g1g2g3

Lladron a Llanc (2018)

Jingfang Hao [郝景芳]
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2018 郝景芳, Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3


Golygfa 3.

Lei

Lle mae'r blydi gola?



Ping yn darganfod y swits. Lei a Ping yn edmygu'r fflat.

Ping

Waw. Sbia ar y lle 'ma. Mae'n anferthol!

Lei

Gwneud fi'n sâl.

Ping

Be ti'n ddeud? 30 medr sgwâr?

Lei

O leia. A dim ond y stafell gynta' 'di hwn.

Ping

Iesgob. Sbia ar yr holl betha' 'ma.

Lei

Hei, dani'n edrych am y pres.



Ping yn dal ei afael ar ornament.

Ping

Be ti'n meddwl 'di hwn?

Lei

Ceffyl.

Ping

Mae'r lliw'n anhygoel. Emerald ella.

Lei

Jade.

Ping

Sut ti'n gwbo?

Lei

Emerald yn fwy golau. Odda nhw'n arfer cloddu jade yn y mynyddoedd tu ôl i'm mhentra. 'Run lliw.

Ping

Mae'n amazing.



Lei yn dwyn yr ornament oddi wrth Ping.

Lei

Llygaid ar y pres.

Ping

Dwi'n edrych, dwi'n edrych.

Lei

Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn.



Lei yn rhoi'r ornament yn ei boced tra bod nhw'n chwilota'r fflat.

Ping

Faint 'da ni'n edrych am?

Lei

Un neu ddau filiwn.

Ping

Mewn cash? Toman anferthol felly.

Lei

Ie, a dau ddyn anferthol hefyd i'w gario fyny.

Ping

Pwy ddudodd hynna i ti?

Lei

Nghefnder i. Dreifar y cwmni wnaeth anfon yr arian. Mi welodd o'r dynion mawr ma yn cario'r cesys mewn i'r lifft heb ddeud gair, yng ngolau dydd.

Ping

Wel fydd o'n hawdd i ffindio felly bydd. Alli di'm stwffio hynna gyd dan fatràs!



Mae nhw'n chwilio. Ping yn dylyfu gên.

Lei

Dwi'n cadw ti fyny?

Ping

Sori. Y fodca 'na'n gwneud fi'n gysglyd.

Lei

Finna' 'fyd. Cyn gynted dani'n ffindio'r cash cyn gynted gawn i gysgu.



Mae nhw dal i chwilio.

Ping

Lei, ti'n siwr bod gyn ti'r un iawn?

Lei

Yndw tad. Wnaeth 'nghefnder rannu smôc efo'r boi concierge a dio'm y fan mwya o'r llywodraethwr. Dyna sut oni'n gwbo'r ffor fyny 'ma. Coelia fi, hwn di'r fflat iawn.

Ping

Na, y person iawn. Ti'n siwr na fo darrodd Dan Bach?

Lei

Weles di'r fideo do? Ei gar o oedd o. 'Nocio'r bachgen i'r awyr. Natho'm cyffwrdd y brêcs.

Ping

Wnes i'm gweld o! Odd o mond ar-lein am ddwy awr. Wnes i redeg i'r caff wê i weld be odd yr holl ffws. Erbyn fi gyrradd, odd y fideo lawr. Fedra di'm agor y lincs rŵan.

Lei

Wel welis i. Odd o'n erchyll. Dal i godi'r felan arna i. Numberplate, gwyneb, popeth fo oedd o.

Ping

Anifail de. Pwy ddyn go iawn sa'n gwneud hynna? A mae mor ffeind ar y teledu dydi, un o'r bobl gyffredin - ond sbia ar famma.

Lei

Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'.



Maen nhw'n chwilio yn fwy ffyrnig.

Ping

Wel fedrai'm gweld y pres de.

Lei

Tria drws nesa. Wnai gario 'mlaen famma.



