g1g2g3

Lladron a Llanc (2018)

Jingfang Hao [郝景芳]
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2018 郝景芳, Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2


Golygfa 2. Ar dop yr adeilad. Mae dyn ifanc yn sefyll yn simsan ar ymyl y to. Mae botel fodca yn ei law.

Lei

Shit!

Ping

Be?

Lei

Ma rywun yma.

Ping

Pwy?

Lei

Dwn 'im! Bachgen o ryw fath.



Ping yn edrych at gyfeiriad y bachgen.

Ping

Be wnawn ni?

Lei

Ga'd mi feddwl am eiliad.

Ping

Be am i ni guddiad yma ag aros i weld os mae'n gadael.

Lei

Cau hi!

Ping

Neu fedra ni snecio heibio fel y Teithiwr Hudol.



Mae nhw'n cuddiad yn y cysgod. Mae'r bachgen yn canu yn isel.

Lei

Dyna'r ffenest.

Ping

Lle?

Lei

Ochr arall i'r ffŵl 'ma.

Ping

Blydi briliant.

Lei

Faint gymrith i ti bigo'r clo yna?

Ping

Mae'n dibynnu.

Lei

Achos gymrith yr un dwytha blydi oes mul.

Ping

Dio'm yn bosib rhuthro'r pethe 'ma.

Lei

Wnai distractio fo, tra ti'n pigo'r clo.

Ping

Be, ti ffansi sgwrs bach efo fo?

Lei

Sut arall?

Ping

A wedyn fydd o'n gweld ein gwynebau ni a mynd i'r heddlu.

Lei

Cau dy drap am y blydi heddlu! Awn ni i siarad efo'r hogyn. Gweld be' mae'n da 'ma.

Ping

Ocê. Merched gynta.



Lei yn cerdded at y bachgen. Ping yn dilyn.

Lei

Iawn boi?



Dydi'r bachgen ddim yn ymateb.

Ping

Noswaith hyfryd.

Lei

Ga'd y siarad i mi. 'Chydig yn hwyr i fod fyny famma, yn y twllwch, ar ben dy hun.



Mae'r bachgen yn edrych ar Lei.

Shujun

Pam 'da chi yma felly?

Lei

Security guards newydd 'da'ni. Neud y rownds, checkio pethe.

Shujun

Iawn.

Lei

Felly, os ti'm yn meindio, dwi'n meddwl bod o'n amser i ti fynd adre.

Ping

Fydd dy deulu yn poeni amdana ti.

Lei

Dio'm yn sâff fyny famma.

Shujun

Fy nho i ydi hwn. Allai eistedd yma os dwisio.



Lei a Ping yn edrych ar ei gilydd.

Lei

Ti'n byw yma 'ta?

Shujun

Yndw.

Lei

O. Neis. Pa lawr?

Shujun

Pam? Tisio fi arwyddo rywbeth?

Lei

Just wyndro dwi.

Shujun

Dwi'm yn leidr, os dyna 'dachi'n feddwl.

Lei

Na, na, argol - na! Poeni amdanat ti yda ni. Os fase ti'n disgyn, fydda ni mewn uffar o drwbwl.

Shujun

Wel diolch am eich consyrn, ond dwi'n fine.

Ping

Jyst yn gwneud ein job.

Shujun

Cariwch ymlaen. Plis. Dwi'm yn stopio chi.



Neb yn symud.

Ping

Be ti'n yfed?



Mae'r bachgen yn dangos y botel.

Ping

Fawr o hwyl yfed ar ben dy hun.

Shujun

Tisio peth?

Ping

Na, diolch.



Lei yn rhoi signal i Ping fod yn ddistaw. Ping yn ei anwybyddu.

Ping

Ti'n gwbo' be dwi'n feddwl? Dwi'n meddwl na fedr person sy'n yfed ar ben ei hun fod yn berson hapus.

Shujun

Ydi hynna'n ffaith?

Ping

Dwi'n meddwl bod person sy'n yfed fel'na yn yfed tristwch.

Shujun

Diddorol iawn.

Ping

Ond mae 'na un peth fedrai'm dalld.

Shujun

A be 'di hynna?

Ping

Pam ar y ddaear mae bachgen ifanc fel ti yn drist? Eh? Sbia ar lle ti'n byw. Ti'n hogyn digon golygus. Ma' siwr bod gyn ti ffrindiau.

Shujun

Di'r pethau yna'n golygu dim.

