a1, g1a1, g2a1, g3

Macbeth (1916)

William Shakespeare
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1916 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 3


Y DRYDEDD OLWG.—Ar y rhos.

Taranau. Dyfod y tair Dewines.

Y Ddewines gyntaf

Pa le y buost ti, chwaer?

Yr ail Ddewines

Yn lladd moch.

Y drydedd Ddewines

A thithau, chwaer?

Y Ddewines gyntaf
Gwraig morwr oedd, a'i glin yn llawn o gnau,
A chnôi, a chnôi, gofynnais "Dyro beth;"
"Dos ymaith, wrach!" medd hithau 'r faeden lwth.
I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr:
Ond yno hwyliaf gyda hoel,
Ac yno, fel llygoden foel,
Mi wnaf, mi wnaf, ac mi wnaf.

Yr ail Ddewines
Codaf iti chwa.

Y Ddewines gyntaf
'Rwyt yn dda.

Y drydedd Ddewines
A minnau un.

Y Ddewines gyntaf
Gennyf fi mae'r llall fy hun,
Chwythant ar y pyrth i gyd,
Gwyddant bob rhyw barth o'r byd
Ar y cwmpas sydd.
Crined fydd â'r gweiryn rhos,
Ni ddaw cysgu ddydd na nos
Ar ei amrant i roi saib;
Dyn a roir fydd dan ei raib
Blin wythnosau, naw waith naw,
Nychu bydd yn brudd mewn braw;
Er nad aiff ei long i lawr,
Hyrddir gan y dymestl fawr,
Gwelwch beth sy gennyf fi.

Yr ail Ddewines
Dangos, dangos di.

Y Ddewines gyntaf
Bawd y gŵr y boddwyd ef
Wrth ddychwelyd tua thref.


Tabyrddu, oddi mewn.

Y drydedd Ddewines
Tabwrdd, tabwrdd draw!
Macbeth a ddaw.

Y Cwbl
Chwith chwiorydd, law yn llaw,
Gwibiaid môr a mynydd draw,
Felly'n rhodio, rhodio sy;
Teirgwaith iti ac imi ddaw,
Teirgwaith eto fel bo naw.
Ust! mae'r swyn yn barod!



Dyfod Macbeth a Banguo.

Macbeth

Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg.

Banquo

Pa faint o ffordd y sydd oddiyma i Forres? Pa bethau yw'r rhai hyn, mor wyw a gwyllt eu trwsiad, nad tebyg ynt i drigolion daear, ac eto sydd arni? Ai byw chwi? Neu a ydych unpeth y dichon dyn ei holi? Mi dybygwn eich bod yn fy neall, gan fod y naill a'r llall ohonoch ar unwaith yn dodi ei bys migyrnog ar ei gwefus deneu. Merched a ddylech fod, wrth eich golwg, ac eto, y mae eich barfau'n gwahardd i mi ddehongli mai dyna ydych.

Macbeth

Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi? Y Ddewines gyntaf: Henffych, Macbeth! henffych, bendefig Glamis!

Yr ail Ddewines

Henffych, Macbeth! henffych bendefig Cawdor!

Y drydedd Ddewines

Henffych, Macbeth, a fyddi frenin wedi hyn!

Banquo

Hawyr! pam y cyffrowch gymaint, ac edrych fel pe bai arnoch ofn y pethau y mae hyfryted swn ynddynt? A chwithau, yn enw'r gwir, ai drychiolaethau ydych, ai'r hyn y mae ei lun allanol arnoch? Yr ydych yn cyfarch fy nghydymaith urddasol â gras yn awr ac a darogan gwych am urddasol feddiant a brenhinol obaith, onid yw'r cwbl fel cyfaredd arno; wrthyf fi, ni leferwch. O gellwch chwi chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un na thyf, lleferwch wrthyf finnau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas.

Y Ddewines gyntaf

Henffych!

Yr ail Ddewines

Henffych!

Y drydedd Ddewines

Henffych!

Y Ddewines gyntaf

Llai na Macbeth, a mwy.

Yr ail Ddewines

Nid hapused, eto llawer hapusach.

Y drydedd Ddewines

Di a genhedli frenhinoedd, er na bych frenin dy hun; felly henffych, Macbeth a Banquo.

Y Ddewines gyntaf

Banquo a Macbeth, henffych.

Macbeth

Arhoswch, chwi a'r amherffaith lafar, dywedwch i mi ragor. Drwy farw Sinel (fy nhad), mi wn fy mod yn arglwydd Glamis. Ond arglwydd Cawdor? Y mae pendefig Cawdor eto'n fyw, yn wrda ffyniannus; a bod yn frenin, ni saif hynny ddim y tu mewn i gylch crediniaeth, mwy nag y saif fy nyfod yn arglwydd Cawdor. Dywedwch o ba le y mae'r wybodaeth ryfedd hon i chwi, neu baham, ar y rhos melltigaid hwn, yr ydych yn ein hatal ar ein hynt â'r fath air darogan? Tynghedaf chwi, llefarwch!



Diflanna'r dewinesau.

Banquo

Mae byrlymau ar dir fel ar ddwr, a dyma rai o honynt. I ba le y diflanasant?

Macbeth

I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt. Mynaswn ped arosasent!