Ping yn gadael. Lei yn aros iddo ddiflannu, cymryd cyllell allan o'i boced. Mae'n torri'r cyrten, gosod ar y llawr i ddefnyddio fel sach. Mae'n pacio ornaments yn ofalus.

Ping

(off) Lei! Sbia ar hwn!

Lei

Paid a gwaeddi, naci!



Ping yn dychwelyd gyda llun wedi'w fframio ac amlen.

Ping

Dwi newydd ffindio 'hein yn y stafell wely.



Ping yn gweld y gyllell yn llaw Lei, a'r sach yn llawn ornaments ag offer technegol.

Ping

Be ti'n gwneud?

Lei

Dim byd. Just ambell i beth, dyna'r oll. Os fedra ni'm ffindio'r pres, o leia fedra ni werthu rywfaint o'r petha 'ma.

Ping

Dim dyna wnaethon ni gytuno.

Lei

Sut ti'n meddwl gafodd o'r holl ornaments a'r offer technegol ma? Arian drwg.

Ping

Dani'm yn gwbod hynna.

Lei

Dwi'n gwrthod dychwelyd yn waglaw. Mae angen o leia digon i gyfro costau'r angladd.

Ping

Ma gynnai deimlad drwg am hyn. Os fysa'n nhad yn 'ngweld i...

Lei

Ie, ie. Fysa fo'n cael hartan a marw, os fysa fo'm 'di marw'n barod.

Ping

Fydd o'n troi yn ei fedd.

Lei

Cau dy drap a dora hand i mi wnei di?



Lei yn pacio'r sach.

Lei

Be sgyn ti'n fanna eniwe?

Ping

Llun o'r teulu.

Lei

Y Llywodraethwr?

Ping

A'i fab.

Lei

Ga'mi weld.



Ping yn dangos y llun i Lei.

Lei

Shit!

Ping

Ia.

Lei

Bastard!

Ping

Byw efo fo'n ddigon i wneud i rywun drio lladd ei hun.

Lei

Wnaeth o'm sôn dim am hyn.

Ping

Mae 'na lythyr hefyd.

Lei

Dora fo i mi.



Lei yn cymryd y llythyr.

Lei

'Annwyl Dad. Erbyn i ti ddarllen hwn... '

Shujun

Dad? Ti sy'na?

Ping

Shit!



Mae'r bachgen yn ymddangos, simsan a llygaid coch.

Shujun

Be sy'n mynd 'mlaen 'ma?

Ping

Fedra ni egluro popeth.

Shujun

Be ffwc dachi'n neud 'ma?

Ping

Aros eiliad.

Shujun

Security guards newydd. Dyna jôc y ganrif. Sleifio gwmpas y to ganol nos, ddylswn i 'di meddwl.

Ping

Dani'm yma i ddwyn dy betha di.

Shujun

O na?

Ping

'Chydig bach dani'n cymryd, fel iawndal.

Shujun

Fedrai'm credu hyn. Dwi newydd ddal chi, sgynnoch chi ddim cywilydd? Scum dachi!

Ping

Plis gwranda.

Lei

Scum? Ni? Dy dad ydi'r lleidr! Tyd a un peth i mi yn y fflat 'ma sy heb gael ei dalu am efo arian budr. Mae popeth sy'ma wedi ei ddwyn gan y bobl gyffredin.

Shujun

Tria egluro hynna i'r heddlu.



Mae'r bachgen yn deialu ar ei ffôn symudol. Mae Lei yn codi'r gyllell at wddf y bachgen.

Lei

Dora'r ffôn lawr. Rwan!



Ping yn estyn am y ffôn a'n llwyddo ei gymryd oddi wrth y bachgen.

Shujun

Rhy hwyr. Mae'r heddlu ar eu ffordd.

Lei

Fyddi di'n difaru hynna.



Lei yn dyrnu'r bachgen. Mae'n disgyn i'r llawr.

Lei

Nola'r rhaff o'r bag.

Ping

Pa râff?

Lei

Yn y bag!