Ping

Fedra di roi nhw i fi felly. Os 'swn i'n ti, 'swni'n dathlu efo'r botel fodca 'na, yn lle pwdu.

Shujun

'Sgyn ti'm clem.



Ping yn agosàu.

Ping

Eglura i mi 'ta. Be sy'n bod? Ffeit efo dy gariad? Di hi'm yn ffansio ti bellach? Ti'n gwbo' be ddylsa ti neud? Dos i dy wely am dridiau, binge-ia ar Netflix, a cria mewn i dy glustog. Ma puncho'r clustog yn help weithiau hefyd. Gwely am dridiau, Netflix, puncho clustog. Trystia fi.

Shujun

Dwi heb gael ffeit efo nghariad. Sgynnai'm cariad.

Ping

A! Dyna di'r broblem felly.

Shujun

Naci. Dwi'm isio siarad am y peth. Ffwcia o'ma.

Lei

Nefi bliw! 'S'nam angen rhegi. 'Dani'n trio bod yn gyfeillgar.

Ping

Warth i ti ddeutha ni. Sgynna ni'm clem pwy wyt ti, dani'm yn mynd i ddeutha dy ffrindiau. A ti byth yn gwbo', ella fydd o'n bosib i ni helpio chdi. Rhoi cyngor i rywun mewn cyfyng gyngor.

Lei

Be ti'n trio - cynghanedd?



Mae'r bachgen yn cymryd swig o'r botel.

Shujun

Oes rywun erioed 'di dy siomi?

Ping

Ein bos. Wnaeth o addo pay rise i ni flwyddyn diwethaf. 'Da ni dal i ddisgwyl.

Shujun

Dim fel'na. Oes na rywun ti'n rili edmygu, a wedyn ti'n darganfod bod nhw da i ddim?

Ping

Um... dwi'n trio meddwl... oes. Oedd 'na ferch yn ysgol bach, yn eistedd ar y run un desg a fi. Odd hi'n gret. Clyfar. Hardd.

Shujun

Be wnaeth hi?

Ping

Un diwrnod, wnaeth yr athrawes adael y stafell ddosbarth, oni'n chwarae'n wirion efo rywun ar y ddesg gyferbyn. Pawb yn wneud run peth, pawb yn siarad pan odda ni fod yn astudio mewn distawrwydd - yn cynnwys y ferch 'ma ar y run desg a fi. Pan ddoth Miss yn ôl mi ofynnodd pwy dorrodd y rheolau? Mi gododd y ferch 'ma ei llaw. 'Plis Miss, mi oedd o'n torri'r rheolau'. Dobio fi fewn. Torri 'nghalon.



Mae'r bachgen yn estyn y botel fodca i Ping.

Shujun

Be oedd y gosb?

Ping

Rhedeg 3 lap o'r trac traws gwlad, trwy'r blydi slwj, wedyn odd raid i mi helpu'r adeiladwyr gario brics trwy'r pnawn.

Shujun

Be wnes di iddi, yr hogan?

Ping

Be ti'n feddwl?

Shujun

I dalu hi'n nôl.

Ping

Dim byd. Be fedrwn i wneud? Hogan fach odd hi, hogan delia'n byd.



Ping yn yfed.

Ping

Pwy sy'n creu dy broblem di?

Shujun

Rywun ddylsa wybod yn well.

Ping

Dachi'n agos?

Shujun

Agos iawn. Neu, mi odda ni.

Ping

Odd y person 'ma'n gas efo ti?

Shujun

Dim efo fi. Efo bobl eraill.



Lei yn torri ar draws.

Lei

Torra pob cysylltiad, well i ti gael gwared ohona nhw. Os mae nhw'n wael i bobl eraill rŵan, fydden nhw'n wael i ti yn y dyfodol agos.

Shujun

Dio'm mor syml a hynny.



Mae'r bachgen ifanc yn dwyn y botel yn ôl ac yn yfed.

Lei

Sblitia fyny efo hi. Sgynnai'm amser ar gyfer pobl dau wynebog. Neis a hapus un munud, fel y diafol y nesa. Odd gynna i gariad. Oddan ni wedi dyweddio. Dros pen a chlustiau mewn cariad efo hi. Un diwrnod ma'i'n troi rownd a deud bod hi'm yn ffansio fi bellach, bod hi'n fy ngadael i am rywun arall.

Shujun

Rywun cyfoethog?

