Ciw-restr

Toriad Dydd

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 44)

 
(1, 0) 2 Cegin gweithiwr yn y Deheudir.
(1, 0) 3 Lle tân ar y dde, o du'r gynulleidfa, ffenestr yn y pared cefn a drws i'r dde iddi.
(1, 0) 4 Drws i'r llofft ar y chwith.
(1, 0) 5 Pan gwyd y llên, y mae'r tad yn gwisgo'i goler o flaen drych bychan ar y mur.
(1, 0) 6 Daw'r ferch i mewn ar y chwith.
(1, 0) 7 Y mae'r fam yn eistedd wrth y tân.
 
(1, 0) 122 Saif y tad ar ganol y llawr gan synfyfyrio ac ymhen tipyn edrych ar ei wraig.
 
(1, 0) 136 Teflir y drws yn agored yn ddisymwth a rhuthra Tom i mewn.
 
(1, 0) 194 Saif Tomi yn syth wrth y drws.
 
(1, 0) 198 Â'r Tad i eistedd wrth y tân gan ddisgwyl i Tomi ddychwelyd i'w le.
 
(1, 0) 208 Syll y gwr a'r wraig ar ei gilydd yn anesmwyth.
 
(1, 0) 264 Ergyd ar y drws.
(1, 0) 265 Â 'r wraig i'w agor.
 
(1, 0) 305 Daw Tomi i mewn â choed tân.
 
(1, 0) 308 Saif y meistr yn syn.
 
(1, 0) 314 Estyn Tomi y llyfr iddo.
 
(1, 0) 316 Dengys y frawddeg i'r gwr a daw'r wraig hithau edrych arni.
 
(1, 0) 355 YSGOLFEISTR yn mynd.
(1, 0) 356 Y mae Tomi yn edrych yn eì lyfr.
 
(1, 0) 360 Yr HOGYN yn edrych ar ei DAD a cheisio eì ddeall.
 
(1, 0) 368 Yr HOGYN heb ddeall.
 
(1, 0) 387 Saif Towr ar ganol y llawr i ganu "Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf", ond cyn iddo allu gorffen y pennill cyntaf dyry'r MAM ysgrech a neidia i ymaflyd ynddo.
 
(1, 0) 394 Saif y tri am ennyd heb symud.
(1, 0) 395 Yna daw dau ergyd pendant ar y drws.
 
(1, 0) 405 Symud y FAM yn nes i'r drws gan gadw'r Hogyn tucefn iddi.
 
(1, 0) 414 Daw'r HEN WRAIG i mewn.
(1, 0) 415 Gwisg fantell fawr a llaes sy'n ei gorchuddio bron yn gyfangwbl o'i choryn i'w thraed.
(1, 0) 416 Nid oes fawr o'i hwyneb i'w weled, oherwydd y mae'r fantell fel bargod dros eì thalcen.
(1, 0) 417 Y mae hynny o wallt sydd i'w weled ganddi yn wyn.
(1, 0) 418 Ymddengys yn hen iawn ac eto y mae yna urddas nodedig yn ei hosgo a'i cherddediad.
(1, 0) 419 Ar y dechrau y mae ei llais yn wan, er yn glir ac yn felus i'r glust—rhywbeth dymunol iawn, ychydig yn uwch na sibrwd.
(1, 0) 420 ~
(1, 0) 421 Dylid gwneuthur ffigiwr mor urddasol ag sy bosibl o'r wraig hon.
(1, 0) 422 Ni thâl taflu unrhyw fath o glogyn rywsut amdani.
(1, 0) 423 Dylid trefnu'r fantell yn ofalus yn ol y dull clasurol, yn addurnol a syml.
(1, 0) 424 Y mae hyn yn bwysig iawn.
 
(1, 0) 468 Amneidia ei FAM arno i ganu.
(1, 0) 469 Gwna yntau.
 
(1, 0) 475 Daw'r FERCH i mewn.
 
(1, 0) 489 Yntau'n amneidio.
(1, 0) 490 Edrydd Olwen: "Toriad y Dydd".
 
(1, 0) 512 Cwyd yr hen wraig a chyda hynny, treigla'r fantell a'r gwallt gwyn i'r llawr a datguddio benyw ifanc brydferth iawn yn sefyll ar yr aelwyd, yn llawn nwyf a hoen.
 
(1, 0) 536 Edrydd gydag arddeliad mawr.
 
(1, 0) 541 LLEN.