Ping yn clymu'r bachgen i gadair gyda'r rhaff.

Ping

Well i ni heglu hi cyn i'r heddlu gyrraedd.

Lei

Mae'n malu cachu. Mae'n amhosib bod o 'di cael drwodd i'r heddlu mor gyflym a hynna.

Ping

Tisio aros i ffindio allan?



Lei yn codi'r gyllell at wddf Ping.

Lei

Arosa lle wyt ti. Ti'n mynd i lem byd tan i ni gael be 'dan isio.

Ping

A be yda ni isio yn union?



Mae Lei yn slapio bochau'r bachgen.

Ping

Be ti'n wneud?

Lei

Be mae'n edrych fel?



Mae'r bachgen yn dod at ei hun.

Lei

Ti dal isio galw'r heddlu? Eh?

Shujun

Scum.

Lei

Be ddudis di?

Shujun

Scum. Dyna ydach chi.



Lei yn rhoi clustan i'r bachgen.

Lei

Tisio deud hynna eto?

Ping

Paid! G'ad o lonydd.

Lei

Mae'r bachgen yn haeddu gwers, neu fydd o byth yn dysgu. Dipyn o addysg i wneud y boi yn fwy clyfar na mae o rŵan.

Ping

Cofia dyma'r un hogyn wnaetho ni rannu botel fodca efo.

Lei

Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na.



Ping yn codi'r sach llawn ornaments.

Ping

Beth am gymryd y petha 'ma a mynd.

Lei

Be? Di heina ddim byd bellach.

Ping

Mae nhw'n fwy na digon i Hen Liu.

Lei

Na, na, na, ma gynno ni wobr gwell.

Ping

Wnawn ni 'rioed ffindio'r pres! Wneith o gymryd rhy hir.

Lei

Dim y pres.



Lei yn dal yr amlen o flaen y bachgen.

Lei

Ti'n gwbo be 'di hwn dwyt?



Mae'r bachgen yn gweld mai ei lythyr o ydi o.

Lei

'Chydig yn sentimental, ti'm yn meddwl? Mwy fel cerdd na nodyn hunanladdiad.

Shujun

Dora fo'n nôl i mi.

Lei

Gorchymyn oedd hwnna?

Shujun

Ty'd a fo yma!

Lei

Dwi'm yn meddwl bod rywun yn dy sefyllfa di yn gallu ordro ni o gwmpas, wyt ti?

Shujun

Clown yn cogio bod yn frenin, dyna'r cwbwl wyt ti.



Lei yn darllen y llythyr.

Lei

Mae'n deimladwy iawn dydi? Roeddet ti'n wirioneddol isio marw mewn ffordd ddewr, urddasol yndo? I fod yn ferthyr. Ond i le mae'r awydd marw wedi diflannu i rŵan ta?

Shujun



Lei

Na. Sgyn ti'm y dewrder i farw. Gymris di un golwg ar ymyl y to a wnes di gachu dy drôns. Cachwr ymhob ystyr o'r gair. Union fel dy dad. Na? Dwi'n gwbo' nath o hitio bachgen pump oed a cyfro'r peth fyny rhag cael ei ddal. Ma hynny'n ddewr ofnadwy.



Lei yn cyfeirio at frawddeg yn y llythyr.

Lei

Ble mae'r hard drive 'ma ti'n sôn am?

Shujun

Pa hard drive?

Lei

Paid a chwarae lol.

Ping

Pa hard drive?

Lei

Mae'n deud bod gynno fo gopi o'r fideo. Yr un oedd ar-lein.

Ping

Oni'n meddwl bod nhw gyd 'di'w distriwio.

Lei

Dim i gyd, yn ôl bob golwg.



Mae'n troi i'r bachgen.

Lei

Be oedd dy fwriad, bygwth yr hen ddyn?

Shujun

Roeddwn i isio fo gofio.

Lei

Dy hunanladdiad yn ddraenen yn ei ochr. Ma hynny'n hyfryd. Dim ond un problem. Ti dal yn fyw.