Lei

Rhedeg ryw fusnes, busnes bach ond yn gwneud dwbwl fy nghyflog. Well ganddi fod yn feistres iddo fo na gwraig i mi.



Mae'r bachgen yn gwthio'r potel i law Lei, sy'n cymryd swig.

Shujun

Felly adawodd hi ti am arian?

Lei

Yn union! Dyna mae popeth yn arwain at yn diwedd.

Shujun

Dim popeth.

Lei

Na? Enwa un problem sydd ddim am bres.

Shujun

Wel...bariaeth, celwyddau, gwagedd...'mond rhan o'r broblem ydi arian.

Lei

Dyna mae pawb isio. Dyna sy'n ein cymell ni i wneud pethe drwg.

Shujun

Felly dim arian ar ben ei hun ydi'r problem. Y broblem ydi'r ffaith bod ni isio arian. Mae pob problem yn deillio o awydd, chwant - 'dwi isio'.



Maent yn pasio'r botel rhygthyn. Mae'r bachgen yn cario 'mlaen.

Shujun

Mae'r broblem yma, dymuno pethe, wedi bodoli ers byth bythoedd. Pam mae'r mynachod Bwdhaidd yn datgysylltu eu hunain o bleserau daearol? Pam mae Cristnogion yn sôn am y saith pechod marwol? R'un peth 'dio. Yr unig wahaniaeth ydi bod y mynachod Bwdhaidd yn trio gwneud i bobl weld gwacter eu dymuniadau. Mae'r Cristnogion yn trio rhoi braw i ni efo'u straeon o ddamnedigaeth ag uffern ffyrnig. Mae gan Confucius syniad gwahanol. Gan dderbyn y bydden ni o hyd yn dymuno pethe, roedd o jyst isio ni anelu amdanyn nhw mewn ffyrdd cyfiawn.

Ping

Um, ga'i just ddeud, sgynnai'm clem be ti'n sôn am.

Shujun

Wrth gwrs bod gyn ti. Wnaeth ei ddyweddi adael o am ddyn mwy cyfoethog reit?

Ping

Reit.

Shujun

Achos roedd hi'n dymuno bywoliaeth mwy cyfforddus.

Lei

Yr hen ast!

Shujun

Ddaru dy ffrind yn 'rysgol reportio ti i'r athrawes achos oedd hi isio—be?

Ping

Dwn i'm.

Shujun

Isio'r athrawes licio hi. Roedd hi'n dymuno ei sylw.

Ping

Ella.

Shujun

Dydi pawb ddim isio pres. Mae rhai yn gaeth i sylw. Eraill, llawer, isio concro'r byd. Dim am gyfoeth y byd ond am gydnabyddiaeth y byd. Efallai dio ddim i wneud â pres, yn hytrach mae i'w wneud â chanmoliaeth, sylw, cariad ac edmygedd - dymuniadau pobl. Dyna pam mae nhw'n gwneud camgymeriadau.

Lei

Wyt ti'n stiwdent o gwbwl?

Shujun

Trydydd flwyddyn. Athroniaeth.

Lei

Oni'n meddwl.



Mae'r bachgen yn mynd yn hapusach ac yn gynhyrfus.

Shujun

Ocê. Ocê. Dyma gyfyng gyngor moesol i ti.

Lei

O Dduw.



Lei yn cymryd swig o'r botel a'n pasio fo i Ping.

Shujun

Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist, iawn?

Ping

Ydi dy gariad di'n artist?

Shujun

Cogia bod gyn ti gariad sy'n artist.

Ping

Sgynnai ddim though.

Shujun

Cogio, ddudis i. Cwestiwn damcaniaethol ydi hwn, iawn?

Ping

Dam can - be? Dam can thank you mam! Ocê. Cogio, cogio. Sori. Dos yn dy flaen.

Shujun

Cau dy lygaid. Dychymga bod gyn ti gariad.

Ping

Dwi'n dychmygu!

Shujun

A dychmyga bod hi'n actores.

Ping

Ie. Dwi'n gallu gweld hi rŵan.

Shujun

A dychmyga bod hi'n hynod dalentog a bod hi'n gweithio'n galetach na neb.

Ping

Wrth gwrs.

Shujun

Ond dydi hi ddim isio enwogrwydd neu unrhyw fath o ffortiwn.

Ping

'Di ddim?

Shujun

Na. Cwbwl ma'i isio ydi bobl i werthfawrogi ei gwaith.

