, a gwychder Sycharth yn rhagori ar eiddo Westminster! Pa beth a ddywed Iorwerth Llwyd? (Yn troi at Iolo.)

Iolo

(Yn moesgrymu.) Nid Iorwerth Llwyd ond Iolo Goch, os gwel eich Gras yn dda. Llwyd oeddwn i tra'n byw yn Lloegr. Yn Sycharth daethum i yn goch!

Tywysog

(Yn chwerthin.) Ie! Anghofiais fod y cyfreithiwr Seisnig, mab Iarlles Lincoln, wedi ymgolli ym Mardd Teulu Sycharth. Ond pa beth a ddywedi di, pa un bynnag ai fel cyfreithiwr ai fel bardd, am dlodi'r Cymro hwn wrth ochr cyfoeth Llunden?

Iolo
Ni thal i mi, eich Gras, ddweyd dim am wychder Llunden, ond am Sycharth gallaf ddweyd:

Anfynych iawn fu yno
Weled na chlicied na chlo;
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth!

Tywysog

(Yn chwerthin.) Ie! Mi goeliaf mai lle i dorri syched sy bwysig i'r bardd! Gair yn eich clust, Syr Owen!



Y TYWYSOG yn ymaflyd ym mraich GLYNDWR a'i arwain o'r neilldu i ymddiddan. lOLO wrth droi ymaith yn ysgwyddo DAFYDD GAM.

Dafydd Gam

(Yn ffyrnig.) Y llabwst lletwith! Paham nad edrychi i ble 'rwyt ti'n mynd, y Cymro trwsgl diddysg!

Iolo

Llabwst, a thrwsgl, a diddysg dy hun! Ac os Cymro wyf, 'rwy'n well Cymro, a gwell gwr, ac o ran hynny yn well Sais hefyd, tae raid, na'ch di a'th lygad cam, a'th dafod sy'n barotach na'th gledd!

Dafydd Gam

Cei brofi llymder fy nghledd bryd y mynni, a'm tafod pan y mynnaf fi!

Iolo

Oes amser gwell na rwan, dwêd? (Yn ymaflyd yn nwrn ei gledd.)

Dafydd Gam

Purion, was. Parod wyf! (Yn tynnu ei gledd allan.)



PERCY HOTSPUR yn ymaflyd ym mraich GAM. SYR RHYS ym mraich IOLO.

Hotspur

Da gennyf weled chwareu cledd, ond nid yn llys y Brenin.

Syr Rhys

Paid a bod yn wirion, Iolo. Blin fasa gen i fynd a'th gorff adra i Gymru gan adael dy ben uwch Porth Llunden!

Iolo

(Yn teimlo'i ben â'i law.) Ie! Mae'n siwtio'n well lle mae o, 'rwy'n coelio. Ond caf gyfle eto ar Ddafydd Gam! (Yn troi ato.)

Dafydd Gam

(Â'i law ar ddwrn eí gledd.) Gore po gyntaf gen i i'r cyfle ddod!

Hotspur

(Yn chwerthin.) A yw'r Cymry oll mor barod i gweryla ag yw'r penboethiaid hyn, Syr Rhys?

Syr Rhys

Ust! Dyma'r Brenin!

Hotspur

Ie, a'i spaniel bach gydag ef.



Yn dyfod i mewn─L 3─y BRENIN HARRI, a'i law ar ysgwydd ARGLWYDD GREY. Pawb yn moesgrymu. Os mai mewn ystafell y bydd y Llys, dylai'r Brenin esgyn i'w Orsedd. Os ar y Lawnt, gall pawb sefyll, gan adael y Brenin yn y canol a lle clir o'i gwmpas.

Brenin

Arglwyddi Lloegr! Gwysiais chwi i'r llys i glywed achos Arglwydd Grey yn erbyn Syr Owen de Glendore. Ein doeth Brif Farnwr Gascoigne! Y chwi raid ddweyd sut saif y gyfraith o'r naill du a'r llall. Fy Arglwydd Grey, a ydych chwi'n barod i wynebu Syr Owen de Glendore?

Grey

(Yn moesgrymu.) Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth.

Glyndwr

Da gwnaeth yr Arglwydd Grey i alw'i hun yn gi, canys hynny yw, a hynny a fu erioed. Ond, p'run a fydd Glyndwr yn 'sglyfaeth iddo sy'n gwestiwn arall!

Tywysog

Ie'n bwyllog, Arglwydd Grey! Mae parch i lys dy deyrn, heb son am glod Glyndwr fel un o brif farchogion dewra'i oes, yn gwahardd i ti ddweyd iddo gael ei alw yma i'w hela gennyt ti na'r un ci arall.



Yr Arglwyddi oll yn amlygu cymeradwyaeth mewn gwahanol foddau, ond yn ddistaw. De Grey yn cnoi ei wefus, cau ei ddwrn.

