Ciw-restr

Pobl yr Ymylon

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 20)

(1, 0) 1 Y mae muriau ysgubor yn wynebu'r edrychwyr.
(1, 0) 2 Yn y cornel i'r dde y mae cruglwyth mawr o wellt, ac y mae gwellt hefyd mewn anhrefn ar y llawr.
(1, 0) 3 Yn y ben nesaf i'r edrychwyr o'r mur ar y ochr chwith y mae drws yn arwain allan.
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Cyfyd y llen a neb i'w weled ar y llwyfan.
(1, 0) 6 Cedwir eí felly am ychydig amser, nes bod y gynulleidfa ar fin anesmwytho.
(1, 0) 7 Yna sylwir ar ryw aflonyddwch yn y gwellt tua chanol y llwyfan, a gwelir pen a pheth o gorff dyn ifanc yn ymddangos.
(1, 0) 8 Pan ddêl cyfle i sylwi ar ei ddillad gwelir nad ydynt o ddeunydd da iawn, a bod llaid ac ôl cerdded arnynt, eithr nad ydynt yn hollol mor wael a rhai crwydryn cyffredin.
(1, 0) 9 Y mae iddo wyneb agored, pleserus, llygaid gleision, a gwallt du, cyrliog.
 
(1, 0) 12 Y mae aflonyddwch eto yn y gwellt, a'r tro hwn ymddengys pen dyn tua thrigain a phump oed.
(1, 0) 13 Y mae ei ddillad yn awgrymu'r coeg-foneddig─yn ymbil am barch, ond yn methu a'i gael.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Y mae ei wyneb hefyd yn gyd-wedd â'r dillad─wyneb mawr, crwn, llawn profiad o ymylon bywyd a direidi, a llinellau cyfrwys yn ymddangos oddeutu'r llygaid pan fo'n chwerthin.
(1, 0) 16 Y mae ei farf '' gafr " a'i waÌlt ac aeliau trwchus yn frith.
(1, 0) 17 ~
(1, 0) 18 Gwelir ei fod yn hoffi'r dull "Pregethwrol" o lefaru pan fo wrth ei fodd, eithr dylid gwahaniaethu rhwng hyn a'r "hwyl" a ddaw i'w leferydd yn nes ymlaen.
(1, 0) 19 Cyfyd yn fwy disymwth na DAFYDD o'r gwellt a daw ei eiriau cyntaf yn fuan ar ol rhai DAFYDD.
 
(1, 0) 162 Edrych MALACHI yn synfyfyrgar am ysbaid.
(1, 0) 163 Yna daw gwawr o ddeall cyfrwys i'w wedd.
(1, 0) 164 Ysgwyd ei ben yn araf a dyry fath ar winc.