Ping

Reit.

Shujun

Ond 'di ddim yn medru ffindio gwaith. Mae hi'n trepsio i'r holl glyweliadau 'ma. Ond does neb yn ei chastio hi achos does neb yn sylweddoli faint mor dalentog ydi hi.

Ping

Dydyn nhw'm yn gwbo be mae nhw'n golli.

Shujun

Cwbwl ma'i angen ydi un brêc. Un siawms i ddod ymlaen yn y byd. Be ddylsa hi wneud?



Ping yn meddwl. Lei yn neidio mewn.

Lei

Hawdd. Shagio'r cyfarwyddwr.

Ping

Na!

Lei

Mae pawb arall yn gwneud o. Mae 'na lot o actorion da allan yno. Dyna 'di'r unig ffordd i gael hwb i fyny.

Shujun

Be os mai hi ydi dy gariad di?

Lei

Fy nghariad i?

Shujun

Ie. A ti'n ffindio allan. Be faset ti'n gwneud?

Lei

Rhoi clustan iddi a fydda ni 'di torri fyny.

Shujun

Ond os ti'n rili caru hi?

Lei

Os fysa hi'n rili caru fi fase hi'm yn gwneud hynna! Ac eniwe dydi cariad ddim yn golygu goddef anffyddlondeb.

Shujun

Ond os fase ti'n caru hi go iawn, faset ti'm isio marw?

Lei

Marw? Fi? As if.

Shujun

Os wyt ti 'di dotio efo hi. Roeddet ti dan yr argraff bod hi mor bur fase hi 'rioed yn gwneud y fath beth.

Lei

Wel faswn i'n foi twp iawn i gredu hynna.

Shujun

Ond fysa ti'm yn teimlo bod dy fywyd yn disgyn i ddarnau? Fysa ti'm iso'r cyfan ddod i ben?

Ping

Dio'm werth o mêt. Coelia fi. Dos i dy wely ar ôl byta llond oergell o fwyd, a cysga am dridiau. Fyddi di 'di anghofio'r cwbwl lot.

Shujun

Dwi'n meddwl os mae rhywun yn gadael chi lawr fel'na, does 'na'm point byw.

Lei

Dyna'r peth twpia dwi 'rioed 'di clywed. Ridiculous! Os fysa 'nghariad i'n cysgu efo dyn arall, faswn i'm yn lladd'n hun. Faswn i'n lladd hi. Gwell fyth, lladd y boi arall.

Shujun

Be os mae'r sarhad yn ormod?

Lei

Dal ddim yn gwneud sens. Fedrai'm dalld rywun sy'n llad ei hun dros wallau rywun arall. Chwinc yn ei ben!

Ping

Go iawn rŵan — bwyd, gwely, anghofio.

Shujun

Ond be os tisio anfon neges? I wneud nhw deimlo'n ddrwg. Fel merched y pentre 'cw sy'n lladd ei hunain i ddial ar eu mamau mewn cyfraith. I orfodi nhw i gydnabod y ffordd roedden nhw'n trin y merched.

Lei

Eh? Neith hynna byth weithio. Syniad boncyrs gan ferched yn byw ganol nunlle.



Lei yn rowlio ei lewys fyny. Mae craith ar ei fraich. Mae'r lliw yn binc golau.

Lei

Wnaeth fy ex drio hynna. Sawl blynedd yn ôl. Yn torri ei hun efo cyllell, torri mewn i artery. Wnes i drio agosàu, i roi pwysau ar yr anaf, a mi wthiodd y gyllell mewn i'm braich. Odd na lot o waed 'de, yn pwmpio allan, arllwys dros y lle i gyd yr holl ffordd i'r ysbyty. Ddaru hi fyw, ond o'dd o'n ufflon o noson.

Ping

Be ddigwyddodd wedyn?

Lei

Dodd 'na'm 'wedyn'. Pwy 'sa'n priodi merch fel'na?

Ping

'Di'n iawn rŵan?

Lei

(codi ei ysgwyddau) Heb siarad efo hi.

Shujun

Pam oedd hi'n trio lladd ei hun?

Lei

Oedd hi'm yn iawn yn ei meddwl nag o'dd. Neu ella oedd hi'n flin efo fi am rywbeth neu'i gilydd. Allai'm cofio.

Shujun

Ti'n teimlo'n euog?

Lei

Euog? Na'dw. Mae'r holl beth rhwngtha hi a'i photas.