Banquo

A oedd yma'r fath bethau ag yr ydym yn siarad am danynt, ynte a fwytasom ni'r gwreiddyn gwenwynig sy'n gwneuthur y rheswm yn garcharor?

Macbeth

Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd.

Banquo

Byddwch chwithau'n frenin eich hunan.

Macbeth

A phendefig Cawdor hefyd, onid e?

Banquo

Ie, dyna'r gair yn union. Ond pwy sydd yma?



Dyfod Ross ac Angus.

Ross

Macbeth, derbyniodd y brenin y newyddion am dy lwyddiant; a phan fo ef yn darllen dy antur di ym mrwydr y gelynion, y mae ei syndod a'i ganmoliaeth yn ymryson a'i gilydd pa un a ddylai fod yn eiddot ti neu eiddo ef; yn ol ei dewi gyda hynny, wrth fwrw golwg ar weddill yr un dydd, dy gael y mae yn rhengau'r Norwyaid dewr, heb unrhyw ofn rhag y pethau y gwnaethost hwy dy hun yn rhyfedd lun marwolaeth. Yn chwyrn y deuai'r naill gennad ar ol y llall, a phob un gydag ef yn dwyn dy glodydd yn amddiffyn mawr ei deyrnas, ac yn eu tywallt ger ei fron.

Angus

Anfonwyd ni i ddwyn i ti ddiolch oddiwrth ein meistr brenhinol; dim ond i'th ddwyn i'w ŵydd, ac nid i dalu i ti.

Ross

Ac fel ernes o anrhydedd mwy, fo barodd i mi drosto dy alw'n Arglwydd Cawdor; ac ar yr urddas, henffych deilwng arglwydd, canys eiddot yw.

Banquo

Pa beth! A ddichon y diafol ddywedyd y gwir?

Macbeth

Mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg?

Angus

Y sawl oedd arglwydd, weithian, byw y mae, eithr dan farn drom y dwg y bywyd y mae'n haeddu ei golli. A oedd ef gyd â'r gwyr o Norwy, ai cyfnerthu'r gelyn â help a mantais gudd a wnaeth, ai ynte a lafuriodd ef yn y naill fodd a'r llall, er dinistr ei wlad, nis gwn i; eithr y mae'r pennaf brad, yn eglur a phrofedig, wedi ei ddymchwel ef.

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Glamis, ac Arglwydd Cawdor! Y mae'r peth mwyaf eto'n ol.— Diolch i chwi am eich trafferth.— Onid ydych yn gobeithio y bydd eich plant chwi'n frenhinoedd, am nad addawyd iddynt lai gan y rhai a roes i mi arglwyddiaeth Cawdor?

Banquo

Fe ddichon hynny, o'i gredu'n llwyr, eich ennyn chwi eto hyd at y goron, heblaw arglwyddiaeth Cawdor. Ond rhyfedd yw, er mwyn ein hennill i'n niwed ein hunain, y mae cyfryngau'r tywyllwch yn fynych yn dywedyd y gwir wrthym, gan ein hennill â rhyw fân bethau gonest i'n bradychu i bethau o'r pwys mwyaf.— Atolwg, geraint, un gair.

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Dyma ddywedyd dau wir, fel hapus rag-chware i chware mawr yr ymherodrol bwnc.—Diolch i chwi, foneddigion.— (Wrtho'i hun.) Ni ddichon y gwahodd goruchnaturiol hwn, fod yn ddrwg nac yn dda: os drwg, paham y rhoes i mi ernes o lwyddiant, yn dechreu gyda gwir? Yr wyf yn Arglwydd Cawdor. Os da, paham yr wyf yn ildio i'r awgrym y mae ei erchyll lun yn codi 'ngwallt, ac yn peri i'm calon guro yn erbyn f'asennau, yn groes i arfer natur? Y mae ofnau presennol yn llai nag erch ddychmygion; y mae fy meddwl, nad yw'r mwrdwr ynddo eto namyn rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint fel y mae ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes namyn nad yw.

Banquo

Gwelwch y synfyfyrdod y mae'n cydymaith ynddo.

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, dioer, coroned siawns fi, heb i mi mo'r symud.

Banquo

Nid yw ei urddau newydd, mwy na'n dillad dieithr yn gorwedd yn wastad ar a fo tanynt namyn drwy gymorth arfer.

Macbeth

(Wrtho'i hun.) Doed a ddel. Y mae'r amser a'r awr yn rhedeg drwy y dydd garwaf.

Banquo

Deilwng arglwydd, yr ym at eich galwad pan fynnoch.

Macbeth

Rhowch i mi eich ffafr, yr oedd pethau anghofiedig yn moedro f'ymennydd dwl. Garedig foneddigion, y mae eich poenau erof i lawr lle trof y ddalen bob rhyw ddydd i'w ddarllen. Awn tuagat y Brenin. Meddyliwch am a ddamweiniodd, a phan gaffom amgen hamdden, wedi y bo i'r ysbaid bwyso'r peth, gadawer ini ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd.

Banquo

Yn llawen iawn.

Macbeth

Digoned hyn hyd hynny. Dowch, gyfeillion.



Ant ymaith.

a1, g1a1, g2a1, g3