Brenin

Fy mab! Gwnaf fi amddiffyn fy anrhydedd a'm llys pan welaf raid! Ymlaen, fy Arglwydd

Grey

Fy Arglwydd Frenin. Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well.

Glyndwr

Ei well! P'le gwelir gwell o waed neu fonedd na'r sawl a olrheinia linach glir ei waed o Dywysogion Cymru?

Grey

Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr!

Glyndwr

(Yn ffyrnig.) Myn bedd fy nhad, cei lyncu'th air dy hun neu'm cleddyf i! Rhof her iti! A dyna'm maneg i lawr! (Yn taflu ei faneg wrth draed Grey.)

Brenin

Beth! A feiddi di roi her i neb ym mhresenoldeb y brenin yn ei lys?

Glyndwr

Nid myfi yw'r cyntaf a wnaeth hynny.

Brenin

(Yn codi ar ei draed.) Beth a ddwedaist ti? Wyt ti'n dannod imi yr hyn a wnes flynyddoedd maith yn ol? (Yn hanner tynnu ei gledd o'r wain.)



GLYNDWR, yntau yn ymaflyd yn nwrn ei gledd.

Esgob

(Yn ymaflyd ym mraich Glyndwr.) Atal dy dafod, gyfaill mwyn, er mwyn dy wlad!

Tywysog

(Â'i law ar fraich ei dad.) Fy Nhad!

Brenin

(Yn ysgwyd llaw ei fab ymaith, yna'n eistedd.) Ymlaen, De Grey!

Grey

Dymunaf ofyn cwestiwn teg i'r gwr difoes a saif mor haerllug yma o flaen ei deyrn. (Yn moesgrymu i'r Brenin.)

Brenin

Dos yn dy flaen, De Grey!

Grey

(Yn troi at Glyndwr.) Ai Cymro ynte Sais wyt ti?

Glyndwr

Ni wedais i erioed ac ni wadaf byth fy ngwlad, fy iaith, na'm cenedl. Yn Gymro y'm ganed i, ac yn Gymro y'm cleddir, pan welo Duw yn dda.

Grey

Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais?

Glyndwr

Pa beth wyt ti, De Grey?

Grey

Sais ydwyf fi o waed a chalon.

Glyndwr

Wel dyna ddigon! Os wyt ti'n Sais, a thra bo Saeson yn ymfalchio'th fod yn Sais, ni allaf, gyda hunan barch, fyth chwennych hawlio fy mod i yn Sais.

Grey

Wel, felly yn fyr. 'Rwyf fi yn hawlio'r Croesau ar fy llw, fel Sais. Syr Owen, yntau hawlia'r Croesau ar ei lw fel Cymro. Gwnaed hynny'n hollol glir. 'Nol deddfau Lloegr ni all amheuaeth fod. Ni ellir derbyn llw'r un Cymro byth yn erbyn llw Sais.

Brenin

Fy Arglwydd Farnwr, a yw De Grey yn iawn?

Barnwr

Er cywilydd i gyfreithiau Lloegr, felly y mae. Mae'n rhaid i lw y Sais orbwyso eiddo'r Cymro ymhob llys drwy'r wlad.

Tywysog

Fy Arglwydd Frenin! Na foed i ni lychwino enw'n gwlad drwy bwyso ar lythyren cyfraith ffol, anghyfiawn, os yw honno'n bod.

Barnwr

Mae hi yn bod ar lyfr deddfau Lloegr heddyw!

Tywysog

Wel, cywilydd i lyfr deddfau Lloegr, ynte, ddwedaf fi. (Yn troi ymaith.)



MORTIMER a HOTSPUR yn ymddiddan tra'r Tywysog yn apelio at y Barnwr. MORTIMER yn troi at y Brenin.

Mortimer

Fy Arglwydd Frenin, 'rwyf finnau'n dweyd mai cywilydd yw i ni fod y fath ddeddf yn bod. (Yn troi at Grey.) A chywilydd mwy i'r neb a fanteisia, er ei les ei hun, ar gyfraith mor anheg. (Yn troi at Gascoigne.) Ond, f'Arglwydd Farnwr, nid oes raid er hyn ddyfarnu'n erbyn De Glendore.

Grey

(Yn wawdlyd.) A yw Syr Edmund Mortimer yntau'n troi yn dwrnai?

Mortimer

Na, nid felly chwaith, ond erys Mortimer fel cynt yn foneddwr syml, yn parchu ei wlad a'i chlod. 'Rwy'n deall fod y Barnwr doeth yn gwrthod llw Syr Owen de Glendore fel Cymro?

Barnwr

Ie. Dyna'r ddeddf.