Shujun

Felly dwyt ti ddim yn deall rheiny sy'n cynnau ei hunan ar dân fel protest gwleidyddol?

Lei

Wrth gwrs ddim.



Lei yn cymryd y botel.

Lei

Mae nhw 'di clirio'r ffordd i'w gelynion - 'di helpu nhw allan! Lle mae'r sens yn hynna? Pa bynnag sefyllfa, peidiwch a copio'r merched o'r pentre. Fydd y bobl dachi'n trio effeithio ddim yn teimlo'n ddrwg. Fydden nhw'n chwerthin ar eich pen chi. A fyddech chi ddim o gwmpas i chwerthin yn ôl arnyn nhw. Os dachi'n gofyn i mi, dial 'di'r unig ymateb call.



Lei yn rhoi'r botel yn ôl i'r bachgen. Distawrwydd.

Shujun

Ocê. Dyma gwestiwn i ti. Fysat ti'n marw er mwyn amddiffyn rywun ti'n caru?

Ping

Er enghraifft?

Shujun

I helpu dy deulu allan o broblemau ariannol. Neu i achub ffrind.

Ping

Eto, sut mae lladd eich hun yn helpu?

Shujun

Wel be os wyt ti'n credu mewn karma. Felly ti'n cymryd dy fywyd er mwyn atal cosbedigaeth i rywun ti'n garu.



Saib. Maent yn yfed.

Ping

Fedrai weld pam ti'n yfed ar ben dy hun, os mai dyma di'r math o banter ti'n roi allan yn y pub.



Maent yn yfed mwy.

Ping

'Ti bach yn ifanc i'r holl ofid a gwae 'ma dwyt?

Lei

Mae'n hwyr. Amser mynd adre dwi'n meddwl.



Mae'r bachgen yn nesàu at yml y to.

Shujun

Un cwestiwn olaf. Be os fedri di'm dioddef byw cam ymhellach achos bod y byd yn fucked up.

Ping

Os mae'r byd yn fucked up, dyna reswm da i fyw! I wneud pethe'n well. I roi pethe yn ei le.

Shujun

Dwn im. Pan oni'n blentyn, oni isio bod yn arwr. Yn cywiro camweddau. Sefyll fyny i'r system ar ran y llai ffodus. Fel lleidr penffordd, herwr o hogyn.

Ping

Finna 'fyd!

Shujun

Ti'n gweld y byd fel lle creulon?

Ping

Wrth gwrs. Sbia o gwmpas, cym' famma. Dani'n gweithio i'r bôn i adeiladu rhain, ond yn y diwedd, fedra ni'm eu cyffwrdd.

Lei

Fyswn i'm yn gadael ti'n agos i le fel hyn!

Ping

Fyswn i'm yn gadael tithau chwaith!

Lei

Ond ma hynna'n wir. Mae'r bobl sy'n deud celwyddion ac yn bihafio fel mynnan nhw fyw mewn palasau. Does 'na'm rheswm am y peth. Sbia ar y gerddi, y clybiau preifat!

Shujun

Does 'na'm tâl da i gael am waith caled yn y byd yma.

Ping

Gwaith caled sy'n cael ei dalu lleiaf.

Lei

Bod yn ddigywilydd ydi'r swydd gorau.

Shujun

Yn y dechrau, dim ond rhai sy'n gwneud pethe cywilyddus. Ag os dydyn nhw'm yn cael eu cosbi, yn hytrach - os mae nhw'n cael eu gwobreuo, dyna sut mae'n cychwyn. Mae pawb yn dilyn y system newydd. Hyd nod yn fy mhrifysgol, adeg etholiad llywydd undeb y myfyrwyr, mae pawb yn defnyddio perthnasoedd a presantau i brynu pleidleisiau.

Ping

Mae o fel'na ym mhob man. Echddoe roedd Yang yn deud, fy mos, bod y siawns o gael contract prosiect yn dibynnu yn llwyr ar swyddogion uchel. Os dydi Yang ddim yn chwarae eu gêm, fydd o allan yn y rownd gyntaf.

Lei

Dros ben llestri dydi. Mae angen i ni gael gwared ohona nhw i gyd a'u hanghyfiawnder.

Shujun

Mae'r byd yn anghyfiawn. John Lennon! John Lennon er enghraifft, sut fedrith o gael ei ladd?

Lei

Mae isio sortio'r lle ma allan. Lladd y rhai llygredig.

