Ciw-restr

Merched y Mwmbwls

Llinellau gan Shan (Cyfanswm: 60)

 
(1, 0) 21 Nage─mae yn dal i fyny eto.
(1, 0) 22 Wyt ti yn mynd, Dic?
 
(1, 0) 24 O, 'machgen mawr i!
 
(1, 0) 36 Dere 'nol, Nel, mae'n ofnadwy heibio i war y graig─mae eisieu dyn cryf i sefyll yn nannedd y gwynt.
(1, 0) 37 Mae cysgod lled dda fan hyn.
 
(1, 0) 46 Odi nhw'n barod?
(1, 0) 47 Mae'r llong bron â mynd i lawr.
(1, 0) 48 Na, mae'n dal i fyny eto.
(1, 0) 49 Dyna |rocket| arall o'r llong.
 
(1, 0) 66 Maent wedi mynd allan lawer tro o'r blaen, ac wedi gwneuthur gwaith da.
(1, 0) 67 Y nef a'u bendithio!
 
(1, 0) 76 Pa fad all fyw yn y fath storm?
(1, 0) 77 Mae'r tonnau fel mynyddau!
 
(1, 0) 84 Wn inna ddim beth sy'n bod, ond mae arna i ofn ofnadw' heno.
 
(1, 0) 106 Nid wyf yn cofio i'r bad fynd mâs erioed o'r blaen heb fod Sali Wat gyda'r |boys| yn rhoi |push off| iddo.
(1, 0) 107 Aros yn y gwely!
(1, 0) 108 Na, allai hi ddim, er ei bod dros ei phedwar ugain a dwy oddiar Calan Mai.
 
(1, 0) 113 Odi, mae e' draw, bron o'r golwg 'nawr.
(1, 0) 114 Mae'r môr yn arw heno!
 
(1, 0) 125 Druan o Shwan!
(1, 0) 126 Fe af i siarad â hi.
 
(1, 0) 156 Ie, bydd yn saith mlynedd wythnos i nos yfory, a noswaith arw iawn oedd hi, a ti oedd y babi glana' welais i erioed, er mod i wedi magu saith mor lân a neb yn y pentre, ond yr oeddet ti, Jenny fach, fel angel o'r nef.
 
(1, 0) 182 Weli di b'le maent 'nawr, Nel?
(1, 0) 183 B'le mae'r bad, a sut mae ar y llong druan?
 
(1, 0) 194 Na, Nel fach, does yna neb yn canu, ond y gwynt ofnadwy─ti sy'n meddwl eu bod.
 
(1, 0) 222 Welwch chi rywun yn y dŵr?
 
(1, 0) 237 O! druan bach!
 
(1, 0) 272 Na, Sal, cofia am dy blant bach.
(1, 0) 273 Aros di yma.
 
(1, 0) 302 Peidiwch mentro gormod, da chi, ferched!
 
(1, 0) 312 Fe achubant y dyn─gwnant, 'rwy'n siwr─maent yn llaw Duw.
 
(1, 0) 317 Na, foddant hwy ddim─dal dy afal yn y rhaff, Nel.
(1, 0) 318 Fe arbeda Duw ddwy mor wrol a Mari a Bess.
 
(1, 0) 332 O! diolch i'r nefoedd, maent wedi ei gael.
(1, 0) 333 Mae'r rhaff yn cael ei thynnu!
(1, 0) 334 Dyna'r arwydd ini dynnu i mewn!
(1, 0) 335 Dewch, tynnwch ferched, tynnwch!
 
(1, 0) 354 Tomi, dere yma.
(1, 0) 355 Cer i 'mofyn Dr. Williams, a dere ag e' i dŷ Mari a Bess!
 
(1, 0) 360 Ie, dyna fydd ore, Mary Jane.
 
(1, 0) 363 O'r gore, cer di, Gwenno fach.
 
(1, 0) 389 Cadw dy afael yn y rhaff, Sali, a fe awn ar ol y lleill.
(1, 0) 390 Dyna nhw wedi dod i'r lan!
(1, 0) 391 Glyw di y gwaeddi!
 
(1, 0) 407 Ie'n wir.
 
(1, 0) 413 Cer tua thre, Mari, a thithau, Bess, i newid eich dillad a chael rhywbeth twym.
(1, 0) 414 Cerwch chwaff, nawr!
 
(1, 0) 427 Yr oedd yn rhaid i dy fam gael rhoi ei |shawl| i Mari─ni wnai |shawl| neb arall y tro.
 
(1, 0) 432 Sut mae eich dynion chi?
(1, 0) 433 Yr ydym i gyd wedi anghofio am bawb, ond am Bess a Mari.
 
(1, 0) 443 I feddwl mai eu hunig frawd a achubwyd ganddynt!
 
(1, 0) 446 Dere adre, Sali.
(1, 0) 447 Bydd cof am heno mewn oesau i ddod, a bydd merched Cymru mewn canrifoedd yn darllen am ferched y Mwmbwls, fel oeddent yn barod pan ddaeth yr alwad i wneud gorchest fawr.
 
(1, 0) 452 Ie'n wir.
(1, 0) 453 Dere, mae pawb wedi mynd.
(1, 0) 454 Isht!
(1, 0) 455 Dyna ganu!
(1, 0) 456 Mae Capten Jones a'r bechgyn i gyd o flaen y tŷ yn canu.
(1, 0) 457 Clyw!
(1, 0) 458 Dere i ni fynd lan yna.