Mae'r bachgen wedi'w gyweilyddio.

Lei

Dora fo i ni.



Mae'r bachgen yn ysgwyd ei ben.

Lei

Dora'r hard drive i ni!

Ping

Am be? Dani'm angen o. Oni'n meddwl ddotha ni yma am iawndal. Pres!

Lei

Yn union. Meddylia am y peth. Efo'r fideo fedra ni gael llif o arian pryd bynnag dani angen.

Ping

Ti'n golygu fedra ni...?



Lei yn hollol.

Ping

Fedra ni'm gwneud hynna, Lei.

Lei

Cau hi. Dwi'm yn siarad efo ti. Dwi'n siarad efo'r bastun celwyddog yma.

Shujun

Ffwcia chdi!

Lei

Dangos dy liwiau rŵan yndwyt? Gynta, oeddet tisio achub ei enaid, rŵan ti'n trio amddiffyn y llofrudd.

Ping

Ddylsa ni roi'r fideo 'ma i'r heddlu. Sicrhau bod o'n cael ei arestio.

Shujun

Damwain oedd o. Wnaeth o'm trio. Odd o 'di cael cwpwl o ddrincs. Damwain. Damwain erchyll.

Lei

Felly pam wnaeth o'm troi ei hun fewn? Pam bygwth teulu druan y bachgen? Rhybuddio nhw i beidio siarad!

Shujun

Dydi hynna'm yn wir. Wnaeth o'm bygwth neb.

Lei

Na. Gafodd o'i thugs i wneud hynna ar ei ran o. Paid a meiddio. Weles i o efo'n llygaid 'n hun. Pnawn ddoe, efo cordd Dan Bach yn gorwedd yn oer yn ei dÿ, cnoc ar ddrws Hen Liu, a ddoth cwpwl o fois mawr mewn i'r tÿ a'i gwffio i'r llawr. Cleisiau du a glas. Rhybuddio bod gwaeth i ddwad os fydd o'n meiddio gofyn am iawndal. Pwy oedd yn gyfrifol am hynna, ti'n meddwl? Pwy orchmynnodd y dynion i wneud y fath beth?

Shujun

Dwi'm yn credu ti. Fysa nhad i 'rioed yn gwneud hynny!

Lei

Ti dal i freuddwydio. Deffra!

Shujun

Ella wnaeth ei ddynion benderfynu ymysg ei hunan, i ddiogelu'n nhad.

Lei

G'ad mi ofyn cwestiwn arall i ti. Os fyse ti 'di cyflawni trosedd, a bod rywun yn recordio'r holl beth ar fideo, a'i bostio ar-lein, pwy 'sa gyn y pŵer i flocio'r fideo yna? I ddistriwio'r lincs a'r tystiolaeth? Pwy sgyn y pŵer? Wyt ti'n trio deutha fi wnaeth thugs dy dad wneud hyn oll tu ol i'w gefn? Faint mor bwerus ti'n credu yda nhw?

Shujun

Dyna 'di dy stori di! Sgyn ti'm yr holl ffeithiau. Hyd nos os wnaeth o hynna i gyd … doedd o'm yn bwriadu anafu neb. Oedd o'n cyfro fyny ei gamgymeriad gwirion.

Lei

Mab ffyddlon i'r carn.

Shujun

Dymuniadau.

Lei

Eh?

Shujun

Mae pob camgymeriad yn deillio o ddymuniadau.

Lei

Be'r uffar mae'n sôn am?



Saib.

Shujun

Roedd 'na ddynes yn y car. Dyna oedd ei gamgymeriad cyntaf. Dyna be oedd o'n trio cyfro fyny. Wedyn wnaeth un camgymeriad ddilyn i'r nesaf. Doedd o'm isio mam ffindio allan. Doedd o'm isio torri ei chalon hi.



Mae'r bachgen yn crio.

