a1, g1a1, g2a1, g3

Macbeth (1916)

William Shakespeare
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1916 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 2


YR AIL OLWG.— Gwersyll gerllaw Forres.

Alarwm oddi mewn. Daw Duncan, Malcolm, Donalbain, Lennox yno, gyda Chanlynwyr, a chyfarfod Rhingyll clwyfedig.

Duncan

Pa waedlyd ŵr yw hwn? Fe allai ef fynegi ini ddamwain ola'r gad, a barnu wrth ei lun.

Malcolm

Y rhingyll yw, a frwydrodd megis milwr dewr a da rhag fy nghaethiwo i. Henffych, gyfaill gwych! Dyro i'r brenin wybod am y drin fel y gadewaist hi.

Y Rhingyll

Mor amheus oedd hi a dau nofiedydd blin a ymaflo ynghyd, gan dagu eu medr. Y mae Macdonald draws —sy gymwys wrthryfelwr fyth, am fod lluosog ddrygau natur arno'n heigio—yn caffael o ynysoedd y gorllewin ddigonedd o arfogion o bob math; a Ffawd, gan wenu ar ei gyfrgoll gad, yn edrych fel cyffoden bradwr: eithr rhy wan yw'r cwbl; oblegid, Macbeth ddewr—a gwych yr haeddai ef yr enw hwnnw—gan herio Ffawd, ac â'i chwyfiedig gledd yn mygu gan ei waedlyd waith, fel anwylyd dewrder ei hun, torrodd ei lwybr trwodd, onid oedd wyneb yn wyneb â'r cnaf; ac ni roes iddo nawdd, na'i adael ychwaith, onid agorodd ef o geg i geudod, a dodi ei ben ar gopa'n muriau ni.

Duncan

O gâr dewr a theilwng wrda!

Y Rhingyll

Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle y bo'r haul yn dechreu llewyrchu, felly o'r fan yr oedd cysur fel pe'n dyfod, y mae anghysur yn ymchwyddo. Dal, di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder âg arfau dewrder i'r cnafon hyn roi ymddiried yn eu sodlau, nag y bu i'r arglwydd Norwyaidd, o ganfod cyfle, âg arfau gloewon ac â dynion ragor, ddechreu rhuthr newydd.

Duncan

Oni pharodd hynny ddigalonni'n capteiniaid Macbeth a Banguo?

Y Rhingyll

Do, fel y bydd adar y to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew. O thraethaf wir, rhaid dywedyd eu bod fel magnelau a orlwythwyd âg ergydion dwbl; felly dwbl ddyblasant eu hergydion ar y gelyn; oddieithr fod eu bryd ar ym drochi mewn archollion gwaedlyd, neu beri cof am Golgotha arall, ni fedraf adrodd—ond gwanhau yr wyf, a'm clwyfau 'n llefain am gynhorthwy.

Duncan

Cystal y gwedd dy eiriau arnat â'th glwyfau; mae anrhydedd yn y naill a'r llall. Ewch, cyrcher meddyg ato.



A'r Rhingyll ymaith, gyda gweinidogion.

Duncan

Pwy yw hwnacw?



Ross yn dyfod.

Malcolm

Teilwng Bendefig Ross.

Lennox

Y brys sy'n tremio drwy ei lygaid! Felly yr edrychai'r neb y bai ganddo bethau rhyfedd i'w llefaru.

Ross

Duw a'th gadwo, Frenin!

Duncan

O ba le y daethost, deilwng bendefig?

Ross

O Fife, wiw deyrn, lle y mae baneri Norwy'n herio'r wybr ac yn gwyntyllio'n pobl yn oer. Dechreuodd brenin Norwy ei hun, âg aruthr nifeiri, a'r bradwr anffyddlonaf hwnnw, pendefig Cawdor, ymgyrch ffyrnig, hyd nes myned Macbeth i'w wynebu'n gyfartal âg yntau, gan ddofi ei ysbryd gwyllt; ac, i mi orffen, syrthiodd y fuddugoliaeth i ni.

Duncan

Lawenydd mawr!

Ross

Felly yn awr, y mae brenin y Norwyaid yn erfyn am delerau; ond ni roddem ninnau iddo gennad i gladdu ei feirw hyd oni thalai i ni ddeng mil o ddoleri at ein gwasanaeth cyffredin.

Duncan

Ni chaiff pendefig Cawdor fyth mwy ein twyllo am ein lles; ewch ac erchwch ei ladd yn ddiatreg, ac â'r teitl a ddygai gynt, cyferchwch Macbeth.

Ross

Gofalaf wneuthur hynny.

Duncan

A gollodd ef; enillodd Macbeth hael.



Ant ymaith.

a1, g1a1, g2a1, g3