Ciw-restr

Merched y Mwmbwls

Llinellau gan Sal (Cyfanswm: 50)

 
(1, 0) 55 Mae yna ddigon yn barod.
(1, 0) 56 Arhoswch fan hyn, ferched.
 
(1, 0) 81 Taw sôn, Mary Jane, â dy gleber.
(1, 0) 82 Mae'r bad wedi mynd mâs ddwseni o weithiau, ac wedi bod mewn llawer storm cynddrwg a heno, a phawb wedi dod 'nol yn ddiogel.
(1, 0) 83 Cwn dy galon, da ti.
 
(1, 0) 86 ~
(1, 0) 87 "Tydi fu gynt, Anfeidrol Iôr,
(1, 0) 88 Yn cau anesmwyth donnau'r môr,
(1, 0) 89 Gan erchi i'r dyfnder llydan, maith
(1, 0) 90 Aros yn ei derfynau llaith.
(1, 0) 91 O! clyw ein cri dros rai, ein Iôr,
(1, 0) 92 Sydd mewn enbydrwydd ar y môr."
 
(1, 0) 135 Wn i yn y byd.
(1, 0) 136 Mae'n edrych yn llong lled fawr.
(1, 0) 137 O b'le mae'n dod?
(1, 0) 138 Mae rhyw wragedd bach yn rhywle mewn pryder mawr heno ynghylch y rhai sydd fan draw yn disgwyl y bad i ddod.
 
(1, 0) 153 Hanner cant o weithia yw heno, felly.
 
(1, 0) 164 Dyna'r trysor gore gafodd Capten Jones neu unrhyw un arall o'r môr.
(1, 0) 165 Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy.
 
(1, 0) 170 Ie, dau dda ydynt hwy.
(1, 0) 171 Wfft shwd ddynion!
(1, 0) 172 'Nawr maent yn dod, ar ol i'r bad fynd mâs.
 
(1, 0) 186 Dere fan hyn, Beti, i ni weddïo ar i Dduw eu cadw, a'u dwyn yn ol.
 
(1, 0) 210 Isht! clywch hwy'n gwaeddi!
(1, 0) 211 Dyna'r bad wedi troi!
(1, 0) 212 Maent i gyd yn y dŵr!
(1, 0) 213 Mae ar ben ar y bad!
(1, 0) 214 Beth allwn ni wneud?
(1, 0) 215 Rhywun!
(1, 0) 216 Rhywbeth!
 
(1, 0) 235 O! mae rhywun yn y dŵr─draw fan yna.
 
(1, 0) 260 Ydych chi'n galw'ch hunain yn ddynion!
(1, 0) 261 Na, babis ydych eich tri!
(1, 0) 262 Rhag cywilydd i chi!
(1, 0) 263 Ach-a-fi!
 
(1, 0) 271 Gadewch i fi fynd!
 
(1, 0) 274 Beth os mai Wil ni sydd fan draw ar ei oreu druan bach, yn treio dod 'nol ataf fi a'r plant.
 
(1, 0) 284 Weli di e' 'nawr, Bess?
 
(1, 0) 320 Faint mwy wyt ti am wneud?
(1, 0) 321 Dyna i gyd mae'r Brenin Mawr am i ni wneud─gweddïo a gweithio.
(1, 0) 322 Dal dy afal yn y Dwyfol, ond paid ag anghofio y rhaff ddynol sydd yn dy law.
 
(1, 0) 371 Tynnwch i gyd!
(1, 0) 372 Dewch! dewch!
(1, 0) 373 Dyna nhw ar y traeth!
(1, 0) 374 Mae'r rhaff yn |slack|.
(1, 0) 375 Tyn y clwm hyn yn rhydd, Nel, i fi gael rhedeg i'w cwrdd.
 
(1, 0) 377 O! dyna Nel wedi mynd.
(1, 0) 378 Torrwch y clwm, wnewch chi─rhywun, dyma fi yn mynd.
 
(1, 0) 398 Ewch ag ef i dŷ Mari.
(1, 0) 399 Mae popeth yn barod.