Mortimer

Ond er mai Cymro yw Syr Owen de Glendore, mae ef yn fwy na Chymro, am ei fod yn un o bendefigion Lloegr. Ac er na all y Barnwr dderbyn llw y Cymro, yn sicr ni all wrthod llw yr un pendefig?

Yr Arglwyddi

Clywch! Clywch!

Iolo

Ie, dyna gyfraith dda ond rheswm gwael!

Barnwr

Gwir iawn, Syr Edmund Mortimer. Gall hawlio rhoi ei lw fel un o bendefigion Lloegr.

Brenin

Aed y prawf felly ymlaen. Syr Owen de Glendore, pa beth a ddywedi di?

Glyndwr

Fy Arglwydd Frenin. Mi ddeuthym yma i geisio'r hyn oedd gyfiawn imi fel dyn, a pherchen tir. Dim mwy na llai na hynny. Gwrthodwyd hyn i mi, nid am nad oedd fy hawl yn deg a chyfiawn, ond am fy mod yn Gymro. Cymhellir fi i'w geisio 'nawr fel Sais. Ond os gwrthodir cyfiawnder i mi fel Cymro, ni fyn olynydd syth y Brenin Arthur Fawr ei gael trwy ddweyd ei fod yn Sais! Na! Pe bai'r Croesau'n Gymru, a phe bai Cymru'n fyd! Ond gwae i'r wlad a wnelo gam mewn llys! A gwae i'r teyrn a wyro farn ar sedd!

Brenin

(Gydag urddas.) Adgofiaist fi iti ymladd wrth fy ystlys gynt mewn cad; gwna'r atgo hwnnw imi anghofio'r geiriau gwyllt a lefarwyd heddyw gennyt ger fy mron mewn llys.

Grey

Ond nid anghofiaf fi!

Glyndwr

(Yn troi arno.) Tydi! Y gwron gwych sy'n llechu'n nghysgod teyrn. Gwel fy maneg! Mae honno eto ar lawr! Os wyt ti'n ddyn, ti wyddost beth i'w wneud!



Yn myned allan─R 2─yn cael eí ganlyn gan Syr Rhys.

Grey

Apelio 'rwyf am ddedfryd o fy mhlaid.

Mortimer

Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf.

Grey

Mae deddf yn ddeddf er hyn i gyd, ac ar y ddeddf, a thrwy y ddeddf, 'rwyf eto'n hawlio'r tir.

Esgob

Fy Arglwydd Frenin! Cyn it roi dy air a wnei di wrando arnaf fi? 'Rwyf finnau'n Gymro.. Gwn rywbeth yw fy ngwlad. Gwn rywbeth am y gorthrwm a gafodd hi a'i phlant. Gwn am yr ysbryd a'i meddianna hi. Gwn am allu a dylanwad Owen Glyndwr. Gwn mai gwaith hawdd a fyddai iddo gynneu tân a ledai'n chwyrn o'r De i'r Gogledd, o Gaergybi i Gaerdydd. Ac er mwyn heddwch gwlad apelio 'rwyf na fydded i ti gynhyrfu pob ryw ysbryd drwg trwy roi dyfarniad yn yr achos hwn ar sail deddf mor anghyfiawn─deddf sy'n sarhad ar degwch Lloegr ac ar hunanbarch pob Cymro!

Brenin

Fy Arglwydd Esgob! Mae dy wisg a'th swydd yn esgus dros i ti ddadleu heddwch yn fy llys. Ond nid yw bygwth Cymru arnaf, fel y gwnei, yn debyg o fy nhroi o'i phlaid. Ac, wedi'r cwbl, deddf yw deddf, a rhaid i'r neb a drosedda hon, ddwyn ei chosb. Ac yn ol deddf y tir, fel y'i dehonglwyd yma'n glir, nid oes un llw yn erbyn hawl De Grey. Rhaid i mi felly gyhoeddi fod tir y Croesau yn eiddo Arglwydd Grey.

Iolo

(Yn troi ymaith.) Caiff fwy o groesau nag a ga o dir, os wyf yn adnabod Glyndwr ac ysbryd Cymru!



Llen yn syrthio.

NODIAD. Ar ol y ffugbrawf uchod, danfonodd y Brenin wŷs i Glyndwr i ddod a'i wyr i'w gyfarfod ef yn Lichfield, fel y cynorthwyent fyddin Lloegr yn erbyn yr Alban. Cadwodd Arglwydd Grey y wŷs yn ol tan yn rhy ddiweddar i Glyndwr ufyddhau iddi; yna hysbysodd y Brenin a'r Barwniaid fod Glyndwr wedi gwrthod dod. Cyhoeddwyd Glyndwr yn herrwr. Gorchymynnodd y Brenin Arglwydd Grey i gymeryd Glyndwr yn garcharor trwy ddichell os na fedrai mewn ffordd arall. Dengys y ddwy olygfa nesaf y canlyniad o hynny.

a1, g1a1, g2