Lei

O, digon ffeind. Dio'm yn malio dim am fywyd plentyn dyn diethr. Ond mae'n gêm i wneud rywbeth i amddiffyn teimladau ei wraig bach annwyl.

Shujun

Dwi mor sori.



Mae'r bachgen yn wylo.

Ping

Ty'd laen, Lei. Awê!

Lei

Na. Dani heb orffen eto.



Lei yn dyrnu y bachgen yn ei stumog.

Lei

Siarada! Lle mae'r fideo?



Mae Lei yn cymryd y gyllell allan.

Ping

Paid! Ga'd i mi siarad efo fo. (I'r bachgen.) Ti'n iawn? (Dim ymateb.) Tisio gwbod rywbeth? Pan odda ni'n yfad gynna, cyn i mi wybod pwy oeddet ti, oni'n meddwl dy fod di'n foi iawn. Gonest a dibynadwy.

Shujun

Dim yn union.

Ping

Mae gyn ti freuddwydion o leiaf, a calon clên. Dwi'n meddwl, mewn amgylchiadau gwahanol, fysa ni'n ffrinidau.



Mae'r bachgen yn edrych ar Ping.

Ping

Ti a fi run fath. Dani isio gwneud y peth iawn. Ti'n teimlo'n euog am weithrediadau dy dad, yndwyt? Tisio gwneud i fyny amdano fo.



Mae'r bachgen yn nodio ei ben.

Ping

Rho dy hyn yn sgidiau rywun arall. Ti'n gweithio fel cogydd ar safle adeiladu. Ti'm yn ennill fawr o bres. Roeddet ti'n meddwl y base ti'n unig yn dy hen oed. Wedyn ti'n cael dy fendithio gyda plentyn, mab. A mae'n gwneud ti'n hapusach nag unrhyw beth yn y byd. Ond mae rhywun yn cymryd y bachgen oddi wrtha ti. Dy unig blentyn. Lle mae'r cyfiawnder yn hynny?

Shujun

Dwi wedi rhoi arian i'r elusen sy'n gweithio efo'r teulu. Yr arian dachi'n chwilio amdano, wnes i roi o i gyd.

Ping

Welais i hynna'n y llythyr. Ti'n hogyn da.

Shujun

Dwisio gwneud y peth iawn.

Ping

Y peth iawn fydd rhoi'r fideo i ni.

Shujun

Wyt tisio anfon fy nhad i'w farwolaeth?

Ping

Nac ydw, ond mae angen talu am gamgymeriadau. Rho gyfiawnder i deulu Dan Bach.

Shujun

Dan oedd ei enw?

Ping

Ia, pump oed.

Shujun

Wnai siarad efo nhad. Allai berswadio fo i gyflwyno'i hun i'r heddlu.

Lei

Paid a trystio fo. Hypocrite. Deud un peth a gwneud y llall. Ceisio lladd ei hun ond yn disgyn i gysgu'n feddw yn canu cân.

Shujun

Ro'i mwy o arian i'r teulu.

Ping

Dani'm isio dy arian. Danisio'r tystiolaeth.

Lei

Y fideo!

Shujun

Mi fydda nhw'n ei ladd. Y cyhoedd yn mynd am ei waed!

Lei

Mae raid i rywun dalu am droseddau dy dad.

Ping

A dwi'm isio ti fod y person yna.

Shujun

Mae gynno fo gynlluniau mawr i'r dyfodol. Mi fydd o'n swyddog dda. Mae o wedi gwneud sawl peth ardderchog i'r ardal yma yn barod!

Lei

Hit and run, taliadau budr, bygwth teulu sy'n galaru. Ardderchog.

Shujun

Dio'm o hyd wedi bod fel hyn.

Lei

Ti rioed di meddwl am gynlluniau mawr Hen Liu ar gyfer ei fab?

Shujun

Mae'r byd i gyd yn wyneb i waered.

Lei

Yndy.

Shujun

Does dim gwobr am waith caled.

Ping

Nag oes.