Shujun

Pam mae o mor anodd mynnu bod rywbeth yn digwydd?

Lei

Be?

Shujun

Pan oeddwn i'n fach, oni'n gobeithio dysgu Kung-Fu i helpu'r gwan a'r tlawd, a gwaredu'r byd o anghyfiawnder.

Ping

Finna' 'fyd!

Shujun

Wedyn oeddwn i isio bod yn fardd. Fel Lu Xun. "Gyda chalon ffyrnig, dwi'n herio yn dawel mil o fysedd sy'n cyhuddo, Plygu mhen fel ychen fodlon, dwi'n gwasanaethu'r plant."

Ping

Da rŵan.

Shujun

Roedd fy nhad yn arfer dweud mai'r peth mwya gwirion ydi gwario amser efo boblgyda diddordebau main, a hefyd bod angen bod bob amser yn ddyfal - mae camgymeriadaubach yn gallu difetha bywyd.

Lei

'Di hwn di meddwi ta be?

Shujun

'Y rheswm na fedr person gyffredin fod yn sant ydi'r dymuniadau angerddol sy'n ein arwain ymhobman.' … 'Roeddwn i'n meddwl dy fod yn arwr, ond mae'n ymddangos mai dyn cyffredin wyt' … 'Os na fedr person waredu syniadau sy'n llenwi'r meddwl a'i feichio'n barhaus, mi fydd o'n rwymedig â grymoedd cyferbyniol.'

Ping

Dwi'n cytuno. Ond b'un ofalus, nei di. Mae'n wyntog fyny famma.

Shujun

Sut allith o fod yn gymaint o hypocrite?



Mae'r bachgen yn symud ei draed at ochr eithaf y to.

Ping

Tyd o'r ymyl. Ti 'di meddwi. Dio'm yn sâff.

Shujun

Sut fedra i orfodi fo i weld ei gam?

Lei

Paid a bod yn ferthyr. Fyddi di'n difaru'n bora.

Shujun

Mae mor anodd cario 'mlaen fel hyn. Dwisio cerdded llwybr fy hunain. Dwi'n casau'r … bullshit 'ma!



Mae'r bachgen yn dechrau colli ei falans.

Ping

Hei!



Ping yn ei achub, gwthio nôl. Mae'r bachgen yn estyn am y botel fodca. Mae'n wag. Mae'n dechrau canu.

Shujun

Chwilio a chwilio a methu ffindio prawf bywyd strydoedd y ddinas rhy galed i adael olion traed Dim ond pan dwi'n gadael y dorf dwi'n medru ffindio'n hun yn anadlu yn rhydd awyr y môr.

Ping

Mae'r cân yna'n classic!



Ping yn ymuno. Lei yn hymian.

Ping

Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm Dagrau ond dim ofn, o leiaf mae gynnon freuddwydiau Deudodd be di'r ots am y clwyf bach hwn yn y storm



Ping yn canu yn uchel, ar daith emosiynol y gân. Mae'r gân yn dod i ben, y moment yn pasio. Lei yn gweld bod y bachgen wedi dechrau cysgu.

Lei

Hei.



Dim ymateb gan y bachgen. Lei yn codi'r botel wag. Edyrch ar Ping.

Lei

Odda ti'n bwriadu gwneud hynna?

Ping

Be?



Lei yn pwyntio at y bachgen yn cysgu.

Lei

Anfon o i'w drwmgwsg.

Ping

Wel, mae'n amlwg bod pŵer hudol yn fy llais. Ella dyna'n alwedigaeth, gyrfa newydd i mi.

Lei

Gyrfa fel paldareiwr.

Ping

Byd-enwog.

Lei

Ti di meddwi?

Ping

Dwi braidd yn chwil.

Lei

Finna' 'fyd.



Mae'n cael gwared o'r botel.

Lei

Reit, tyd 'laen.

Ping

Be am sleeping beauty?

Lei

Gad o yna. Fydda ni di hen adael cyn iddo ddeffro.

Ping

Ti'n meddwl odd o am neidio go iawn?

Lei

Na. Siarad siarad siarad. Dyna fyfyrwyr i ti. Mi ddeutha i ti hyn, fydd gynno fo goblyn o gur pen yn bora.



Ping yn cymryd un golwg olaf ar y bachgen yn cysgu.

Ping

Bechod drosta fo.

Lei

Awê!



Maent yn mynd i mewn drwy'r ffenest.

g1g2g3