Shujun

Ond mae gwobr am gywilydd. Os mae'r petha ma'n digwydd o amgylch chi, mae pawb yn neud o, mae'n anodd peidio dod yn ran o'r system.

Lei

Na fo, rho'r bai ar sgwyddau eraill. 'Dim fi nath o, eich anrhydedd, bai y system ydio. Ti mor ddiegwyddor a ddigwilydd a dy dad!

Ping

Lei!

Lei

Be?

Ping

Ti'n un da i siarad! Ti yma i ddwyn pres.

Lei

So? Wrth gwrs dwisio pres! Wnaeth fy nyweddi adael achos oni methu fforddio modrwy iddi. Be ffwc sy'n bod efo'r byd 'ma? Sbiar ar y lle ma. Blydi conserfatori. Gardd ar y to. Chandeliers. Dwi'n gweithio fel mul bob dydd a fyddai rioed yn medru fforddio un o'r ornaments hyll jade 'na. Mae'r teulu yma'n afiach! Dani'n gwneud gweithred dda heno. Dani'n haeddu gwobr. Sbia ar y llun 'na.



Mae Ping yn gafael yn y llun ddaru o ddod o'r ystafell wely.

Lei

Dwi'n haeddu gwyliau fel 'na hefyd dwi'n meddwl. Lle ydach chi'n fanna?

Shujun

Awstralia.

Lei

Awstralia! Waw! I'r bobl bach, dibwys, roadkill fel ni mae Awstralia allan o'n gafael. Am lun cynnes. Gwen mawr gyn ti. Dim heno'n anffodus. Meddylia be sa'n digwydd os fase'r teulu yma'n torri fyny.



Rhywgo'r llun yn ei hanner.

Lei

Rhywun yn y teulu yn cael ei redeg drosodd gan gar?



Rhywgo'r ddau hanner i ddau ddarn arall.

Lei

Neu rhywun yn lladd ei hunan?



Rhwygo'r llun.

Lei

Neu mynd i'r carchar?



Rhwygo'r llun.

Lei

Neu cael ei ddyrnu i farwolaeth?



Rhwygo'r llun.

Lei

Fase'r teulu yn ddarnau bach. Ti'n cytuno?



Mae'n taflu darnau'r llun i'r awyr, maent yn disgyn fel eira. Mae Shujun yn poeni am ei fywyd, yn gwneud synnau.

Lei

Teulu neis. Tad ffeind. Dyna ti'n feddwl de? Wnaeth tad Dan ddygsu fo i goginio sdi, wnaeth fy nhad i ddysgu fi sut i adeiladu wal yn syth. Be am tadau ffeind eraill, sydd ddim yn grand ond sy'n ffraeo pob eiliad o'r dydd am gyfiawnder, am fywyd gwell?



Dyrnu Jun yn ei stumog.

Lei

Ti'n gwybod sut ddaru fy nhad i farw? Silicosis ar ôl gweithio blynyddoedd yn y chwarel. Ysgyfaint ddu, methu anadlu awyr glân, rhy hwyr beth bynnag.



Dyrnu Jun eto.

Lei

35 oed yn marw. Dim ceiniog o iawndal. Rheolwyr y chwarel a swyddogion y llywodraeth yn ffrindiau mawr, teuluoedd neis, pobl dda y wlad. Dyda ni'r roadkill ddim yn haeddu teuluoedd neis na'dan? Felly be 'di'r ots os mae un ohona ni yn marw? Peidiwch â thrafferthu'r meistriaid efo'u cynlluniau mawr, ardderchog. Ai dyna ti'n trio deutha fi?

Shujun

'Pan mae anadl ar ôl, mae'n bosib edifarhau y pechodau mawr.'

Lei

Dwi'n casàu bobl sy'n defnyddio penillion!



Dyrnu Jun eto.

Lei

Geiriau mawr yn golygu dim.

Ping

Fedrai'm diodda hyn. Plis dora'r hard drive i ni!

Shujun

Oni'n arfer adrodd rhain pan oni'n ifanc, fy nhad yn dysgu nhw i mi.

Ping

Gwranda. Gwranda rŵan.

Shujun

Pennillion bythgofiadwy.

Ping

Mae'n bosib i ti roi stop i hyn i gyd —

Shujun

Be di'r pwynt? Dachi'n benderfynol i'm lladd.

Ping

Nac ydan. Y fideo. Dyna'r cwbwl dani isio.

Shujun

Iawn.

Ping

Be?

Shujun

Wnai roi'r hard drive i chi.

Ping

Diolch i Dduw! O'r diwedd!

Shujun

'Edifarhau y pechodau mawr'.

Ping

Ia, ia. Lle mae o ta?

Shujun

Datglymwch fi.

Lei

Paid ag ymddiried ynddo fo. Tric 'dio.

Ping

Sbia arna fo, dio'm yn fighting fit ar ôl be ti di neud iddo fo.

Lei

Dani'n delio efo celwyddgi.

Ping

Mae o ar ein ochr ni. Mae'n gweld trwy'r drwg.



Ping yn datod y rhaff. Mae'r bachgen yn codi o'r sedd.

Shujun

Diolch.

Ping

Brysia rŵan.

Shujun

Mae o yn fy stafell wely.

Ping

Tyd 'laen 'ta.

Lei

Cymera hwn.



Lei yn rhoi'r gyllell i Ping.

Lei

A cadwa lygad barcud arna fo. Dwi'm yn trystio'r hogyn.

Ping

Ti'n gwbo be di dy broblem di, Lei. Ti'm yn meddwl fedrith unrhyw un newid.



Yn sydyn, mae'r bachgen yn estyn am y gyllell a'n dwyn o oddi wrth Ping. Mae'n gwthio'r gyllell allan tuag at Ping a Lei.

Shujun

Sefwch yn ôl!



Mae Ping mewn sioc.

Ping

Y bastard diegwyddor!

Shujun

Pediwch â symud modfedd.

Ping

Pam?

Shujun

Dachi'm yn ymwybodol o be dachi'n neud. Dachi'n trio distrywio bywyd fy nhad. Popeth mae o 'di gweithio tuag at. Am be?

Ping

Cyfiawnder.

Shujun

Dialedd! Mae ganddo gynlluniau mawr, uchelgeisiol. Fydd o'n arweinydd ardderchog ryw ddydd. Gwas ffyddlon i'r bobl gyffredin.

Lei

A be am ein cynlluniau ni? Be am y cynlluniau oedd gan Hen Liu ar gyfer ei fab?

Shujun

Be am eich cynlluniau chi? Be fedrwch chi wneud? Lladron diegwyddor.



Mae cnoc ar y drws.

Dyn Heddlu

(off) Agorwch y drws! Heddlu!



Dydyn nhw'm yn symud.

Shujun

'Os na fedar person ddianc ei ego, fydd o'n gaeth i'r byd dibwys yma'. Does dim ond un ffordd i wneud sens o hynna.

Lei

Fedri di ddim, sgyn ti'm y gyts.

Ping

Paid a gwneud rywbeth gwirion.

Shujun

Mae angen iddo wybod be mae'n teimlo fel i golli rywun mae'n caru.



Mae Shujun yn gwthio'r gyllell i mewn i'w stumog.

Ping

Na!



Mae'r bachgen yn disgyn i'r llawr.

Dyn Heddlu

(off) Dani 'di cael reports bod rhywun wedi torri mewn. Agorwch y drws neu fydden ni'n agor y drws i chi.



Ping yn penlinio wrth ymyl y bachgen. Mae'n edrych ar Lei.

Ping

Be dani 'di gwneud?

Lei

Mab am fab. Karma.

Ping

Ddylsa ni 'rioed wedi dod yma.

Dyn Heddlu

(off) Sefwch yn glir o'r drws. Dani'n dwad mewn - tri, dau, un!



Diwedd.

g1g2g3